Neidio i'r prif gynnwy

Safon 12: Gweithdrefnau ariannol

Llais y Plentyn: Mae fy nheulu yn gwybod bod y lle hwn yn cael ei redeg yn iawn ac fy mod i'n cael gofal.

Deilliant Lles: Bod plant yn profi parhad a sefydlogrwydd oherwydd bod y lleoliad yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn cael ei reoli'n dda.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

12.1 Bod gweithdrefnau ariannol effeithiol yn cael eu gweithredu.

12.2 Bod yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol wedi'i drefnu, yn ogystal ag yswiriant ar gyfer unrhyw gerbydau a gyrwyr a ddefnyddir. 

12.3 Bod cofnodion yr holl drafodion ariannol a'r yswiriant mewn perthynas â'r gofal a ddarperir i blant perthnasol ar gael i Arolygiaeth Gofal Cymru ar gais.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help