Canllawiau technegol ar yr Ardoll Ymwelwyr ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr - Beth yw llety i ymwelwyr
Canllawiau manwl ar yr Ardoll Ymwelwyr ar gyfer darparwyr llety i ymwelwyr yng Nghymru.
Ar y dudalen hon
Beth yw llety i ymwelwyr
Mae'r Ardoll Ymwelwyr yn daladwy ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr yng Nghymru mewn ardaloedd lle mae'r ardoll yn berthnasol. Bras yw’r diffiniad o lety ymwelwyr, ac mae'r canllawiau isod yn trafod y gwahanol fathau o lety ac a ydyn nhw’n cael eu dosbarthu’n llety ymwelwyr neu beidio.
Mae llety ymwelwyr yn cynnwys llety:
- mewn gwesty, tŷ llety, gwely a brecwast neu lety tebyg
- mewn hostel ieuenctid, tŷ bync neu lety tebyg
- mewn parc gwyliau neu gyrchfan wyliau, megis cabanau, chalets a bythynnod
Beth yw lleiniau neu ardaloedd
Mae llety ymwelwyr yn cynnwys lleiniau neu ardal a ddarperir ar gyfer:
- gwersylla
- cartrefi symudol nad ydynt wedi'u lleoli'n barhaol neu'n lled-barhaol mewn un lle
Pan fo cartref symudol wedi'i leoli'n barhaol neu'n lled-barhaol mewn un lle, nid yw'r llain neu'r ardal oddi tano yn cael ei ystyried yn llety ymwelwyr. Fodd bynnag, gallai’r cartref symudol gael ei gyfrif yn llety ymwelwyr os caiff ei is-osod i ymwelwyr ar sail tymor byr at ddibenion busnes, teithio hamdden neu deithiau addysgol. Darllenwch y canllawiau yn llety ymwelwyr a gynigir ar sail tymor byr am fwy o fanylion.
Enghraifft o lain gwersylla sy’n llety ymwelwyr
Mae gan Agatha fan wersylla ac mae'n archebu llain mewn parc carafannau am 10 diwrnod. Gan fod Agatha wedi archebu llain ar gyfer ei fan, mae'r llain ei hun yn cael ei ystyried yn llety ymwelwyr, a hynny oherwydd mai dyna'r ardal sy’n cael ei archebu, a chan mai dim ond am gyfnod o 10 diwrnod y bydd ei fan wedi'i lleoli ar y llain.
Enghraifft o faes parcio sy’n llety ymwelwyr
Mae gan Thomas garafán, mae'n ei pharcio dros nos mewn maes parcio sydd â chaniatâd penodol i ganiatáu i gartrefi symudol barcio yno dros nos, cyn belled â'u bod yn talu ffi am aros dros nos. Gan fod Thomas wedi parcio mewn rhan o'r maes parcio lle caiff ei gartref symudol aros dros nos, mae'r ardal dan sylw yn cael ei dosbarthu fel llety ymwelwyr.
Enghraifft o fan wersylla yn aros ar lain gwersylla
Mae Zach yn teithio drwy Gymru ac yn archebu llain ar gyfer ei fan wersylla mewn parc carafannau, a bydd yn aros yno am 5 noson. Bydd angen i’r darparwr llety ymwelwyr dalu'r ardoll am arhosiad Zach yn y cae hwnnw.
Bydd angen i'r darparwr llety ymwelwyr gofrestru a chyflawni eu rhwymedigaethau o ran yr Ardoll Ymwelwyr.
Enghraifft o rentu lleiniau tymhorol
Mae Flint yn rhentu llain dymhorol mewn maes carafannau bob haf, ac mae ef a’i garafán yn cael mynd a dod o’r safle heb unrhyw gyfyngiadau yn ystod y tymor. Fodd bynnag, mae ei gytundeb yn rhoi hawl iddo gadw ei garafán deithiol yno drwy'r tymor ac iddo aros yno, os yw eisiau.
Mae Flint yn aml yn mynd â'i garafán deithiol i'r safle, gan ei pharcio am ychydig nosweithiau, cyn mynd â'r garafán gydag ef pan fydd yn gadael. Gan fod contract Flint gyda gweithredwyr y parciau carafannau yn caniatáu iddo aros yno drwy'r tymor, ni fydd yr ardoll yn berthnasol pan fydd yn aros yn y parc, er bod y llain yn llety i ymwelwyr. Mae hyn oherwydd bod ei gontract yn rhoi hawl iddo aros yn y parc am fwy na 31 noson (ac nid oes angen iddynt fod yn nosweithiau yn olynol er mwyn i'r rheol fod yn berthnasol) felly nid oes unrhyw arosiadau dros nos sy’n berthnasol i’r Ardoll Ymwelwyr.
Beth yw cartrefi symudol a llongau
At ddibenion yr Ardoll Ymwelwyr, diffinnir Cartref Symudol fel a ganlyn unrhyw:
- gerbyd modur sydd wedi'i ddylunio neu ei addasu er mwyn i bobl allu byw ynddo, a
- strwythur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo ac sy’n gallu cael ei symud o’r naill le i’r llall, pa un ai drwy ei dynnu neu drwy ei gludo ar gefn cerbyd modur neu ôl-gerbyd
Felly, mae carafanau statig a strwythurau eraill yn dal i ddod o fewn y diffiniad o gartref symudol wrth ystyried yr Ardoll Ymwelwyr. Mae carafanau, faniau gwersylla a chartrefi symudol eraill hefyd yn dod o fewn y diffiniad o gartrefi symudol.
Nid yw'r term cartref symudol yn cynnwys y canlynol yn benodol:
- pebyll
- cerbydau rheilffordd sy'n rhan o'r system reilffyrdd
- awyrennau
- badau
Ystyr badau yma yw llong, cwch, rafft, neu gyfarpar arall a adeiladwyd neu a addaswyd i arnofio ar ddŵr, ac a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo.
Cynnig llety tymor byr i ymwelwyr
Mae llety ymwelwyr yn cynnwys rhai mathau o lety a gaiff eu cynnig ar sail tymor byr.
At ddibenion yr Ardoll Ymwelwyr, bydd llety yn cael ei gynnig ar sail tymor byr os yw’r darparwr llety ymwelwyr yn cynnig llety am gyfnodau o 31 diwrnod neu lai. Nid oes ots a yw’r llety ymwelwyr yn cael ei gynnig ar sail tymor byr trwy’r adeg ynteu ond o bryd i’w gilydd.
Does ots a yw'r nosweithiau'n olynol ai peidio, yr agwedd allweddol yw bod arosiadau’n cael eu cynnig am 31 noson neu lai.
Mae’r mathau o lety canlynol yn lety ymwelwyr os ydynt yn cael eu cynnig ar sail tymor byr ac at ddibenion teithio busnes neu deithio hamdden neu deithiau addysgol:
- llety mewn cartref symudol, bad neu gerbyd arall sydd wedi ei leoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle
- llety hunanarlwyo
- unrhyw fath arall o lety sydd ddim yn perthyn i un o’r categorïau uchod
O ran cartrefi symudol, bydd yr amgylchiadau hyn yn aml yn berthnasol i strwythurau statig sy'n aros mewn lle penodol am gyfnodau sylweddol ac sy'n fwy tebygol o fod wedi’u cysylltu â chyflenwadau dŵr a thrydan ac ati, neu a allai fod â nodweddion eraill sy’n eu hangori, megis deciau neu falconïau. Er y gallai’r strwythurau hyn gael eu symud, anaml iawn y byddant yn cael eu symud.
Enghraifft o garafán statig sy’n llety ymwelwyr
Mae Elliot yn archebu gwyliau yng Nghymru ac yn dewis aros mewn carafán statig. Gellir archebu'r garafán am hyd at 25 noson yn unig, ac mae ar gael y rhan fwyaf o'r flwyddyn i ymwelwyr sy'n teithio at ddibenion hamdden neu fusnes. Y garafán statig yw'r llety ymwelwyr yn yr achos hwn. Mae wedi'i leoli'n barhaol mewn un lle a caiff ei chynnig ar sail tymor byr at ddefnydd hamdden neu fusnes.
Enghraifft o gwch preswyl sy’n llety ymwelwyr
Mae Ash yn archebu lle i aros ar gwch breswyl sydd wedi'i hangori yn yr un lle’n barhaol. Gellir archebu'r cwch breswyl hon am hyd at 4 wythnos, ac mae ar gael yn ystod y gwanwyn a'r haf i westeion hamdden. Y cwch yw'r llety ymwelwyr yn yr achos hwn, gan ei fod yn yr un lle yn barhaol ac mae'n cael ei gynnig ar sail tymor byr ar gyfer hamddena.
