Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn Saesneg (English) hefyd.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gofrestru eich llety ymwelwyr. 

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, byddwch yn gallu gwneud y canlynol hefyd: 

  • diweddaru manylion eich cofrestriad 
  • dileu eich llety oddi ar y gofrestr 
  • ychwanegu pobl i’ch helpu i reoli eich cofrestriad 

Gallwch gofrestru i gael diweddariadau am y gwasanaeth. 

Cyn i chi ddechrau 

Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen i chi gofrestru, darllenwch ein canllawiau ar gofrestru llety ymwelwyr. 

Mewngofnodi 

Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio One Login GOV.UK. Os nad oes gennych gyfrif One Login yn barod, bydd yn rhaid i chi greu un.  

Os byddwch yn cael unrhyw broblemau gyda'ch cyfrif One Login, cysylltwch ag One Login. 

Er mwyn cofrestru  

Bydd angen i chi ddarparu: 

  • manylion cyswllt, er enghraifft: 
    • enw  
    • cyfeiriad  
    • rhif ffôn  
    • dyddiad geni 
    • e-bost  
  • rhif cwmni neu rhif elusen (os yn berthnasol)  
  • enw masnachu (os yn berthnasol) 
  • cyfeiriad y llety 
  • enw'r llety (os yn berthnasol) 

  • y mathau o lety rydych yn eu cynnig 

  • pa bryd mae eich llety ar agor ar gyfer archebion fel arfer 

  • nifer yr ystafelloedd neu unedau y gellir eu harchebu 

  • faint o bobl sy’n gallu aros yno 

ar Awdurdod Cyllid Cymru

Os ydych chi eisoes wedi dechrau cofrestru, mewngofnodwch i barhau. 

Ar ôl i chi gofrestru

Bydd rhai o'r manylion yn gyhoeddus ar y gofrestr llety ymwelwyr. Gallwch edrych i weld pa fanylion sy'n gyhoeddus ar y gofrestr fel sydd wedi'i nodi yn yr polisi preifatrwydd.  

Ffyrdd eraill o gofrestru 

Os na allwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein, ffoniwch 03000 254 000 i siarad â’n desg gymorth, mae’r llinell ar agor rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg. 

Newid eich manylion 

Os bydd eich manylion yn newid, cysylltwch â ni o fewn 30 diwrnod. 

Sut allwch chi gael cymorth 

Os byddwch eisiau cymorth wrth gofrestru llety ymwelwyr, gallwch: