Neidio i'r prif gynnwy

Safon 8: Maeth a lles

Llais y Plentyn: Dw i'n teimlo bod pobl yn gofalu amdana i ac yn gwrando arna i. Dw i'n teimlo y galla i fod yn fi fy hun.

Deilliant Lles: Bod plant yn profi cydberthnasau cynnes, lle ymatebir iddynt, gan feithrin ymdeimlad o berthyn, hyder, lles emosiynol a gwydnwch.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

8.1 Bod gan staff wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a'i oblygiadau i'w gwaith a'u rhyngweithio â'r plant, gan helpu'r plant i ddechrau deall eu hawliau.

8.2 Bod polisïau'r lleoliad a'r gofal a roddir yn hyrwyddo perthynas gynnes rhwng unigolion, ymdeimlad o ddiogelwch, hunan-werth, annibyniaeth a hyder i blant mewn amgylchedd sy'n ymateb iddynt ac yn eu meithrin.

8.3 Y cyfathrebir mewn ffordd gadarnhaol, yr anogir y plant ac y gwrandewir arnynt. Bod y staff yn edrych i lygaid y plant a bod y cyfathrebu ar lefel y plentyn yn gyffredinol.

8.4 Bod y plant yn gallu datblygu hyder a hunan-werth yn y lleoliad.

8.5 Bod y broses ymsefydlu’n briodol ar gyfer plant unigol a’u bod yn cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni neu ofalwyr mewn ffordd sy’n cadw gofid y plant i'r lefel isaf bosibl. 

8.6 Bod y babanod a'r plant ifanc iawn yn gallu datblygu ymlyniad i un gofalwr neu nifer fach o ofalwyr rheolaidd.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help