Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 10: Gofal iechyd
Llais y Plentyn: Os nad ydw i'n dda, dw i'n derbyn gofal ac mae pawb yn gwneud eu gorau i wneud yn siŵr fy mod i'n cael yr help sydd ei angen arna i.
Deilliant Lles: Bod yna ddealltwriaeth o anghenion iechyd corfforol ac emosiynol y plant a'u bod yn cael eu cefnogi mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo lles ac arferion iechyd cadarnhaol.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
Iechyd
10.1 Bod iechyd y plant yn cael ei hyrwyddo a chamau cadarnhaol yn cael eu cymryd i atal haint rhag lledaenu drwy fesurau priodol mewn achosion o salwch.
10.2 Na dderbynnir unrhyw blentyn os ymddengys ei fod yn sâl. Os bydd plant yn mynd yn sâl yn ystod eu hamser yn y lleoliad gofal plant neu chwarae, y cymerir gofal i atal heintio plant eraill ac y rhoddir gwybod i'r rhieni cyn gynted â phosibl.
10.3 Y rhoddir gwybod i rieni eraill os bydd plentyn sy'n mynd i'r lleoliad, neu unrhyw un arall yn y fangre (ee aelod o staff neu o'r teulu) wedi cael diagnosis o afiechyd heintus difrifol (ee. brech yr ieir, impetigo) gan sicrhau cyfrinachedd unigolion fel y bo'n briodol.
10.4 Bod y rhieni yn gwybod bod yn rhaid iddynt roi gwybod i'r person cofrestredig neu'r gwasanaeth gofal plant am anghenion gofal iechyd eu plentyn ac - mewn ymgynghoriad â rhiant/rhieni y plentyn - yr eir i'r afael â'r anghenion hynny, gan gymryd unrhyw gamau angenrheidiol.
10.5 Y ceir caniatâd ysgrifenedig gan y rhiant cyn ceisio cyngor neu driniaeth feddygol frys.
10.6 Bod y fangre a'r cyfarpar yn cael eu cadw'n lân ac yn hylan.
10.7 Bod y staff yn cael gwybodaeth am bwysigrwydd arferion hylendid da ac yn ymwybodol ohonynt er mwyn atal haint rhag lledaenu. Bod y staff yn cael gwybod yn rheolaidd am weithdrefnau hylendid da.
10.8 Bod y plant yn cael eu hannog i ddysgu am hylendid personol da - ac ymarfer hynny - drwy'r arferion a ddilynir bob dydd.
10.9 Ei bod yn ddiogel i unrhyw anifeiliaid yn y fangre fod yn agos at y plant ac nad ydynt yn berygl iechyd.
10.10 Bod pyllau tywod yn cael eu gwarchod rhag cael eu heintio a bod y tywod yn lân.
Hylendid Bwyd
10.11 Bod y sawl sy'n gyfrifol am baratoi a delio â bwyd yn gwbl ymwybodol o'r rheoliadau sy'n ymwneud â diogelwch bwyd a hylendid ac yn cydymffurfio â nhw.
Newid Cewynnau
10.12 Lle darperir gofal i fabanod a phlant mewn cewynnau, bod polisi newid cewynnau wedi'i lunio y mae'r staff yn gyfarwydd ag ef. Dylai'r polisi ymwneud â materion hylendid ac arferion diogelwch da.
10.13 Bod plant o dan 2 oed yn cael eu bwydo a’u newid gan eu gweithiwr allweddol neu gan yr un oedolyn.
Polisi gwrth-smygu a fepio
10.14 Bod ardaloedd dan do ac awyr agored y fangre lle darperir gofal plant yn ddi-fwg. Fodd bynnag, dim ond pan ddefnyddir y fangre i ddarparu gofal dydd neu wasanaeth gwarchod plant y bydd yn ofynnol i’r ardaloedd awyr agored fod yn ddi-fwg. Yn achos gwarchodwr plant sy'n darparu gofal yn eu cartref, mae'n ofynnol i'r cartref fod yn ddi-fwg yn y rhannau a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau gwarchod plant am y cyfnod y mae'r plant yng nghartref y gwarchodwr. Mae'n ofynnol i ardaloedd awyr agored cartref gwarchodwyr plant hefyd fod yn ddi-fwg os yw un neu fwy o'r plant yn yr ardal awyr agored. Rhaid cadw unrhyw ddeunyddiau smygu a fepio y tu hwnt i gyrraedd plant bob amser. Ni chaniateir smygu ym mhresenoldeb y plant sy'n derbyn gofal mewn lleoliad gofal plant. Mae hyn yn berthnasol i ardaloedd dan do ac awyr agored y fangre lle darperir gofal plant. Mae canllawiau ar y gofynion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru Deddfwriaeth ddi-fwg: canllawiau ar y newidiadau o fis Mawrth 2021 [HTML] | LLYW. CYMRU
10.15 Bod arwyddion 'Dim Smygu' yn ardaloedd dan do y lleoliad gofal plant (oni bai bod y lleoliad hefyd yn annedd, fel cartref gwarchodwr plant, lle nad yw'n ofynnol gosod arwyddion ar gyfer ardaloedd y tu mewn na'r tu allan). Nid yw'n ofynnol chwaith arddangos arwyddion 'Dim Smygu' mewn lleoliadau gofal awyr agored eraill i blant (fel cylch chwarae er enghraifft) gan fod llawer o'r rhain mewn ardaloedd sydd ond yn cael eu defnyddio'n ysbeidiol fel lleoliad gofal plant neu sy'n cael eu rhannu ag achosion eraill. Fodd bynnag, ceir gosod arwyddion 'Dim Smygu' mewn ardaloedd awyr agored, ac mae templed o arwydd 'Dim Smygu' ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
10.16 Bod y person sy'n rheoli lleoliad gofal dydd neu'r gwarchodwr plant cofrestredig sy'n darparu gofal yn eu cartref, er mwyn cyflawni gofynion y ddeddfwriaeth ddi-fwg, yn cymryd camau rhesymol i atal unrhyw un rhag smygu yn y lleoliad. Mae canllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ar sut i sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth ddi-fwg.
