Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 20: Diogelu
Llais y Plentyn: Mae'r bobl sy'n gofalu amdana i yn gwneud yn siŵr fy mod i'n ddiogel.
Deilliant Lles: Bod plant yn cael eu diogelu rhag niwed, cam-drin ac esgeulustod.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
20.1 Mai diogelu’r plentyn yw'r flaenoriaeth gyntaf; bod hyn yn gyfrifoldeb i bawb.
20.2 Bod polisi ysgrifenedig ar ddiogelu plant wedi'i sefydlu. Rhaid i'r polisi ddilyn Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer pob unigolyn, grŵp a sefydliad sy'n darparu gweithgareddau i blant ac oedolion yng Nghymru. Dylai pob sefydliad hefyd ddilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Wrth lunio'r polisi hwn, rhaid i'r person cofrestredig hefyd fod yn gyfarwydd â chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar ddiogelu plant o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
20.3 Bod y polisi diogelu plant yn cael ei rannu â rhieni cyn i blentyn gael ei dderbyn, a'i fod yn nodi'n glir gyfrifoldebau staff i roi gwybod am unrhyw niwed, cam-drin neu esgeulustod a amheuir. Rhaid sicrhau bod y polisi yn cynnwys enwau a rhifau ffôn cyswllt, y gweithdrefnau i'w dilyn os gwneir honiad yn erbyn aelod o staff neu wirfoddolwr a goblygiadau datgelu gwybodaeth.
20.4 Bod pob un o’r staff wedi cael hyfforddiant diogelu sy’n berthnasol i’w rôl. Bod aelod dynodedig o staff wedi dilyn cyrsiau hyfforddi diogelu ac yn gyfrifol am gysylltu â gwasanaethau statudol fel gwasanaethau cymdeithasol mewn unrhyw sefyllfa diogelu plant.
20.5 Bod pob un o’r staff wedi cael hyfforddiant addas ar gyfer eu rôl. Mae Atodiad C, Canllawiau Diogelu’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol: Rolau a Chyfrifoldebau yn manylu ar y mathau o rolau a geir ym maes gofal plant a gwaith chwarae, a’r hyfforddiant diogelu sy’n briodol i wahanol rolau o fewn y sector.
20.6 Bod unrhyw bersonau sy'n gweithio gyda phlant ac sy'n gofalu am blant yn gallu rhoi'r polisi ar waith, ac yn ymwybodol o faterion diogelu, fel y'u nodir yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru, gan gynnwys cam-drin corfforol (sydd yn ei dro yn cynnwys cosbi corfforol), esgeulustod, cam-drin emosiynol a cham-drin rhywiol, ac yn cael eu hystyried yn gymwys i weithredu'r gweithdrefnau.
20.7 Bod staff yn ymwybodol o'u cyfrifoldeb i roi gwybod am bryderon am ddiogelwch neu les plentyn yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn ddi-oed.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau Cysylltiedig
Mwy o Arweiniad a Help
Y safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu cenedlaethol ym maes diogelu - Gofal Cymdeithasol Cymru
Canllawiau Statudol: gweithio-gydan-gilydd-i-ddiogelu-pobl-cyfrol-i-cyflwyniad-a-throsolwg.pdf
Canllawiau Statudol: gweithio-gydan-gilydd-i-ddiogelu-pobl-cyfrol-5-ymdrin-ag-achosion-unigol-i-amddiffyn-plant-syn-wynebu-risg.pdf
Canllawiau anstatudol: Gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu pobl: cod ymarfer diogelu | LLYW.CYMRU
