Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir - Chwarae Mynediad Agored i blant 5 i 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa a Trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr chwarae mynediad agored eu bodloni er mwyn gofalu am blant 5 i 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 19: Diogelwch
Llais y Plentyn: Mae staff yn gwirio'r gofod fel y galla i archwilio, cymryd risgiau, a chwarae heb beryglon diangen.
Deilliant Lles: Bod plant yn cael gofal a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu mewn amgylchedd diogel, gan ddefnyddio dull o gydbwyso budd a risg i hyrwyddo annibyniaeth a gwerth chwarae.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
Hyrwyddo Diogelwch a Rheoli Risgiau
19.1 Bod diogelwch yn cael ei hyrwyddo yn y lleoliad ac ar dripiau, ac y cymerir y camau priodol i osgoi damweiniau.
19.2 Bod cyn lleied â phosibl o beryglon i blant yn y fangre, dan do ac yn yr awyr agored. Y cydymffurfir â rheoliadau iechyd a diogelwch, a bod y staff wedi'u hyfforddi i ddeall y gofynion iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd y maent yn gweithio ynddo.
19.3 Bod asesiad risg o'r fangre wedi'i gynnal ac yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn, ac os oes unrhyw newidiadau yn y fangre neu o ran anghenion y plant. Rhaid llunio cynllun gweithredu, ynghyd ag amserlenni, er mwyn nodi'r camau i'w cymryd i leihau peryglon penodol a nodwyd yn yr asesiad risg.
19.4 Bod rheoli risg gweithgareddau unigol, y man chwarae a chyfleoedd chwarae yn cydbwyso perygl niwed â’r manteision i'r plentyn, er enghraifft, o ran ehangu eu gwybodaeth am y byd a datblygu sgiliau a lles corfforol neu emosiynol. Bod system ar waith ar gyfer rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â phyllau dŵr, draeniau neu unrhyw ddŵr naturiol, fel eu bod yn ddiogel i blant.
19.5 Bod y plant yn cael eu goruchwylio bob amser, a bod gofal ychwanegol yn cael ei gymryd yn ystod gweithgareddau a all fod yn weddol beryglus.
19.6 Bod system wedi'i sefydlu i reoli mynediad i'r fangre a bod cofnod o ymwelwyr yn cael ei gadw.
19.7 Bod y gwydr sydd wedi'i osod ar unrhyw ddrws yn wydr diogelwch neu ei fod wedi'i orchuddio â ffilm blastig warchod.
19.8 Nad oes unrhyw blanhigion gwenwynig neu beryglus y tu mewn lle mae sesiynau chwarae mynediad agored yn cael eu darparu. Dylai planhigion gwenwynig neu beryglus y tu allan fod y tu hwnt i gyrraedd plant.
19.9 Bod yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol wedi'i drefnu.
19.10 Mewn darpariaeth sy'n gweithredu mewn parciau cyhoeddus neu fannau cyhoeddus eraill, nad yw'n bosibl i'r cyhoedd niweidio'r plant ac nad ydynt yn denu sylw nad yw’r plentyn ei eisiau.
Risg Tân
19.11 Bod asesiad risg tân cynhwysfawr yn cael ei gynnal yn rheolaidd ar gyfer y fangre, a gynhelir gan berson cymwys (person sydd â'r sgiliau a'r profiad perthnasol i gynnal asesiad risg tân ar gyfer y fangre dan sylw); gweler Dewis aseswr risg tân cymwys. Bod yr asesiad yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn a'i gynnal o'r newydd os oes angen, neu yn dilyn unrhyw newidiadau i'r fangre neu o ran anghenion y plant, a allai newid y risg o dân yn sylweddol.
19.12 Y cymerir camau digonol i leihau risgiau tân, ac y cydymffurfir ag unrhyw argymhellion gan y Gwasanaeth Tân ac Achub.
