Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Dydd a Reoleiddir – Chwarae Mynediad Agored

Mae'n ofynnol i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd gofrestru yn unol â darpariaethau Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (y Mesur) a'r rheoliadau cysylltiedig. Canllawiau statudol yw'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, a wneir o dan adran 30(3) o'r Mesur a rheoliad 14 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (y Rheoliadau), sy'n berthnasol i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd cofrestredig ar gyfer plant hyd at 12 oed.

Nod y Safonau yw helpu darparwyr cofrestredig i fodloni'r Rheoliadau sy'n berthnasol i'r gwasanaeth a ddarperir ganddynt. Rhaid i bersonau cofrestredig roi sylw i'r Safonau sy'n ymwneud â’r math o ofal a ddarperir. 

Bwriad y canllawiau statudol hyn ar gyfer Safonau chwarae mynediad agored a reoleiddir yw caniatáu dull hyblyg er mwyn i ddarparwyr allu datblygu darpariaeth o ansawdd, a honno wedi'i theilwra i anghenion plant, rhieni a chymunedau lleol. Maent wedi’u bwriadu i adlewyrchu anghenion plant 5 i 12 oed, ac i fod yn gymesur o ran y ffordd y cânt eu cymhwyso. 

Drwy gydol y ddogfen hon, mae pob cyfeiriad at Reoliadau yn cyfeirio at Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd).

Noder: Ym mhob achos, y person cofrestredig , sef darparwr cofrestredig y gofal dydd (chwarae mynediad agored), sy'n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau, gan roi sylw i'r Safonau perthnasol. Mae hyn yn wir bob amser, er yn ymarferol efallai y caiff y cyfrifoldeb ei ddirprwyo o ddydd i ddydd i reolwr, y person â chyfrifoldeb neu aelod dynodedig o staff. Lle darperir gofal dydd gan sefydliad (corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig), rhaid i unigolyn cyfrifol sy'n gyfrifol am oruchwylio'r gofal dydd a ddarperir o ddydd i ddydd gael ei benodi gan y sefydliad hwnnw. 

Os yw'r sefydliad yn gorff corfforaethol, rhaid i'r person a benodir i fod yn gyfrifol fod yn gyfarwyddwr, yn rheolwr, yn ysgrifennydd neu'n swyddog arall o fewn y sefydliad. Os yw'r sefydliad yn gymdeithas anghorfforedig, rhaid i'r unigolyn cyfrifol fod yn swyddog neu'n aelod o'i gorff llywodraethu.

Rhaid i'r unigolyn cyfrifol fodloni'r gofynion rheoliadol o ran eu haddasrwydd ar gyfer y swyddi (fel y’u nodir yn rheoliad 6(3)(b)(iii) neu (iv) o'r Rheoliadau). 

Yn gyffredinol, disgwylir i'r unigolyn sy'n gyfrifol ddangos bod y ddarpariaeth gofal dydd yn cydymffurfio â gofynion amrywiol y Rheoliadau, gan roi ystyriaeth i'r safonau perthnasol. 

Rhaid penodi person i fod â chyfrifoldeb os mai sefydliad yw'r person cofrestredig, ac nad yr unigolyn cyfrifol sydd â gofal llawn bob dydd am y ddarpariaeth gofal dydd - chwarae mynediad agored, neu os yw'r person cofrestredig yn unigolyn nad yw â gofal llawn bob dydd. Mae'r gofynion cyfreithiol ar gyfer penodi person i fod â chyfrifoldeb i'w gweld yn Rhan 3 o'r Rheoliadau. 

Mae unrhyw gyfeiriad at riant/rhieni yn cynnwys gofalw(y)r a'r sawl nad ydynt yn rhieni, ond sydd â chyfrifoldeb rhieni.

Mae cyfeiriadau at staff yn cynnwys staff neu wirfoddolwyr di-dâl.

Fframwaith Deddfwriaethol

Mae'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gofal dydd a reoleiddir yng Nghymru yn amlinellu swyddogaethau Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod cofrestru. Cyflawnir y swyddogaethau hyn ar ran Gweinidogion Cymru gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Yng Nghymru, caiff gwarchod plant a darpariaeth gofal dydd i blant hyd at 12 oed ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cofrestru, arolygu a chymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau a reoleiddir er lles pobl Cymru. 

