Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw i Rieni 

Mae'r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth ynghylch effaith bosibl gwahanu arnoch chi a'ch plentyn, a sut y gall newidiadau bach arwain at ganlyniadau cadarnhaol i bawb. Mae'n helpu teuluoedd i ddeall beth sydd ei angen fwyaf ar blant wrth gynllunio amser gyda rhieni sydd wedi gwahanu a pherthnasau pwysig eraill. 

Mae'n canolbwyntio ar ddulliau rhianta cadarnhaol sy'n helpu plant i deimlo'n ddiogel, ac yn hyderus bod rhywun yn gwrando arnynt, a'u caru drwy'r canlynol: 

  • Deall anghenion eich plentyn – edrych ar yr hyn sy'n helpu'ch plentyn i deimlo'n ddiogel ac wedi'i gefnogi yn emosiynol, gyda syniadau ymarferol i wella llesiant.
  • Siarad â'ch plentyn – dysgu ffyrdd o esbonio newidiadau yn glir ac yn addfwyn, gwrando ar eu teimladau ac ymateb gyda dealltwriaeth, caredigrwydd, tosturi ac empathi.

Mae'r ymgyrch rhianta cadarnhaol a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, sef Magu plant. Rhowch amser iddo yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni â phlant hyd at deunaw oed ar bob agwedd ar fagu plant. 

Er ein bod yn cyfeirio at rieni sydd wedi gwahanu yn y canllaw yma, mae hefyd yn ddefnyddiol i deuluoedd sy'n mynd drwy'r profiad o wahanu ar hyn o bryd.

Gallwch ddefnyddio'r canllaw yma yn eich amser eich hun. Bydd rhai adrannau yn arbennig o berthnasol i'ch sefyllfa. Fe welwch hefyd ddolenni yn cyfeirio at lawer o sefydliadau defnyddiol i gael cymorth a chefnogaeth ychwanegol.

Efallai y byddwch chi'n teimlo nad oes gennych fawr o reolaeth dros y gwrthdaro, ond gall y ddau riant gymryd camau cadarnhaol a rhagweithiol i leihau ei effaith ar eich plant. Mae'r canllaw hwn yn cynnig syniadau ymarferol ar gyfer rheoli anghytundebau ac emosiynau cryf, ac ar gyfer cefnogi eich plant mewn ffordd gadarnhaol wrth iddynt ymdopi â gweld eu rhieni yn gwahanu. 

Os ydych chi wedi profi ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol, trais, cam-drin domestig a/neu drais rhywiol yn y gorffennol, neu'n dioddef ar hyn o bryd, gweler tudalennau 11-13 am fwy o wybodaeth a chymorth. 

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol bod gwrthdaro rhwng rhieni yn niweidiol i iechyd meddwl a llesiant meddyliol ac emosiynol plant, ond gall fod yn fwy tebygol o ddigwydd wrth i rieni wahanu neu ysgaru. Mae gweld rhieni'n gwahanu yn cael ei ystyried yn brofiad niweidiol yn ystod plentyndod, ac yn ffynhonnell bosibl o drawma, ond nid oes angen i hynny ddigwydd. Bwriad y canllaw yma yw helpu rhieni sy'n gwahanu neu sydd wedi gwahanu i ddeall beth sydd ei angen ar eu plant; sut i leihau gwrthdaro; y potensial ar gyfer trawma; a sut i gyfathrebu mewn ffordd iachach.

Gall y broses o wahanu deimlo fel siwrnai annisgwyl ac anodd. Bydd gobeithion ar gyfer y dyfodol yn newid, ac efallai y byddwch chi a'ch plentyn yn teimlo'n ansicr ynglŷn â'r hyn sy'n dod nesaf. Bydd bywyd eich plentyn hefyd yn newid, a gall y ffordd yr ydych chi a'r rhiant arall yn ymddwyn tuag at eich gilydd wneud y newid hwn yn haws iddynt. Mae hyn yn bwysig gan fod penderfyniadau am drefniadau byw, yr amser y bydd yn ei dreulio gyda phob rhiant, a gwrthdaro parhaus gael effaith ddofn ar blant.

Er bod y broses o addasu i fywyd ar wahân yn setlo yn y pen draw, bydd eich taith gydol oes fel rhiant yn parhau. Y prif newid yw eich perthynas â'r rhiant arall, gan symud o fod yn bartneriaid i fod yn gyd-rieni. Gall hyn fod yn heriol yn emosiynol i chi a'ch plentyn, ond bwriad y canllaw hwn yw eich helpu i symud tuag at berthynas dawelach, fwy cydweithredol, gan wella eich iechyd meddwl a'ch llesiant meddyliol ac emosiynol.

Wyddech chi? 

Yng Nghymru bu’r Athro Gordon Harold, seicolegydd plant, yn ymchwilio i effeithiau gwrthdaro rhwng rhieni ar blant. Canfu’r gwaith hwn mai’r ffordd orau i rieni helpu plant drwy’r broses wahanu neu ysgaru yw eu sicrhau nad nhw sydd ar fai. Hyd yn oed os oes gwrthdaro ynglŷn â’r plant, mae angen dweud yn glir wrthynt nad nhw sydd ar fai ac nad eu cyfrifoldeb nhw ydy dod o hyd i atebion na cheisio stopio’r gwrthdaro. Y rheswm am hyn yw mai’r plant sy’n teimlo’n gyfrifol yw'r rhai sy’n dioddef fwyaf, a gall hyn effeithio ar weddill eu bywydau. Fodd bynnag, gall rhieni wneud llawer eu hunain drwy guddio eu gwrthdaro oddi wrth eu plentyn a sicrhau bod y plentyn yn deall nad yw ar fai ac nad yw’n gyfrifol am ddod o hyd i atebion.

“Rheolau’r Ffordd Fawr” 

Wrth ichi fynd drwy’r canllaw hwn, fe welwch amrywiol syniadau a all wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd eich plentyn. Dyma’r rhai pwysicaf:

  1. Ceisiwch beidio â dadlau o flaen eich plentyn na gofyn i'r plentyn ddewis ochrau.
  2. Meddyliwch am yr hyn y gallwch chi ei wneud, nid beth y dylai rhiant arall eich plentyn ei wneud neu beidio ei wneud.
  3. Derbyniwch y gallai teimladau eich plentyn fod yn wahanol i'ch rhai chi. 
  4. Canolbwyntiwch ar yr hyn sydd wedi gweithio, nid ar yr hyn sydd heb weithio. 
  5. Cofiwch, gall camau bach arwain at newidiadau mawr. 
  6. Edrychwch ar eich ôl eich hun a byddwch y rhiant gorau posibl.

