Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Ar y dudalen hon
Safon 1: Gwybodaeth (am y lleoliad)
Llais y Plentyn
Yr hyn sydd orau i mi yw gwybodaeth sy'n glir ac yn hawdd i'm rhieni neu fy ngofalwyr ddod o hyd iddi, fel y gallant ddewis y lleoliad iawn i mi.
Deilliant Lles
Bod plant yn profi gofal sy'n ymateb i'w hanghenion, a bod eu lles, eu dysgu a'u chwarae yn cael eu cefnogi am fod y rhieni yn deall digon am y lleoliad i wneud dewisiadau deallus.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
1.1 Bod rhieni yn cael digon o wybodaeth gywir i wneud penderfyniad deallus am y wasanaeth.
1.2 Bod Datganiad o Ddiben wedi'i lunio fel y nodir yn y rheoliadau, a bod gwybodaeth yn ael ei rhoi i ddarpar rieni, ar lafar ac yn ysgrifenedig, am y gwasanaeth a ddarperir.
1.3 Bod y Datganiad o Ddiben a'r wybodaeth ychwanegol yn cynnwys:
Ar gyfer pob lleoliad
- Nodau ac amcanion y gwasanaeth.
- Niferoedd, oed a rhyw y plant a fydd yn derbyn gofal.
- Ystod anghenion y plant perthnasol a gaiff eu diwallu.
- Oriau agor.
- Staffio.
- Manylion llawn y ddarpariaeth, gan gynnwys:
- y cyfleusterau sydd ar gael
- y gwasanaethau a gynigir
- y gweithgareddau a gynigir
- patrwm y sesiynau
- Yr iaith/ieithoedd a ddefnyddir.
- Telerau ac amodau darparu gofal.
- Y polisi derbyn plant.
- Sut i gysylltu â ni.
- Trefniadau ar gyfer delio â chwynion a phryderon.
- Trefniadau ar gyfer delio ag unrhyw argyfwng.
- Manylion trefniadau i adolygu'r Datganiad o Ddiben a rhoi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru am newidiadau i'r gwasanaeth.
- Manylion anifeiliaid anwes neu anifeiliaid eraill yn y fangre.
Ar gyfer gwarchodwyr plant yn unig
- Manylion eu teulu eu hun.
- A yw’r person cofrestredig yn ofalwr maeth.
- Trefniadau ar gyfer gweithio gyda chynorthwy-ydd yn unol ag Atodiad A: Canllawiau ar gyfer cynorthwywyr gwarchodwyr plant.
1.4 Bod rhieni yn ymwybodol y gallant ddarllen yr adroddiad arolygu diweddaraf ar-lein ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr
Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau cysylltiedig
Mwy o arweiniad a help
Arolygiaeth Gofal Cymru: Canllaw ar lunio Datganiad o Ddiben.
