Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Ar y dudalen hon
Safon 6: gweithio mewn partneriaeth â rhieni
Llais y plentyn
Mae pobl sy'n bwysig imi yn cael gwybodaeth reolaidd am yr hyn dw i'n ei wneud a sut mae pethau arna i.
Deilliant lles
Bod gweithgareddau, cyflawniadau a chynnydd plant yn cael eu rhannu â rhieni neu ofalwyr, a'u bod yn cael gwybodaeth gyflawn am ofal eu plentyn, a'u cynnwys yn llawn yn y broses.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
6.1 Eu bod nhw a'r staff yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r rhieni i ddiwallu anghenion y plant, yn unigol ac fel grŵp.
6.2 Bod cyfrifoldeb y rhieni, yn anad neb arall, dros eu plant yn cael ei gydnabod a'i barchu.
6.3 Bod y rhieni yn cael gwybod am yr holl arferion a ddilynir wrth ofalu am eu plant.
6.4 Bod y polisïau a'r gweithdrefnau ar gael i bob rhiant.
6.5 Bod manylion am yr hyn y mae eu plentyn wedi'i gyflawni yn ystod y dydd, gan gynnwys unrhyw ddigwyddiad pwysig neu newid yn ei ymddygiad, yn cael eu rhannu gyda'r rhieni.
6.6 Wrth ofalu am blant o dan 2 oed, bod system ddyddiol i gyfnewid gwybodaeth rhwng y rhiant a'r gweithiwr allweddol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am anghenion ac arferion datblygu a gofal newidiol y plentyn.
6.7 Bod gwybodaeth reolaidd yn cael ei rhoi i rieni am weithgareddau; er enghraifft, drwy arddangosfeydd wal, lluniau neu enghreifftiau o waith y plant.
6.8 Bod cofnodion yn cael eu cadw sy'n cynnwys manylion am y plentyn a nodiadau ar ei gynnydd. Bod mynediad i rieni at yr holl gofnodion ysgrifenedig am eu plant (ac eithrio fel y'i nodir yn Safon 6.10 isod).
6.9 Bod plant o dan 8 oed ond yn cael eu rhyddhau o ofal y ddarpariaeth i unigolion a enwir gan y rhieni. Bod plant dros 8 oed ond yn cael eu rhyddhau o ofal y ddarpariaeth o dan drefniadau sydd wedi'u cytuno ymlaen llaw gyda'r rhieni.
6.10 Y bydd y polisi am breifatrwydd a chyfrinachedd ar gael. Bod unrhyw geisiadau gan drydydd partïon am wybodaeth yn cael eu trafod gyda'r rhieni a bod gwybodaeth amdanynt ond yn cael ei rhannu gyda'u cydsyniad nhw. Gellir gwneud eithriad lle mae'n ofynnol cofnodi pryderon am les neu ddiogelwch y plentyn; er enghraifft, mewn perthynas â diogelu plant.
6.11 Os pennir plentyn fel un sydd angen gofal a chymorth (adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014), bod y person cofrestredig, gyda chaniatâd y rhieni, yn rhoi'r wybodaeth briodol i asiantaethau cyfeirio.
Mewn Lleoliad Gofal Dydd:
6.12 Bod gwybodaeth yn cael ei rhoi i rieni sy'n cynnwys rôl y rhieni ac unrhyw ddisgwyliadau o ran cymryd rhan ar y pwyllgor rheoli neu fel gwirfoddolwyr. Bod gwybodaeth lawn a chanllawiau yn cael eu rhoi i unrhyw wirfoddolwyr ac aelodau'r pwyllgor am eu rolau a'u cyfrifoldebau.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr
Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau cysylltiedig
- Rheoliad 9: Y person cofrestredig (gofynion cyffredinol)
- Rheoliad 16: Adolygu ansawdd y gofal.
- Rheoliad 20: Diogelu a hyrwyddo lles.
- Rheoliad 22: Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant.
- Rheoliad 24: Anghenion iechyd plant.
- Rheoliad 29: Cyflogi staff.
- Rheoliad 30: Cadw cofnodion:
- Rheoliad 31: Darparu Gwybodaeth:
Mwy o arweiniad a help
- Fframwaith Ymyrraeth Gynnar ac Atal i Gefnogi Babanod, Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yng Nghymru.
- Trefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.
- Gofal plant Dechrau’n Deg: canllawiau.
- Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar.
- Pecyn Cymorth Ymarfer Myfyriol.
- Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Trefniadau Asesu ar gyfer Babanod a Phlant Bach 0 i 3 oed yng Nghymru.