Gwahanu neu Ysgaru: Dull Rhianta Cadarnhaol

Gall gwahanu effeithio ar deuluoedd am amser hir, ac mae'n aml yn cynnwys sawl elfen, cyfreithiol, emosiynol, ariannol ac, yn bwysicaf oll, magu plant.

Yr Ochr Gyfreithiol

  • Mae'r broses gyfreithiol yn dod â phriodas neu bartneriaeth i ben neu'n pennu trefniadau ar gyfer eich plentyn.
  • Nid yw’n ymwneud â phwy sydd ar fai nac yn cosbi’r rhiant arall.
  • Gall mynd drwy’r llysoedd achosi straen, bod yn gostus a chymryd llawer o amser.
  • Os ydych yn ei chael yn anodd cyfathrebu, ond yn dymuno cydweithio,
    gallai gwasanaeth cyfryngu eich helpu i gytuno ar drefniadau heb fynd i'r llys.

Gwahanu'n Emosiynol

  • Pan fyddwch yn gwahanu, rydych yn debygol o brofi teimladau o golled, ni waeth pwy wnaeth y penderfyniad.
  • Gall emosiynau fod yn anodd eu rhagweld, a'ch llethu.
  • Gall hefyd ail-sbarduno trawma, yn enwedig os wnaeth eich rhieni chi wahanu pan oeddech yn blentyn.
  • Efallai y byddwch yn ei chael hi'n anodd meddwl yn glir neu'n rhesymol.
  • Mae angen amser ar rieni a phlant i addasu i'r newidiadau.

Mae dod â pherthynas i ben a dysgu sut i fagu plant ar y cyd yn gallu bod yn heriol. Gall emosiynau cryf ei gwneud hi'n anodd meddwl yn rhesymol neu wneud y penderfyniadau gorau i chi a'ch plant. Wrth ddod â pherthynas i ben, bydd yna densiynau a phroblemau cyfathrebu yn aml, ond mae’r canllaw hwn yn rhoi cyngor ichi ar sut i ddeall a rheoli eich emosiynau.

Os bydd eich emosiynau yn eich llethu, gallech ofyn i’ch meddyg teulu am help.

Ysgaru neu Wahanu'n Ariannol

Gall gwahanu gael effaith ariannol am gyfnod hir. Efallai y byddwch wedi gorfod:

  • Rhannu arian ac eiddo.
  • Gwerthu cartref y teulu.
  • Dod o hyd i gartref newydd.
  • Rhoi trefn ar ddyledion.
  • Addasu blaenoriaethau ariannol gan olygu bod llai o incwm gwario ar gael.

Gall rhai pobl gytuno ar gyllid yn hawdd, ond i eraill mae’n gallu bod yn anodd, a chreu straen. Peidiwch â chynnwys eich plentyn mewn sgyrsiau am daliadau cynhaliaeth plant neu incwm. Os ydych chi'n cael trafferth dod i gytundeb, gall cyfreithiwr neu gyfryngwr helpu. Mae cyfryngu yn eich annog i ddatrys problemau ar y cyd, er mwyn i chi gytuno ar drefniant sy'n teimlo'n deg i'r ddau ohonoch chi.

Yr Ochr Rhianta

  • Er nad ydych yn bartneriaid bellach, mae’r ddau ohonoch yn dal i fod yn rhieni.
  • Mae plant yn ymdopi orau pan nad oes llawer o wrthdaro, a phan y gallant barhau i gynnal perthynas gyda'r ddau riant a’u teuluoedd estynedig.
  • Nid oes angen i chi fod yn ffrindiau gyda'ch cyn-bartner, dim ond eu trin yn barchus a gallu trafod anghenion eich plentyn yn synhwyrol.
  • Gall canolbwyntio ar eich plentyn, gwrando ar eu barn a'u dymuniadau, a bod yn agored i newidiadau cadarnhaol wneud gwahaniaeth mawr i'w profiad o'r gwahanu.

Gadewch i blant fod yn blant

Mae ymchwil yn dangos y gall y ffordd y mae rhieni yn siarad â'u plentyn am y gwahanu, a'r ffordd maen nhw'n eu cynnwys mewn penderfyniadau yn ystod ac ar ôl y gwahanu, effeithio ar sut maen nhw'n addasu. Mae'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn dweud eu bod am barhau i weld y ddau riant ar ôl y gwahanu. 

Mae gwahanu yn anodd i bawb. Efallai y byddwch am amddiffyn eich plentyn trwy guddio pethau oddi wrthynt, ond mae plant yn aml yn teimlo'n ddi-rym ac yn ddryslyd os nad ydynt yn gwybod beth sy'n digwydd. Esboniwch bethau mewn ffordd syml sy'n briodol i'w hoedran, a dim ond os yw'r wybodaeth am bethau a fydd yn effeithio arnyn nhw. Efallai y bydd plant yn meddwl mai eu bai nhw yw'r gwahanu. Dylai'r ddau riant dawelu eu meddwl, fwy nag unwaith os oes angen, nad ydynt ar fai.

Mae'n naturiol eisiau lleddfu eu poen gyda danteithion neu anrhegion, ond gallai hynny eu dysgu bod tristwch yn arwain at gael eu "difetha." Yn hytrach, helpwch nhw i fynegi eu teimladau mewn ffyrdd iach. Dywedwch wrthynt ei bod yn iawn teimlo'n drist, a'ch bod chi weithiau'n teimlo'n drist hefyd, ond esboniwch y bydd y teimlad hwn yn pasio.

Nid oes angen i blant wneud penderfyniadau, ond mae angen iddynt deimlo bod rhywun yn gwrando arnynt a'u bod yn cael eu cynnwys. Gwrandewch ar yr hyn maen nhw ei eisiau a dywedwch y byddwch chi'n ystyried eu teimladau, hyd yn oed os na allwch chi roi popeth iddyn nhw. Efallai y byddant hefyd yn poeni y gallech chi eu gadael nhw, yn union fel y gwnaethoch adael eich gilydd. 

Tawelwch eu meddyliau gan ddweud hyd yn oed os ydy rhieni yn stopio caru ei gilydd, bod y cariad sydd gennych at eich plentyn yn para am byth, a'i bod yn iawn iddyn nhw garu'r ddau riant heb orfod cymryd ochrau.

