Neidio i'r prif gynnwy

Safon 17: Gweithdrefnau ariannol

Llais y Plentyn: Mae fy nheulu yn gwybod bod fy lleoliad yn cael ei redeg yn iawn ac fy mod i'n cael gofal da.

Deilliant Lles: Bod plant yn profi parhad a sefydlogrwydd oherwydd bod y lleoliad yn cael ei reoli'n dda.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

17.1 Bod gweithdrefnau ariannol effeithiol yn cael eu gweithredu.

17.2 Bod yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol wedi'i drefnu, yn ogystal ag yswiriant ar gyfer unrhyw gerbydau a gyrwyr a ddefnyddir. 

17.3 Bod cofnodion yr holl drafodion ariannol a'r yswiriant mewn perthynas â'r gofal a ddarperir i blant perthnasol ar gael i Arolygiaeth Gofal Cymru ar gais.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help

Mae Cwlwm yn gonsortiwm o bum partner gofal plant a gwaith chwarae. Mae'n cynnig templedi, gwybodaeth ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho i helpu'r broses o weithredu lleoliadau gwaith chwarae neu ofal plant blynyddoedd cynnar dwyieithog.