Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw gwneud Cymru yn lle gwych i bobl dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo. Mae ein profiadau fel plant, yn dda a drwg, yn cyflawni rôl bwysig wrth lywio ein bywyd i'r dyfodol. Fel darparwr lleoliad cofrestredig, rydych chi a'ch staff yn chwarae rôl allweddol wrth ofalu bod plant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. 

Mae sicrhau perthynas gadarnhaol gyda'r staff, lle mae lles plant yn cael ei feithrin, yn chwarae rhan hanfodol wrth lywio datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant. Mae'r rhyngweithio hwn, ochr yn ochr â'r rhyngweithio â rhieni a gofalwyr, yn helpu plant i deimlo'n ddiogel, a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u deall. Drwy feithrin ymddiriedaeth, empathi a gwydnwch emosiynol, mae gweithwyr gofal plant a gwaith chwarae proffesiynol yn cyfrannu at adeiladu sylfeini cryf, sy'n cefnogi lles plant heddiw a'u gallu yn y dyfodol i fyw bywydau hapus, iach a boddhaol. 

Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn eich cefnogi chi a'ch staff i ddylanwadu'n gadarnhaol ar blant a'u teuluoedd mewn llawer o ffyrdd. Yn ogystal â'ch helpu i gydymffurfio â gofynion rheoliadol, mae eich ymrwymiad i gynnal a gwella ar y safonau hyn yn cyfrannu at fynd i'r afael â thlodi plant, a'u helpu i oresgyn mathau eraill o adfyd, trawma ac anghydraddoldeb. Drwy gydberthynas â'r plant sy'n meithrin eu lles, a gofal sy'n ymateb iddynt yn emosiynol, gall eich rôl gyfrannu at ysgogi eu gwydnwch a darparu sefydlogrwydd sy'n hyrwyddo eu lles heddiw a'u datblygiad hirdymor.

Ar gyfer babanod a phlant ifanc, efallai mai eich lleoliad chi fydd eu profiad cyntaf o ofal y tu allan i gartref y teulu. Mae hwn yn gyfle i'ch lleoliad wneud argraff gydol oes ar fywyd babi a phlentyn ifanc. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag ymarferwyr gofal plant, addysg feithrin a gwaith chwarae i ddatblygu cyfres o adnoddau, megis Fframwaith Ansawdd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, i gefnogi datblygiad, ein plant ieuengaf 0-5 oed, y gofal a roddir iddynt a'u profiad dysgu. Mae'r adnoddau hyn yn disgrifio'r egwyddorion cyffredin a ddylai lywio pob lleoliad/ysgol ac ymarferydd, a gellir eu defnyddio fel sail i gefnogi plant hŷn.

Mae'r sector gofal plant a gwaith chwarae yn esblygu'n barhaus, ac mae'n rhaid iddo fod yn barod i ymateb i heriau newydd a newidiadau. Mae hyn yn cynnwys gofalu am blant ag amrywiol anghenion a phrofiadau i sicrhau cyfle cyfartal (Safon 16: Cyfle cyfartal) i bob plentyn yn eich gofal.

Y Cyd-destun Ehangach

Gan adeiladu ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, rhoddir gwybodaeth isod am ganllawiau ehangach sy'n ymwneud â phlant ac adnoddau darllen pellach i gefnogi darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel. Mae hyn yn cynnwys materion, cyngor a deddfwriaeth newydd ac sy'n datblygu y dylai ymarferwyr gofal plant a gwaith chwarae eu hystyried wrth ofalu am blant. O ddefnyddio'r wybodaeth hon ochr yn ochr â'r Safonau, darperir dull holistaidd o gefnogi darpariaeth gwarchod plant a gofal dydd o ansawdd uchel sydd â buddion uniongyrchol i blant, eu rhieni a'r gweithlu gofal plant a chwarae.

Darpariaeth o Ansawdd Uchel

Mae darpariaeth o ansawdd uchel ym maes gwarchod plant a gofal dydd yn mynd y tu hwnt i fodloni'r gofynion sylfaenol. Mae'n creu amgylcheddau cynnes, diddorol a myfyrgar lle mae babanod a phlant yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn cael eu cefnogi i ffynnu. Yn ganolog iddi mae'r plentyn a'i hawliau, sy'n sicrhau bod anghenion, diddordebau a llais pob plentyn yn llywio eu profiadau.

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn sail i'r meddylfryd hwn drwy sicrhau:

Diogelwch ac amddiffyniad rhag niwed (Erthygl 19). 

Parch at farn y plentyn: Pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blant, mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd, ac i’w barn gael ei hystyried (Erthygl 12). 

Bod plant mewn addysg gynnar yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu personoliaeth a'u doniau yn gyflawn. Bod plant yn cael eu hannog i barchu hawliau dynol, yn ogystal â'u rhieni, eu diwylliant nhw a diwylliannau eraill, a'r amgylchedd. (Erthygl 29)

Bod gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae, ac i ymuno mewn ystod eang o weithgareddau diwylliannol ac artistig a gweithgareddau hamdden eraill (Erthygl 31)

Bod gan bob plentyn yr hawl i'r gofal iechyd, lles a maeth gorau posibl (Erthygl 24).

Elfennau Allweddol o Ddarpariaeth o Ansawdd Uchel

Mae darpariaeth o ansawdd uchel yn canolbwyntio ar y plentyn, yn gynhwysol ac yn ymateb i'r sefyllfa, a hynny drwy:

Oedolion sy'n Galluogi Dysgu - sy'n adeiladu cydberthnasau cryf sy'n ymateb i'r unigolyn, ac yn creu gofod lle gall plant fod yn chwilfrydig a chwarae yn ôl eu dewis, gan eu cefnogi i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a gwydnwch

Amgylcheddau Effeithiol sy'n annog plant i archwilio, ac yn cynnig gofod i ymlacio, annibyniaeth, ac ymdeimlad o berthyn

Profiadau sy'n Ennyn Diddordeb sy'n meithrin cyfleoedd i chwarae, darganfod a datrys problemau mewn ffordd ystyrlon yn ôl lefel y plentyn.

Nodweddion Darpariaeth o Ansawdd Uchel

Mae gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd yn arddangos darpariaeth o ansawdd uchel drwy:

Fynd y tu hwnt i'r gofynion sylfaenol drwy ystyried a gwella'n barhaus

Ymgorffori arferion gorau sy'n cefnogi datblygiad holistaidd plant.

Sicrhau canlyniadau cryf mewn arolygiadau sy'n cydnabod eu hymrwymiad i ansawdd. 

Defnyddio fframweithiau a gymeradwywyd gan y sector fel Fframwaith Ansawdd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ar gyfer plant 0-5 oed, a fframwaith sicrhau ansawdd Chwarae Cymru, Chwarae o Safon, gan gydnabod pwysigrwydd Egwyddorion Gwaith Chwarae wrth gefnogi profiadau chwarae o ansawdd ym mhob lleoliad gwaith chwarae, mewn Gofal Plant y Tu Allan i Oriau Ysgol a lleoliadau Chwarae Mynediad Agored.

Yn ymarferol mae hyn yn golygu bod:

Oedolion sy'n Galluogi Dysgu yn creu cydberthnasau sy'n cynnig diogelwch, lle mae babanod a phlant yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a'u gwerthfawrogi, gan feithrin hyder a'r gallu i ddatrys problemau.

Amgylcheddau Effeithiol yn cefnogi anghenion corfforol ac emosiynol, gan ysbrydoli chwarae, creadigrwydd ac archwilio.

Profiadau sy'n Ennyn Diddordeb yn cael eu llywio gan ddiddordebau babanod a phlant, gan ganiatáu iddynt chwarae mewn ffordd benagored a darganfod drostynt eu hunain.

Ystyried a Gwella'n Barhaus

Mae darpariaeth o ansawdd uchel yn ddeinamig ac yn esblygu drwy ystyried ac ymgysylltu'n barhaus â babanod, plant a theuluoedd. Dylai Oedolion sy'n Galluogi Dysgu asesu'n rheolaidd:

Sut mae cydberthnasau a rhyngweithio yn cefnogi ymdeimlad o ddiogelwch emosiynol, dysgu a hunanfynegiant.

Ffyrdd o greu amgylcheddau cynhwysol, lle ymatebir i'r unigolyn, gan adlewyrchu diddordebau a diwylliannau plant.

Strategaethau i ymestyn dysgu drwy chwarae, iaith ac archwilio.

Sut i sicrhau bod llais plant yn llywio eu profiadau.