Enghraifft o osod carafán statig
Mae Owain yn berchen ar garafán statig sy'n aros ar lain trwy'r flwyddyn ac sydd wedi’i chysylltu â chyflenwad dŵr a thrydan. Er y byddai modd ei symud, bydd yn cael ei chyfrif yn llety ymwelwyr os dewisa Owain ei chynnig i drydydd partïon ar sail tymor byr h.y. os caiff ei hysbysebu neu ei marchnata i aros yno am gyfnodau o 31 noson neu lai (p'un a yw'r nosweithiau hynny'n olynol ai peidio).
Pe bai’r garafán ond yn cael ei defnyddio gan Owain neu aelodau ei deulu, ni fyddai'n cael ei chyfrif yn llety ymwelwyr gan na fyddai Owain yn ddarparwr llety i ymwelwyr ac nid oes unrhyw gontract rhyngddo ef ac aelodau o'i deulu ar gyfer pryd y byddant yn aros.
Enghraifft o is-osod carafán mewn parc carafannau preswyl
Mae Austin yn byw ar barc carafannau preswyl. Mae'n talu ffi flynyddol i weithredwr y parc ac yn byw yn ei garafán am 11 mis o'r flwyddyn. Y garafán yw ei brif breswylfa. Ni fydd yn cael ei chyfrif yn llety ymwelwyr o ran yr ardoll oherwydd bod Austin yn byw yn y garafán am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, ac nid yw'n ei chynnig i eraill aros yno am gyfnodau byr.
Fodd bynnag, pe bai Austin yn is-osod y garafán i ymwelwyr ar gyfer arosiadau o 31 noson neu lai ar gyfer teithiau busnes, hamdden neu addysgol, byddai'r garafán yn cael ei chyfrif yn llety ymwelwyr. Yn y sefyllfa hon, Austin fyddai'r darparwr llety ymwelwyr a byddai angen iddo fodloni ei rwymedigaethau o ran yr ardoll.
Enghraifft o barc carafannau fel llety gosod tymor byr
Mae Julia yn rhedeg parc carafannau sydd â 12 carafán statig. Mae Julia yn cymryd archebion ar gyfer pob un o'r carafannau, a hynny ar gyfer arosiadau o 31 noson neu lai ar gyfer teithiau busnes a hamdden. Tra bo’r carafannau yn aros yn eu hunfan yn barhaol, maent yn cael eu cyfrif yn llety ymwelwyr oherwydd eu bod yn cael eu cynnig i ymwelwyr ar sail tymor byr.
Pe bai Julia yn cymryd archebion am arosiadau o 31 noson neu fwy yn ei charafannau statig, ni fyddai'r ardoll yn berthnasol i'r archebion hynny.
Is-osod cartrefi symudol
Gall cartrefi symudol, sy'n cynnwys carafannau statig ac ati, sydd wedi'u lleoli'n barhaol neu'n lled-barhaol mewn un lle gael eu cyfrif yn llety ymwelwyr os ydynt yn cael eu his-osod ar sail tymor byr gan ddarparwr llety ymwelwyr.
Pan fydd perchennog cartref symudol yn bwriadu is-osod y cartref symudol i ymwelwyr eraill, yna bydd yr ardoll yn berthnasol cyhyd â bod y canlynol yn wir:
- mae'r cartref symudol yn cael ei gynnig ar sail tymor byr, sy'n golygu 31 noson neu lai (nad oes angen iddynt fod yn olynol), ac
- mae'r arosiadau ar gyfer busnes, teithio hamdden neu deithiau addysgol
Enghraifft o garafán lled-barhaol
Mae Horace yn talu am lain tymhorol mewn maes carafannau. Mae'n parcio ei garafán deithiol ei hun yno am 9 mis o'r flwyddyn, ac yn ei chysylltu â gwasanaethau’r safle. Gan fod y garafán yn y maes carafannau yn lled-barhaol, nid yw'r llain oddi tani’n cael ei chyfrif yn llety ymwelwyr. Pan fydd Horace yn aros yn ei garafán, ni fydd yr ardoll yn berthnasol.
Mae Horace yn ystyried is-osod y garafán i gael rhagor o incwm. Os yw Horace yn ymrwymo i gytundebau gyda theithwyr hamdden i is-osod y garafán ar gyfer arosiadau o 31 noson neu lai yn ystod y cyfnod 9 mis hwnnw, bydd y garafán yn cael ei chyfrif yn llety ymwelwyr. Yn yr achos hwn, Horace yw'r darparwr llety ymwelwyr, a bydd angen iddo gofrestru a bodloni ei rwymedigaethau o ran yr ardoll.
