Canllawiau
Recriwtio i gael effaith: canllaw recriwtio llwyddiannus ym maes penodiadau cyhoeddus - Newid o 'addasrwydd diwylliannol' i 'aliniad gwerthoedd'
Yn darparu egwyddorion sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'ch helpu i ddylunio a chynnal prosesau recriwtio penodiadau cyhoeddus.
Tudalen bresennol (6 o 10)
Lawrlwytho'r tudalennau hyn fel PDF
, maint ffeil 100 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Newid o 'addasrwydd diwylliannol' i 'aliniad gwerthoedd'
Mae’r cysyniad o 'addasrwydd diwylliannol' yn aml yn atgyfnerthu unffurfiaeth a rhagfarn ddiarwybod. Pwrpas cyffredin, nid unffurfedd o ran cymeriad, sy’n ofynnol mewn penodiadau cyhoeddus.
Camau gweithredu
- Diffiniwch werthoedd sefydliadol o ran ymddygiad.
- Aseswch ymgeiswyr ar sut maen nhw’n mynegi’r gwerthoedd hyn trwy eu harddull a’u profiad eu hunain.
- Croesawch heriau adeiladol ac amrywiaeth meddwl.
- Cofiwch y gall gwybodaeth o’r sector ddod o rolau cysylltiedig, profiad bywyd neu arweinyddiaeth gymunedol.
Pam mae’n bwysig
Mae aliniad gwerthoedd yn cefnogi amrywiaeth wrth ddiogelu uniondeb sefydliadol a llywodraethu da.