Beth mae plentyn ei angen

Pan fydd plant yn gweld neu'n clywed rhieni yn dadlau, gall fod yn anoddach iddyn nhw ymdopi â'r gwahanu. Mae angen iddyn nhw fod yn dawel eu meddwl nad ydynt yn cael eu dal yn y canol. Gallwch eu helpu trwy ddangos ffyrdd cadarnhaol, iach o ymdrin â gwrthdaro. Yn gyffredinol, gall plant ymdopi'n well â newid pan nad yw'n digwydd yn rhy sydyn, a phan fyddant yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Gall cael eu lle eu hunain a threfniadau cyfarwydd yn y ddau gartref eu helpu i deimlo'n ddiogel.

Bydd rhai plant yn ceisio ysgwyddo cyfrifoldebau oedolion, a bydd yn ymddangos eu bod yn ymdopi'n dda, ond gallai hyn effeithio arnynt yn ddiweddarach mewn bywyd. Wrth i chi ddechrau teimlo'n well ar ôl y gwahanu, efallai y bydd eich plentyn yn ymddangos yn fwy gofidus. Gadewch iddyn nhw fod yn blant a dywedwch ei bod hi'n iawn iddyn nhw deimlo'n flin. Efallai y bydd rhai yn dangos ymddygiad iau am gyfnod byr fel ffordd o geisio cael cysur a sicrwydd. Mae hyn yn normal ac yn ymateb dros dro i newid.

Gall plant gael ymdeimlad cryf o golled. Gall neiniau a theidiau, perthnasau a ffrindiau weithiau roi cysur a sefydlogrwydd iddynt. Siaradwch â'ch plentyn am gadw mewn cysylltiad â phobl bwysig yn eu bywyd, yn enwedig os ydych chi'n symud cartref. Os oes angen, siaradwch â'u hathrawon neu'ch meddyg teulu am gymorth neu gwnsela ychwanegol. 

Mae nhw angen:

  • Lle i fedru ymbellhau oddi wrth wrthdaro eu rhieni. 
  • Cael trefn ragweladwy gyda ffiniau cyson o fewn yr un cartref. 
  • Gwybod bod ganddynt ddau gartref lle maent yn perthyn. 
  • Gallu cadw mewn cysylltiad â’u teulu estynedig fel neiniau a theidiau, modrybedd, ewythrod a chefndryd a chyfnitherod. 
  • Cael mynediad at fathau eraill o gymorth os ydynt yn dymuno hynny neu angen hynny. 
  • Cael gobaith ar gyfer y dyfodol. 
  • Yn anad dim, cael hawl i fod yn blentyn. 

Siarad â'ch plentyn

Gall fod yn anodd dweud wrth eich plentyn eich bod yn gwahanu, ond mae perygl y gallai ei adael tan y funud olaf fod yn sioc iddyn nhw. Mae rhoi amser iddynt baratoi yn eu helpu i ymdopi â'r newidiadau sydd o'n blaenau. Gall oedi'r sgwrs fod yn demtasiwn ar y dechrau gan ei bod yn ddigon anodd ichi ddelio â’ch teimladau a’ch emosiynau eich hun, ond mae'n bwysig bod yn agored gyda'ch plentyn.

Pan fyddwch yn siarad â nhw, ceisiwch ateb eu cwestiynau mor onest ac mor syml ag y gallwch, a gwneud yn siŵr eich bod yn rhoi digon o amser i hyn, fel nad oes neb yn cael ei ruthro. Eglurwch eich bod chi'n gwahanu neu'n ysgaru, ond bod y ddau ohonoch chi'n dal i'w caru, ac nad oes unrhyw fai arnynt.

Os yw'n bosibl, dywedwch wrthynt gyda'ch gilydd fel rhieni. Anogwch nhw i rannu eu teimladau, ond rhaid i chi ddeall efallai na fyddant eisiau siarad ar unwaith, gadewch iddyn nhw wybod y byddwch chi yno pan fyddant yn barod. 

Efallai y bydd rhai o'r awgrymiadau hyn yn rhywbeth i chi eu hystyried nawr:

  1. Esboniwch i'ch plentyn beth sy'n digwydd a pwysleisiwch nad oes bai arnynt. 
  2. Addaswch y drafodaeth yn ôl oedran a dealltwriaeth eich plentyn. 
  3. Rhowch wybod iddyn nhw y gallant siarad â chi am unrhyw beth sy'n eu poeni neu'n achosi pryder iddyn nhw ar unrhyw adeg. 
  4. Byddwch yn barod i wrando a siarad â nhw am unrhyw deimladau. 
  5. Peidiwch â gofyn na disgwyl i'ch plentyn ddewis ochrau. 
  6. Cofiwch ymddwyn yn barchus, a pheidiwch â dadlau, gwneud sylwadau diangen neu golli eich tymer o flaen eich plentyn.

Cofiwch: mae eich perthynas fel cwpl yn dod i ben, ond mae eich perthynas fel rhieni yn parhau.

Gwrando ar eich plentyn ar ôl gwahanu

Mae gwahanu yn anodd yn emosiynol anodd i rieni a phlant. Mae plant yn aml yn sylwi ar eich straen neu'ch pryder, a all ei gwneud hi'n anoddach gwrando arnynt. Ond trwy wrando'n agored ar eich plentyn, gallwch ddeall yn well beth sy'n eu poeni.

Gall eich teimladau eich hun fod yn gymysgedd o dristwch, dicter a phryder. Gall yr emosiynau hyn ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio ar anghenion eich plentyn. Efallai bod eu teimladau fod yn wahanol iawn i'ch rhai chi, a gall eich ymateb effeithio'n fawr ar eu llesiant.

Er mwyn eich helpu i gefnogi eich plentyn, gall fod yn werthfawr datblygu eich parodrwydd emosiynol, cydnabod eich teimladau, eu rhoi o'r neilltu am eiliad, a gwrando o ddifrif. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall beth sydd ei angen arnynt fwyaf.

Cam 1: Deall eich teimladau eich hun

Mae’n gyffredin iawn i deimlo amrywiaeth o emosiynau wrth ichi wahanu, er enghraifft, pryder, dicter, tristwch, ofn neu deimlo’n ddi-rym. Gall yr emosiynau hyn fod yn llethol, ac nid yw eu hanwybyddu yn gwneud iddynt ddiflannu. Ceisiwch gofnodi eich teimladau. Gall eu labelu eich helpu i deimlo mwy o reolaeth, a'ch helpu i'w cadw o dan reolaeth wrth wrando ar eich plentyn.

Cam 2: Pwyllo a defnyddio sgiliau gwrando

Mae pwyllo a pheidio â chynhyrfu yn eich helpu i reoli eich emosiynau a chanolbwyntio ar eich plentyn. 
Ewch i'r arfer o wrando, hyd yn oed yn ystod sgyrsiau bob dydd gyda'ch plentyn. Ceisiwch weld pethau o safbwynt y plentyn, gan osgoi neidio i mewn yn rhy gyflym gydag atebion. Rhowch le iddynt fynegi eu hunain.

