Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir - Chwarae Mynediad Agored i blant 5 i 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa a Trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr chwarae mynediad agored eu bodloni er mwyn gofalu am blant 5 i 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 15: Diogelu
Llais y Plentyn: Mae'r staff yn gwneud yn siŵr bod hwn yn lle diogel i chwarae ac fy mod i'n cael fy amddiffyn rhag niwed.
Deilliant Lles: Bod plant yn cael eu diogelu rhag niwed, cam-drin ac esgeulustod.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
15.1 Mai diogelu’r plentyn yw'r flaenoriaeth gyntaf; bod hyn yn gyfrifoldeb i bawb.
15.2 Bod polisi ysgrifenedig ar ddiogelu plant wedi'i sefydlu. Rhaid i'r polisi ddilyn Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer pob unigolyn, grŵp a sefydliad sy'n darparu gweithgareddau i blant ac oedolion yng Nghymru. Dylai pob sefydliad hefyd ddilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Wrth lunio'r polisi hwn, rhaid i'r person cofrestredig hefyd fod yn gyfarwydd â chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar ddiogelu plant o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
15.3 Bod y polisi diogelu plant ar gael i rieni ar gais ac yn nodi'n glir gyfrifoldebau staff i roi gwybod am niwed, cam-drin neu esgeulustod a amheuir. Rhaid sicrhau bod y polisi yn cynnwys enwau a rhifau ffôn cyswllt, y gweithdrefnau i'w dilyn os gwneir honiad yn erbyn aelod o staff neu wirfoddolwr a goblygiadau datgelu gwybodaeth.
15.4 Bod polisi ynghylch preifatrwydd a chyfrinachedd ar gael i rieni ar gais. Bod unrhyw geisiadau gan drydydd partïon am wybodaeth yn cael eu trafod gyda'r rhieni a bod gwybodaeth amdanynt ond yn cael ei rhannu gyda'u cydsyniad nhw. Gellir gwneud eithriad lle mae'n ofynnol cofnodi pryderon am les neu ddiogelwch y plentyn; er enghraifft, mewn perthynas â diogelu plant.
15.5 Bod pob un o’r staff wedi cael hyfforddiant diogelu sy’n berthnasol i’w rôl. Bod aelod dynodedig o staff wedi dilyn cyrsiau hyfforddi diogelu ac yn gyfrifol am gysylltu â gwasanaethau statudol fel gwasanaethau cymdeithasol mewn unrhyw sefyllfa diogelu plant.
15.6 Bod unrhyw bersonau sy'n gweithio gyda phlant ac sy'n gofalu am blant yn abl i roi'r polisi ar waith, ac yn ymwybodol o faterion diogelu ac amddiffyn plant, fel y'u nodir yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru, gan gynnwys cam-drin corfforol (sydd yn ei dro yn cynnwys cosbi corfforol), esgeulustod, cam-drin emosiynol a cham-drin rhywiol, ac yn abl i gael eu hystyried yn gymwys i weithredu'r gweithdrefnau.
15.7 Bod staff yn ymwybodol o'u cyfrifoldeb i roi gwybod am bryderon am ddiogelwch neu les plentyn yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn ddi-oed.
15.8. Os pennir plentyn fel un sydd angen gofal a chymorth (adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014), bod y person cofrestredig, gyda chaniatâd y rhieni, yn rhoi'r wybodaeth briodol i asiantaethau cyfeirio.
15.9 Bod pob un o’r staff wedi cael hyfforddiant addas ar gyfer eu rôl. Mae Atodiad C, Canllawiau Diogelu’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol: Rolau a Chyfrifoldebau yn manylu ar y mathau o rolau a geir ym maes gwaith chwarae, a’r hyfforddiant diogelu sy’n briodol i wahanol rolau o fewn y sector.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau Cysylltiedig
Mwy o Arweiniad
Y safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu cenedlaethol ym maes diogelu - Gofal Cymdeithasol Cymru
Canllawiau Statudol - gweithio-gydan-gilydd-i-ddiogelu-pobl-cyfrol-i-cyflwyniad-a-throsolwg.pdf
Canllawiau Statudol - gweithio-gydan-gilydd-i-ddiogelu-pobl-cyfrol-5-ymdrin-ag-achosion-unigol-i-amddiffyn-plant-syn-wynebu-risg.pdf
Canllawiau anstatudol - Gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu pobl: cod ymarfer diogelu | LLYW.CYMRU
