Neidio i'r prif gynnwy

Safon 9: Ymddygiad

Llais y Plentyn: Dw i'n cael fy nhrin â pharch gan bobl sy'n gofalu amdana i, a dw i'n dysgu sut i wneud yr un peth i eraill.

Deilliant Lles: Bod plant yn datblygu'r gallu i reoli eu hemosiynau, empathi a sgiliau rhyngweithio cymdeithasol cadarnhaol drwy arweiniad cefnogol, sy'n seiliedig ar hawliau.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

9.1 Bod yr oedolion sy'n gofalu am blant yn y ddarpariaeth wedi'u hyfforddi'n briodol ac yn gallu rheoli amrywiaeth eang o ymddygiad plant mewn ffordd sy'n hyrwyddo eu lles a'u datblygiad ac yn parchu eu hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (Erthygl 19, er enghraifft), ac sy'n cydnabod y gall y rhesymau dros ymddygiad 'gwael' fod yn gymhleth.

9.2 Bod polisi rheoli ymddygiad ysgrifenedig yn cael ei lunio a'i weithredu sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau ac yn nodi'r dulliau a ddefnyddir i reoli ymddygiad plant. Bod hwn yn cael ei drafod gyda'r rhieni a bod y staff yn ei ddeall yn llawn ac yn ei ddilyn. Bod camau yn cael eu cymryd yn barhaus i adolygu'r polisi a bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod am unrhyw ddiwygiad o fewn 28 diwrnod. 

9.3 Ei bod yn glir pwy o fewn y lleoliad sydd â chyfrifoldeb am faterion rheoli ymddygiad. Bod gan y person hwnnw’r sgiliau i gefnogi unrhyw staff eraill a'i fod yn gallu troi at gyngor arbenigol os nad yw'r dulliau arferol yn effeithiol gyda phlentyn penodol.

9.4 Bod ymddygiad yn cael ei reoli mewn ffordd gyson a phriodol o ran datblygiad y plentyn, gan barchu lefel dealltwriaeth ac aeddfedrwydd pob plentyn unigol.

9.5 Bod ymddygiad yn cael ei reoli mewn ffordd gadarnhaol, a bod oedolion yn modelu ymddygiad cadarnhaol, gan ganmol ac annog, a meithrin cydberthnasau da rhwng oedolion a phlant. Bod ymddygiad amhriodol - gan gynnwys bwlio - yn cael ei reoli ac yr eir i'r afael ag ef.

9.6 Bod oedolion sy'n darparu gofal neu gyfleoedd chwarae yn effro i unrhyw fwlio ac yn annog y plant i sôn am unrhyw bryderon.

9.7 Na ddefnyddir cosbau corfforol, megis ysgwyd neu daro plentyn byth, na'u bygwth.

9.8 Na wnaiff oedolion ddefnyddio unrhyw fath o ymyrraeth gorfforol, ee dal gafael yn y plant neu eu dal yn ôl yn gorfforol rhag gwneud rhywbeth, oni bai bod angen diogelu'r plentyn, plant eraill neu oedolyn rhag cael anaf, neu atal niwed difrifol i eiddo. Bod unrhyw ddigwyddiad yn cael ei gofnodi a bod y rhiant yn cael gwybod amdano y diwrnod hwnnw. Gweler y Fframwaith ar gyfer lleihau arferion cyfyngol

9.9 Na chaiff plant eu bychanu, eu dychryn na'u cywilyddio ac na fydd unrhyw un yn gweiddi arnynt. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help