Cam 3: Cysurwch eich plentyn

Efallai y bydd y plentyn yn teimlo'n ddi-rym, felly mae'n bwysig cysuro. Dylech fod yn:

  • Realistig – peidiwch ag addo mwy na'r hyn rydych chi'n gwybod y gallwch ei wneud.
  • Ymarferol – esboniwch yn glir sut y bydd pethau'n gweithio.
  • Onest a pharhaus – os oes rhai pethau nad ydych chi'n gwybod eto, dywedwch hynny a dewch yn ôl at y sgwrs pan fydd rhagor o wybodaeth.

Siaradwch am yr hyn na fydd yn newid, fel cysylltiadau, ysgol, ffrindiau, trefn arferol. Esboniwch y newidiadau posibl a sut y byddwch chi'n eu cefnogi. Ceisiwch gytuno ar gynlluniau ar gyfer cysylltiad â'r rhiant arall ac aelodau pwysig o'r teulu, a glynwch wrth y cynlluniau hynny. Ceisiwch gynnwys eich plentyn mewn penderfyniadau lle bo hynny'n briodol a chadwch at eich addewidion.

Awgrymiadau Defnyddiol

  • Helpwch eich plentyn i labelu teimladau. Gall hynny wneud i emosiynau mawr deimlo'n fwy o fan reolaeth.
  • Sylwch ar iaith gorfforol ac ymddygiad y plentyn; awgrymwch yn ysgafn beth y gallai fod yn teimlo.
  • Tawelwch eu meddwl bod eu teimladau'n normal.
  • Chwiliwch am arwyddion o drallod fel newidiadau ymddygiad, anawsterau yn yr ysgol, neu fod yn anarferol o dawel.
  • Os bydd sgyrsiau yn dod i ben yn sydyn, efallai bod ganddyn nhw fwy i'w ddweud.
  • Os oes angen, gofynnwch am gymorth gan eich meddyg teulu, cwnselydd ysgol, neu weithiwr iechyd proffesiynol arall.

Cael sgyrsiau defnyddiol gyda’ch cyn-bartner

Gall sgyrsiau anodd deimlo weithiau fel troi a throi mewn cylchoedd. Gall hyn achosi straen a sbarduno emosiynau sy'n ei gwneud hi'n anodd meddwl yn glir. Gall defnyddio'r technegau isod eich helpu i bwyllo, cyfathrebu'n fwy cadarnhaol, a chreu canlyniadau gwell i chi a'ch teulu.

1. Lleihau straen cyn iddo waethygu

  • Ymlaciwch eich ysgwyddau.
  • Anadlwch yn ddwfn ac yn araf er mwyn helpu eich corff i ymdawelu.
  • Os bydd pethau'n dechrau poethi, awgrymwch gymryd seibiant byr.
  • Os nad yw'r naill na'r llall ohonoch yn gallu ymdawelu, dylech stopio'r sgwrs a chytuno ar amser gwell a lle niwtral i siarad (heb eich plentyn os yw hynny'n bosibl).

2. Gwrando 

  • Gwrandewch yn astud; po fwyaf y byddwch chi'n gwrando, y mwyaf y byddwch chi'n ei ddeall.
  • Canolbwyntiwch yn llwyr, heb ddim arall i dynnu eich sylw.
  • Dangoswch barch, a byddwch yn fwy tebygol o gael eich parchu.
  • Gadewch seibiannau, yn hytrach na neidio i mewn.
  • Ceisiwch beidio â chynhyrfu, hyd yn oed os nad ydych yn teimlo yn dawel y tu mewn.

3. Ymateb yn dawel ac yn glir

  • Byddwch yn glir, cadwch at y pwnc dan sylw, a siaradwch yn barchus.
  • Ceisiwch osgoi torri ar draws neu newid y pwnc.
  • Gofynnwch gwestiynau i ddeall safbwynt y person arall.

4. Hawlio perchnogaeth o'ch geiriau eich hun

  • Defnyddiwch ddatganiadau o'ch safbwynt eich hun i fynegi eich meddyliau a'ch teimladau.
  • Canolbwyntiwch ar yr hyn rydych chi wedi'i sylwi neu'r hyn sydd ei angen arnoch chi, nid rhagdybiaethau am y person arall.

5. Defnyddiwch dull syml o fynegi eich hun

  • Disgrifiwch yr hyn a ddigwyddodd heb feio na beirniadu.
  • Dywedwch sut roedd hynny yn gwneud i chi deimlo.
  • Esboniwch beth sydd ei angen arnoch yn y dyfodol.

Trefnu amser gyda'r teulu

Dylai plant deimlo bod ganddynt gartref gyda’r ddau riant, ni waeth faint o amser maent yn ei dreulio gyda nhw. Disgwyliwch wrthwynebiad ganddyn nhw wrth iddynt addasu; peidiwch â defnyddio nhw fel negeseuwyr rhyngoch; a ceisiwch beidio â beirniadu, gweld bai, na chymharu’r ddau gartref.

Lle bynnag y bo'n bosibl ac yn ddiogel, mae angen i blant allu cael perthynas â'r ddau riant, heb ofyn iddynt gymryd ochr neu gael ffefrynnau. Fel rhiant, mae cyfrifoldeb arnoch i gefnogi perthynas eich plentyn â'r rhiant arall cyn belled â bod y berthynas honno'n ddiogel.

Mae plant yn wydn a gallant fyw gyda gwahanol reolau teuluol os ydyn nhw'n gwybod beth i'w ddisgwyl. Os bydd eich plentyn yn dweud pethau fel "Mae Mam yn gwneud hyn yn wahanol" neu "Dyw Dad ddim yn gwneud pethau fel 'na", atgoffwch nhw mai mater i'r rhiant yw gosod y ffiniau ac, er eich bod chi'n gwneud pethau'n wahanol, bod y ddau ohonoch yn eu caru a'i bod yn iawn cael rheolau gwahanol mewn gwahanol gartrefi. Dylech osgoi holi eich plentyn beth sy’n digwydd yn y cartref arall, gallai hynny deimlo fel petai’n cael ei groesholi. Pryd bynnag y bo modd, cyfathrebwch yn uniongyrchol â rhiant arall eich plentyn. Bydd rhoi gwybodaeth i blant am yr hyn sy’n digwydd a’r hyn i’w ddisgwyl yn gwneud iddynt deimlo’n fwy diogel.

