Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 13: Person addas
Llais y Plentyn: Mae'r bobl sy'n gofalu amdana i'n garedig ac yn gwybod sut i'm cadw i'n ddiogel ac yn hapus.
Deilliant Lles: Bod plant yn mwynhau profiadau chwarae, cydberthnasau diogel ac sy'n eu cyfoethogi, gydag oedolion medrus, meddylgar, sy'n ymrwymedig i ddarparu gofal o ansawdd uchel.
Mae'r person cofrestredig ym mhob darpariaeth gwarchod plant a gofal dydd a reoleiddir yn gyfrifol am sicrhau:
13.1 Bod pob hyfforddai yn gweithio o dan oruchwyliaeth agos bob amser.
13.2 Bod yr holl staff yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n cwmpasu polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch ac amddiffyn plant yn ystod wythnos gyntaf eu cyflogaeth.
13.3 Y rhoddir sylw i anghenion hyfforddi parhaus y staff ac y darperir ar eu cyfer yn rheolaidd.
13.4 Bod yr holl staff cyflogedig yn cael eu goruchwylio’n rheolaidd ar sail un-i-un, gan eu hannog i ystyried ansawdd eu harferion a chodi unrhyw bryderon o ran diogelwch. Eu bod hefyd yn cael eu gwerthuso'n ffurfiol o leiaf unwaith y flwyddyn.
Safon 13(GP): Person addas (Gwarchodwr Plant)
Gweler Atodiad A – Canllawiau i Gynorthwywyr Gwarchodwyr Plant, i gael gwybod mwy am weithio gyda chynorthwy-ydd.
Mae’r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
13.1 (GP) Bod y gwarchodwr plant, ac unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir ganddo, yn addas i ofalu am blant hyd at 12 oed, ac yn meddu ar y sgiliau, y profiad a'r cymwysterau priodol i ddiwallu anghenion y plant.
13.2( GP) Bod y gwarchodwr plant, ac unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir ganddo, yn abl yn feddyliol ac yn gorfforol i ofalu am blant.
13.3( GP) Bod y gwarchodwr plant wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs cyn-cofrestru priodol a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru.
13.4( GP) Bod unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir gan warchodwr plant yn meddu ar gymhwyster priodol a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Os nad oes ganddynt gymhwyster priodol adeg eu cyflogi, mae'n ofynnol i gynorthwywyr fod wedi ennill y cymhwyster gofynnol o fewn 6 mis i ddechrau eu cyflogaeth bresennol. Ni ddylid eu gadael ar eu pen eu hunain gyda phlant nes eu bod wedi ennill y cymhwyster.
13.5 (GP) Bod y gwarchodwr plant, unrhyw gynorthwy-ydd, ac unrhyw unigolion eraill 16 oed neu'n hŷn sy'n byw, yn gweithio (gan gynnwys gwaith gwirfoddol) neu sydd am reswm arall yn bresennol yn y fangre berthnasol, ac sy'n dod i gysylltiad rheolaidd â'r plant, neu sy'n debygol o wneud hynny, wedi mynd drwy broses wirio sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau ac yn cynnwys archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bod pob archwiliad yn cael ei gwblhau cyn i'r gwarchodwr plant ac unrhyw gynorthwy-ydd ddechrau gofalu am blant.
13.6 (GP) Bod y gwarchodwr plant yn rhoi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru am ei fwriad i gyflogi neu i weithio gydag unrhyw gynorthwywyr i ofalu am y plant.
13.7 (GP) Fel y person cofrestredig, mai'r gwarchodwr plant sy'n atebol am waith unrhyw gynorthwy-ydd, ac yn gyfrifol am ddiogelwch, lles a datblygiad y plant yn ei ofal. Bod y gwarchodwr plant yn defnyddio’r cynorthwy-ydd mewn ffordd effeithiol ac yn fodlon bob amser bod y cynorthwy-ydd yn gymwys ym mhob rhan o'r gwaith sy'n cael ei wneud. Bod y gwarchodwr plant yn cadw ffeil staff ar gyfer pob cynorthwy-ydd, a fydd yn cynnwys cofnodion sy’n nodi eu henw, eu cyfeiriad, eu rhifau cyswllt, manylion y broses o’u recriwtio, eu sefydlu, eu goruchwylio, eu gwerthuso, eu hyfforddiant a’u cymwysterau.
13.8 (GP) Bod yr wybodaeth ganlynol yn cael ei chadw o ddydd i ddydd:
- enwau'r bobl sy'n bresennol neu'n debygol o fod yn bresennol yn y cartref tra bydd y plant yn cael eu gwarchod
- enw a chyfeiriad y cynorthwywyr (p'un a ydynt yn gyflogedig neu'n wirfoddolwyr mewn rôl â thâl neu ddi-dâl)
- oriau gwaith unrhyw gynorthwy-ydd, gan gynnwys unrhyw oriau pan oeddent yn gweithio ar eu pen eu hunain, ac enwau’r plant yr oeddent yn gyfrifol amdanynt yn ystod yr adegau hyn.
