Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Ar y dudalen hon
Safon 2: Y Contract
Llais y plentyn
Mae pawb yn cytuno ar y gofal a gaf, gan fy nghynnwys i.
Deilliant lles
Bod anghenion plant yn cael eu diwallu drwy drefniadau gofal clir, dibynadwy sy'n galluogi arferion sefydlog a chydberthnasau o ymddiriedaeth.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
2.1 Y cytunir ar gontract ysgrifenedig gyda'r rhieni sy'n nodi disgwyliadau'r ddwy garfan o ran gofal y plentyn, y gweithgareddau a ddarperir a'r trefniadau busnes.
2.2. Bod rhaid i'r contract ysgrifenedig gynnwys y telerau a'r amodau, gan gynnwys gwybodaeth am:
- gyrraedd a chasglu'r plentyn
- salwch
- gweinyddu meddyginiaeth
- gwyliau
- anghenion deietegol
- beth i'w wneud mewn argyfwng
- polisi ar ymddygiad a sancsiynau
- materion ariannol a ffioedd (os o gwbl)
- polisi cyfle cyfartal
- cwynion
Er mwyn cynorthwyo darparwyr
Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau cysylltiedig
- Rheoliad 9: Y person cofrestredig (gofynion cyffredinol).
- Rheoliad 20: Diogelu a hyrwyddo lles.
- Rheoliad 21: Y bwyd a ddarperir i’r plant.
- Rheoliad 22: Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant.
- Rheoliad 23: Rheoli ymddygiad, atal a disgyblu.
- Rheoliad 24: Anghenion iechyd plant.
- Rheoliad 26: Defnyddio a storio meddyginiaethau.
- Rheoliad 27: Staffio.
- Rheoliad 30: Cadw cofnodion:
- Rheoliad 31: Darparu Gwybodaeth:
- Rheoliad 32: Cwynion.
Mwy o arweiniad a help
Mae Cwlwm yn gonsortiwm o bum partner gofal plant a gwaith chwarae. Mae'n cynnig templedi, gwybodaeth ac adnoddau dwyieithog y gellir eu lawrlwytho i helpu'r broses o weithredu lleoliadau gwaith chwarae neu ofal plant blynyddoedd cynnar.