Awgrymiadau cyd-rianta - Sicrhau bod amser gyda'r teulu yn gweithio i chi 

1. Canolbwyntiwch ar y plentyn. Cydweithiwch gan barchu'r rhiant arall, gan ganolbwyntio bob amser ar yr hyn sydd orau i'ch plentyn.

2. Byddwch yn hyblyg ac yn barod i gyfaddawdu. Gall cynlluniau newid, mae bod yn agored ac yn barod i addasu yn helpu pawb.

3. Cadwch unrhyw wrthdaro i ffwrdd oddi wrth eich plentyn. Cadwch unrhyw sgyrsiau anodd ar gyfer cyfnodau preifat ac ewch atynt yn dawel.

4. Ceisiwch ddeall teimladau eich gilydd. Efallai y bydd y rhiant y mae eich plentyn yn byw gyda nhw yn teimlo o dan bwysau, tra bod y rhiant arall efallai'n teimlo'n unig ac ar goll. Mae dangos empathi i'ch gilydd yn helpu i leihau tensiwn.

Technegau cyd‑rianta defnyddiol

  • Cyfathrebu'n gadarnhaol am anghenion eich plentyn, apwyntiadau, digwyddiadau ysgol, dathliadau, arferion.
  • Os yw'ch plentyn yn dweud rhywbeth sy'n sbarduno teimladau cryf ynoch, arhoswch yn dawel a pheidiwch ymateb yn negyddol, gan y gallai hynny eu rhoi yn y canol.
  • Os yw trosglwyddo'r plentyn o un i'r llall yn straen, ystyriwch y canlynol: 
    • dod ag oedolyn arall gyda chi;
    • cyfarfod mewn man cyhoeddus;
    • gofyn i ffrind neu aelod o'r teulu helpu;
    • defnyddio canolfan gyswllt os oes angen.
  • Os nad ydych yn teimlo'n ddiogel wrth drosglwyddo'r plentyn, efallai y bydd angen i chi ofyn am gyngor ynghylch a yw amser teuluol gyda'r rhiant arall yn ddiogel ac er budd eich plentyn.

Creu man diogel yn y ddau gartref

  • Rhowch le ei hun i'ch plentyn, os nad oes ganddynt eu hystafell eu hunain, gall drôr, silff neu gornel eu hunain eu helpu i deimlo eu bod yn perthyn.
  • Peidiwch â thrin eich plentyn fel ymwelydd yn eich cartref. Ceisiwch feithrin arferion a gweithgareddau teuluol newydd fel eu bod yn teimlo'n werthfawr ac yn ddiogel yn y ddau gartref.

Awgrymiadau ar gyfer gwell cyfathrebu ar ôl gwahanu neu ysgaru

  • Canolbwyntiwch ar yr hyn y gallwch chi ei reoli, nid ar y rhiant arall.
  • Ceisiwch reoli eich teimladau fel bod modd i chi ymateb yn dawel yn hytrach nag adweithio.
  • Cofiwch gadw anghenion eich plentyn wrth wraidd pob penderfyniad.
  • Edrychwch ar bethau o safbwynt eich plentyn.
  • Peidiwch â chanolbwyntio ar yr hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol, dewch o hyd i ateb cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.
  • Cofiwch fod profiad pobl o sefyllfaoedd yn wahanol. 

Mae magu plant yn heriol, ac ni allwch reoli na newid ymddygiad y rhiant arall, dim ond eich ymddygiad eich hun. Ond gall hyd yn oed newidiadau bach cadarnhaol gennych wneud gwahaniaeth mawr i'ch plentyn.

Os fyddwch yn teimlo tensiwn neu fod pethau'n eich llethu, rhowch le i chi'ch hun a dywedwch, "Mae angen amser arna i i feddwl am hyn." Bydd hyn yn eich helpu i ymdawelu ac osgoi dadleuon a allai gynhyrfu'ch plentyn. Os byddwch chi'n clywed sylwadau negyddol neu feirniadaeth gan y rhiant arall, ceisiwch beidio ag adweithio ar unwaith. Cymerwch amser i feddwl cyn ymateb. Os bydd y rhiant arall yn ymddwyn yn ymosodol o flaen eich plentyn, gofynnwch am gyngor ynghylch a yw amser teuluol yn ddiogel i'ch plentyn. 

Os na allwch fod gyda'ch plentyn

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd gweld eich plentyn yn rheolaidd oherwydd eich bod yn byw y tu allan i'r wlad neu ymhell, ceisiwch ddod i gytundeb â rhiant arall eich plentyn ar sut y byddwch chi'n cadw mewn cysylltiad, er enghraifft: 

Llythyrau 

  • Peidiwch ag anghofio ysgrifennu'n rheolaidd. 
  • Ar gyfer plant iau, dewiswch bapur deniadol, neu gelf cyfrifiadurol, sticeri, peniau lliw ac ati. 

Fideos/Negeseuon

• Recordiwch fideo ohonoch chi'ch hun yn gwneud pethau neu'n rhoi neges arbennig iddynt.

Galwadau ffôn/negeseuon testun/negeseua gwib

  • Cysylltwch yn rheolaidd ac ar amser.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwrando yn ogystal â siarad. 
  • Ceisiwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu hysgol a'u ffrindiau; os ydych chi'n ei chael yn anodd sgwrsio, rhannwch lyfr neu fideo gyda nhw a'i drafod ar y ffôn. Cadwch mewn cysylltiad â negeseuon testun neu lais rheolaidd.

Aros dros nos 

  • Pan fyddwch chi'n eu gweld, gwnewch eich cartref mor debyg i gartref teulu â phosibl, teganau, dillad ac ati. Ceisiwch sicrhau bod ganddynt eu lle eu hunain os yn bosibl. 

Penblwyddi ac achlysuron arbennig 

  • Cofiwch y dyddiau arbennig; gallwch eu gwneud yn fwy arbennig trwy fod yn feddylgar am y pethau rydych chi'n eu hanfon. Bydd cerdyn, llythyr neu neges hefyd yn dangos eich bod chi'n meddwl amdanynt.

Cofiwch fod cadw mewn cysylltiad rheolaidd yn helpu i gynnal perthynas gref, dda gyda'ch plentyn. 

Rheolaeth drwy orfodaeth, Trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Os oes trais neu gam-drin wedi digwydd, y flaenoriaeth yw eich cadw chi a'ch plentyn yn ddiogel. Mae camdriniaeth yn effeithio ar blant hyd yn oed os nad ydyn nhw'n ei weld neu'n ei glywed yn uniongyrchol. Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn cydnabod hyn trwy gyfrif plant fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain, waeth a oeddent yn bresennol yn ystod digwyddiadau treisgar ai peidio. 

