Neidio i'r prif gynnwy

Safon 13: Ansawdd

Llais y Plentyn: Mae fy lleoliad yn ceisio gwella'n barhaus ac yn gwrando ar yr hyn rydyn ni'n ei feddwl.

Deilliant Lles: Bod y plant a'u rhieni yn elwa ar wasanaeth o safon sy'n cael ei fonitro'n effeithiol.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

13.1 Bod systemau a phrosesau effeithiol yn cael eu defnyddio i fonitro, adolygu a gwella ansawdd pob agwedd ar y gwasanaeth a ddarperir yn barhaus, mewn ffordd sy’n bodloni gofynion Rheoliad 16 – Adolygu Ansawdd y Gofal.

13.2 Hunanwerthusiad o'ch gwasanaeth yw 'Ansawdd y gofal'. Mae system ar waith i gynnal adolygiad yn flynyddol a chynhyrchu adroddiad a ddarperir mewn fformat priodol i rieni/gofalwyr, awdurdod lleol sy'n trefnu gofal dydd i blentyn perthnasol, staff a Gweinidogion Cymru ar gais. (Gellir darparu'r adroddiad i Arolygiaeth Gofal Cymru fel rhan o Ddatganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS)).

13.3 Bod yr Adolygiad o Ansawdd y Gofal yn cynrychioli cylch gwella parhaus ac yn rhan o ddiwylliant o wella ansawdd. Mae monitro ac adolygu'r gwasanaeth yn helpu i sbarduno gwelliannau. Dylid cynnwys yr holl staff yn yr adolygiad.

13.4 Bod yr adroddiad yn cynnwys barn plant, rhieni, staff a gweithwyr proffesiynol eraill (lle bo'n briodol). Y gofynnir am farn y plant a'u rhieni, staff ac ymarferwyr/gweithwyr proffesiynol eraill yn rheolaidd ynghylch pa welliannau y gellid eu gwneud, ac y rhoddir ystyriaeth i’r farn honno. Bod hyn yn cael ei ymgorffori fel rhan o’r prosesau i fesur llwyddiant y gwasanaeth.

13.5 Bod unrhyw gynlluniau sicrhau ansawdd eraill, megis fframwaith hunanasesu sicrwydd ansawdd Chwarae o Safon, yn bwydo i mewn i adroddiad Ansawdd y Gofal.

13.6 Bod cyngor ac argymhellion Arolygiaeth Gofal Cymru ac unrhyw gyrff proffesiynol y mae’r lleoliadau yn gysylltiedig â nhw yn cael eu hystyried.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help