Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Wrth recriwtio ym maes penodiadau cyhoeddus, mae’r trothwy o ran tegwch, tryloywder a chynhwysiant yn uchel. Mae’r canllaw hwn yn nodi egwyddorion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’ch helpu i ddylunio a chynnal prosesau recriwtio sy’n ehangu cyfranogiad, denu ymgeiswyr o ansawdd uchel o gefndiroedd amrywiol, sicrhau hygyrchedd trwy gydol y broses, a chryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd mewn penodiadau.

Creu byrddau sy’n adlewyrchu Cymru

Mae gan fyrddau gyfrifoldeb i recriwtio aelodau sy’n adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth Cymru. Drwy chwilio am bobl ag ystod o safbwyntiau a phrofiadau bywyd – yn hytrach nag unigolion sydd â phrofiad blaenorol ar fyrddau yn unig – rydych chi’n cryfhau eich gallu i wneud penderfyniadau cynhwysol ar sail gwybodaeth sy’n gwasanaethu Cymru go iawn.