Gall cam-drin ddigwydd ar sawl ffurf, ac nid yw bob amser yn hawdd ei adnabod. Gall ddigwydd unwaith neu dros gyfnod hir o amser. Gall gynnwys unrhyw un o'r canlynol: 

  • Cam-drin corfforol neu rywiol 
  • Ymddygiad treisgar neu fygythiol
  • Cam-drin economaidd fel cymryd neu reoli arian, atal rhag gweithio neu brynu pethau, neu greu dyledion yn eich enw
  • Cam-drin seicolegol, emosiynol neu o fath arall
  • Ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol sy'n eich ynysu, yn eich rheoli, neu'n cyfyngu ar eich rhyddid. 

Nid yw cam-drin domestig bob amser yn edrych yr un fath. Gall gynnwys gweithredoedd clir o drais, ond gall hefyd fod yn ymddygiad cynnil neu raddol sy'n cronni dros amser fel: 

  • Negeseuon ailadroddus neu ddiangen 
  • Bod yn or-genfigennus a meddiannol
  • Ymddangos heb wahoddiad neu anfon anrhegion digroeso 
  • Aflonyddu ar eich ffrindiau a'ch teulu
  • Eich atal rhag gweld ffrindiau a theulu
  • Beirniadaeth neu fychanu cyson
  • Difrod i eiddo 
  • Newid rhwng bod yn gariadus a bod yn greulon
  • Stelcio neu aflonyddu, fel cysylltiad digroeso yn barhaus, eich dilyn neu eich monitro, neu gam-drin ar-lein 
  • Gwneud i chi deimlo'n bryderus, yn ofnus, neu ar bigau'r drain drwy'r amser

Gall camdriniaeth barhau ar ôl i berthynas ddod i ben. Mae cam-drin ar ôl gwahanu yn cyfeirio at ymddygiad rheolaethol, gorfodaethol neu dreisgar sy'n parhau ar ôl gwahanu. Gall hyn gynnwys defnyddio trefniadau cyswllt plant i achosi ofn neu drallod. Os ydych chi, eich plentyn, neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael ei niweidio neu ei reoli gan bartner, cyn-bartner neu aelod o'r teulu, mae'n dioddef cam-drin domestig. Mae cydnabod hynny yn gam pwysig tuag at ddiogelwch a chefnogaeth. 

Cael Cymorth 

Gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn neu unrhyw un o'r sefydliadau yn yr adran cysylltiadau defnyddiol isod. Gallwch hefyd siarad â'ch meddyg teulu, gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr allweddol, neu ymwelydd iechyd.

Gall gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol arbenigol gynnig cymorth cyfrinachol, heb feirniadaeth i oedolion a phlant. Gallai hyn gynnwys: 

  • Lloches neu lety diogel: I'r rhai sydd angen gadael eu cartref i fod yn ddiogel. 
  • Cymorth yn y gymuned: Cymorth arbenigol i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y gymuned. 
  • Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig/Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (IDVA/ISVA): Mae Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig fel arfer wedi'u lleoli mewn lloches neu wasanaeth cymorth cam-drin domestig. Byddant yn gweithio gyda chi i asesu lefel y risg. Byddant yn helpu i drafod yr opsiynau sydd ar gael a datblygu cynlluniau diogelwch. Bydd hyn yn cynnwys camau ymarferol i'ch cadw chi a'ch plant yn ddiogel. Gallai hyn gynnwys sancsiynau a rhwymedïau sydd ar gael trwy'r llysoedd troseddol a sifil.

Diogelwch a Chyngor Cyfreithiol 

Os ydych chi neu'ch plentyn mewn perygl uniongyrchol, dylech ofyn am gymorth ar unwaith. Gallai hyn gynnwys gadael y cartref, ffonio gwasanaethau brys, neu gael mynediad i loches. Gall y Llinell Gymorth Byw Heb Ofn (0808 80 10 800) eich helpu i ddod o hyd i loches priodol. 

Os ydych chi wedi gadael y berthynas, gall y cam-drin barhau trwy drefniadau cyswllt, negeseuon, neu reolaeth barhaus. Os ydych chi'n poeni am ddiogelwch cyswllt plentyn neu'n teimlo dan bwysau neu'n ofnus, mae'n bwysig cael cyngor cyn gwneud unrhyw newidiadau. 

Gall cynghorydd cyfreithiol neu weithiwr cymorth arbenigol eich helpu i ddeall eich opsiynau a'r ffordd fwyaf diogel i'ch amddiffyn chi a'ch plentyn. Gallant hefyd esbonio pa fesurau diogelwch, gorchmynion llys, neu amddiffyniadau a allai fod ar gael trwy'r llysoedd troseddol neu sifil.

Os ydych chi'n poeni am blentyn

Os bydd plentyn yn siarad am niweidio ei hun, neu os nad yw'n hapus o gwbl yn yr ysgol, neu os ydych chi'n teimlo nad ydych yn gallu ymdopi, gofynnwch am help. Gallwch:

  • Siarad â'ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd.
  • Siarad ag ysgol eich plentyn.
  • Gweld cwnselydd.
  • Cysylltu â'ch gweithiwr cymdeithasol os oes gennych un.

Os ydych chi mewn sefyllfa lle rydych yn cael eich cam-drin, mae help ar gael. Mae gofyn am gymorth yn gam hanfodol i'ch cadw chi a'ch plentyn yn ddiogel. 

Gofalu amdanoch chi eich hun

Wrth fynd trwy gyfnodau heriol, mae'n bwysig neilltuo peth amser i gefnogi eich hun; 

  • Rhowch amser i orffwys, bwyta'n iach, ymarfer corff, a gwneud gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau. 
  • Defnyddiwch ffrindiau, ymarfer corff, neu grwpiau cymorth i helpu i reoli heriau anodd. 
  • Mae teimladau cryf fel dicter, tristwch, euogrwydd, neu deimlo eich bod wedi cael eich gwrthod yn normal wrth wahanu, ac mae siarad â ffrindiau neu deulu yn ffordd wych o wneud synnwyr o'r emosiynau hyn.
  • Ceisiwch osgoi cynnwys eich plentyn mewn unrhyw wrthdaro rhwng oedolion, neu eu defnyddio i fynegi dicter. 
  • Mae teimladau yn newid gydag amser. Bydd yr hyn sy'n teimlo'n llethol nawr yn lleddfu. 
  • Gall rhwydwaith cymorth da ac opsiynau fel cyfryngu eich helpu trwy gyfnod heriol.
  • Os oes angen help arnoch i brosesu'r emosiynau sy'n deillio o'r gwahanu, gallwch ofyn am gwnsela unigol neu deuluol.

Cwnsela

Gall cwnsela helpu os ydych chi'n teimlo eich bod “yn methu â symud” ar ôl colled. Gall:

  • Eich helpu i ddatrys emosiynau anodd neu gymysg.
  • Eich cefnogi yn ystod cyfnod o newid.
  • Rhoi lle i chi fynegi eich teimladau.
  • Helpu plant i siarad am eu teimladau a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Cwnsela i Unigolion

Mae cwnsela i unigolion yn eich helpu i ddeall eich problemau'n gliriach ac archwilio ffyrdd gwell o ymdopi. Mae cwnselwyr yn gwrando heb farnu ac yn eich cefnogi i ddod o hyd i'ch atebion eich hun; ni fyddant yn dweud wrthych beth i'w wneud. Mae sesiynau fel arfer yn para tua 50 munud, ac mae'r nifer sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Cwnsela i Deuluoedd

Gall cwnsela neu therapi teuluol helpu teuluoedd neu unrhyw grŵp o bobl mewn perthynas agos. Gallai hyn gynnwys rhieni, plant, brodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau, neu hyd yn oed ffrind agos i'r teulu. Mae'n digwydd mewn man diogel, cefnogol lle mae teuluoedd yn gweithio gyda'i gilydd i adeiladu ar eu cryfderau.
Mae'n helpu teuluoedd i gefnogi ei gilydd; cyfathrebu yn well; a helpu i ddatrys gwrthdaro gyda'i gilydd.

Cwnsela i Bobl Ifanc

Wrth i rieni wahanu neu ysgaru, efallai y bydd plant yn cuddio eu teimladau er mwyn osgoi achosi pryder i chi. Mae sesiynau cwnsela i bobl ifanc yn rhoi cyfle iddynt rannu eu pryderon yn ddiogel. Gallwch ofyn i ysgol eich plentyn eu cyfeirio at gwnselydd yn yr ysgol.

Cwnsela Mewn Ysgolion

Mae cwnsela mewn ysgolion yn cefnogi lles emosiynol, cymdeithasol a meddyliol disgyblion. Mae'n aml yn rhan o strategaeth ysgol ehangach i helpu pobl ifanc i deimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu cefnogi. Os ydych chi'n poeni am eich plentyn, gallwch siarad â'ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall, neu gallwch ofyn i ysgol eich plentyn am atgyfeiriad at gwnselydd yn yr ysgol.

Costau

Efallai y bydd angen i chi dalu am rai gwasanaethau cwnsela, ond mae'n bosibl y bydd eich meddyg teulu yn gallu eich cyfeirio at wasanaeth am ddim.

Partneriaid newydd

Ar ôl gwahanu, mae plant yn aml angen sylw ychwanegol a gallant deimlo dan fygythiad gan unrhyw berthynas newydd. Cyflwynwch unrhyw bartner newydd yn raddol, a dim ond pan fydd y berthynas yn un ddifrifol, gan y gall plant ffurfio ymlyniad yn gyflym. Cadwch y cyfarfodydd cyntaf yn fyr, gan dawelu meddwl eich plentyn os byddant yn teimlo'n genfigennus, yn bryderus neu'n glynu atoch.

Efallai y bydd eich partner newydd hefyd yn teimlo'n ansicr am yr amser rydych chi'n ei dreulio gyda'ch plentyn, ac efallai y bydd gennych deimladau am berthynas newydd eich cyn-bartner. Ym mhob achos, canolbwyntiwch ar yr hyn sydd orau i'ch plentyn.

Rhowch amser i'ch plant addasu cyn gwneud newidiadau mawr. Os ydych chi'n ystyried cydfyw, trafodwch beth fydd rôl y llys-riant, a chytunwch ar reolau'r tŷ, yn enwedig os oes gan y ddau bartner blant.

Teulu estynedig

Gall neiniau a theidiau a pherthnasau eraill fod yn ffynhonnell werthfawr o sefydlogrwydd a chymorth emosiynol i'ch plentyn. Efallai y byddant yn teimlo eu bod yn cael eu dal yn y canol os yw'r rhieni yn gwrthdaro, ond mae'n bwysig i'r plant allu cynnal y perthynas â nhw. Anogwch aelodau o'r teulu i osgoi cymryd ochrau neu siarad yn negyddol am y naill riant neu'r llall, gan y gallai hyn wneud i blant deimlo eu bod yn cael eu dal mewn gwrthdaro ehangach. Gall cynnal perthynas â theulu estynedig roi cysur, trefn a theimlad o berthyn i blant yn ystod cyfnodau o newid. 

Cyfryngu

Os ydych chi a rhiant arall eich plentyn yn ei chael hi'n anodd gwneud trefniadau sy'n gweithio i'ch plant, efallai yr hoffech ystyried gwasanaeth cyfryngu. Mae gwasanaeth cyfryngu teuluol yn helpu rhieni sydd wedi gwahanu i wneud trefniadau gyda'i gilydd mewn lleoliad diogel, teg. Mae'n canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion, nid penderfynu pwy sydd ar fai. Mae'r cyfryngwr yn niwtral ac yn cefnogi'r ddau riant i ddod i gytundeb sy'n gweithio i'r teulu cyfan. Cyn gwneud cais i'r llys am orchymyn trefniadau plant, rhaid i chi fel arfer fynychu Cyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu i ddysgu am gyfryngu.

Gall cyfryngu wella cyfathrebu, lleihau gwrthdaro, a'ch helpu i adeiladu perthynas rhianta gadarnhaol. Mae cyfryngu yn addas ar gyfer pobl sydd:

  • Yn cael trafferth siarad yn uniongyrchol â'r rhiant arall.
  • Eisiau gwella'r cyfathrebu.
  • Eisiau osgoi'r llys
  • Eisiau lleihau gwrthdaro.
  • Eisiau ystyried barn eu plentyn yn deg.

Efallai na fydd yn addas i bawb, er enghraifft y rhai sydd wedi profi trais, camdriniaeth neu drais rhywiol. 

Beth allwch chi ei drafod mewn sesiwn gyfryngu?

Gall y pynciau trafod gynnwys:

  • Trefniadau cyswllt a faint o amser y mae'r plentyn yn ei dreulio gyda phob rhiant.
  • Ble bydd y plentyn yn byw.
  • Cymorth ariannol i'r plentyn.
  • Beth fydd yn digwydd i gartref y teulu.
  • Rhannu asedau, dyledion, cynilion, pensiynau a buddsoddiadau.

Mae cyfryngu yn caniatáu ichi wneud eich penderfyniadau eich hun yn hytrach na chael barnwr i benderfynu, felly mae'r cytundebau yn aml yn gweithio'n well yn y tymor hir. Mae rhai cyfryngwyr hefyd yn cynnig cyfryngu cynhwysol i blant, sy'n caniatáu i'ch plentyn gael llais uniongyrchol yn y broses. Gall cynllun talebau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ddarparu hyd at £500 tuag at gostau cyfryngu mewn achosion cymwys.

Manylion cyswllt defnyddiol (*Saesneg yn unig)

Cyngor ar ysgariad a gwahanu* 
Gwefan: www.advicenow.org.uk

Both Parents Matter* Mae BPM yn credu bod gan blant hawl i berthynas gariadus barhaus gyda'r ddau riant.
Gwefanwww.bothparentsmatter.org.uk 
Ffôn: 0300 0300 363

Childline: Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc (o dan 19 oed) yn y DU sydd angen cymorth neu rywun i siarad â nhw.
Gwefan: https://www.childline.org.uk/get-support/contacting-childline/contacting-childline-in-welsh/
Ffôn: 0800 1111 (i siarad yn Gymraeg Pwyso rhif 3)

Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant: Am wybodaeth ynghylch cynhaliaeth plant. 
Ffôn: 0800 171 2345

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yw'r pwynt cyswllt cyntaf i gael gwybodaeth a chyngor ar wasanaethau lleol i rieni a theuluoedd yng Nghymru
Gwefanhttps://www.llyw.cymru/dod-o-hyd-ich-gwasanaeth-gwybodaeth-i-deuluoedd-lleol

Galop - Llinell Gymorth Cam-drin a Thrais LHDT+*:Cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl LHDT+ sy'n profi camdriniaeth a thrais.
Gwefan: www.galop.org.uk
Llinell Gymorth: 0800 999 5428
E-bost: help@galop.org.uk

Gingerbread*: Ar gyfer rhieni sengl.
Gwefanwww.gingerbread.org.uk
Ffôn: 0808 802 09

Kinship*: Ar gyfer ffrindiau a theulu sy'n camu ymlaen i fagu plentyn pan nad yw eu rhieni yn gallu gwneud hynny.
Gwefanwww.kinship.org.uk

Byw Heb Ofn:
Os ydych chi, aelod o'r teulu, ffrind, neu rywun rydych chi'n poeni amdano wedi dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, am gyngor a chefnogaeth am ddim neu i siarad am eich opsiynau.
Gwefanwww.llyw.cymru/byw-heb-ofn.
Ffôn: 0808 801 0800
Neges destun: 07860 077333
E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru

Cymdeithas Genedlaethol y Canolfannau Cyswllt Plant (NACCC): I'r rhai sydd angen dod o hyd i ganolfan gyswllt.
Gwefan: https://naccc.org.uk/#googtrans/en/cyw
Ffôn: 0845 4500 280 

Llinell Gymorth Genedlaethol Amddiffyn Plant (NSPCC): Gwasanaeth cyfrinachol am ddim i unrhyw un sy'n pryderu am blant mewn perygl.
Gwefan: https://www.nspcc.org.uk/about-us/our-impact/our-work-uk/wales/cymru/w
Ffôn: 0808 800 5000 

Cyfryngu Cenedlaethol i Deuluoedd: Helpu teuluoedd i ddatrys anghydfodau trwy wasanaethau cyfryngu teuluol.
Gwefan: www.nfm.org.uk

New Pathways: Mae New Pathways yn darparu cymorth i bobl sydd wedi dioddef trais, ymosodiadau rhywiol a cham-drin rhywiol (trais rhywiol), ac yn rhoi cymorth therapiwtig arbenigol i oedolion a phlant.
Gwefan: www.newpathways.org.uk/cy/
Ffôn:01685 379310

Y Cynllun Rhianta
Gwefan: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-10/cafcass-cymru-cynllun-rhianta_0.pdf

Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC) Gogledd Cymru: Mae RASASC yn darparu gwybodaeth, cymorth arbenigol a therapi i unrhyw un sy'n 3 oed a throsodd sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin neu drais rhywiol naill ai'n ddiweddar neu'n y gorffennol. Mae RASASC hefyd yn darparu cymorth a therapi arbenigol i bartneriaid ac aelodau teulu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan drais a cham-drin rhywiol.
Gwefan: www.rasawales.org.uk/cy/cartref

Relate*: Ar gyfer cwnsela a gwasanaethau eraill ledled y DU.
Gwefan: www.relate.org.uk
Ffôn: 0300 100 1234 

Resolution*: Cyfreithwyr Teulu wedi ymrwymo i ddatrys anghydfodau teuluol mewn ffordd adeiladol.
Gwefan: www.resolution.org.uk
Ffôn: 020 3841 0300 

Respect*: Gwybodaeth i ddynion sy'n cam-drin eu partneriaid, a hefyd y rhai sy'n dioddef cam-drin domestig. 
Gwefanwww.respect.uk.net
Llinell gyngor i'r rhai sy'n cam-drin: 0808 802 4040 
Llinell gyngor i ddioddefwyr: 0808 801 03278 neu ewch i www.mensadviceline.org.uk

Rights of Women*: Hysbysu, addysgu a grymuso menywod am eu hawliau cyfreithiol.
Gwefan: www.rightsofwomen.org.uk
Llinell gymorth cyfraith teulu: 020 7251 6577
Llinell gymorth cyfraith droseddol (trais rhywiol): 020 7251 8887 

Prosiect Dyn Cymru Ddiogelach: Mae Prosiect Dyn Cymru Ddiogelach yn darparu cymorth arbenigol i ddynion hoyw, heterorywiol, deurywiol a thrawsryweddol sy'n profi cam-drin domestig neu rywiol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.saferwales.com
Ffôn: 0808 801 0321
E-bost: dyn@saferwales.com

Samaritans yng Nghymru: Cefnogaeth emosiynol gyfrinachol 24 awr i unrhyw un mewn argyfwng.
Gwefan: https://www.samaritans.org/samaritans-cymru/
Ffôn: 0808 164 0123 

Shelter Cymru: Ar gyfer problemau tai. Llinell gymorth tai 24 awr am ddim.
Gwefan:www.sheltercymru.org.uk/cy
Ffôn: 0808 800 4444 

Cymorth i Ddioddefwyr: Am gymorth a gwybodaeth.
Gwefan: https://www.victimsupport.org.uk/
Ffôn: 0808 168 9111