Neidio i'r prif gynnwy

Safon 16: Cyfle cyfartal

Llais y Plentyn: Mae pawb yn cael eu trin yn deg, a galla i ymuno, pwy bynnag ydw i.

Deilliant Lles: Bod pob plentyn yn profi tegwch, ac yn cael eu cynnwys a'u parchu, gan leihau'r rhwystrau, fel y gall pawb gymryd rhan yn llawn.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

16.1 Bod cyfle cyfartal ac arferion nad ydynt yn gwahaniaethu rhwng unigolion yn cael eu hyrwyddo yn y lleoliad.

16.2 Bod polisi cyfle cyfartal wedi'i sefydlu, sy'n gyson â'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau presennol, a'i fod yn cael ei adolygu'n rheolaidd. Bod yr holl staff a gwirfoddolwyr yn deall ac yn gweithredu'r polisi hwn, a'i fod ar gael i rieni. 

16.3 Bod pob plentyn ac oedolyn yn cael eu trin â'r un gofal a bod y person cofrestredig yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r arferion perthnasol o beidio gwahaniaethu ym mhob maes, megis cyflogaeth, hyfforddiant, derbyn plant i ofal dydd a mynediad at yr adnoddau, y gweithgareddau a'r cyfleusterau sydd ar gael.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help

Deddf Cydraddoldeb 2010 - gwybodaeth ac arweiniad ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys gwahaniaethu ar sail oedran a Dyletswydd Cydraddoldeb y sector cyhoeddus

Diweddariad Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2024 – y camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod Cymru yn genedl wrth-hiliol

https://darpl.cymru/creu-diwylliant-gwrth-hiliol-mewn-lleoliadau-pecyn-cymorth-ymarferol-ir-rheini-syn-gweithio-ym-maes-gofal-plant-y-blynyddoedd-cynnar-a-chwarae-yng-nghymru/pecyn cymorth ymarferol i'ch helpu i greu diwylliant gwrth-hiliol yn eich lleoliad 

Adnoddau DARPL Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar – adnoddau gwrth-hiliol ac e-ddysgu am ddim i staff ac arweinwyr i helpu i greu lleoliadau cynhwysol 

DARPL-Canllawiau-ar-Ddileu-Hiliaeth.pdf : canllawiau i gefnogi lleoliadau i ddelio â digwyddiadau hiliol mewn ffordd ymarferol, dosturiol a phroffesiynol, gan ganolbwyntio ar les yr unigolion dan sylw

Ymarfer gwerth ei rannu Sarah Sharpe | Arolygiaeth Gofal Cymru - mae'r enghraifft hon o ymarfer gwerth ei rannu yn tynnu sylw at sut mae gwarchodwr plant wedi creu amgylchedd gwrth-hiliol yn eu lleoliad

Gweithredu ar anabledd: hawl i fyw’n annibynnol – fframwaith a chynllun gweithredu | LLYW.CYMRU

Cynllun Hawliau Pobl Anabl 2025 i 2035 – cynllun 10 mlynedd i wella bywydau pobl anabl sy'n byw yng Nghymru

Beth am godi'r to: model cymdeithasol o anabledd

Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru - y cynllun i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+ 

Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025 i 2029

Hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau: cynllun gweithredu

Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024

Bil y Lluoedd Arfog 2026 - Addewid gan y genedl yw Cyfamod y Lluoedd Arfog y bydd aelodau a chyn-aelodau'r lluoedd arfog, a'u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Gellir gweld gwybodaeth am gymorth i deuluoedd y lluoedd arfog yma: Swyddogion cyswllt y lluoedd arfog