19.13 Bod pob darparwr mewn mangre annomestig yn cydymffurfio â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, a’r canllawiau statudol sy’n cyd-fynd â’r gorchymyn hwnnw. Mae'r canllawiau statudol ar ddiogelwch tân ar gyfer mangreoedd annomestig bach yma: Canllawiau i ddiogelu eich eiddo annomestig bach rhag tân
19.14 Lle bo hynny’n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth berthnasol, fod cyfarpar a gosodiadau nwy a thrydanol a rhai sy'n llosgi olew a glo, gan gynnwys systemau gwres canolog a thanau, yn cael eu gwirio’n rheolaidd ac yn ffurfiol gan dechnegydd sydd wedi’i gymeradwyo. Dylai cyfarpar o’r fath gydymffurfio â gofynion diogelwch, dylai gael ei warchod yn briodol ac ni ddylai achosi perygl i blant. Rhaid sicrhau bod tystysgrifau priodol yn cael eu cadw a’u bod ar gael i'w harchwilio gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
19.15 Bod gweithdrefnau clir, sy'n hysbys i'r holl staff, ar gyfer gwacáu unrhyw fangre mewn argyfwng, ac sy'n cynnwys darpariaeth briodol ar gyfer symud staff neu blant anabl. Rhaid cynnal ymarferion tân o leiaf unwaith bob 6 mis, gan gydnabod bod plant ifanc yn elwa ar ymarferion mwy rheolaidd. Rhaid cadw cofnodion mewn llyfr log ar gyfer tanau, a gaiff eu gwirio gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, a rhaid cael tystysgrifau diogelwch fel y bo angen.
19.16 Bod ffyrdd addas o ddianc i staff a phlant o bob llawr, gan gynnwys staff a phlant anabl.
19.17 Nad yw drysau tân wedi'u rhwystro nac yn cael eu cadw ar agor; a bod allanfeydd tân wedi'u nodi'n glir, yn hawdd eu hagor o'r tu mewn heb allwedd, ac yn arwain at le diogel awyr agored sy'n hygyrch i'r gwasanaethau brys.
19.18 Bod larymau mwg neu wres, sy'n cydymffurfio â safon Brydeinig 5839, ar gael fel y bo angen. Mae hyn yn cynnwys o leiaf un larwm mwg neu wres ar bob llawr, yn y brif ardal ganolog (hy y cyntedd neu ar ben y grisiau). Bod larwm carbon monocsid yn cael ei osod hefyd ym mhob ystafell lle mae dyfais yn llosgi nwy, olew neu danwydd solet. Rhaid archwilio'r rhain mor rheolaidd ag y nodir gan y gwneuthurwr, a'u cadw mewn cyflwr da.
19.19 Os oes cegin yn y fangre a ddefnyddir i goginio bwyd, mai dim ond staff nad oes ganddynt gyfrifoldeb darparu gofal ar y pryd sy'n ei defnyddio. Os caniateir plant i mewn i'r gegin, y cânt eu goruchwylio gan staff nad oes ganddynt gyfrifoldeb coginio bwyd ar y pryd.
19.20 Pan fydd gwasanaethau allan yn y gymuned ac yn ymgymryd â gweithgareddau tân, bod rhaid bod ganddynt yr adnoddau i ddiffodd y tân.
19.22 Na chaniateir smygu mewn unrhyw ran dan do o'r fangre, yn yr ardal(oedd) chwarae awyr agored (d)dynodedig, nac mewn unrhyw ardal lle darperir sesiynau chwarae mynediad agored. Rhaid cadw unrhyw ddeunyddiau smygu a fepio y tu hwnt i gyrraedd plant bob amser.
Cludiant
19.23 Bod gweithdrefn wedi'i sefydlu ar gyfer sicrhau diogelwch yn ystod unrhyw dripiau. Rhaid cadw cofnodion ynglŷn â pha gerbydau a ddefnyddir i gludo plant, gan gynnwys manylion yr yswiriant a rhestr o yrwyr dynodedig.
19.24 Bod gan y gyrwyr sy'n defnyddio eu cerbyd eu hunain drwydded yrru ddilys, trwydded ar gyfer y cerbyd, yr yswiriant priodol, ac os oes angen, dystysgrif MOT gyfredol.
19.25 Bod seddi sy'n briodol i oedran, pwysau a thaldra'r plentyn yn cael eu defnyddio wrth gludo plant mewn cerbyd.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau Cysylltiedig
Mwy o Arweiniad a Help
Canllawiau Statudol i gefnogi Rheoliadau Teganau (Diogelwch) 2011 - GOV.UK
Datblygu a rheoli mannau chwarae
Rheoli Risgiau ac Asesu Risg yn y Gwaith – yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Datganiad Sefyllfa
Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae:Canllaw Gweithredu
Ffurflen Asesu Risg-Budd - Gwag
Ffurflen Asesu Risg-Budd - Esiampl wedi'i Chwblhau
Pwyso a mesur risgiau a buddiannau mewn chwarae plant
Canllaw gweithiwr chwarae i risg
