Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 3: Asesu
Llais y Plentyn: Mae pawb yn rhoi'r amser i ddod i'm hadnabod; mae pobl yn gwybod beth sydd ei angen arna i a beth dw i'n ei hoffi, er mwyn imi deimlo'n hapus ac yn gyfforddus.
Deilliant Lles: Bod cryfderau, diddordebau ac anghenion plant yn cael eu cydnabod yn gynnar, gan ei gwneud yn bosibl i'r gofal a'r cynllunio fod yn addas i'r plentyn unigol, mewn ffordd sy'n cefnogi datblygiad holistaidd a dysgu drwy chwarae.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
3.1 Bod anghenion a dewisiadau plant yn cael eu nodi, hyd y bo'n ymarferol, cyn eu gosod neu cyn iddynt fynychu.
3.2 Bod rhieni a phlant yn cael eu hannog i ymweld â'r ddarpariaeth gofal plant cyn i'r plentyn ddechrau mynychu i sicrhau bod anghenion y plant yn cael eu nodi'n glir.
3.3 Bod rhieni yn cael eu holi'n benodol am ddewisiadau, anghenion a galluoedd eu plentyn, ac am unrhyw wybodaeth arall y mae angen iddynt ei rhannu i sicrhau'r gofal gorau posibl i'r plentyn. Rhoddir ystyriaeth i ddymuniad y plentyn hefyd, naill ai drwy drafod â’r plentyn neu rieni’r plentyn.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau Cysylltiedig
Rheoliad 9 - Y person cofrestredig: gofynion cyffredinol
Rheoliad 20 – Diogelu a hyrwyddo lles
Rheoliad 21 – Y bwyd a ddarperir i’r plant
Rheoliad 22 – Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
Rheoliad 24 – Anghenion iechyd plant
Rheoliad 26 – Defnyddio a storio meddyginiaethau
Rheoliad 30 – Cadw cofnodion a Atodlen 3 – Y cofnodion sydd i’w cynnal
