Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ddogfen hon yn ganllaw ar sut i wneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu i adeiladu adeilad risg uwch neu i wneud gwaith ar adeilad risg uwch.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rôl yr awdurdod lleol

Awdurdodau lleol yw'r awdurdod rheolaeth adeiladu ar gyfer goruchwylio a chymeradwyo gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau risg uwch yng Nghymru. 

Mae adeilad risg uwch yn adeilad sydd ag o leiaf:

  • 7 llawr neu sydd o leiaf 18 metr o uchder
  • 1 uned breswyl neu sy'n ysbyty, cartref gofal neu gartref plant

Mae rhai mathau o adeiladau wedi'u heithrio o fod yn adeilad risg uwch, fel gwestai, sefydliadau preswyl diogel a barics milwrol neu lety arall y Weinyddiaeth Amddiffyn. 

Mae canllawiau ar gael sy’n esbonio pryd yr ystyrir bod adeilad yn adeilad risg uwch wrth adeiladu adeilad newydd ac wrth gynnal gwaith adeiladu ar adeilad sy’n bod.

Pan fyddwch yn cyflwyno cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu, mae'r awdurdod rheolaeth adeiladu yn ei ddefnyddio i gadarnhau:

  • bod y gwaith a gynigir yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu
  • bod y cleient (a ddiffinnir yn rheoliad 2 Rheoliadau Adeiladu 2010) yn rheoli'r prosiect yn iawn
  • bod y cleient yn penodi pobl i weithio ar y prosiect sydd â’r cymhwysedd angenrheidiol i wneud eu gwaith

Gallwch ddysgu mwy am ddyletswyddau'r cleient, dylunwyr a chontractwyr yn y canllaw Gwaith dylunio ac adeiladu: bodloni gofynion adeiladu.

Adeiladau nad ydynt yn risg uwch

Ar gyfer adeiladau nad ydynt yn risg uwch:

  • mae proses ar wahân i wneud cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu
  • mae rheolaeth adeiladu yn cael ei reoli gan naill ai awdurdodau lleol neu fusnesau sydd wedi'u cofrestru fel cymeradwywyr rheolaeth adeiladu

Prosiectau sydd ag adeiladau risg uwch ac adeiladau nad ydynt yn risg uwch

Os yw prosiect yn cynnwys y ddau fath o adeilad:

  • yr awdurdod lleol fydd yr awdurdod rheolaeth adeiladu ar gyfer yr adeiladau risg uwch
  • gall yr awdurdod lleol neu gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu fod y corff rheolaeth adeiladu ar gyfer yr adeiladau nad ydynt yn risg uwch

Pwy sy'n gorfod gwneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu

Rhaid i'r cleient wneud yn siŵr:

  • bod cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu yn cael ei rhoi cyn dechrau ar unrhyw waith adeiladu
  • bod yr wybodaeth a ddarperir yn y cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu yn gywir

Gall y cleient enwebu rhywun arall i wneud y cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ac i reoli'r broses rheoli adeiladu drosto. Ond y cleient fydd â'r cyfrifoldeb cyfreithiol am y cais o hyd.

Pryd i gael cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu

Rhaid i chi gael cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu'r awdurdod lleol cyn dechrau:

  • adeiladu adeilad risg uwch newydd
  • gwaith adeiladu ar adeilad sy'n bod sydd naill ai’n ei wneud yn adeilad risg uwch, neu’n ei rwystro rhag bod yn adeilad risg uwch mwyach
  • gwaith adeiladu i adeilad risg uwch sy'n bod, oni bai ei fod yn cynnwys dim ond gwaith eithriedig, gwaith cynllun person cymwys neu waith trwsio brys 

Mae gwneud gwaith adeiladu heb y gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu angenrheidiol yn drosedd.

Efallai y bydd angen i chi hefyd gael caniatâd cynllunio cyn gwneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu. Os nad ydych chi'n siŵr, holwch yr awdurdod lleol.

Adeiladau pontio

Os cafodd yr awdurdod lleol wybod am y gwaith adeiladu cyn 1 Gorffennaf 2026, efallai bydd angen dilyn trefniadau pontio.

Gallwch ddysgu mwy drwy ddarllen y canllaw ar ddarpariaethau pontio ar gyfer rheoliadau sy'n cynnwys darpariaethau ar gyfer adeiladau risg uwch a newidiadau ehangach i brosesau rheolaeth adeiladau.

Gwaith adeiladu nad oes angen cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu arno

Nid oes angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith sy'n cynnwys dim ond y canlynol:

  • gwaith eithriedig
  • gwaith cynllun person cymwys

Fodd bynnag, os yw unrhyw un o'r mathau hyn o waith yn rhan o brosiect adeiladu ehangach, yna rhaid ei gynnwys yn y cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer y prosiect hwnnw.