Mae gwarchod plant a gofal dydd a reoleiddir yn cwmpasu ystod eang o wahanol fathau o ddarpariaeth, sy'n ddarostyngedig i safonau gofynnol cenedlaethol. Mae'r safonau yn y ddogfen hon ar gyfer gwasanaethau Gofal Dydd a Reoleiddir - Chwarae Mynediad Agored. Nid yw chwarae mynediad agored yn cynnwys gofal dros nos. Mae gwarchod plant a gwasanaethau gofal dydd eraill yn ddarostyngedig i safonau gwahanol.

Rhaid i unigolion a sefydliadau sy'n gwneud cais i gofrestru fodloni'r prawf statudol o dan adran 26 o'r Mesur, sef nad ydynt wedi'u hanghymhwyso rhag cofrestru, a'u bod yn bodloni ac yn debygol o barhau i fodloni'r gofynion addasrwydd a nodir yn y Rheoliadau. 

Mae rhagor o wybodaeth am gofrestru i ddarparu gwasanaeth ar gael - Cofrestrwch i ddarparu gwasanaeth | Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae pob darparwr cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn parhau i fodloni'r gofynion cofrestru. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i gyfathrebu'n rheolaidd ag Arolygiaeth Gofal Cymru, a rhoi gwybodaeth gyson iddynt am eu gwasanaeth. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn arolygu'r holl ddarpariaeth gwarchod plant, gofal dydd a chwarae cofrestredig.

Mae rhagor o wybodaeth am yr arolygiadau ar gael yma - Ein harolygiadau | Arolygiaeth Gofal Cymru.

Ar hyn o bryd, nid yw’n ofynnol cofrestru gofal i blant 12 oed neu hŷn o dan y Mesur, ond gall lleoliad sydd wedi'i gofrestru o dan y Mesur i ddarparu gofal i blant o dan 12 oed ofalu am blant 12 oed a hŷn.

Mae gofal plant a reoleiddir yn syrthio i ddau gategori: Gwarchod plant a Gofal dydd.

Gofal dydd – mynediad agored

Mae person yn darparu gofal dydd i blant os yw’r plant, ar unrhyw adeg, yn derbyn gofal mewn mangre annomestig.

Rhaid i unrhyw un sy'n cynnig darparu gofal dydd i blant fod wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru heblaw ei fod wedi'i eithrio rhag gorfod cofrestru o dan Ran 3 o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y’i diwygiwyd). 

Mae gofal dydd mewn mangre annomestig yn cynnwys amrywiol fathau o ddarpariaeth, ac mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cofrestru darparwyr gofal dydd o dan y categorïau canlynol: Gofal dydd llawn, gofal dydd sesiynol, gofal y tu allan i oriau ysgol, crèche a chwarae mynediad agored. 

Mae'r Rheoliadau yn diffinio darpariaeth chwarae mynediad agored fel darpariaeth gofal dydd pan nad yw'n ofynnol—

a) trefnu ymlaen llaw gyda'r person cofrestredig i ddarparu gofal o'r fath; neu

b) bod y plant yn cael eu hebrwng gan riant neu berson cyfrifol arall i'r fangre berthnasol ac oddi yno.

At ddibenion cofrestru o dan y Mesur, mae 'mangre' yn cynnwys unrhyw ardal neu gerbyd. 

Ystyr darpariaeth chwarae mynediad agored yw darpariaeth gwaith chwarae â staff, sy'n briodol i blant o bob oedran. At ddibenion rheoleiddio, mae darpariaeth chwarae mynediad agored â staff ar gyfer plant 5 i 12 oed. Gall fod yn ddarpariaeth barhaol neu dros dro, wedi'i lleoli mewn amrywiol leoliadau, a gall fod ganddi fangre sefydlog neu beidio. Ni wneir trefniant ymlaen llaw â'r person cofrestredig i ddarparu gofal plant. Nid yw'n ofynnol i blant gael eu hebrwng gan riant neu berson cyfrifol arall i'r fangre berthnasol ac oddi yno. Ni chyfyngir ar symudiadau’r plant, heblaw pan fydd materion diogelwch yn gofyn
am hynny. 

