Neidio i'r prif gynnwy

Safon 4: Diwallu anghenion unigol

Llais y Plentyn: Mae pawb yn gwrando arna i a'm teulu. Dw i'n cael fy nghefnogi ac yn cael y gofal sydd ei angen arna i i ffynnu.

Deilliant Lles: Y deëllir anghenion unigol plant, ac y cynllunnir ac y darperir ar eu cyfer.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

Yn achos pob plentyn:

4.1 Y gallant ddangos eu bod yn gallu diwallu anghenion y plant a osodwyd gyda nhw.

4.2 Bod ganddyn nhw (neu eu staff) y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnynt i gynllunio ar gyfer anghenion a dewisiadau unigol plentyn ac ymateb iddynt.

4.3 Gan gynllunio’r ddarpariaeth mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y plentyn, bod lles a datblygiad pob plentyn yn cael ei hybu. Bod camau pwrpasol yn cael eu cymryd i holi safbwyntiau’r plant a’u teuluoedd, a bod y rheini yn cael eu hymgorffori i’r broses gynllunio a phenderfyniadau. 

4.4 Y deëllir anghenion a dewisiadau plant unigol (gan gynnwys y rheini sydd o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol) mewn perthynas â iaith/ieithoedd eu cartref, y cyfrwng addysg (ee Cymraeg neu Saesneg) y bwriedir ei ddefnyddio a'u harferion cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol, ac y darperir ar gyfer hyn.

4.5 Bod preifatrwydd yn cael ei barchu pan ddarperir gofal personol iawn. 

4.6 Bod y trefniadau staffio yn cael eu cynllunio i ddiwallu anghenion plant unigol sy'n mynychu, gan gynnwys y rheini sydd ag anghenion cymorth ychwanegol.

Yn achos plant anabl a phlant ag anghenion cymorth ychwanegol:

4.7 Os oes gan blentyn, neu os yw’n bosibl bod gan blentyn anghenion cymorth ychwanegol, bod darparwyr a rhieni'n gweithio gyda'i gilydd fel bod camau priodol yn cael eu cymryd i gael cyngor neu gymorth. 

4.8 Bod camau priodol yn cael eu cymryd os canfyddir bod gan blentyn, neu os yw’n bosibl bod gan blentyn anghenion cymorth ychwanegol. 

4.9 Bod plant anabl a phlant ag anghenion cymorth ychwanegol yn gallu manteisio mewn ffordd gyfartal, ynghyd â'u cyfoedion, ar y cyfleusterau, y gweithgareddau a'r cyfleoedd chwarae a ddarperir er mwyn hybu eu lles a'u datblygiad.

4.10 Bod yr amgylchedd ffisegol, hyd y bo'n rhesymol, yn addas i blant anabl a phlant ag anghenion cymorth ychwanegol.

4.11 Lle nodir y gallai fod angen cymorth arbenigol neu gyfarpar, dylai’r lleoliad gysylltu â’r awdurdod lleol.

Yn achos plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY):

4.12 Os yw darparwr yn credu bod gan blentyn angen dysgu ychwanegol, lle bynnag y bo'n bosibl, bod hyn yn cael ei drafod gyda'i riant. Gall naill ai'r darparwr neu'r rhiant dynnu sylw’r awdurdod lleol at y ffaith bod gan y plentyn, neu y gallai fod gan y plentyn angen dysgu ychwanegol. Wrth ymateb, rhaid i’r awdurdod lleol ddilyn y gofynion a'r canllawiau a nodir yng Nghod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru.

4.13 Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw i rieni i hawliau o dan y system Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac mae SNAP Cymru yn cynnig cyngor annibynnol a chyfarwyddyd ar y cymorth sydd ar gael i rieni plant y blynyddoedd cynnar sydd ag ADY neu a allai fod ag ADY.

4.14 Bod lleoliadau gofal plant cofrestredig nas cynhelir sydd wedi’u cymeradwyo ac yn cael eu hariannu gan yr awdurdod lleol i ddarparu addysg feithrin: 

  • â rôl o ran cefnogi awdurdodau lleol i nodi anghenion dysgu ychwanegol ac o ran helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol
  • yn gorfod rhoi sylw i’r canllawiau perthnasol yn y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn unol â threfniadau ariannu’r awdurdod lleol.

4.15 Bod plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn gallu manteisio mewn ffordd gyfartal, ynghyd â'u cyfoedion, ar y cyfleusterau, y gweithgareddau a'r cyfleoedd chwarae a ddarperir.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help: