Neidio i'r prif gynnwy

Safon 11: Trefniadaeth a Staffio

Llais y Plentyn: Mae yna ddigon o staff bob amser i gefnogi pawb a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu chwarae'n ddiogel.

Deilliant Lles: Y cyfrennir at les y plant drwy wasanaeth sydd wedi'i drefnu'n dda, lle mae nifer yr oedolion yn diwallu eu hanghenion yn unol â'r gofynion.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

11.1 Bod cynllun gweithredol yn cael ei ddatblygu a'i adolygu'n rheolaidd. Rhaid sicrhau bod y cynllun hwn ar gael i rieni. Nod y cynllun yw sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynllunio a'i drefnu'n dda a'i gwneud yn bosibl trefnu'r ddarpariaeth mewn ffordd mor hyblyg â phosibl gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael ac anghenion y plant a'r teuluoedd. 

Bydd cynnwys y cynllun yn amrywio yn dibynnu ar y math o ddarpariaeth, ond gallai gynnwys: 

  • manylion y strwythur cyfundrefnol 
  • cyfrifoldebau rheolwyr llinell
  • strwythur staffio sy’n nodi cyfrifoldebau arwain a rheoli 
  • manylion y fangre a'r cyfleusterau a sut y cânt eu defnyddio 
  • cynlluniau hyfforddi
  • gwybodaeth am ddatblygiad y gwasanaeth
  • cynlluniau gweithredu.

11.2 Bod y cynllun gweithredol yn nodi'n glir sut y caiff y mannau chwarae dan do ac awyr agored eu rhannu a'u defnyddio i ddarparu gweithgareddau ar gyfer grwpiau o blant, a sut y caiff staff eu defnyddio ynddynt. Mae disgwyl y bydd angen i'r trefniadau hyn fod yn hyblyg ac y byddant yn amrywio yn ôl y gweithgaredd ac anghenion y grŵp y gofelir amdano.

11.3 Bod staff yn cael eu defnyddio'n effeithiol o fewn y ddarpariaeth i sicrhau diogelwch a lles y plant.

11.4 Bod plant yn cael y cyfle i ryngweithio â'r oedolion sy'n gofalu amdanynt. Rhaid i staff fynd ati i geisio datblygu perthynas dda â'r plant a rhoi cyfle i grwpiau bach o blant ryngweithio a chwarae gyda'i gilydd.

11.5 Bod yna ddirprwy penodedig sy'n gallu cymryd cyfrifoldeb yn absenoldeb y person â chyfrifoldeb.

Gweithgareddau Arbenigol 

11.6 Bod darpariaeth chwarae mynediad agored sy'n cynnig gweithgareddau arbenigol yn cynnal a chadw gweithdrefnau ysgrifenedig ar gyfer pob rhaglen o weithgareddau arbenigol. 

Rhaid i'r gweithdrefnau hyn: 

  • fod yn briodol i'r safle a lefel y gweithgareddau a gynhelir; 
  • diffinio'r cymwyseddau, y cymwysterau a/neu'r profiad sy'n ofynnol gan y staff sy'n ymgymryd â gwahanol lefelau o gyfrifoldeb; a 
  • bod yn gyson â Chanllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, lle bo'n briodol; Canllawiau Pwyllgor Cynghori Canolfannau Gweithgareddau, lle maent wedi'u sefydlu; a Chanllawiau'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol, lle maent yn berthnasol o ran cynnal y gweithgareddau yn ddiogel ar y lefel yr ymgymerir â hi. 

11.7 Bod gan bob aelod o staff sy'n gyfrifol am reoli gweithgaredd y cymwyseddau, y cymwysterau a'r profiad y mae eu hangen i wneud hynny. Mae angen trwydded weithgareddau os yw hynny'n berthnasol.

Cymarebau staffio 

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

11.8 Bod y gymhareb oedolion:plant ofynnol yn cael ei bodloni.

11.9 Nad yw unrhyw ofal a ddarperir ar gyfer plant dros 12 oed yn cael effaith andwyol ar y gofal a ddarperir ar gyfer plant hyd at 12 oed, ac fel arall.

11.10 Y gymhareb staffio ofynnol mewn darpariaeth chwarae mynediad agored yw 1 oedolyn i 13 o blant o dan 8 oed. 

11.11 Ei fod yn cynnal asesiad risg i ystyried trefniadau addas ar gyfer achlysuron pan fydd plant yn gadael y fangre chwarae mynediad agored, gan ystyried lleoliad daearyddol y safle, oedran y plant ac anghenion unigol. 

11.12 Yn achos plant 8 i 12 oed, dylai’r gymhareb staffio fod yn ddigonol ac yn gymesur, a dylai gyfrannu at sicrhau amgylchedd cadarnhaol i’r plant. Dylai cymarebau staffio adlewyrchu amgylchiadau’r lleoliad, gan gynnwys y safle a’r gweithgareddau a wneir, sut y rheolir risgiau, profiad a chymwysterau staff, cyd-destun cymunedol, oedran a gallu’r plant, a dylid paratoi cynlluniau ar gyfer achosion brys. 

11.13 Os cynhelir darpariaeth chwarae dan do, bod ganddo system sy'n ei gwneud yn bosibl iddo wybod pa blant sy'n bresennol yn y fangre.

 Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help