I gael rhagor o wybodaeth am y diffiniad o chwarae, gweler canllawiau statudol 'Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae' i awdurdodau lleol - Cymru: gwlad lle mae cyfle i chwarae | LLYW. CYMRU.

Darperir y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer pob math arall o warchod plant a gofal dydd ar wahân. Ewch i Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol

Rhai Enghreifftiau o Ddarpariaeth Chwarae Mynediad Agored

Safle sefydlog – ar ôl ysgol, penwythnosau a gwyliau

Mae'r gwasanaeth yn gweithredu ar faes chwarae antur neu ganolfan chwarae. Mae'r gwasanaeth ar agor bob prynhawn o'r wythnos rhwng 3pm a 5.30pm, ar ddydd Sadwrn rhwng 10am a 3pm, ac yn ystod gwyliau ysgol rhwng 10am a 3pm. 

Safle sefydlog – gwyliau ysgol yn unig

Mae'r gwasanaeth yn gweithredu o adeilad cymunedol a'i diroedd. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu am dair wythnos yn ystod gwyliau haf ysgolion ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 9am a 4pm.

Safle symudol – gwyliau ysgol yn unig 

Darpariaeth chwarae dros dro ar 4 safle ar draws ardal yr awdurdod lleol yn ystod gwyliau haf chwe wythnos ysgolion.

Safle 1 – Tiroedd canolfan gymunedol – Dydd Llun a dydd Mercher rhwng 9.30am a 12pm

Safle 2 – Parc – Dydd Llun a dydd Mercher rhwng 12.30pm a 3pm 

Safle 3 – Coetir – Dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 12.30pm a 3pm 

Safle 4 – Ardal laswellt mewn stad dai – Dydd Gwener rhwng 10am a 2pm. 

Eithriadau: Amgylchiadau pan nad oes angen cofrestru

Eithriadau - cyn Ebrill 2027

Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (Gorchymyn 2010) yn pennu’r amgylchiadau pan nad oes angen i ddarparwyr gofrestru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd ar hyn o bryd. Mae'r eithriadau wedi'u hamlinellu isod: 

Eithriadau o ran gwarchod plant

  • Nid yw'n ofynnol i'r person gofrestru fel gwarchodwr plant i ofalu am ei blentyn ei hun, ei blentyn maeth, plentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant amdano na phlentyn y mae'n byw gydag ef.
  • Os yw person yn darparu ei wasanaeth am union 2 awr neu lai y dydd, nid yw'n ofynnol iddo gofrestru fel gwarchodwr plant.
  • Os yw person yn cael ei gyflogi'n uniongyrchol gan rieni hyd at ddau deulu i ofalu am eu plant, ac mae'r gofal yn cael ei ddarparu yng nghartref y naill deulu neu'r llall, nid yw'n ofynnol i'r person gofrestru fel gwarchodwr plant. 
  • Os yw person ond yn gofalu am blant rhwng 6pm a 2am y diwrnod wedyn, nid yw'n ofynnol iddo gofrestru fel gwarchodwr plant. 
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel gwarchodwr plant lle mae'r person yn gofalu am blant ar sail cyfeillgarwch, a lle nad oes taliad (boed drwy arian neu werth ariannol) yn cael ei wneud am y gwasanaeth.

Eithriadau o ran gofal dydd:

  • Os yw'r gwasanaeth yn gweithredu mewn lleoliad penodol am 5 diwrnod neu lai mewn unrhyw flwyddyn galendr, nid yw'n ofynnol cofrestru fel darparwr gofal dydd. Bydd angen i'r darparwr hysbysu Arolygiaeth Gofal Cymru am y dyddiadau y mae'n bwriadu rhedeg y gwasanaeth, cyn y diwrnod cyntaf o weithredu yn y flwyddyn honno.
  • Os yw person yn darparu ei wasanaeth am union 2 awr neu lai y dydd, nid yw'n ofynnol iddo gofrestru fel darparwr gofal dydd.
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r gofal yn cael ei ddarparu mewn cartref gofal, llety diogel neu ganolfan breswyl i deuluoedd a gofrestrwyd eisoes i ddarparu gofal o dan Ddeddf Cofrestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r gofal yn cael ei ddarparu mewn ysbyty i glaf (p'un a yw'r gofal hwnnw'n cael ei ddarparu gan ddarparwr y sefydliad yn uniongyrchol neu gan berson a gyflogir ar ran y darparwr).
  • Os yw person ond yn gofalu am blant rhwng 6pm a 2am y diwrnod wedyn, ac mae'r gofal yn cael ei ddarparu mewn gwesty, gwesty bach, neu sefydliad tebyg arall ar gyfer plentyn sy'n aros yno, ac mae'r person sy'n darparu'r gofal yn gwneud hynny ar gyfer dim mwy na dau gleient gwahanol ar yr un pryd, nid oes angen iddo gofrestru fel darparwr gofal dydd.
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel darparwr gofal dydd pan fydd yn gofalu am blant mewn ysgol, ac mae'r gofal a ddarperir yn gysylltiedig â darparu'r addysg. 
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r holl blant sy'n mynychu yn 11 oed o leiaf, mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â gwaith ieuenctid, ac mae'r taliad am y gwasanaeth hwn yn nominal, os oes taliad o gwbl. 
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru os yw'n cynnig darpariaeth coetsio neu ddysgu mewn dim mwy na dau o'r mathau canlynol o weithgareddau: 

    - Chwaraeon
    - Celfyddydau perfformio
    - Celf a chrefft
    - Cymorth gydag astudiaethau ysgol neu waith cartref
    - Astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol

Gall y darparwr wneud unrhyw nifer o weithgareddau ym mhob maes gweithgaredd, ar yr amod mai'r ffocws yw hyfforddiant neu wersi'r plant, ac mai rhywbeth cysylltiedig â hynny yw unrhyw ofal a roddir. Os yw'r holl blant sy'n mynychu yn 5 oed neu'n hŷn, nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd. Fodd bynnag, os yw'n darparu gwasanaeth hyfforddiant a gwersi i blant o dan 5 oed ac maent yn bresennol am fwy na 4 awr y dydd, rhaid iddo gofrestru.

Gellir darllen y canllawiau ar yr eithriadau hyn yma: Cofrestru fel darparwr gofal plant: eithriadau | LLYW.CYMRU

Eithriadau - o Ebrill 2027

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o Orchymyn 2010 ac, o ganlyniad, bydd nifer o newidiadau yn cael eu gwneud i'r eithriadau yng Ngorchymyn 2010. Mae'r newidiadau hynny wedi'u nodi yng Ngorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026 (Gorchymyn 2026) a fydd yn disodli ac yn dirymu Gorchymyn 2010. 

Daw Gorchymyn 2026 i rym ar 1 Ebrill 2027; bydd angen i ddarparwyr ystyried eu darpariaeth yn erbyn Gorchymyn 2026 i asesu p'un a ydynt wedi'u heithrio rhag gorfod cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd yng Nghymru. 

Yn ystod cyfnod pontio o flwyddyn, rhwng Ebrill 2027 ac Ebrill 2028, bydd yn ofynnol i ddarparwyr nad ydynt bellach wedi'u heithrio rhag gorfod cofrestru oherwydd y newidiadau a gyflwynir gan Orchymyn 2026 wneud cais i gofrestru. Bydd gan ddarparwyr tan 31 Mawrth 2028 i gyflwyno eu cais cofrestru i Arolygiaeth Gofal Cymru. Ar ôl y dyddiad hwn, gellir cymryd camau gorfodi lle canfyddir bod darparwr yn gweithredu heb fod wedi bodloni'r gofyniad i gofrestru. 

Yn sgil y newid hwn yn y gyfraith, mae'n bwysig cysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru am gyngor pellach i drafod eich darpariaeth, ac a oes angen ichi gofrestru. 

Caiff canllawiau ar yr eithriadau newydd eu cyhoeddi yn hydref 2026. Bydd y rhain ar gael ar wefannau Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru.