Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 21: Hysbysu am ddigwyddiadau pwysig
Llais y Plentyn: Os oes rhywbeth pwysig yn digwydd, mae'r bobl yn fy lleoliad yn dweud wrth fy nheulu a'r bobl sy'n gwirio fy lleoliad. Mae pawb wedyn yn gwybod beth sy'n digwydd ac mae'n helpu i fy nghadw i'n ddiogel.
Deilliant Lles: Bod plant yn cael eu diogelu drwy roi gwybod i'r awdurdodau perthnasol yn brydlon am ddigwyddiadau pwysig neu newidiadau i'r sefydliad.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
Achosion sy'n codi
21.1 Bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod am y pethau canlynol yn syth, yn unol â’r rheoliadau (Rheoliad 31, Atodlen 4), mewn perthynas â digwyddiadau pwysig:
- Achos yn y fangre berthnasol o unrhyw glefyd heintus sydd, ym marn unrhyw feddyg cofrestredig sy'n ymweld â phlentyn neu rywun arall yn y fangre, yn ddigon difrifol i roi gwybod amdano, neu o unrhyw anaf difrifol, salwch difrifol neu farwolaeth unrhyw blentyn neu berson arall yn y fangre.
- Unrhyw honiad o anaf difrifol y mae unrhyw berson sy'n gofalu am blant perthnasol yn y fangre, neu unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre, wedi'i achosi i blentyn, neu o unrhyw gamdriniaeth yr honnir ei bod wedi digwydd yn y fangre.
- Unrhyw ddigwyddiad arall sy'n debygol o effeithio ar addasrwydd y person cofrestredig i ofalu am blant, neu addasrwydd unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre i ddod i gysylltiad rheolaidd â phlant.
- Unrhyw ddigwyddiad pwysig arall sy'n debygol o effeithio ar les unrhyw blentyn yn y fangre.
Achosion gweinyddol
21.2 Bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod am y pethau canlynol yn syth, yn unol â’r rheoliadau (Rheoliad 31, Atodlen 4):
Yn achos gwarchod plant:
- Enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill, dyddiad geni a chyfeiriad cartref unrhyw berson newydd sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol neu unrhyw berson newydd sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre honno.
Unrhyw newid yn y math o ofal a ddarperir gan berson cofrestredig neu yn yr oriau y darperir gofal ynddynt.
Yn achos gofal dydd:
- Enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill, dyddiad geni a chyfeiriad cartref unrhyw berson newydd â chyfrifoldeb, unrhyw un newydd sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol, unrhyw un newydd sy'n byw yn y fangre honno, neu unrhyw un newydd sy'n gweithio ar yr un pryd ag y gofelir am y plant neu yn yr un rhan o'r fangre.
- Os darperir y gofal dydd gan bwyllgor neu gorff corfforaethol neu anghorfforedig, enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill, dyddiad geni a chyfeiriad cartref Cadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd newydd, neu rywun arall newydd sydd â swydd debyg yn y sefydliad.
- Unrhyw newid yn enw neu gyfeiriad cartref y person cofrestredig neu unrhyw un o'r unigolion a ddisgrifir uchod.
- Unrhyw newid yn enw neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu'r brif swyddfa, os mai sefydliad yw'r person cofrestredig.
- Unrhyw newid yn y cyfleusterau a gaiff eu defnyddio yn y fangre berthnasol, gan gynnwys newidiadau o ran nifer yr ystafelloedd, eu swyddogaethau, nifer y toiledau a'r basnau ymolchi, unrhyw gyfleusterau ar wahân i weithwyr sy'n oedolion a'r cyfleusterau parcio ceir.
Yn achos gwarchod plant a gofal dydd:
21.3 Os oes newidiadau i'r oriau gweithredu fel y'u darparwyd i Arolygiaeth Gofal Cymru neu os yw'r gwasanaeth wedi'i gau'n barhaol.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
