Neidio i'r prif gynnwy

Gwarchod Plant a Gofal Dydd a Reoleiddir

Mae'n ofynnol i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd gofrestru yn unol â darpariaethau Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (y Mesur) a'r rheoliadau cysylltiedig. Canllawiau statudol yw'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, a wneir o dan adran 30(3) o'r Mesur a rheoliad 14 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (y Rheoliadau), sy'n berthnasol i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd cofrestredig ar gyfer plant hyd at 12 oed.

Nod y Safonau yw helpu darparwyr cofrestredig i fodloni'r Rheoliadau sy'n berthnasol i'r gwasanaeth a ddarperir ganddynt. Rhaid i bersonau cofrestredig roi sylw i'r Safonau sy'n ymwneud â’r math o ofal a ddarperir. 

Bwriad y Safonau Gofynnol Cenedlaethol yw caniatáu dull hyblyg er mwyn i ddarparwyr allu datblygu darpariaeth o safon, a honno wedi'i theilwra i anghenion plant, rhieni a chymunedau lleol. Maent wedi’u bwriadu i adlewyrchu anghenion plant o’r adeg y cânt eu geni nes eu bod yn 12 oed, ac i fod yn gymesur o ran y ffordd y cânt eu cymhwyso. 

Drwy gydol y ddogfen hon, mae pob cyfeiriad at Reoliadau yn cyfeirio at Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd).

Noder: Ym mhob achos, y person cofrestredig (sef y gwarchodwr plant cofrestredig neu ddarparwr cofrestredig y gofal dydd) sy'n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau y cydymffurfir â'r rheoliadau, gan roi sylw i'r Safonau perthnasol. Mae hyn yn wir bob amser, er yn ymarferol efallai y caiff y cyfrifoldeb ei ddirprwyo o ddydd i ddydd i reolwr, y person â chyfrifoldeb neu aelod dynodedig o staff. Lle darperir gofal dydd gan sefydliad (corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig), rhaid i unigolyn cyfrifol sy'n gyfrifol am oruchwylio'r gofal dydd a ddarperir o ddydd i ddydd gael ei benodi gan y sefydliad hwnnw. 

Os yw'r sefydliad yn gorff corfforaethol, rhaid i'r person a benodir i fod yn gyfrifol fod yn gyfarwyddwr, yn rheolwr, yn ysgrifennydd neu'n swyddog arall o fewn y sefydliad. Os yw'r sefydliad yn gymdeithas anghorfforedig, rhaid i'r unigolyn cyfrifol fod yn swyddog neu'n aelod o'i gorff llywodraethu.

Rhaid i'r unigolyn cyfrifol fodloni'r gofynion rheoliadol o ran eu haddasrwydd ar gyfer y swyddi (fel y’u nodir yn rheoliad 6(3)(b)(iii) neu (iv) o'r Rheoliadau). 

Yn gyffredinol, disgwylir i'r unigolyn sy'n gyfrifol ddangos bod y ddarpariaeth gofal dydd yn cydymffurfio â gofynion amrywiol y Rheoliadau hyn, gan roi ystyriaeth i'r safonau perthnasol. 

Rhaid penodi person i fod yn gyfrifol os mai sefydliad yw'r person cofrestredig, ac nad yr unigolyn cyfrifol sydd â gofal llawn bob dydd am y ddarpariaeth gofal plant, neu os yw'r person cofrestredig yn unigolyn nad yw â gofal llawn bob dydd. Mae'r gofynion cyfreithiol ar gyfer penodi person i fod â chyfrifoldeb i'w gweld yn Rhan 3 o'r Rheoliadau. 

Mae unrhyw gyfeiriad at bersonau cofrestredig yn cynnwys gwarchodwyr plant.

Mae unrhyw gyfeiriad at riant/rhieni yn cynnwys gofalw(y)r a'r sawl nad ydynt yn rhieni, ond sydd â chyfrifoldeb rhieni.

Mae cyfeiriadau at staff yn cynnwys cynorthwywyr gwarchodwyr plant a staff neu wirfoddolwyr di-dâl.