Egwyddorion Arweiniol: Ein Saith Nod Craidd ar gyfer Plant yng Nghymru

Mae'r Saith Nod Craidd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru, sy'n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yn llywio darpariaeth o ansawdd uchel:

  • Dechrau cryf mewn bywyd a'r sylfaen orau o ran lles.
  • Mynediad at brofiadau dysgu ystyrlon, cyfoethog.
  • Iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol da.
  • Cyfleoedd ar gyfer chwarae, creadigrwydd, a hunanfynegiant.
  • Gwrandawiad, gwerthfawrogiad a pharch.
  • Tyfu mewn cymunedau diogel, sy'n eu meithrin.
  • Cymorth i oresgyn rhwystrau sy'n gysylltiedig â thlodi ac anghydraddoldeb.

Drwy ymgorffori Oedolion sy'n Galluogi Dysgu, Amgylcheddau Effeithiol a Phrofiadau sy'n Ennyn Diddordeb i arferion bob dydd, mae ymarferwyr yn helpu i sicrhau bod pob babi a phlentyn yn cael eu grymuso i ffynnu, chwarae a thyfu mewn hyder.

Cefnogi Gwella Ansawdd

Mae Safon Ofynnol Genedlaethol 18 a Rheoliad 16 o'r Rheoliadau yn nodi'r disgwyliadau i adolygu ansawdd y gofal a ddarperir. Mae adnoddau gwella ansawdd yn helpu ymarferwyr i ystyried, mireinio a gwella eu darpariaeth, gan sicrhau bod pob plentyn yn derbyn y gofal a'r profiadau sydd o'r ansawdd uchaf.

Adnoddau i wella ansawdd

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yw sail holl bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer plant, ac mewn perthynas â phlant. Yr hyn sy'n ganolog i uchelgais Llywodraeth Cymru yw rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn a sicrhau eu bod yn mynd ymlaen i fyw'r bywyd y maen nhw'n dymuno ei fyw. Ers 2011, mae hawliau plant wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy, wrth arfer eu swyddogaethau, i hawliau penodedig o dan y Confensiwn. 

Mae gan bawb sy'n gofalu am blant a phobl ifanc ac yn gweithio gyda nhw rôl i'w chyflawni o ran parchu, amddiffyn a gwireddu hawliau plant. 

Hawliau plant yng Nghymru 

Hawliau plant – modiwlau hyfforddi ar-lein

Beth yw hawliau plant: Taflen Hawliau Plant i Ymarferwyr

Beth yw hawliau plant: canllawiau i rieni a gofalwyr – gall lleoliadau rannu'r taflenni hyn â rhieni a gofalwyr

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu'r fframwaith statudol ar gyfer mynd i'r afael â gwahaniaethu ac anghydraddoldeb ac mae'n cwmpasu'r nodweddion gwarchodedig canlynol.

Hil / ethnigrwydd · Rhywedd · Ailbennu rhywedd / hunaniaeth rhywedd · Anabledd · Oedran. Crefydd a chred · Beichiogrwydd / mamolaeth · Rhyw - Cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil

Mae Safon 16 yn cwmpasu Cyfle Cyfartal a rhaid i ddarparwyr roi tystiolaeth glir o sut y maent yn bodloni'r safonau a'r dyletswyddau hyn o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

Byddwch am ystyried sut y byddai eich gwasanaethau yn effeithio ar y grwpiau canlynol o blant a phobl ifanc: y rhai sydd wedi cael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a/neu adfyd a thrawma ehangach yn ystod eu plentyndod; plant ag anghenion dysgu ychwanegol; plant anabl; plant niwrowahanol; plant sy'n byw mewn tlodi; plant Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol; plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr; plant mudol; plant ceiswyr lloches; plant ffoaduriaid; siaradwyr Cymraeg; plant â phrofiad o fod mewn gofal; plant LHDTC +. 

Nid yw'r rhestr hon yn cwmpasu pob plentyn a pherson ifanc o fewn eich lleoliad, gan na fydd profiadau dau berson byth yn union yr un fath. Mae'n darparu enghreifftiau o sut y gall plant rannu nodweddion gwarchodedig gwahanol, gan arwain at anghenion gwahanol a phenodol.

Fel darparwr cofrestredig, bydd angen i chi a'ch staff fod yn gyfarwydd â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 ac ystyried sut mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu hyrwyddo a'u hymgorffori o fewn eich lleoliad, a sut mae eich lleoliad yn cefnogi darpariaeth gynhwysol a hygyrch i blant, eu teuluoedd a staff.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu cymdeithas gynhwysol a theg i holl bobl a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Cymru wedi'i nodi yn y fersiwn ddiwygiedig o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae pecyn cymorth wedi'i ddatblygu i gefnogi'r sector gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar i ystyried camau y gallent eu cymryd i helpu i fowldio Cymru i fod yn wlad wrth-hiliol. Mae amrywiol adnoddau wedi'u datblygu, gan gynnwys map Tube, a fydd yn helpu unigolion ar bob lefel i nodi adnoddau a hyfforddiant priodol.

 

Darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Y Gymraeg a Cymraeg 2050

Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn cryfhau ein gallu i gefnogi strategaeth Cymraeg 2050; pasiwyd y Ddeddf gan y Senedd ym mis Mai 2025. 

Prif nod y Ddeddf yw sicrhau bod pob disgybl, erbyn 2050, yn cyrraedd diwedd eu cyfnod gorfodol yn yr ysgol yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus, o leiaf. 

Mae'r Ddeddf yn sefydlu cyfres glir o fesurau i gefnogi patrwm o ddysgu mwy a mwy o'r Gymraeg gydol oes, ac mae pwyslais arbennig ar gefnogi teuluoedd a phlant oedran cyn-ysgol i ddysgu'r Gymraeg cyn gynted â phosibl.

Pwysigrwydd Chwarae

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth mawr ar chwarae ac ar ei bwysigrwydd i fywydau plant yn ein cymdeithas. Credwn fod gan blant hawl sylfaenol i allu chwarae, a bod chwarae’n rhan annatod o’u mwynhad mewn bywyd ac yn cyfrannu at eu lles. Credwn fod chwarae yn hanfodol i ddatblygiad gwybyddol; corfforol; cymdeithasol ac emosiynol plant. I'r plant eu hunain, chwarae yw un o'r agweddau pwysicaf ar eu bywydau. Gall cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel i bob plentyn gyfrannu at liniaru effeithiau negyddol tlodi ar fywydau plant a helpu i adeiladu eu gwydnwch. Er mwyn i blant gael cyfleoedd chwarae digonol, mae angen iddynt gael amser i chwarae, lle i chwarae a chydnabyddiaeth gan oedolion bod gan bob plentyn yr hawl hon. Mae'r ffilm fer hon a gynhyrchwyd gan Chwarae Cymru yn dathlu chwarae plant a'i bwysigrwydd - Ffilm - Chwarae Cymru.

Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad manwl a chydweithredol o'i gwaith polisi ar chwarae, ac ystyriodd y cynnydd a wnaed o ran cyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae. Gwnaeth yr adolygiad argymhellion allweddol, gan awgrymu cerrig milltir i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth adeiladu ar y cynnydd a wnaed i fod yn wlad lle mae cyfle i chwarae, sy'n rhoi cyfleoedd digonol i blant a phobl ifanc chwarae. 

Croesawodd Llywodraeth Cymru Adroddiad Terfynol Grŵp Llywio'r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae, a chyhoeddodd ymateb yn amlinellu'r camau y bydd yn eu cymryd er mwyn cyflawni'r argymhellion. Roedd hyn yn cynnwys adolygu'r Safonau, gan ganolbwyntio ar chwarae mynediad agored, ac mewn cydweithrediad â'r sector mae wedi datblygu canllawiau statudol annibynnol ar gyfer Safonau gofal dydd - chwarae mynediad agored.

Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma

Un o'r ffyrdd y gallwn gefnogi'r rhai sydd wedi profi adfyd a thrawma yn ystod eu plentyndod yw gweithio mewn ffordd sy'n ystyriol o drawma. Mae dull gweithredu sy'n ystyriol o drawma yn un sy'n cydnabod ac yn deall y ffaith bod trawma yn bodoli, sy'n deall ei arwyddion a'i effaith, ac sy'n helpu pobl i ddod dros eu trawma, adeiladu eu gwydnwch, ac osgoi ail drawma. Mae Cymru sy'n Ystyriol o Drawma: Dull Cymdeithasol o Ddeall, Atal a Chefnogi Effeithiau Trawma ac Adfyd (neu Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma) wedi sefydlu pum egwyddor ymarfer, a ddylai fod yn sail i'r holl ymarfer yr ymgymerir ag ef yng Nghymru sy'n ystyriol o drawma; a phedair lefel ymarfer, sy'n adlewyrchu'r gwahanol rolau a all fod gan bobl a sefydliadau wrth gefnogi'r rhai y mae trawma wedi effeithio arnynt.

Mae Hyb ACE Cymru wedi datblygu ystod eang o adnoddau a all gefnogi sefydliadau ac unigolion ar eu taith i ddysgu am drawma - Adnoddau - Hyb ACE Cymru, gan gynnwys pecyn cymorth i sefydliadau ar fod yn ystyriol o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod TrACE - Hyb ACE Cymru

Cwricwlwm i Gymru

Cyhoeddwyd Fframwaith Cwricwlwm i Gymru fel rhan o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.

O dan y ddeddfwriaeth, rhaid i leoliadau meithrin cofrestredig nas cynhelir, a gymeradwywyd ac a ariennir gan yr awdurdod lleol i ddarparu addysg feithrin, fabwysiadu cwricwlwm.

Er mwyn helpu gyda'r gofyniad cyfreithiol hwn, aeth Llywodraeth Cymru ati i weithio gydag arbenigwyr ac ymarferwyr ym maes addysg a gofal plant i ddatblygu cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, a threfniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, i leoliadau ac ysgolion eu mabwysiadu, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Mae addysg feithrin o ansawdd uchel yn hanfodol i ddatblygiad plentyn. Uchelgais y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yw ennyn ymagweddau cadarnhaol tuag at ddysgu ymhlith plant, a fydd, os cânt eu meithrin, yn para am oes ac yn rhoi'r sylfaen gadarn sydd ei hangen ar bob plentyn i'w helpu i wireddu pedwar diben Cwricwlwm i Gymru. 

Mae Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, yn grymuso pob lleoliad i gynnig cwricwlwm cynhwysol sy'n cefnogi pob dysgwr. Ei nod yw meithrin ymdeimlad o falchder ac o berthyn ymhlith ymarferwyr a phlant, gan ddathlu diwylliant amrywiol y Gymru fodern. Anogir lleoliadau nas ariennir hefyd i ymgorffori i'w harferion y dulliau addysgu a dysgu sy'n briodol yn ddatblygiadol sy'n sail i'r Cwricwlwm i Gymru.

Dysgwch ragor am y Cwricwlwm i Gymru 

 

Ffynonellau arweiniad, cyngor a gwybodaeth eraill

Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n gyfrifol am hyrwyddo a diogelu safonau uchel ar draws gweithlu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae'n ceisio sicrhau bod gan y gweithlu yng Nghymru y sgiliau a'r cymwysterau iawn i weithio i safon broffesiynol uchel, a'i fod yn gallu darparu gwasanaeth o ansawdd uchel. 

Mae CWLWM, consortiwm o bum partner gofal plant a chwarae, yn cefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae drwy arweiniad ac aelodaeth, gan hyrwyddo lleoliadau cynaliadwy o ansawdd:

  • Mae'r Mudiad Meithrin yn arbenigo mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg i'r blynyddoedd cynnar.
  • Mae Coram PACEY Cymru yn darparu cymorth i weithwyr gofal plant proffesiynol sy'n gweithio yn y cartref, gan gynnwys gwarchodwyr plant a nanis. 
  • Mae Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant penodol ar redeg meithrinfa yng Nghymru. 
  • Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi gofal, addysg a dysgu dwyieithog cyn-ysgol drwy chwarae ledled Cymru. 
  • Nod Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yw helpu cymunedau yng Nghymru drwy hyrwyddo, datblygu a chefnogi clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol sy'n fforddiadwy, yn hygyrch ac o ansawdd uchel. 

Mae Chwarae Cymru, yr elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant, yn rhoi cyngor ac arweiniad i gefnogi pawb sydd â diddordeb mewn chwarae plant, neu sy'n gyfrifol am ddarparu ar ei gyfer. Mae Chwarae Cymru yn cefnogi'r gwaith o weinyddu a datblygu Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC Cymru).

Mae PETC Cymru yn bodoli i ddarparu fforwm i'r sector i drafod materion o bwys strategol ar bob agwedd ar addysg, hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a PETC UK.

Comisiynydd Plant Cymru 

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn diogelu ac yn cefnogi hawliau plant a phobl ifanc. Mae'r Comisiynydd hefyd yn adolygu penderfyniadau cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. 

Dysgwch am "Y Ffordd Gywir"– fframwaith egwyddorol ac ymarferol ar gyfer gweithio gyda phlant. 

Plant yng Nghymru 

Gall Plant yng Nghymru ddarparu cymorth i ymarferwyr y blynyddoedd cynnar. Maent yn rhedeg Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar i greu cysylltiadau rhwng ymarfer, polisi ac ymchwil. Maent hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi ar hawliau plant a'u cynnwys sy'n targedu ymarferwyr sy'n gweithio gyda babanod a phlant ifanc.

Mae'r Geirfa yn darparu esboniad ar gyfer termau cyffredin a ddefnyddir yn y ddogfen hon.