Enghraifft o garafannau dan berchnogaeth breifat
Mae Tanya yn rhedeg parc carafannau. Mae hi’n berchen ar 8 carafán statig ar y parc, ac mae 6 carafán statig arall yno sy'n eiddo preifat. Mae'r perchnogion preifat hynny'n talu ffi flynyddol i Tanya am eu lleiniau.
Mae Tanya yn caniatáu arosiadau tymor byr yn y carafannau y mae'n berchen arni, gydag uchafswm o 21 noson. Mae hi'n ddarparwr llety i ymwelwyr, a bydd angen iddi gofrestru a chyflawni ei rhwymedigaethau o ran yr ardoll mewn perthynas â'i charafannau statig.
Nid yw'r ardoll yn berthnasol i’r carafannau statig preifat sydd yn y parc yn barhaol, oni bai eu bod yn cael eu his-osod ar sail tymor byr ar gyfer teithiau busnes, hamdden neu addysgol. Os caiff carafán breifat ei his-osod, bydd angen i'r darparwr llety ymwelwyr sy'n gyfrifol am y garafán dan sylw sicrhau eu bod wedi cofrestru ac yn bodloni gofynion yr ardoll.
Enghraifft o garafán wedi'i pharcio ar lain tymhorol
Mae gan Gilly garafán deithiol ac mae hi'n talu am lain tymhorol pwrpasol mewn maes carafannau. Gan fod y garafán wedi'i pharcio yno trwy gydol y tymor, nid yw'r llain yn cael ei chyfrif yn llety ymwelwyr, ac nid yw'r ardoll yn berthnasol pan fydd Gilly yn defnyddio ei charafán.
O bryd i’w gilydd, bydd Gilly yn caniatáu i aelodau'r teulu ddefnyddio'r garafán yn ystod y tymor. Gan nad yw Gilly yn ddarparwr llety i ymwelwyr ac nad yw'n ymrwymo i gontractau gyda'i theulu i ganiatáu aros dros nos, nid yw'r ardoll yn berthnasol.
Llety nad yw'n cael ei ystyried yn lety ymwelwyr
Safle Sipsiwn a Theithwyr
Ni fydd llety ar safle Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei ystyried fel llety ymwelwyr at ddibenion yr Ardoll Ymwelwyr. Mae safle Sipsiwn a Theithwyr yn golygu tir sy'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i barcio cartrefi symudol sy'n llety ar gyfer:
- pobl sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, a
- unrhyw bobl eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol
Byddai pobl sy’n byw bywydau nomadaidd yn cynnwys:
- pobl sydd, ar sail eu hanghenion addysg neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, a
- aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcas deithiol, pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio
Cartrefi symudol, badau neu gerbydau eraill
Mae llety mewn cartrefi symudol, badau neu gerbydau eraill yn cael ei ystyried yn lety ymwelwyr dim ond pan fydd wedi'i leoli'n barhaol neu'n lled-barhaol mewn un lle ac yn cael ei gynnig ar sail tymor byr, boed hynny trwy'r amser neu'n achlysurol, ar gyfer busnes, teithio hamdden neu deithiau addysgol.
Bydd llain neu ardal ar gyfer cartref symudol yn cael ei ystyried yn llety ymwelwyr dim ond pan fo’n cael ei ddarparu ar gyfer cartref symudol nad yw wedi'i leoli mewn un lle naill ai yn barhaol neu'n lled-barhaol.
Enghraifft o fyw mewn carafán statig
Mae Polly’n byw mewn carafán statig ar barc carafannau preswyl, a dyma ei phrif breswylfa. Mae hi'n talu am ei llain bob mis, ac mae ganddi hawl i fyw yn y garafán trwy gydol y flwyddyn. Nid yw'r garafán yn llety ymwelwyr, gan ei bod y aros yn ei hunfan yn barhaol, nid yw Polly yn ei chynnig i'w rhentu ar gyfer busnes, teithio hamdden neu deithiau addysgol tymor byr, a hynny gan mai dyma ei chartref.
Nid yw'r llain lle mae'r garafán yn llety ymwelwyr ychwaith, gan ei fod yn cael ei ddarparu ar gyfer cartref symudol sydd yn ei unfan yn barhaol.
