Neidio i'r prif gynnwy

Safon 18: Ansawdd

Llais y Plentyn: Mae'r bobl sy'n gofalu amdana i yn gwrando arna i a'm teulu, ac maen nhw bob amser yn ceisio bod cystal ag y gallant fod.

Deilliant Lles: Bod y babanod a'r plant a'u rhieni yn elwa ar wasanaeth o safon sy'n cael ei fonitro'n effeithiol.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

18.1 Bod systemau a phrosesau effeithiol yn cael eu defnyddio i fonitro, adolygu a gwella ansawdd pob agwedd ar y gwasanaeth a ddarperir yn barhaus, mewn ffordd sy’n bodloni gofynion Rheoliad 16 – Adolygu Ansawdd y Gofal.

18.2 Y gofynnir am farn y plant a'u rhieni, staff ac ymarferwyr/gweithwyr proffesiynol eraill yn rheolaidd ynghylch pa welliannau y gellid eu gwneud, ac y rhoddir ystyriaeth i’r farn honno. Bod hyn yn cael ei ymgorffori fel rhan o’r prosesau i fesur llwyddiant y gwasanaeth.

18.3 Yn dilyn Adolygiad o Ansawdd y Gofal, eu bod, o fewn 28 diwrnod, yn paratoi adroddiad ar yr adolygiad hwnnw, ac yn sicrhau bod copi o'r adroddiad hwnnw ar gael mewn fformat priodol pan ofynnir amdano i rieni/gofalwyr, yr awdurdod lleol sy'n trefnu darpariaeth gwarchod plant neu ofal dydd ar gyfer plentyn penodol, staff a Gweinidogion Cymru. Rhaid gwneud hyn o leiaf unwaith y flwyddyn.

18.4 Bod yr Adolygiad o Ansawdd y Gofal yn cynrychioli cylch gwella parhaus ac yn rhan o ddiwylliant o wella ansawdd. Mae hyn yn golygu defnyddio adnoddau a dulliau yn systematig megis: Fframwaith Ansawdd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ac adnoddau cysylltiedig); fframwaith hunanasesu a sicrhau ansawdd Chwarae o Safon; neu gynlluniau ansawdd, adnoddau gwella a chanllawiau arfer da a gymeradwywyd gan y sector. 

18.5 Bod cyngor ac argymhellion Arolygiaeth Gofal Cymru ac unrhyw gyrff proffesiynol y mae’r lleoliadau yn gysylltiedig â nhw yn cael eu hystyried.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help