10.17 Mewn perthynas â fepio, mae'r ddeddfwriaeth ddi-fwg sydd ar waith ar hyn o bryd yn cwmpasu smygu tybaco yn unig, ac nid yw'n cynnwys e-sigaréts/fepio. Felly, os bydd unigolyn yn defnyddio e-sigarét/fepio mewn lleoliad y mae’n ofynnol iddo fod yn lleoliad di-fwg, ni fydd yr unigolyn hwnnw’n cyflawni trosedd. Fodd bynnag, anogir darparwyr lleoliadau gofal plant cofrestredig i gyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts/fepio yn eu lleoliad.
Cymorth Cyntaf
10.18 Bod blwch cymorth cyntaf sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau perthnasol, a bod y cynnwys yn cael ei archwilio'n gyson gan ychwanegu ato yn ôl yr angen. Lle bo'n briodol, dylid dynodi aelod o staff i fod yn gyfrifol am hyn. Dylai'r blwch cymorth cyntaf fod ar gael i staff, ond y tu hwnt i gyrraedd plant.
10.19 Bod lleoliadau gofal plant a chwarae annomestig hefyd yn cydymffurfio â gofynion cyffredinol hyfforddiant cymorth cyntaf yn y gweithle a amlinellir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mewn perthynas â'u gweithwyr.
10.20 Bod gan unigolion sydd wedi’u hyfforddi mewn cymorth cyntaf gymhwyster “addas”. Rhaid i gynnwys cyrsiau Cymorth Cyntaf Pediatrig fod yn gyson â'r meini prawf a nodir yng Nghanllawiau'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig yn Atodiad B.
10.21 Bod pob tystysgrif cymorth cyntaf yn cael ei diweddaru’n gyson a’i hadnewyddu bob 3 blynedd.
10.22 Bod gan o leiaf un person yn y fangre sy’n gofalu am y plant dystysgrif gyfredol o gwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig Llawn 12 awr, sy’n briodol ar gyfer oedran y plant y gofelir amdanynt.
10.23 Bod nifer digonol o staff sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf addas yn y fangre bob amser pan fydd y plant yn bresennol. Bod nifer y staff sydd wedi cael hyfforddiant addas yn ddigonol o ystyried cynllun y fangre, ac i ba raddau y gall yr unigolion hynny ymateb yn gyflym i achosion brys, a chan ganiatáu ar gyfer amgylchiadau lle bydd staff yn absennol neu yn cael eu galw o’r lleoliad yn annisgwyl.
Hyfforddiant Cymorth Cyntaf – Gwarchodwyr plant:
10.24 Bod gwarchodwyr plant, ac unrhyw gynorthwy-ydd y gellid gofyn iddo fod yn gwbl gyfrifol am y plant, yn meddu ar dystysgrif o gwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig Llawn 12 awr cyn dechrau gwarchod plant.
10.25 Os na ofynnir i’r cynorthwy-ydd fod yn gwbl gyfrifol am y plant, bod ganddo dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng. Dylid ymgymryd â'r cwrs 6 awr Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng o fewn tri mis i ddechrau'r gwaith.
Hyfforddiant Cymorth Cyntaf – Lleoliadau Gofal Dydd (Gofal Dydd)
10.26 Bod o leiaf un oedolyn wedi cael hyfforddiant ar gyfer pob deg plentyn, hynny yw bod ganddynt dystysgrif gyfredol o gwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig Llawn 12 awr.
10.27 Bod yr holl staff eraill (gan gynnwys gwirfoddolwyr rheolaidd neu hyfforddeion) sydd wedi'u cynnwys yn y cymarebau staffio oedolion:plant yn dilyn hyfforddiant 6 awr Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng a bod ganddynt dystysgrif gyfredol.
10.28 Bod dechreuwyr newydd yn ymgymryd â chwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng 6 awr o fewn tri mis i ddechrau'r gwaith, ond gellir eu cynnwys yn y cymarebau staff:plant gofynnol tra bo’r hyfforddiant yn cael ei drefnu, ar yr amod bod pob aelod arall o’r staff wedi cael yr hyfforddiant Cymorth Cyntaf a bod ganddynt y tystysgrifau cyfredol gofynnol.
10.29 Bod nifer digonol o staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol mewn Cymorth Cyntaf yn mynd gyda’r plant ar unrhyw dripiau.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau Cysylltiedig
Mwy o Arweiniad a Help
Iechyd Cyhoeddus Cymru - Cyngor ac arweiniad ar gyfer lleoliadau gofal plant, cyn ysgol ac addysgol
Millie’s Mark–– marc ansawdd achrededig ar gyfer hyfforddi pob aelod o staff meithrin mewn cymorth cyntaf pediatrig
Bwyd mwy diogel, busnes gwell | Asiantaeth Safonau Bwyd
Deddfwriaeth ddi-fwg: canllawiau ar y newidiadau o fis Mawrth 2021
