Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir - Chwarae Mynediad Agored i blant 5 i 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa a Trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr chwarae mynediad agored eu bodloni er mwyn gofalu am blant 5 i 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 7: Gofal iechyd
Llais y Plentyn: Os ydw i'n teimlo'n sâl, mae pobl yn fy helpu ac yn gwneud yn siŵr fy mod i'n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arna i.
Deilliant Lles: Bod anghenion iechyd corfforol ac emosiynol plant yn cael eu deall a bod y plant yn cael cefnogaeth mewn ffordd sy'n hyrwyddo lles ac arferion iechyd cadarnhaol, gan fynd i'r afael yn briodol â'r anghenion ochr yn ochr â rhieni/gofalwyr.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
7.1 Bod iechyd y plant yn cael ei hyrwyddo a chamau cadarnhaol yn cael eu cymryd i atal haint rhag lledaenu drwy fesurau priodol mewn achosion o salwch.
7.2 Na dderbynnir unrhyw blentyn os ymddengys ei fod yn sâl. Os bydd plant yn mynd yn sâl yn ystod eu hamser yn y lleoliad, y cymerir gofal i atal heintio plant eraill ac y rhoddir gwybod i'r rhieni/gofalwyr cyn gynted â phosibl.
7.3 Y rhoddir gwybod i rieni/gofalwyr eraill os bydd plentyn sy'n mynd i'r lleoliad, neu unrhyw un arall yn y fangre (ee aelod o staff neu o'r teulu) wedi cael diagnosis o afiechyd heintus difrifol (ee. brech yr ieir, impetigo) gan sicrhau cyfrinachedd unigolion fel y bo'n briodol.
7.4 Bod rhieni/gofalwyr yn gwybod bod yn rhaid iddynt roi gwybod i'r darparwr cofrestredig am anghenion gofal iechyd eu plentyn. Gan ymgynghori â rhieni/gofalwyr y plentyn, bod sylw yn cael ei roi i anghenion iechyd unigol plant, bod yr anghenion yn cael eu hystyried ac y cynllunnir ar eu cyfer, a bod y darparwr cofrestredig yn cymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol.
7.5 Y ceir caniatâd ysgrifenedig gan y rhiant cyn ceisio cyngor neu driniaeth feddygol frys.
7.6 Bod y staff yn cael gwybodaeth am bwysigrwydd arferion hylendid da ac yn ymwybodol ohonynt er mwyn atal haint rhag lledaenu.
7.7 Bod y plant yn cael eu hannog i ddysgu am hylendid personol da - ac ymarfer hynny - drwy'r arferion a ddilynir bob dydd.
7.8 Bod systemau ar waith i sicrhau bod unrhyw anifeiliaid yn ddiogel i fod yn agos at blant, ac nad ydynt yn peri risg i iechyd, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol.
7.9 Bod amgylcheddau chwarae yn glir rhag haint a deunyddiau peryglus, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol. Bod pyllau tywod yn cael eu gwarchod rhag cael eu heintio a bod y tywod yn lân.
Hylendid Bwyd
7.10 Bod y staff sy'n gyfrifol am baratoi a delio â bwyd yn gwbl ymwybodol o'r rheoliadau sy'n ymwneud â diogelwch bwyd a hylendid, ac yn cydymffurfio â nhw.
Gofal Personol
7.11 Lle darperir gofal i blant, bod polisi gofal personol wedi'i lunio y mae'r staff yn gyfarwydd ag ef. Dylai'r polisi ymwneud â materion hylendid ac arferion diogelwch da.
