Neidio i'r prif gynnwy

Dechrau drwy ddylunio’r rôl yn gynhwysol

Gall rhagfarn godi yn y broses hyd yn oed cyn cyhoeddi’r hysbyseb. Drwy ddylunio’r rôl mewn ffordd gynhwysol, byddwch yn helpu ystod ehangach o ymgeiswyr medrus a chynrychioliadol i weld eu hunain yn y rôl.

Camau gweithredu

  • Dilëwch feini prawf diangen neu sy’n allgáu (ee “10+ mlynedd o brofiad”, prifysgolion penodol, cefndir gyrfa caeth).
  • Nodwch y sgiliau sydd eu hangen ar y bwrdd nawr ac yn y dyfodol (ee llywodraethu, llythrennedd hinsawdd, digidol, seiberddiogelwch).
  • Blaenoriaethwch sgiliau, gallu a chanlyniadau dros brofiad traddodiadol.
  • Ysgrifennwch ddisgrifiadau rôl mewn iaith glir, niwtral, heb jargon.
  • Osgowch dermau codedig a allai atal pobl rhag ymgeisio, fel “medrus”, “hyderus” neu “cyd-fynd â’n gwerthoedd”.

Cydnabyddwch werth profiad bywyd a sgiliau trosglwyddadwy.

  • Sicrhewch fod y rôl yn adlewyrchu realiti, blaenoriaethau ac amgylchedd rheoleiddio eich sector.
  • Defnyddiwch offer AI i adolygu swydd-ddisgrifiadau mewn amser real, i greu swydd-ddisgrifiadau mwy cynhwysol a’u gwneud yn fwy apelgar i ymgeiswyr amrywiol trwy gael gwared ar iaith ryweddol a jargon.
  • Gwerthfawrogwch amrywiaeth meddwl trwy annog recriwtio ymgeiswyr o lwybrau gyrfa, diwydiannau a chefndiroedd addysgol anhraddodiadol. Yn benodol, dylai hyn gynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol y gall eu ffyrdd unigryw o feddwl gynnig cyfleoedd arloesi a safbwyntiau newydd mewn penodiadau cyhoeddus.

Pam mae’n bwysig

Mae disgrifiadau sy’n canolbwyntio ar sgiliau yn lleihau hunan-allgáu ac yn cynyddu ansawdd ac amrywiaeth y ceisiadau, ond heb gyfyngu’r gronfa yn anfwriadol.