Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 7: Cyfleoedd i chwarae a dysgu
Nid yw Safonau 7.9 i 7.11 yn berthnasol i ddarpariaeth y tu allan i oriau ysgol, er y dylid ystyried o hyd fod elfennau perthnasol ohonynt yn ddymunol, fel arfer da.
Llais y Plentyn: Dw i'n gallu dewis sut dw i'n chwarae a chael hwyl, wrth ddysgu a rhoi cynnig ar bethau newydd sydd o ddiddordeb imi.
Deilliant Lles: Bod y plant yn cael hwyl drwy ystod o brofiadau sy'n ennyn diddordeb - gan gynnwys chwarae rhydd, distrwythur a hunan-gyfeiriedig - sy’n cyfrannu at eu datblygiad emosiynol, corfforol, cymdeithasol, deallusol, ieithyddol a chreadigol.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
7.1 Bod anghenion unigol y plentyn yn cael eu diwallu a'i les yn cael ei hybu drwy gynllunio a darparu cyfleoedd chwarae a gweithgareddau i hybu datblygiad emosiynol, corfforol, cymdeithasol, creadigol, ieithyddol a deallusol.
7.2 Bod yr adnoddau, y cyfleoedd chwarae, y profiadau uniongyrchol a'r gweithgareddau a ddarperir yn helpu datblygiad plant ac yn adeiladu ar eu chwilfrydedd naturiol.
7.3 Bod plant yn cael cyfle i fod yn egnïol, o dan do ac yn yr awyr agored, ynghyd ag amser i ymlacio.
7.4 Bod gan blant gyfleoedd i chwarae a dysgu yn yr awyr agored.
7.5 Bod yr amgylchedd yn un effeithiol sy'n annog plant i fod yn hyderus ac annibynnol ac i ddatblygu eu hunan-werth, parchu eraill a datblygu ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n iawn a'r hyn sy'n anghywir.
7.6 Bod perthynas dda yn cael ei hadeiladu gyda phlant a'u rhieni i hwyluso dealltwriaeth dda o anghenion unigol ac amgylchiadau yn y cartref.
7.7 Y caiff y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc eu cymhwyso i'r ffordd y caiff y gwasanaeth ei ddarparu:
- Bod oedolion sy'n galluogi dysgu yn gwrando ar yr hyn y mae'r plant yn ei ddweud ac yn ei werthfawrogi, yn siarad â nhw am yr hyn y maent yn ei wneud ac yn cymryd camau i'w hannog i ymchwilio i'w potensial llawn.
- Bod cyfleoedd yn cael eu hystyried i gynnwys plant mewn penderfyniadau, gwerthuso a chynllunio ar amrywiaeth o lefelau.
7.8 Bod adnoddau yn cael eu trefnu fel eu bod ar gael yn hwylus i blant, a bod staff yn cael eu lleoli i gefnogi chwarae a dysgu ymhlith plant.
7.9 Bod y staff yn arsylwi ar y plant, yn sylwi ar yr hyn y maent yn ei wneud, yn ei ddadansoddi ac yn ymateb iddo, er mwyn helpu i gynllunio'r camau nesaf ar gyfer chwarae, dysgu a datblygiad y plant.
7.10 Wrth ddarparu gofal ar gyfer plant o dan 2 oed:
- Bod plant yn rhyngweithio â'r un oedolyn yn rheolaidd drwy gydol y dydd.
- Bod cynllun clir ar gyfer gweithgareddau i'r babanod.
Lleoliadau a ariennir i ddarparu addysg feithrin
7.11 Bod egwyddorion Cwricwlwm i Gymru wedi'u deall ac yn cael eu gweithredu mewn ffordd gynhwysol, sy'n briodol i ddatblygiad y plant, er mwyn cefnogi datblygiad holistaidd pob plentyn.
Lleoliadau nad ydynt yn cael eu hariannu i ddarparu addysg feithrin
7.12 Anogir lleoliadau nad ydynt yn cael eu hariannu i ymgorffori ethos Cwricwlwm i Gymru yn eu harferion.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau Cysylltiedig
Mwy o Arweiniad a Help
Trefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir – Hwb
Poster Safonau Cyfranogiad Dwyieithog – Safonau cyfranogiad plant a phobl ifanc
Trefniadau cwricwlwm ac asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir – Hwb
Gofal plant Dechrau’n Deg: canllawiau
Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Pecyn Cymorth Ymarfer Myfyriol