Polisi gwrth-smygu a fepio
7.12 Bod ardaloedd dan do ac awyr agored y fangre lle darperir gofal dydd yn ddi-fwg. Fodd bynnag, dim ond pan ddefnyddir y fangre i ddarparu gofal dydd y bydd yn ofynnol i’r ardaloedd awyr agored fod yn ddi-fwg. Rhaid cadw unrhyw ddeunyddiau smygu a fepio y tu hwnt i gyrraedd plant bob amser. Ni chaniateir smygu ym mhresenoldeb y plant sy'n derbyn gofal mewn lleoliad gofal dydd. Mae hyn yn berthnasol i ardaloedd dan do ac awyr agored y fangre lle darperir gofal dydd. Mae canllawiau ar y gofynion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru Deddfwriaeth ddi-fwg: canllawiau ar y newidiadau o fis Mawrth 2021 [HTML] | LLYW. CYMRU
7.13 Bod arwyddion 'Dim Smygu' yn ardaloedd dan do y fangre. Nid yw'n ofynnol gosod arwyddion 'Dim Smygu' mewn mangreoedd awyr agored gan mai yn ysbeidiol yn unig y defnyddir llawer ohonynt neu cânt eu rhannu ag eraill. Fodd bynnag, ceir gosod arwyddion 'Dim Smygu' mewn ardaloedd awyr agored, ac mae templed o arwydd 'Dim Smygu' ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
7.14 Bod y person sy'n rheoli'r lleoliad gofal dydd, er mwyn cyflawni gofynion y ddeddfwriaeth ddi-fwg, yn cymryd camau rhesymol i atal unrhyw un rhag smygu yn y fangre. Mae canllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ar sut i sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth ddi-fwg.
7.15 Mewn perthynas â fepio, mae'r ddeddfwriaeth ddi-fwg sydd ar waith ar hyn o bryd yn cwmpasu smygu tybaco yn unig, ac nid yw'n cynnwys e-sigaréts/fepio. Felly, os bydd unigolyn yn defnyddio e-sigarét/fepio mewn lleoliad y mae’n ofynnol iddo fod yn lleoliad di-fwg, ni fydd yr unigolyn hwnnw’n cyflawni trosedd. Fodd bynnag, anogir darparwyr lleoliadau gofal dydd cofrestredig i gyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts/fepio yn eu lleoliad.
Cymorth Cyntaf
7.16 Bod blwch cymorth cyntaf sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau perthnasol, a bod y cynnwys yn cael ei archwilio'n gyson gan ychwanegu ato yn ôl yr angen. Lle bo'n briodol, dylid dynodi aelod o staff i fod yn gyfrifol am hyn. Dylai'r blwch cymorth cyntaf fod ar gael i staff, ond y tu hwnt i gyrraedd plant.
7.17 Bod lleoliadau chwarae mynediad agored yn cydymffurfio â gofynion cyffredinol hyfforddiant cymorth cyntaf yn y gweithle a amlinellir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mewn perthynas â'u gweithwyr.
7.18 Bod gan unigolion sydd wedi’u hyfforddi mewn cymorth cyntaf gymhwyster “addas”. Rhaid i gynnwys cyrsiau Cymorth Cyntaf Pediatrig fod yn gyson â'r meini prawf a nodir yng Nghanllawiau Atodol y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig yn Atodiad A.
7.19 Mewn lleoliadau chwarae mynediad agored, bod o leiaf un unigolyn sydd â chymhwyster cymorth cyntaf (cymorth cyntaf pediatrig llawn) yn bresennol bob amser, a bod trefniadau wrth gefn i sicrhau mwy o staff sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf, i'w defnyddio yn ôl y risg o ran amgylchiadau'r lleoliad a'r mathau o weithgareddau yr ymgymerir â nhw, y lleoliad daearyddol a nifer y plant sy'n mynychu.
7.20 Bod pob tystysgrif cymorth cyntaf yn cael ei diweddaru’n gyson a’i hadnewyddu bob 3 blynedd.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau Cysylltiedig
Mwy o Arweiniad a Help
Iechyd Cyhoeddus Cymru - Cyngor ac arweiniad ar gyfer lleoliadau gofal plant, cyn ysgol ac addysgol
Chwarae a risg - Chwarae Cymru
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - Chwarae a hamdden plant - hyrwyddo dull cytbwys
Bwyd mwy diogel, busnes gwell | Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Gofal personol i blant | NSPCC Learning
Deddfwriaeth ddi-fwg: canllawiau ar y newidiadau o fis Mawrth 2021