Fframwaith Deddfwriaethol

Mae'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwarchod plant a gofal dydd a reoleiddir yng Nghymru yn amlinellu swyddogaethau Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod cofrestru. Cyflawnir y swyddogaethau hyn ar ran Gweinidogion Cymru gan Arolygiaeth Gofal Cymru. 

Yng Nghymru, caiff gwarchod plant a gofal dydd i blant hyd at 12 oed ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cofrestru, arolygu a chymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau a reoleiddir er lles pobl Cymru. 

Mae gwarchod plant a gofal dydd a reoleiddir yn cwmpasu ystod eang o wahanol fathau o ddarpariaeth, sy'n ddarostyngedig i safonau gofynnol cenedlaethol. Mae'r safonau yn y ddogfen hon ar gyfer Gwarchod Plant a Gofal Dydd a Reoleiddir (ac eithrio Chwarae Mynediad Agored). Mae safonau gwahanol ar gyfer gwasanaethau Chwarae Mynediad Agored.

Rhaid i unigolion a sefydliadau sy'n gwneud cais i gofrestru fodloni'r prawf statudol o dan adran 26 o'r Mesur, sef nad ydynt wedi'u hanghymhwyso rhag cofrestru, a'u bod yn bodloni ac yn debygol o barhau i fodloni'r gofynion addasrwydd a nodir yn y Rheoliadau. 

Mae rhagor o wybodaeth am gofrestru i ddarparu gwasanaeth ar gael - Cofrestrwch i ddarparu gwasanaeth | Arolygiaeth Gofal Cymru.

Ariennir rhai lleoliadau gofal cofrestredig gan awdurdodau lleol i ddarparu addysg feithrin i blant 3-4 mlwydd oed yn unol â gofynion Cwricwlwm i Gymru (a amlinellir yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021). Arolygir y rhain gan Estyn i sicrhau bod y ddarpariaeth yn bodloni safonau addysgol.

Mae pob darparwr cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn parhau i fodloni'r gofynion cofrestru. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i gyfathrebu'n rheolaidd ag Arolygiaeth Gofal Cymru, a rhoi gwybodaeth gyson iddynt am eu gwasanaeth. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn arolygu'r holl ddarpariaeth gwarchod plant a gofal dydd cofrestredig.

Mae rhagor o wybodaeth am yr arolygiadau ar gael yma - Ein harolygiadau | Arolygiaeth Gofal Cymru.

Ar hyn o bryd, nid yw’n ofynnol cofrestru gofal i blant 12 oed neu hŷn o dan y Mesur, ond gall lleoliad sydd wedi'i gofrestru o dan y Mesur i ddarparu gofal i blant o dan 12 oed ofalu am blant 12 oed a hŷn. Gellir rhannu gofal plant a reoleiddir yn ddau gategori: 

Gwarchod plant

Gofal plant a ddarperir gan un neu fwy o bobl i blant o'u geni hyd at 12 oed mewn mangre ddomestig nad yw'n gartref i’r plentyn ei hun am fwy na dwy awr y dydd am dâl. 

Gall gwarchodwyr plant gynnig: 

Gofal dydd llawn a gofal rhan-amser gan gynnwys darpariaeth cyn ac ar ôl ysgol, ac oriau annodweddiadol e.e. darpariaeth gyda'r nos, ar benwythnos a thros nos.

Gofal cofleidiol - darpariaeth gofal plant sy’n cefnogi rhieni sydd â’u plant mewn addysg a ariennir drwy ehangu'r ddarpariaeth i ddiwrnod ysgol llawn.

Darpariaeth gwyliau ysgol 

Lleoedd addysg feithrin a ariennir - lleoedd addysg feithrin i blant 3 a 4 oed, am ran o’r diwrnod ysgol.

Lleoedd gofal plant a ariennir - gofal plant sydd ar gael drwy raglenni a gyllidir megis Dechrau’n Deg a/neu raglenni neu fentrau eraill Llywodraeth Cymru.

Rhaid cofrestru unrhyw un sydd am weithredu fel gwarchodwr plant gydag Arolygiaeth Gofal Cymru oni bai ei fod wedi'i eithrio rhag gorfod cofrestru o dan Ran 2 o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. 

Ni ddylai person sy'n gwneud cais i gofrestru fel gwarchodwr plant fod wedi'i anghymhwyso rhag cofrestru.

