Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 19: Cwynion
Llais y Plentyn: Os nad yw rhywbeth yn iawn, bydd pawb yn gwrando ac yn helpu i ddatrys y peth.
Deilliant Lles: Bod y plant a’u rhieni yn hyderus y bydd rhywun yn gwrando ar eu safbwyntiau a'u cwynion, yn eu cymryd o ddifrif ac yn gweithredu arnynt yn brydlon.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
19.1 Bod gweithdrefn gwyno ysgrifenedig syml ac eglur, sy’n hwylus i’w defnyddio ac sy'n cydymffurfio â'r Rheoliadau, ar waith. Dylai’r weithdrefn gwyno roi gwybodaeth am sut i gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru (gan gynnwys enw, cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa berthnasol AGC).
19.2 Yr ymdrinnir â phob cwyn mewn modd sensitif ac yn gyfrinachol.
19.3 Bod cwynion yn cael eu hystyried, ac os yw'n bosibl, yr ymchwilir iddynt, ac y cânt eu datrys yn lleol.
19.4 Bod yr achwynydd yn cael gwybod, ar ddu a gwyn, am ganlyniad yr ymchwiliad o fewn 14 diwrnod ar ôl derbyn y gŵyn. Gyda chytundeb yr achwynydd, ceir estyn y cyfnod ar gyfer datrys y gŵyn hyd at 14 diwrnod ychwanegol os oes angen.
19.5 Bod cofnod ysgrifenedig cywir a manwl o bob cwyn yn cael ei gadw, gan gynnwys yr wybodaeth ganlynol:
- enw'r achwynydd
- natur y gŵyn
- dyddiad ac amser y gŵyn
- y camau a gymerwyd mewn ymateb i'r gŵyn
- canlyniad yr ymchwiliad i'r gŵyn
- yr wybodaeth a roddwyd i'r achwynydd, gan gynnwys dyddiad yr ymateb.
19.6 Bod achwynwyr yn cael gwybod bod ganddynt ar unrhyw adeg hawl i gwyno wrth yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am drefnu’r ddarpariaeth gwarchod plant neu’r gofal dydd ar gyfer plentyn penodol. Rhaid rhoi gwybod hefyd bod hawl ar unrhyw adeg i gwyno wrth Arolygiaeth Gofal Cymru.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
