Neidio i'r prif gynnwy

Safon 16: Hysbysu am ddigwyddiadau pwysig

Llais y Plentyn: Os oes rhywbeth pwysig yn digwydd, mae staff yn dweud wrth fy nheulu a'r bobl sy'n gwirio fy lleoliad. Mae pawb wedyn yn gwybod beth sy'n digwydd ac mae'n helpu i fy nghadw i'n ddiogel. 

Deilliant Lles: Bod plant yn cael eu diogelu drwy roi gwybod i'r awdurdodau perthnasol yn brydlon am ddigwyddiadau pwysig neu newidiadau i'r sefydliad.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau: 

Achosion sy'n codi 

16.1 Bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod am y pethau canlynol yn syth, yn unol â’r rheoliadau (Rheoliad 31, Atodlen 4), mewn perthynas â digwyddiadau pwysig:

  • Achos yn y fangre berthnasol o unrhyw glefyd heintus sydd, ym marn unrhyw feddyg cofrestredig sy'n ymweld â phlentyn neu rywun arall yn y fangre, yn ddigon difrifol i roi gwybod amdano, neu o unrhyw anaf difrifol, salwch difrifol neu farwolaeth unrhyw blentyn neu berson arall yn y fangre. 
  • Unrhyw honiad o anaf difrifol y mae unrhyw berson sy'n gofalu am blant perthnasol yn y fangre, neu unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre, wedi'i achosi i blentyn, neu o unrhyw gamdriniaeth yr honnir ei bod wedi digwydd yn y fangre. 
  • Unrhyw ddigwyddiad arall sy'n debygol o effeithio ar addasrwydd y person cofrestredig i ofalu am blant, neu addasrwydd unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre i ddod i gysylltiad rheolaidd â phlant. 
  • Unrhyw ddigwyddiad pwysig arall sy'n debygol o effeithio ar les unrhyw blentyn yn y fangre. 

Achosion gweinyddol 

16.2 Bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod am y pethau canlynol yn syth, yn unol â’r rheoliadau: 

  • Enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill, dyddiad geni a chyfeiriad cartref unrhyw berson newydd â chyfrifoldeb, unrhyw un newydd sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol, unrhyw un newydd sy'n byw yn y fangre honno, neu unrhyw un newydd sy'n gweithio ar yr un pryd ag y gofelir am y plant neu yn yr un rhan o'r fangre. 
  • Os darperir y gofal dydd gan bwyllgor neu gorff corfforaethol neu anghorfforedig, enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill, dyddiad geni a chyfeiriad cartref Cadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd newydd, neu rywun arall newydd sydd â swydd debyg yn y sefydliad. 
  • Unrhyw newid yn enw neu gyfeiriad cartref y person cofrestredig neu unrhyw un o'r unigolion a ddisgrifir uchod. 
  • Unrhyw newid yn enw neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu'r brif swyddfa, os mai sefydliad yw'r person cofrestredig.
  • Unrhyw newid yn y cyfleusterau a gaiff eu defnyddio yn y fangre berthnasol, gan gynnwys safleoedd dan do ac awyr agored a newidiadau o ran nifer yr ystafelloedd, eu swyddogaethau, nifer y toiledau a'r basnau ymolchi, unrhyw gyfleusterau ar wahân i weithwyr sy'n oedolion a'r cyfleusterau parcio ceir. 

16.3 Sicrhau bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod os oes newidiadau i'r oriau gweithredu neu os caeir y gwasanaeth yn barhaol. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help