Recriwtio i gael effaith: canllaw recriwtio llwyddiannus ym maes penodiadau cyhoeddus - Cyflwyniad
Yn darparu egwyddorion sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'ch helpu i ddylunio a chynnal prosesau recriwtio penodiadau cyhoeddus.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Wrth recriwtio ym maes penodiadau cyhoeddus, mae’r trothwy o ran tegwch, tryloywder a chynhwysiant yn uchel. Mae’r canllaw hwn yn nodi egwyddorion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’ch helpu i ddylunio a chynnal prosesau recriwtio sy’n ehangu cyfranogiad, denu ymgeiswyr o ansawdd uchel o gefndiroedd amrywiol, sicrhau hygyrchedd trwy gydol y broses, a chryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd mewn penodiadau.
Creu byrddau sy’n adlewyrchu Cymru
Mae gan fyrddau gyfrifoldeb i recriwtio aelodau sy’n adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth Cymru. Drwy chwilio am bobl ag ystod o safbwyntiau a phrofiadau bywyd – yn hytrach nag unigolion sydd â phrofiad blaenorol ar fyrddau yn unig – rydych chi’n cryfhau eich gallu i wneud penderfyniadau cynhwysol ar sail gwybodaeth sy’n gwasanaethu Cymru go iawn.