Gwaith eithriedig

Nid oes angen cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu arnoch ar gyfer gwaith sy'n cynnwys:

  • y rhan fwyaf o waith trwsio, cyfnewid a chynnal a chadw (ac eithrio systemau gwresogi, tanciau olew, blychau ffiws ac unedau gwydr)
  • pwyntiau pŵer a goleuadau newydd, neu newidiadau i gylchedau (ac eithrio o amgylch baddonau a chawodydd)
  • baddonau, toiledau, basnau a sinciau newydd yn lle hen rai oni bai bod angen gwaith penodol
  • inswleiddio yn y gofodau o dan doeon neu o dan loriau pren

Nid oes angen cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu arnoch os ydych yn adnewyddu'r isod:

  • rhai systemau storio dŵr twym sy'n llai na 15 litr
  • gwteri neu gafnau glaw 
  • drysau allanol, os yw llai na 50 y cant o'r wyneb yn wydr

Os nad ydych chi'n siŵr a yw'r gwaith wedi'i eithrio, holwch gontractwr cymwys neu weithiwr rheolaeth adeiladu proffesiynol arall.

Pan fydd gwaith wedi'i eithrio'n rhan o brosiect adeiladu ehangach, yna rhaid ei gynnwys yn y cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer y prosiect hwnnw.

Os yw'r prosiect yn cynnwys gwaith wedi'i eithrio a gwaith cynllun yn unig, nid oes angen cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu.

Gwaith cynllun person cymwys

Nid oes angen cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith a wneir o dan gynllun person cymwys.

Pan fydd gwaith person cymwys yn rhan o brosiect adeiladu ehangach, yna rhaid ei gynnwys yn y cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer y prosiect hwnnw.

Os yw'r prosiect yn cynnwys gwaith cynllun a gwaith wedi'i eithrio yn unig, nid oes angen cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu.

Gallwch gadarnhau’r mathau o waith adeiladu a wneir o dan gynlluniau person cymwys. Gofynnwch i ddarparwr y cynllun a yw'r cynllun yn cynnwys gwaith adeiladu ar adeiladau risg uwch.

Gwneud cais i adeiladu adeilad risg uwch newydd

Sut i wneud cais:

Dylai'r cleient neu rywun sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran gyflwyno a rheoli'r cais rheolaeth adeiladu trwy'r awdurdod rheolaeth adeiladu.

Gallwch ddarllen y canllawiau ynghylch paratoi gwybodaeth ar gyfer cais cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu. Mae'n disgrifio'r wybodaeth a'r dogfennau y bydd angen i chi eu cyflwyno ar gyfer eich cais.

Edrychwch faint o geisiadau  sydd eu hangen arnoch:

Un cais sydd ei angen ar gyfer:

  • unrhyw adeilad risg uwch nad yw wedi'i gysylltu ag adeilad arall
  • nifer o adeiladau risg uwch sydd wedi'u cysylltu â'i gilydd gan bodiwm a rennir neu fan gyffredin, fel maes parcio, rhodfa neu wahanfur

Ar gyfer prosiectau cymhleth sydd ag adeiladau sydd wedi'u rhannu'n sawl rhan gysylltiedig, efallai yr hoffech ofyn am 'gais fesul cam'. Dyma pryd mae'r gwaith adeiladu yn cael ei rannu'n wahanol gamau ac mae'n caniatáu i chi:

  • fwrw ymlaen â'r prosiect mewn camau ar wahân
  • cyflwyno cynlluniau manwl ar gyfer pob cam cyn cael dechrau gweithio ar bob cam

Gallwch ddarllen mwy am Adeiladau newydd sy'n cael eu hadeiladu fesul cam yn y canllaw am baratoi gwybodaeth ar gyfer cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu. Mae'n esbonio'r broses ymgeisio fesul cam a'r wybodaeth y bydd angen i chi ei chyflwyno.

Cyn cyflwyno cais fesul cam, dylech holi'ch awdurdod rheolaeth adeiladu am gyngor.

Gwneud cais i wneud gwaith adeiladu ar adeilad risg uwch yn bod

Cyn i chi wneud cais, cadarnhewch fod angen cyflwyno cais. Peidiwch â chyflwyno cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith sy'n cynnwys gwaith eithriedig, gwaith cynllun person cymwys neu waith trwsio brys yn unig.

Sut i wneud cais:

Dylai'r cleient neu rywun sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran gyflwyno a rheoli'r cais rheolaeth adeiladu trwy'r awdurdod rheolaeth adeiladu.

Darllenwch y canllaw ynghylch paratoi gwybodaeth ar gyfer cais cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu. Mae'n disgrifio'r wybodaeth a'r dogfennau y bydd angen i chi eu cyflwyno ar gyfer eich cais.

Os oes angen help arnoch gyda'ch cais, gallwch gael cyngor gan gontractwr cymwys neu weithiwr rheolaeth adeiladu proffesiynol arall.

Edrychwch faint o geisiadau sydd eu hangen arnoch

Cyflwynwch un cais ar gyfer pob adeilad. Er enghraifft, cyflwynwch un cais os ydych chi:

  • yn breswylydd sy'n gwneud cais i wneud gwaith adeiladu ar eich cartref sydd mewn adeilad risg uwch
  • yn cynllunio i wneud gwaith adeiladu ar nifer o adeiladau risg uwch sydd wedi'u cysylltu â'i gilydd gan bodiwm a rennir, neu fan cyffredin
  • yn cynllunio i wneud gwahanol fathau o waith adeiladu fel rhan o un prosiect, megis newid diwyg mewnol yr adeilad a newid ei system chwistrellu

Categorïau o waith adeiladu

Mae gwaith adeiladu ar adeilad risg uwch sy'n bod yn cael ei ystyried yn waith categori A neu gategori B.

Os ydych chi'n gwneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu o dan y categori anghywir, bydd yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn debygol o wrthod eich cais.

Mae gwaith Categori A yn cynnwys o leiaf un o'r canlynol:

  • newid uchder neu led allanol yr adeilad
  • newid nifer y lloriau
  • newid y diwyg mewnol
  • newid nifer y fflatiau neu stafelloedd preswyl
  • gwaith ar waliau allanol
  • gwaith sy'n cynnwys mesurau diogelwch tân goddefol, fel deunyddiau sy'n gwrthsefyll tân
  • gwaith sy'n cynnwys mesurau diogelwch tân gweithredol, fel chwistrellyddion neu larymau
  • gwaith sy'n effeithio ar nifer neu led y grisiau neu lwybrau dianc eraill
  • gwaith ym mannau cyffredin yr adeilad, gan gynnwys unrhyw waith ar y wal allanol sy'n berthnasol

Mae gwaith yn cael ei ystyried yn waith categori B os nad yw'n bodloni unrhyw un o'r meini prawf ar gyfer gwaith categori A.

Gwaith trwsio brys ar adeilad risg uwch sy'n bod

Beth sy'n cyfrif fel gwaith trwsio brys

Yr enw ar waith adeiladu sy'n cael ei wneud i reoli risg frys i iechyd, diogelwch neu les pobl yn yr adeilad neu o amgylch yr adeilad, yw 'gwaith trwsio brys'.

Dyma enghreifftiau o pryd y gallai fod angen cynnal gwaith trwsio brys:

  • pan na ellir osgoi neu reoli'r risg drwy roi trefniadau rheoli dros dro ar waith
  • pan fydd y risg yn digwydd yn ystod gwaith adeiladu wedi'i gynllunio ac ni fyddai wedi bod yn rhesymol ei disgwyl, ei chanfod na'i hosgoi
  • pan fydd y risg yn digwydd am i gyfarpar neu beiriannau eraill yr adeilad yn torri 

Gellir gwneud gwaith trwsio brys ar unwaith i ddelio â risg frys. Ond bydd angen cyflwyno cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu i wneud gwaith adeiladu arall sydd ei angen i ddelio â'r broblem.

Ni ddylid cynnal gwaith trwsio brys i ddatrys problemau sydd wedi digwydd oherwydd diffyg rhagwelediad neu gynllunio ar ran y cleient neu gontractwr.

Os nad yw'r gwaith trwsio yn waith adeiladu neu os yw wedi'i eithrio, gallwch fwrw ymlaen â'i gynnal heb gymeradwyaeth yr awdurdod rheolaeth adeiladu.

Hysbysiadau gorfodi'r gwasanaeth tân ac achub (FRS)

Os ydych chi'n berson sy’n gyfrifol am adeilad, gall yr FRS gyflwyno hysbysiad gorfodi i chi o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Diogelwch Tân) 2005 os ydyn nhw o’r farn nad ydych wedi cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn neu unrhyw reoliad a wnaed drwyddo.

Er mwyn cydymffurfio â'r hysbysiad efallai y bydd angen i chi wneud rhywfaint o waith adeiladu. Mae'n annhebygol y bydd gwaith sydd ei angen i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi yn cael ei gyfrif fel gwaith trwsio brys gan na fyddai’n debygol o orfod cael ei wneud ar unwaith.

