Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir - Chwarae Mynediad Agored i blant 5 i 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa a Trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr chwarae mynediad agored eu bodloni er mwyn gofalu am blant 5 i 12 oed.
Ar y dudalen hon
Safon 12: Gweithdrefnau ariannol
Llais y plentyn
Mae fy nheulu yn gwybod bod y lle hwn yn cael ei redeg yn iawn ac fy mod i'n cael gofal.
Deilliant lles
Bod plant yn profi parhad a sefydlogrwydd oherwydd bod y lleoliad yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn cael ei reoli'n dda.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
- 12.1 Bod gweithdrefnau ariannol effeithiol yn cael eu gweithredu.
- 12.2 Bod yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol wedi'i drefnu, yn ogystal ag yswiriant ar gyfer unrhyw gerbydau a gyrwyr a ddefnyddir.
- 12.3 Bod cofnodion yr holl drafodion ariannol a'r yswiriant mewn perthynas â'r gofal a ddarperir i blant perthnasol ar gael i Arolygiaeth Gofal Cymru ar gais.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr
Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