Ni ddylai unrhyw un sy'n gweithio neu'n byw yn y fangre sy'n dod i gysylltiad rheolaidd â'r plant fod wedi'i anghymhwyso chwaith.

Gofal dydd 

Mae person yn darparu gofal dydd i blant os yw’r plant, ar unrhyw adeg, yn derbyn gofal mewn mangre annomestig.

Rhaid i unrhyw un sy'n cynnig darparu gofal dydd i blant fod wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru heblaw ei fod wedi'i eithrio rhag gorfod cofrestru o dan Ran 3 o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y’i diwygiwyd). 

Mae gofal dydd mewn mangre annomestig yn cynnwys amrywiol fathau o ddarpariaeth, ac mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cofrestru darparwyr gofal dydd o dan y categorïau canlynol:

Gofal dydd llawn

Gofal dydd llawn i blant o'u geni hyd at 12 oed a ddarperir am gyfnod parhaus o bedair awr neu fwy mewn unrhyw ddiwrnod, mewn mangre annomestig. 

Gall gynnwys meithrinfeydd dydd, canolfannau plant, a rhai canolfannau teuluoedd sy'n cynnig gofal dydd, gan gynnwys darpariaeth cyn ac ar ôl ysgol, darpariaeth gofal cofleidiol yn ystod gwyliau ysgol, lleoedd addysg feithrin a ariennir a lleoedd gofal plant a ariennir. 

Gall hefyd gynnwys lleoliadau sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau gofal sesiynol yn ystod y diwrnod hwnnw. Gall y rhain gynnwys cylchoedd chwarae, Cylchoedd Meithrin, gofal cofleidiol, lleoedd addysg feithrin a ariennir a lleoedd gofal plant a ariennir.

Enghreifftiau o ofal dydd llawn:

Meithrinfa ddydd

Darparwr gofal plant sy'n cynnig gofal drwy'r flwyddyn i blant rhwng 6 wythnos a 12 oed. Dim ond ar gyfer gofal plant y defnyddir y fangre ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 7.30am a 6pm. Darperir amrywiaeth o wasanaethau gofal gan gynnwys gofal dydd llawn i blant 0-3 oed, sesiynau cynnar yn y bore ac ar ôl ysgol, a gwasanaethau gollwng/casglu o'r ysgol. Mae gofal dydd llawn hefyd ar gael i blant oedran ysgol yn ystod gwyliau ysgol.

Darpariaeth gymysg ar yr un safle gan yr un darparwr

Darparwr gofal dydd sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau gofal plant rhan-amser i blant rhwng 2 a 5 oed. Mae'n cynnig sesiwn rhwng 9am a 11.30am, ynghyd ag opsiwn i aros am ginio tan 12.30pm. Yna, mae sesiwn arall ar gael rhwng 1pm a 4pm, gan gynnwys opsiwn i gasglu plant o'r ysgol leol am 12.30pm. Mae hefyd yn cynnig gwasanaethau a gofal plant a ariennir gan Dechrau'n Deg. 

Gofal dydd sesiynol 

Gofal plant i blant rhwng 2 a 5 oed mewn mangre annomestig am gyfnod llai na phedair awr yn olynol mewn unrhyw un diwrnod.

Lle y caiff dwy sesiwn eu cynnig mewn unrhyw un diwrnod, ni ddylai plant fynychu mwy na phum sesiwn yr wythnos. Rhaid bod cyfnod rhwng y sesiynau pan na fydd unrhyw blant ar y safle yn cael gofal gan y darparwr. 

Gall gynnwys cylchoedd chwarae, Cylchoedd Meithrin, lleoedd addysg a ariennir, a lleoedd gofal plant a ariennir.

Enghreifftiau o ofal dydd sesiynol:

Cylch Meithrin neu Gylch Chwarae sy'n cynnig un sesiwn y dydd

Darparwr sy'n cynnig sesiynau gofal plant rhwng 9am a 11.30am i blant rhwng 2 a 5 oed. Mae'n cynnig sesiynau o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn bennaf yn ystod y tymor ysgol.

