Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 18: Ansawdd
Llais y Plentyn: Mae'r bobl sy'n gofalu amdana i yn gwrando arna i a'm teulu, ac maen nhw bob amser yn ceisio bod cystal ag y gallant fod.
Deilliant Lles: Bod y babanod a'r plant a'u rhieni yn elwa ar wasanaeth o safon sy'n cael ei fonitro'n effeithiol.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
18.1 Bod systemau a phrosesau effeithiol yn cael eu defnyddio i fonitro, adolygu a gwella ansawdd pob agwedd ar y gwasanaeth a ddarperir yn barhaus, mewn ffordd sy’n bodloni gofynion Rheoliad 16 – Adolygu Ansawdd y Gofal.
18.2 Y gofynnir am farn y plant a'u rhieni, staff ac ymarferwyr/gweithwyr proffesiynol eraill yn rheolaidd ynghylch pa welliannau y gellid eu gwneud, ac y rhoddir ystyriaeth i’r farn honno. Bod hyn yn cael ei ymgorffori fel rhan o’r prosesau i fesur llwyddiant y gwasanaeth.
18.3 Yn dilyn Adolygiad o Ansawdd y Gofal, eu bod, o fewn 28 diwrnod, yn paratoi adroddiad ar yr adolygiad hwnnw, ac yn sicrhau bod copi o'r adroddiad hwnnw ar gael mewn fformat priodol pan ofynnir amdano i rieni/gofalwyr, yr awdurdod lleol sy'n trefnu darpariaeth gwarchod plant neu ofal dydd ar gyfer plentyn penodol, staff a Gweinidogion Cymru. Rhaid gwneud hyn o leiaf unwaith y flwyddyn.
18.4 Bod yr Adolygiad o Ansawdd y Gofal yn cynrychioli cylch gwella parhaus ac yn rhan o ddiwylliant o wella ansawdd. Mae hyn yn golygu defnyddio adnoddau a dulliau yn systematig megis: Fframwaith Ansawdd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ac adnoddau cysylltiedig); fframwaith hunanasesu a sicrhau ansawdd Chwarae o Safon; neu gynlluniau ansawdd, adnoddau gwella a chanllawiau arfer da a gymeradwywyd gan y sector.
18.5 Bod cyngor ac argymhellion Arolygiaeth Gofal Cymru ac unrhyw gyrff proffesiynol y mae’r lleoliadau yn gysylltiedig â nhw yn cael eu hystyried.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau Cysylltiedig
Mwy o Arweiniad a Help
Chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru
Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Llwybrau Datblygu 0 i 3
Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Pecyn Cymorth Ymarfer Myfyriol
Fframwaith Ansawdd ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru
