Recriwtio i gael effaith: canllaw recriwtio llwyddiannus ym maes penodiadau cyhoeddus - Blaenoriaethu cynhwysiant ar ôl penodi
Yn darparu egwyddorion sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'ch helpu i ddylunio a chynnal prosesau recriwtio penodiadau cyhoeddus.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Blaenoriaethu cynhwysiant ar ôl penodi
Mae cadwpobl amrywiol yn gofyn am amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle mae pob aelod o’r bwrdd yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei barchu ac yn gallu gwneud cyfraniad ystyrlon. Dylai byrddau fynd ati’n fwriadol i groesawu, cefnogi a pharhau i rymuso aelodau sydd newydd gael eu penodi.
Camau gweithredu
- Sicrhewch fynediad cyfartal at gyfleoedd i ddatblygu, gan gynnwys cysgodi, deunyddiau briffio, adnoddau dysgu a thasgau heriol.
- Darparwch raglen gynefino strwythuredig, hygyrch, gan gynnwys esboniadau clir o gyd-destun y sector, fframweithiau rheoleiddio, disgwyliadau llywodraethu, a sut mae’r bwrdd yn gweithredu yn ymarferol.
- Hyfforddwch aelodau’r panel, arweinwyr y bwrdd a rheolwyr mewn arweinyddiaeth gynhwysol, arferion gwrth‑hiliol, a sut y gall anghydraddoldebau strwythurol ymddangos yn ystod y broses recriwtio ac ar ôl penodi.
- Casglwch adborth yn rheolaidd a gweithredwch arno, gan sicrhau bod yr holl adborth a roddir i ymgeiswyr ac aelodau newydd o’r bwrdd yn adeiladol, yn ychwanegu gwerth, ac yn cynnig mewnwelediad ystyrlon y gallant ei ddefnyddio i dyfu a datblygu.
- Dechreuwch sgyrsiau yn gynnar ac yn aml, gan gynnig cymorth wedi’i deilwra trwy gynllun cyfeillio bwrdd neu fentora, yn enwedig ar gyfer unigolion sydd newydd eu penodi neu sy’n newydd i waith llywodraethu yn y sector cyhoeddus.
Pam mae’n bwysig
Mae diwylliant cynhwysol yn galluogi pobl â safbwyntiau amrywiol i wneud cyfraniad ystyrlon.
