Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir - Chwarae Mynediad Agored i blant 5 i 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa a Trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr chwarae mynediad agored eu bodloni er mwyn gofalu am blant 5 i 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 16: Hysbysu am ddigwyddiadau pwysig
Llais y Plentyn: Os oes rhywbeth pwysig yn digwydd, mae staff yn dweud wrth fy nheulu a'r bobl sy'n gwirio fy lleoliad. Mae pawb wedyn yn gwybod beth sy'n digwydd ac mae'n helpu i fy nghadw i'n ddiogel.
Deilliant Lles: Bod plant yn cael eu diogelu drwy roi gwybod i'r awdurdodau perthnasol yn brydlon am ddigwyddiadau pwysig neu newidiadau i'r sefydliad.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
Achosion sy'n codi
16.1 Bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod am y pethau canlynol yn syth, yn unol â’r rheoliadau (Rheoliad 31, Atodlen 4), mewn perthynas â digwyddiadau pwysig:
- Achos yn y fangre berthnasol o unrhyw glefyd heintus sydd, ym marn unrhyw feddyg cofrestredig sy'n ymweld â phlentyn neu rywun arall yn y fangre, yn ddigon difrifol i roi gwybod amdano, neu o unrhyw anaf difrifol, salwch difrifol neu farwolaeth unrhyw blentyn neu berson arall yn y fangre.
- Unrhyw honiad o anaf difrifol y mae unrhyw berson sy'n gofalu am blant perthnasol yn y fangre, neu unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre, wedi'i achosi i blentyn, neu o unrhyw gamdriniaeth yr honnir ei bod wedi digwydd yn y fangre.
- Unrhyw ddigwyddiad arall sy'n debygol o effeithio ar addasrwydd y person cofrestredig i ofalu am blant, neu addasrwydd unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre i ddod i gysylltiad rheolaidd â phlant.
- Unrhyw ddigwyddiad pwysig arall sy'n debygol o effeithio ar les unrhyw blentyn yn y fangre.
Achosion gweinyddol
16.2 Bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod am y pethau canlynol yn syth, yn unol â’r rheoliadau:
- Enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill, dyddiad geni a chyfeiriad cartref unrhyw berson newydd â chyfrifoldeb, unrhyw un newydd sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol, unrhyw un newydd sy'n byw yn y fangre honno, neu unrhyw un newydd sy'n gweithio ar yr un pryd ag y gofelir am y plant neu yn yr un rhan o'r fangre.
- Os darperir y gofal dydd gan bwyllgor neu gorff corfforaethol neu anghorfforedig, enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill, dyddiad geni a chyfeiriad cartref Cadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd newydd, neu rywun arall newydd sydd â swydd debyg yn y sefydliad.
- Unrhyw newid yn enw neu gyfeiriad cartref y person cofrestredig neu unrhyw un o'r unigolion a ddisgrifir uchod.
- Unrhyw newid yn enw neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu'r brif swyddfa, os mai sefydliad yw'r person cofrestredig.
- Unrhyw newid yn y cyfleusterau a gaiff eu defnyddio yn y fangre berthnasol, gan gynnwys safleoedd dan do ac awyr agored a newidiadau o ran nifer yr ystafelloedd, eu swyddogaethau, nifer y toiledau a'r basnau ymolchi, unrhyw gyfleusterau ar wahân i weithwyr sy'n oedolion a'r cyfleusterau parcio ceir.
16.3 Sicrhau bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod os oes newidiadau i'r oriau gweithredu neu os caeir y gwasanaeth yn barhaol.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