Safon 13(GD): Person addas (Gofal Dydd)
Mae’r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
Yr holl staff
13.1 (GD) Bod darparwyr gofal dydd, ac unrhyw staff a gyflogir ganddynt, yn addas i ofalu am blant hyd at 12 oed, ac yn meddu ar y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau priodol i ddiwallu anghenion y plant.
13.2 (GD) Bod y staff yn abl yn feddyliol ac yn gorfforol i ofalu am blant.
13.3 (GD) Bod darparwyr gofal dydd, ac unrhyw staff a gyflogir ganddynt, ac unrhyw unigolion eraill 16 oed neu'n hŷn sy'n byw, yn gweithio (gan gynnwys gwaith gwirfoddol) neu sydd am reswm arall yn bresennol yn y fangre berthnasol, ac sy’n dod i gysylltiad rheolaidd â’r plant, neu sy'n debygol o wneud hynny, wedi mynd drwy broses wirio sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau ac yn cynnwys archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bod pob archwiliad yn cael ei gwblhau cyn i'r unigolion hyn ddechrau gweithio gyda phlant neu ddod i gysylltiad rheolaidd â nhw heb oruchwyliaeth.
13.4 (GD) Bod canrannau staff cymwysedig a staff heb gymhwyso yn cael eu cyfrifo ar sail y lleoliad cyfan, yn hytrach nag ar sail ystafell. Yr ystyrir yn ofalus sut caiff staff eu dosrannu ar draws y lleoliad ac ym mhob ystafell i sicrhau diogelwch, lles a datblygiad y plant bob amser, gan gynnwys plant anabl a phlant ag anghenion cymorth ychwanegol. Bod pob ystafell wedi'i staffio ag unigolion sydd â chymwysterau, sgiliau a phrofiad addas.
13.5 (GD) Bod cymarebau oedolion:plant gofynnol yn cael eu gwarchod. Gellir defnyddio staff ychwanegol, sy'n mynd â nifer y staff yn uwch na'r hyn sy'n ofynnol yn ôl y cymarebau o ran staffio a chymwysterau lle nodir bod angen cymorth penodol i ddiwallu anghenion unigol plant, neu i wella ansawdd y gofal.
Y person â chyfrifoldeb
13.6 (GD) Cyn ei benodi, rhaid bod gan berson sydd â chyfrifoldeb (rheolwr):
a) o leiaf 2 flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gofal dydd
AC
b) o leiaf cymhwyster lefel 3 a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru neu Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n eu disodli), sy’n briodol i’r swydd.
13.7 (GD) Mewn lleoliad gofal dydd i blant rhwng 0 a 12 oed, bod gan y person â chyfrifoldeb:
a) o leiaf cymhwyster lefel 3 mewn gofal plant a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru
AC
b) o leiaf cymhwyster lefel 3 mewn gwaith chwarae neu ddyfarniad llai a gydnabyddir ar Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli).
13.8 (GD) Mewn lleoliad darpariaeth chwarae i blant rhwng 5 a 12 oed, bod gan y person â chyfrifoldeb o leiaf cymhwyster lefel 3 mewn gwaith chwarae a gydnabyddir ar Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli).
13.9 (GD) Mewn lleoliad cynllun chwarae yn ystod y gwyliau, bod gan y person â chyfrifoldeb:
a) o leiaf cymhwyster lefel 3 mewn gwaith chwarae a nodir yn Rhestr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli)
NEU
b) o leiaf cymhwyster lefel 3 mewn sector cysylltiedig
AC
c) Dyfarniad Rheoli Cynllun Chwarae yn ystod y Gwyliau, a nodir yn Rhestr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli).
Staff Eraill (Cymwysterau)
13.10 (GD) Ar gyfer gofal sesiynol
a) bod gan o leiaf 40% o'r holl "staff eraill" gymhwyster lefel 2 o leiaf o Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru neu Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n eu disodli), sy'n briodol i'r swydd A bod gan o leiaf hanner y rhain gymhwyster lefel 3
b) bod o leiaf 10% yn rhagor o’r holl "staff eraill" yn “gweithio tuag at” gymhwyster lefel 2 neu 3
c) nad yw mwy na 50% o’r holl staff heb gymhwyso neu’n wirfoddolwyr.
Mewn lleoliadau gofal sesiynol, rhaid i o leiaf 50% o’r holl “staff eraill” fod wedi cymhwyso neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster.
Ystyrir bod aelod o staff yn "gweithio tuag at" gymhwyster os bodlonir yr holl amodau canlynol:
- Mae’r Person Cofrestredig yn fodlon bod yr unigolyn yn gymwys ac yn
gyfrifol. - Mae tystiolaeth bendant bod yr unigolyn yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 2 neu 3 (e.e. tystiolaeth o gofrestru ar gwrs perthnasol), a bod amserlen wedi’i chytuno ar gyfer ennill y cymhwyster gofynnol (hyd at 3 blynedd).
- Mae’r unigolyn wedi cwblhau hyfforddiant sefydlu sy’n berthnasol i’w rôl, gan gynnwys Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru neu mae wrthi’n ymgymryd â hyfforddiant o’r fath.
- Mae’r unigolyn yn gweithio ochr yn ochr â staff sy’n gymwys i’r lefel ofynnol.
13.11 (GD) Ar gyfer gofal dydd llawn:
a) bod gan o leiaf 60% o’r “staff eraill” gymhwyster lefel 2 o leiaf o Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru A bod gan o leiaf hanner y rhain gymhwyster ar lefel 3. (Ar gyfer lleoliadau gofal dydd llawn i blant rhwng 0 a 12 oed, gall fod gofyn i staff fod â chymhwyster a gydnabyddir ar Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli), sy’n briodol i’r swydd.
b) bod o leiaf 20% yn rhagor o’r holl “staff eraill” yn “gweithio tuag at” gymhwyster lefel 2 neu 3
c) nad yw mwy na 20% o’r holl staff heb gymhwyso neu’n wirfoddolwyr.
Mewn lleoliadau gofal dydd llawn, rhaid i o leiaf 80% o’r holl “staff eraill” fod wedi cymhwyso neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster.
Ystyrir bod aelod o staff yn "gweithio tuag at" gymhwyster os bodlonir yr holl amodau canlynol:
- Mae’r Person Cofrestredig yn fodlon bod yr unigolyn yn gymwys ac yn
gyfrifol. - Mae tystiolaeth bendant bod yr unigolyn yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 2 neu 3 (e.e. tystiolaeth o gofrestru ar gwrs perthnasol), a bod amserlen wedi’i chytuno ar gyfer ennill y cymhwyster gofynnol (hyd at 3 blynedd).
- Mae'r unigolyn wedi cwblhau hyfforddiant sefydlu sy'n berthnasol i'w rôl, gan gynnwys Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant neu mae wrthi'n ymgymryd â hyfforddiant o'r fath.
- Mae’r unigolyn yn gweithio ochr yn ochr â staff sy’n gymwys i’r lefel
ofynnol.
Mae Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru yn disgrifio pa gymwysterau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol leoliadau gofal plant a staff yn y lleoliadau hyn.
Mae Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru wedi datblygu siart lif sy'n disgrifio pa gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer gwaith chwarae mewn gwahanol leoliadau, a staff yn y lleoliadau hyn.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu, er enghraifft, peidio â chyfrif y Person(au) â Chyfrifoldeb:
Os oes 14 aelod o staff mewn lleoliad:
- Bydd angen cymhwyster lefel 2 o leiaf ar 60% o leiaf o’r rhain – yn yr enghraifft hon, 9 aelod staff; a byddai angen i o leiaf hanner y rhain fod â chymhwyster lefel 3 o leiaf – yn yr enghraifft hon, 5 aelod staff.
- Rhaid i o leiaf 20% o’r holl staff fod yn “gweithio tuag at” gymhwyster lefel 2 neu 3, gan eu cynnwys yng nghymarebau cymwysterau staff – yn yr enghraifft hon, 3 aelod staff
- Gwirfoddolwyr neu weithwyr dan hyfforddiant fydd y 2 aelod staff arall, gyda thâl neu’n ddi-dâl.
Bydd lleoliadau yn talgrynnu i’r nifer o staff cyfan agosaf.
13.12 (GD) Mewn lleoliadau sy’n gofalu am blant o dan 2 oed:
- Bod y staff sy'n gofalu am fabanod yn gymwys i wneud hynny.
- Bod o leiaf hanner y staff sy'n gofalu am fabanod wedi cael hyfforddiant yn y maes penodol hwn.
- Bod gan y person sydd â chyfrifoldeb am yr ystafell fabanod o leiaf ddwy flynedd o brofiad o weithio gyda phlant o dan 2 oed.
- Bod y trefniadau staffio'n lleihau nifer yr unigolion sy’n ymwneud â phlentyn unigol (gweler safon 8.6).
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau Cysylltiedig
Rheoliad 6 – Y person cofrestredig: ei addasrwydd a rhannau perthnasol o Atodlen 1 ac Atodlen 2
Rheoliad 7 - Penodi person â chyfrifoldeb
Rheoliad 9 - Y person cofrestredig: gofynion cyffredinol
Rheoliad 20 – Diogelu a hyrwyddo lles
Rheoliad 28 – Addasrwydd gweithwyr a rhannau perthnasol o Atodlen 1 ac Atodlen 2
Rheoliad 30 – Cadw cofnodion a Atodlen 3 – Y cofnodion sydd i’w cynnal
Rheoliad 31 – Darparu Gwybodaeth a Atodlen 4 – Digwyddiadau y mae’n ofynnol hysbysu Gweinidogion Cymru yn eu cylch
Mwy o Arweiniad a Help
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth am arferion da wrth recriwtio, rheoli a goruchwylio staff.
Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant
Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru
Atodiad A – Canllawiau i Gynorthwywyr Gwarchodwyr Plant, i gael gwybod mwy am weithio gyda chynorthwy-ydd
