Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 5: Cofnodion
Llais y Plentyn: Mae pawb yn cadw gwybodaeth bwysig amdana i'n ddiogel.
Deilliant Lles: Bod anghenion plant yn cael eu diwallu oherwydd bod gwybodaeth gywir yn llywio'r ymarfer, parhad y gofal a chynllunio meddylgar.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
5.1 Bod cofnodion yn cael eu cadw fel sy'n ofynnol gan Reoliad 30 ac Atodlen 3 o'r Rheoliadau. Cofnodion y mae'n rhaid eu cadw yn y fangre tra bo'r plant dan sylw yn derbyn gofal:
Enw, cyfeiriad a rhif(au) ffôn:
- y person cofrestredig
- yr unigolyn cyfrifol (os yw’n gymwys)
- pob person arall sy'n byw, sy'n gweithio neu a gyflogir yn y fangre lle darperir y gofal plant
- unrhyw berson arall a fydd mewn cyswllt rheolaidd gyda'r plant perthnasol heb eu goruchwylio
- pob aelod cyfredol o'r pwyllgor neu'r corff llywodraethu os mai cymdeithas anghorfforedig yw'r ymgeisydd
Yr wybodaeth ganlynol am bob plentyn perthnasol:
- enw
- cyfeiriad cartref
- dyddiad geni
- rhyw
- alergeddau
- anghenion deietegol
- anghenion iechyd
Yr wybodaeth ganlynol am riant pob plentyn perthnasol:
- enw
- cyfeiriad
- rhif(au) ffôn
Yr wybodaeth ganlynol am ymarferydd meddygol cofrestredig pob plentyn perthnasol:
- enw
- cyfeiriad
Cofnod dyddiol o:
- enwau'r plant perthnasol sy'n mynychu'r lleoliad
- yr oriau y buont yno
- enw(au) y person(au) a ofalodd amdanynt
Cofnod cyfredol o unrhyw un o'r canlynol:
- damweiniau
- salwch difrifol
- digwyddiadau pwysig eraill yn y fangre
Datganiadau o'r canlynol:
- y weithdrefn i'w dilyn yn achos tân neu ddamwain
- y weithdrefn i'w dilyn lle mae gan riant neu blentyn gŵyn am y gwasanaeth a ddarparwyd gan y person cofrestredig
- y trefniadau ar gyfer diogelu'r plant perthnasol, gan gynnwys trefniadau i warchod y plant rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso a'r gweithdrefnau i'w dilyn yn achos honiadau o gam-drin neu esgeuluso
- y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd plentyn perthnasol yn mynd ar goll neu os na chaiff ei gasglu
5.2 Bod y cofnodion efallai yn cynnwys gwybodaeth gyswllt ddefnyddiol arall, megis rhifau ffôn symudol a chyfeiriadau e-bost, neu fanylion rhieni neu ofalwyr eraill i blentyn perthnasol, yn ogystal â'r rhai sy'n ofynnol yn y rheoliadau.
5.3 Bod cofnodion am blant unigol yn cael eu rhannu â rhiant y plentyn, ac eithrio lle byddai hyn yn peryglu lles y plentyn.
5.4 Bod cofnodion am blant unigol yn cael eu cadw am gyfnod o dair blynedd o leiaf ar ôl y dyddiad olaf pan fynychodd y plant. Gallai gofynion yswiriant person cofrestredig olygu bod angen cadw'r cofnodion am gyfnod hirach.
5.5 Bod cofnodion am blant unigol yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol, a'u bod ar gael bob amser i Arolygiaeth Gofal Cymru eu harolygu yn ôl y gofyn.
5.6 Y gofynnir i'r rhiant neu'r oedolyn arall sy'n casglu'r plentyn lofnodi cofnod o unrhyw ddamweiniau i gydnabod y cofnod.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
