Neidio i'r prif gynnwy

Safon 10: Person addas

Llais y Plentyn: Mae'r staff yma yn garedig, yn gyfeillgar, ac yn deall sut i gefnogi chwarae plant.

Deilliant Lles: Bod plant yn mwynhau profiadau chwarae, cydberthnasau diogel ac sy'n eu cyfoethogi, gydag oedolion y maent yn ymddiried ynddynt, sy'n fedrus a meddylgar, ac sy'n ymrwymedig i ymarfer o ansawdd uchel.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

10.1 Eu bod yn dal i fod yn addas i weithredu fel person cofrestredig ac addasrwydd eu staff a'u gwirfoddolwyr. 

10.2 Bod yr holl staff yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n cwmpasu polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch ac amddiffyn plant yn ystod wythnos gyntaf eu cyflogaeth. 

10.3 Y rhoddir sylw i anghenion hyfforddi parhaus y staff ac y darperir ar eu cyfer yn rheolaidd. 

10.4 Bod prosesau ar waith i oruchwylio a gwerthuso'r holl staff yn rheolaidd, gan annog ymarfer meddylgar a chyfleoedd i godi pryderon. 

10.5 Bod darparwyr chwarae mynediad agored, ac unrhyw staff a gyflogir ganddynt, yn addas i ofalu am blant hyd at 12 oed, a bod ganddynt y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau priodol i ddiwallu anghenion y plant. 

10.6 Bod y staff yn abl yn feddyliol ac yn gorfforol i ofalu am blant. 

10.7 Bod darparwyr chwarae mynediad agored, ac unrhyw staff a gyflogir ganddynt, ac unrhyw unigolion eraill 16 oed neu'n hŷn sy'n gweithio (gan gynnwys gwaith gwirfoddol) neu sydd am reswm arall yn bresennol yn y fangre berthnasol, ac sy’n dod i gysylltiad rheolaidd â’r plant, neu sy'n debygol o wneud hynny, wedi mynd drwy broses wirio sy'n cydymffurfio â'r Rheoliadau ac yn cynnwys archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bod pob archwiliad yn cael ei gwblhau cyn i'r unigolion hyn ddechrau gweithio gyda phlant neu ddod i gysylltiad rheolaidd â nhw heb oruchwyliaeth. 

Y person â chyfrifoldeb 

10.8 Cyn ei benodi, rhaid bod gan berson sydd â chyfrifoldeb (rheolwr) am ddarpariaeth chwarae mynediad agored i blant 5 i 12 oed: 

a) o leiaf 2 flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gofal dydd

A

b) o leiaf cymhwyster lefel 3 a gydnabyddir yn Rhestr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli), sy’n briodol i’r swydd. 

10. 9 Bod yna ddirprwy penodedig sy'n gallu cymryd cyfrifoldeb yn absenoldeb y person â chyfrifoldeb.

Cymwysterau staff eraill

10.10 Ar gyfer lleoliadau gwaith chwarae mynediad agored:

a) bod gan o leiaf 50% o’r holl “staff eraill” gymhwyster gwaith chwarae lefel 2, a gydnabyddir ar Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli), sy’n briodol i’r swydd

b) nad yw'r nifer sydd heb gymhwyso, sy'n gweithio tuag at gymhwyster lefel 2 neu'n aelodau staff gwirfoddol yn fwy na 50% o gyfanswm y staff. 

10.11 Ei fod yn fodlon bod pob aelod staff sydd heb gymhwyso / sy'n gweithio tuag at gymwysterau / sy'n gwirfoddoli:

  • yn gymwys ac yn gyfrifol
  • yn cael ei oruchwylio'n briodol gan aelod o staff cymwysedig
  • wedi ymgymryd â'r gwiriadau addasrwydd angenrheidiol 
  • wedi cwblhau hyfforddiant sefydlu sy'n berthnasol i'w rôl
  • yn gweithio ochr yn ochr â staff sy’n gymwysedig i’r lefel 
    ofynnol.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help

Rhestr o gymwysterau gofynnol ar gyfer gwaith chwarae

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth am arferion da wrth recriwtio, rheoli a goruchwylio staff.