Efallai y bydd angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu i wneud y gwaith sydd ei angen i gydymffurfio â'r hysbysiad. Os felly, cysylltwch â'r FRS a gyflwynodd yr hysbysiad am effaith asesu cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar yr amserlen.

Dweud wrth yr awdurdod rheolaeth adeiladu am waith trwsio brys

Nid oes angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu cyn dechrau gwaith trwsio brys os nad yw’n ymarferol gwneud hynny. Ond rhaid rhoi gwybod i'r awdurdod rheolaeth adeiladu am y gwaith trwsio brys. Gwnewch hynny cyn gynted ag sy’n ymarferol resymol gwneud hynny ar ôl i'r gwaith trwsio ddechrau.

Pan fyddwch chi'n rhoi gwybod i'r awdurdod rheolaeth adeiladu am waith trwsio brys, rhaid i chi:

  • ddisgrifio'r gwaith trwsio
  • esbonio'r brys a pham nad oedd yn ymarferol gwneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu cyn gwneud y gwaith trwsio
  • disgrifio unrhyw fesurau sydd wedi'u rhoi ar waith i leihau'r risgiau brys nes bod y gwaith trwsio wedi'i orffen

Cyn gynted ag y bydd yn ymarferol resymol ar ôl i’r gwaith ddechrau, rhaid i chi anfon copi o hysbysiad trwsio brys at y person cyfrifol o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Diogelwch Tân) 2005. Rhaid i chi gadw hefyd gopi o fanylion y gwaith trwsio brys fel rhan o'r wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chadw am adeilad.

Bydd yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn asesu manylion y gwaith trwsio brys y byddwch wedi'u cyflwyno. Os yw'r awdurdod rheolaeth adeiladu yn penderfynu bod y gwaith:

  • yn bodloni'r meini prawf ar gyfer gwaith trwsio brys, bydd yn dweud wrthych beth i'w wneud nesaf
  • ddim yn bodloni'r meini prawf ar gyfer gwaith trwsio brys, yna ni chaiff y gwaith ei awdurdodi a bydd yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn penderfynu a oes angen iddo gymryd camau

Ar ôl cwblhau'r gwaith trwsio brys

Ar ôl ichi gwblhau'r gwaith trwsio brys, rhaid i chi wneud cais am dystysgrif unioni cyn gynted â phosibl. Gallwch wneud hyn trwy’r awdurdod rheolaeth adeiladu.

Mae pob awdurdod lleol yn cyhoeddi ffioedd am wneud cais am dystysgrif unioni

Ar ôl gwneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu

Asesu'r cais

Oni chytunir ar estyniad, bydd gan ar yr awdurdod rheolaeth adeiladu:

  • 12 wythnos i asesu cais ar gyfer adeilad risg uwch newydd
  • 8 wythnos i asesu cais ar gyfer adeilad risg uwch sy'n bod

Bydd yr amser sydd ei angen ar yr awdurdod rheolaeth adeiladu i asesu'ch cais yn dibynnu ar ansawdd y cais a chymhlethdod y gwaith.

Rhaid i chi beidio â dechrau unrhyw waith adeiladu nes bod y cais am reolaeth adeiladu wedi'i gymeradwyo.

Penderfynu ar gais

Cymeradwyo

Gallwch ddechrau ar y gwaith adeiladu yn unol â'r cynllun.

Cymeradwyo gyda gofynion

Gall gwaith adeiladu ddechrau fel y cynlluniwyd ar y rhannau o'r cais sydd wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu.

Peidiwch â dechrau gwaith adeiladu ar unrhyw rannau o'r cais os oes gofynion ynghlwm wrtho, nes bod yr awdurdod lleol yn fodlon eich bod wedi ateb y gofyniad.

Mae enghreifftiau o ofynion yn cynnwys yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn dweud wrthych i:

  • ddarparu gwybodaeth ychwanegol, megis planiau neu ragor o fanylion i esbonio agweddau penodol ar y cais
  • cyflwyno planiau diwygiedig i ddangos newidiadau ac i dawelu pryderon a godwyd gan yr awdurdod lleol
  • gohirio rhai agweddau ar y gwaith adeiladu nes y gallwch ddangos bod gofynion penodol wedi'u hateb

Gwrthod

Bydd cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu yn cael ei wrthod os bydd yn dangos na fydd y gwaith yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu. Bydd yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn dweud wrthych pam ei fod wedi gwrthod eich cais.