Cylch Meithrin neu Gylch Chwarae sy'n cynnig dwy sesiwn y dydd

Darparwr sy'n cynnig sesiwn fore i blant rhwng 2.5 a 4 oed, o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor, rhwng 9am a 11.30am. Mae'r sesiynau hyn yn cynnwys oriau a ariennir ar gyfer addysg ac oriau a ariennir gan Dechrau'n Deg. Mae'r gwasanaeth yn cau am ginio rhwng 11.30am a 12.30 pm ac nid oes unrhyw blant yn bresennol yn ystod y cyfnod hwn. Yn y prynhawn, mae sesiwn ar wahân ar gael i blant gwahanol yn yr un ystod oedran, sef 2.5 i 4 oed. Cynhelir y sesiwn hon rhwng 12.30pm a 3.00pm, ac mae'n cynnwys oriau a ariennir gan Dechrau'n Deg.

Darpariaeth gofal cofleidiol – prynhawn yn unig

Darparwr sy'n gweithredu rhwng 12.30pm a 4.00pm ar gyfer plant 3-5 oed. Mae'n casglu plant o'r ysgol gynradd leol am 12.30pm ac yn gofalu amdanynt tan 4.00pm.

Gofal plant y tu allan i oriau ysgol

Gofal plant a ddarperir mewn mangre annomestig y tu allan i ddiwrnod ysgol y plentyn, a gall gynnwys gofal a ddarperir cyn ysgol, ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol. Nid yw'n cynnwys gofal cofleidiol na chynllun Llywodraeth Cymru i ddarparu brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd.

Enghreifftiau o ofal plant y tu allan i oriau ysgol:

Ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau
  1. Gwasanaeth sy'n gweithredu mewn canolfan gymunedol ac yn darparu sesiynau rhwng 3.15pm a 6pm ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener yn ystod y tymor. Yn ystod y gwyliau, mae'r gwasanaethau yn gweithredu rhwng 9.30am a 4pm am dridiau bob wythnos. 
  2. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu ar safle ysgol ac nid yw'r ddarpariaeth gofal yn gysylltiedig â darpariaeth addysg. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu rhwng 3pm a 5.15pm ar ddydd Mawrth a dydd Iau yn ystod y tymor a rhwng 9.30am a 3.30pm ar ddydd Mawrth a dydd Iau yn ystod gwyliau ysgol.
Yn ystod gwyliau ysgol yn unig

Gwasanaeth sy'n gweithredu mewn canolfan hamdden, adeilad cymunedol neu ysgol. Mae'n darparu amrywiaeth o weithgareddau a gofal ac yn gweithredu rhwng 8.00am a 6pm bob dydd yn ystod gwyliau chwe wythnos yr haf. 

Ar ôl ysgol yn unig

Gwasanaeth sy'n gweithredu ar safle ysgol neu mewn adeilad cymunedol, ac nid yw'r ddarpariaeth gofal yn gysylltiedig â darpariaeth addysg. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu rhwng 3pm a 5.45pm bob dydd yn ystod yr wythnos yn ystod y tymor yn unig. 

Crèches

Gofal dydd achlysurol i blant o'u geni hyd at 12 oed mewn mangre annomestig. Mae rhai mewn mangreoedd parhaol ac yn gofalu am blant tra bo’u rhieni'n cymryd rhan mewn gweithgareddau (ee hyfforddiant, siopa neu chwaraeon). Mae eraill yn cael eu sefydlu dros dro i ofalu am blant tra bo'u rhieni yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n para am gyfnod penodol (ee cynhadledd neu arddangosfa).

Enghreifftiau o Crèches 

Darparwr gofal plant sy'n hwyluso gwasanaethau gofal plant tra bo'r rhieni yn manteisio ar weithgaredd mewn canolfan hamdden neu'n mynd i ganolfan siopa. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg rhwng 7am a 7pm ac yn cynnig gofal i blant rhwng 12 mis a 12 oed.

Darpariaeth Chwarae Mynediad Agored

Mae darpariaeth gwaith chwarae â staff yn briodol i blant o bob oedran. 

At ddibenion rheoleiddio, mae darpariaeth chwarae mynediad agored â staff ar gyfer plant 5 i 12 oed. Gall fod yn ddarpariaeth barhaol neu dros dro; gall fod wedi'i lleoli mewn amrywiol leoliadau; gall weithredu â mangre neu heb fangre; nid oes unrhyw drefniant ymlaen llaw gyda'r person cofrestredig i ddarparu gofal dydd. Nid yw'n ofynnol i blant gael eu hebrwng gan riant neu berson cyfrifol arall i'r fangre berthnasol ac oddi yno. Ni chyfyngir ar symudiadau’r plant, heblaw pan fydd materion diogelwch yn gofyn
am hynny. 

I ddarllen rhagor am y diffiniad o chwarae, gweler canllawiau statudol Cymru: gwlad lle mae cyfle i chwarae | LLYW. CYMRU.

Darperir y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir - Chwarae Mynediad Agored ar wahân, ac maent ar gael [yma] 

Enghreifftiau o Chwarae Mynediad Agored

Safle sefydlog – ar ôl ysgol, penwythnosau a gwyliau

Gwasanaeth sy'n gweithredu ar faes chwarae antur. Mae'r gwasanaeth ar agor bob prynhawn o'r wythnos rhwng 3pm a 5.30pm, ar ddydd Sadwrn rhwng 10am a 3pm, ac yn ystod gwyliau ysgol rhwng 10am a 3pm. 

Safle sefydlog – gwyliau ysgol yn unig

Gwasanaeth sy'n gweithredu o adeilad cymunedol a'i diroedd. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu am dair wythnos yn ystod gwyliau haf ysgolion ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 9am a 4pm.

Safle symudol – gwyliau ysgol yn unig

Darpariaeth chwarae dros dro ar 4 safle ar draws ardal yr awdurdod lleol yn ystod gwyliau haf chwe wythnos ysgolion.

Safle 1 – Tiroedd canolfan gymunedol – Dydd Llun a dydd Mercher rhwng 9.30am a 12pm

Safle 2 – Parc – Dydd Llun a dydd Mercher rhwng 12.30pm a 3pm 

Safle 3 – Coetir – Dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 12.30pm a 3pm 

Safle 4 – Ardal laswellt mewn stad dai – Dydd Gwener rhwng 10am a 2pm. 

Eithriadau: Amgylchiadau pan nad oes angen cofrestru

Eithriadau - cyn Ebrill 2027

Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (Gorchymyn 2010) yn pennu’r amgylchiadau pan nad oes angen i ddarparwyr gofrestru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd ar hyn o bryd. Mae'r eithriadau wedi'u hamlinellu isod: 

Eithriadau o ran gwarchod plant

  • Nid yw'n ofynnol i'r person gofrestru fel gwarchodwr plant i ofalu am ei blentyn ei hun, ei blentyn maeth, plentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant amdano na phlentyn y mae'n byw gydag ef.
  •  Os yw person yn darparu ei wasanaeth am union 2 awr neu lai y dydd, nid yw'n ofynnol iddo gofrestru fel gwarchodwr plant.
  • Os yw person yn cael ei gyflogi'n uniongyrchol gan rieni hyd at ddau deulu i ofalu am eu plant, ac mae'r gofal yn cael ei ddarparu yng nghartref y naill deulu neu'r llall, nid yw'n ofynnol i'r person gofrestru fel gwarchodwr plant. 
  • Os yw person ond yn gofalu am blant rhwng 6pm a 2am y diwrnod wedyn, nid yw'n ofynnol iddo gofrestru fel gwarchodwr plant. 
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel gwarchodwr plant lle mae'r person yn gofalu am blant ar sail cyfeillgarwch, a lle nad oes taliad (boed drwy arian neu werth ariannol) yn cael ei wneud am y gwasanaeth.

Eithriadau o ran gofal dydd

  • Os yw'r gwasanaeth yn gweithredu mewn lleoliad penodol am 5 diwrnod neu lai mewn unrhyw flwyddyn galendr, nid yw'n ofynnol cofrestru fel darparwr gofal dydd. Bydd angen i'r darparwr hysbysu Arolygiaeth Gofal Cymru am y dyddiadau y mae'n bwriadu rhedeg y gwasanaeth, cyn y diwrnod cyntaf o weithredu yn y flwyddyn honno.
  • Os yw person yn darparu ei wasanaeth am union 2 awr neu lai y dydd, nid yw'n ofynnol iddo gofrestru fel darparwr gofal dydd.
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r gofal yn cael ei ddarparu mewn cartref gofal, llety diogel neu ganolfan breswyl i deuluoedd a gofrestrwyd eisoes i ddarparu gofal o dan Ddeddf Cofrestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r gofal yn cael ei ddarparu mewn ysbyty i glaf (p'un a yw'r gofal hwnnw'n cael ei ddarparu gan ddarparwr y sefydliad yn uniongyrchol neu gan berson a gyflogir ar ran y darparwr).
  • Os yw person ond yn gofalu am blant rhwng 6pm a 2am y diwrnod wedyn, ac mae'r gofal yn cael ei ddarparu mewn gwesty, gwesty bach, neu sefydliad tebyg arall ar gyfer plentyn sy'n aros yno, ac mae'r person sy'n darparu'r gofal yn gwneud hynny ar gyfer dim mwy na dau gleient gwahanol ar yr un pryd, nid oes angen iddo gofrestru fel darparwr gofal dydd.
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel darparwr gofal dydd pan fydd yn gofalu am blant mewn ysgol, ac mae'r gofal a ddarperir yn gysylltiedig â darparu'r addysg. 
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r holl blant sy'n mynychu yn 11 oed o leiaf, mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â gwaith ieuenctid, ac mae'r taliad am y gwasanaeth hwn yn nominal, os oes taliad o gwbl. 
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru os yw'n cynnig darpariaeth coetsio neu ddysgu mewn dim mwy na dau o'r mathau canlynol o weithgareddau: 

Chwaraeon

Celfyddydau perfformio

Celf a chrefft

Cymorth gydag astudiaethau ysgol neu waith cartref

Astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol

Gall y darparwr wneud unrhyw nifer o weithgareddau ym mhob maes gweithgaredd, ar yr amod mai'r ffocws yw hyfforddiant neu wersi'r plant, ac mai rhywbeth cysylltiedig â hynny yw unrhyw ofal a roddir. Os yw'r holl blant sy'n mynychu yn 5 oed neu'n hŷn, nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd. Fodd bynnag, os yw'n darparu gwasanaeth hyfforddiant a gwersi i blant o dan 5 oed ac maent yn bresennol am fwy na 4 awr y dydd, rhaid iddo gofrestru.

Gellir darllen y canllawiau ar yr eithriadau hyn yma: Cofrestru fel darparwr gofal plant: eithriadau | LLYW.CYMRU

Eithriadau - o Ebrill 2027

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o Orchymyn 2010 ac, o ganlyniad, bydd nifer o newidiadau yn cael eu gwneud i'r eithriadau yng Ngorchymyn 2010. Mae'r newidiadau hynny wedi'u nodi yng Ngorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026 (Gorchymyn 2026) a fydd yn disodli ac yn dirymu Gorchymyn 2010. 

Daw Gorchymyn 2026 i rym ar 1 Ebrill 2027; bydd angen i ddarparwyr ystyried eu darpariaeth yn erbyn Gorchymyn 2026 i asesu p'un a ydynt wedi'u heithrio rhag gorfod cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd yng Nghymru. 

Yn ystod cyfnod pontio o flwyddyn, rhwng Ebrill 2027 ac Ebrill 2028, bydd yn ofynnol i ddarparwyr nad ydynt bellach wedi'u heithrio rhag gorfod cofrestru oherwydd y newidiadau a gyflwynir gan Orchymyn 2026 wneud cais i gofrestru. Bydd gan ddarparwyr tan 31 Mawrth 2028 i gyflwyno eu cais cofrestru i Arolygiaeth Gofal Cymru. Ar ôl y dyddiad hwn, gellir cymryd camau gorfodi lle canfyddir bod darparwr yn gweithredu heb fod wedi bodloni'r gofyniad i gofrestru. 

Yn sgil y newid hwn yn y gyfraith, mae'n bwysig cysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru am gyngor pellach i drafod eich darpariaeth, ac a oes angen ichi gofrestru. 

Caiff canllawiau ar yr eithriadau newydd eu cyhoeddi yn hydref 2026. Bydd y rhain ar gael ar wefannau Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru.