Neidio i'r prif gynnwy

Safon 9: Bwyd a Diod

Llais y Plentyn: Os cynigir byrbrydau neu ddiodydd, maen nhw'n iach ac yn addas i mi, ac mae'r staff yn gwirio beth sydd ei angen arna i.

Deilliant Lles: Lle darperir bwyd a diodydd iach i blant, bod dognau digonol yn cael eu darparu ar gyfer eu hanghenion, gan sicrhau eu bod yn cael eu paratoi'n iawn a'u bod yn faethlon. 

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

9.1 Os darperir byrbrydau a diodydd iach, bod y person cofrestredig yn gofyn am wybodaeth gan rieni am unrhyw ofynion deietegol arbennig sydd gan y plentyn, gan gynnwys gofynion diwylliannol a chrefyddol, yr hyn sydd orau ganddynt ac alergeddau. Os nodir manylion fel hyn, bod y person cofrestredig yn gwneud cofnod ac yn sicrhau y cydymffurfir â hynny.

9.2 Bod y person cofrestredig yn sicrhau bod unrhyw fwyd a diod y mae plant yn ei gael yn cael ei baratoi'n ddiogel, yn gytbwys o ran maeth, o ansawdd da, ac yn briodol o ran dogn, yn unol ag argymhellion Canllawiau Bwyd a Maeth Llywodraeth Cymru ar gyfer lleoliadau gofal plant. Yn unol ag Egwyddorion Gwaith Chwarae, bod y budd a'r risg yn ystyriaethau wrth ddefnyddio bwyd ar gyfer chwarae.

9.3 Bod dŵr yfed ffres ar gael bob amser i'r plant.

9.4 Bod bwyd yn cael ei storio'n ddiogel. Os yw rhieni yn darparu bwyd, eu 
bod yn cael gwybod beth gellir ei storio'n ddiogel.

9.5 Os darperir bwyd, bod cegin â chyfarpar digonol i ddarparu prydau a byrbrydau i'r plant a'r staff yn y fangre. Os nad yw hyn ar gael, bod y person cofrestredig yn gallu dangos sut y gwneir trefniadau digonol i ddarparu bwyd a diod i'r plant yn ddiogel. 

9.6 Nad yw'r plant yn cael mynd i'r gegin oni bai ei bod yn cael ei defnyddio’n unswydd ar gyfer gweithgaredd plant dan oruchwyliaeth.

9.7 Y cydymffurfir â gofynion yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Iechyd Amgylcheddol.

9.8 Mewn lleoliadau lle mae amseroedd penodol ar gyfer prydau bwyd a diodydd, eu bod wedi'u trefnu i gynnig cyfleoedd cymdeithasol. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help