Bydd cais yn cael ei wrthod os nad yw'n gwneud y canlynol:

  • yn dangos digon o fanylion i brofi ei fod wedi cydymffurfio
  • dangos strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli cydymffurfiaeth

Peidiwch â dechrau gwaith adeiladu os gwrthodir y cais.

Gofyn am gael apelio yn erbyn penderfyniad ar gais

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad, gallwch ofyn am adolygiad. Bydd esboniad sut i ofyn am adolygiad wedi'i gynnwys yn llythyr y penderfyniad.

Os ydych chi'n dal i anghytuno â'r penderfyniad ar ôl yr adolygiad, gallwch apelio i Weinidogion Cymru

Cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu yn dod i ben

Os nad yw'r gwaith adeiladu wedi cyrraedd pwynt penodol o fewn 3 blynedd ar ôl gwneud y cais am gymeradwyaeth adeiladu, byddwch chi'n colli'r gymeradwyaeth ar gyfer y gwaith. Y 'cychwyn' yw'r enw ar y pwynt hwn ac fe'i diffinnir yn adran 46A o Reoliadau Adeiladu 2010.

Bydd angen i chi amcangyfrif y dyddiad cychwyn a hysbysu'r awdurdod rheolaeth adeiladu ohono pan fyddwch chi'n gwneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu.

Os oes angen help arnoch gyda'r dyddiad cychwyn, holwch gontractwr addas neu weithiwr rheolaeth adeiladu proffesiynol arall.

Rheoli gwaith adeiladu ar ôl ei gymeradwyo

Rhaid i chi gyflwyno'r rhybuddion hysbysiadau canlynol yn ystod y prosiect adeiladu.

  • rhybudd o fwriad i ddechrau ar y gwaith o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn dechrau
  • rhybudd cychwyn o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod yr ystyrir bod y gwaith wedi cychwyn 
  • hysbysiadau bod y gwaith adeiladu wedi cyrraedd pwyntiau penodol yn eich amserlen arolygu

Rheoli gwaith adeiladu fesul cam ar ôl ei gymeradwyo

Ar gyfer gwaith adeiladu fesul cam, cyflwynwch rybuddion a hysbysiadau ar wahân i'r awdurdod rheolaeth adeiladu ar gyfer pob cam o'r gwaith.

Newid y prosiect ar ôl ei gymeradwyo

Os caiff eich cais rheolaeth adeiladu ei gymeradwyo, gelwir y dogfennau a gyflwynwyd gennych fel rhan o'ch cais y 'dogfennau y cytunwyd arnynt'.

Rhaid i chi gydymffurfio â'r dogfennau y cytunwyd arnynt gydol y gwaith adeiladu. Gelwir unrhyw newid i ddogfen y cytunwyd arni yn 'newid a reolaethir'. Rhaid ichi:

Rhaid i chi ddweud wrth yr awdurdod rheolaeth adeiladu os bydd:

  • y cleient, y prif ddylunydd neu'r prif gontractwr yn newid
  • manylion cyswllt sy'n gysylltiedig â'r cais yn newid, gan gynnwys y cyfeiriad e-bost rydych yn ei ddefnyddio i gael gweld y cais ar-lein
  • newidiadau 'hysbysadwy' neu 'fawr' i'r prosiect

Os ydych chi am wneud newid mawr, rhaid i'r gwaith adeiladu stopio ar y rhan honno o'r prosiect nes bod yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn rhoi cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer y newid.

Darllenwch y canllaw am wneud newidiadau i brosiect adeiladu risg uwch. Mae'n dweud wrthych:

  • beth yw newidiadau hysbysadwy a mawr
  • am y broses rheoli newid
  • sut i gyflwyno newidiadau i’r awdurdod rheolaeth adeiladu 

Tystysgrifau cwblhau

Pan fydd gwaith adeiladu wedi'i gwblhau, rhaid i chi wneud cais am dystysgrif cwblhau. Os cyflwynoch chi strategaeth cwblhau rhannol fel rhan o'ch cais, rhaid i chi ofyn am dystysgrifau cwblhau rhannol yn unol â'r strategaeth.

Bydd yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn rhoi tystysgrif cwblhau i chi os bydd yn fodlon bod y gwaith yn bodloni'r holl reoliadau adeiladu perthnasol.

Darllenwch y canllaw ynglŷn â gwneud cais am dystysgrif gwblhau. Mae'n dweud wrthych:

  • sut i wneud cais am dystysgrif cwblhau llawn neu rannol
  • y dogfennau y bydd angen i chi eu cyflwyno wrth wneud cais am dystysgrif

Ffioedd

Mae pob awdurdod lleol yn cyhoeddi ei ffioedd am wneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu.