Sefyll dros Gymru
Sicrhau bod gennym y pwerau, yr adnoddau a’r offer i gyflawni canlyniadau gwell i bobl Cymru.
Pam mae sefyll dros Gymru yn bwysig
Mae llawer o’r penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl Cymru eisoes yn cael eu gwneud gan y Senedd a Llywodraeth Cymru. Mae eraill yn parhau i fod yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU.
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y gall datganoli pellach a chyllid teg wella bywydau pobl Cymru, drwy roi’r offer cyllidol a chyfansoddiadol sydd eu hangen arnom i symud Cymru ymlaen. Byddai mwy o reolaeth dros feysydd megis trafnidiaeth, cyfiawnder, plismona, adnoddau naturiol, ynni ac Ystad y Goron yn helpu Cymru i ddatblygu a gweithredu polisïau sy’n diwallu anghenion ac amgylchiadau lleol yn well.
Byddai sicrhau pwerau a chyllid ychwanegol hefyd yn galluogi Cymru i fabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig o fynd i’r afael â heriau sy’n cael effaith ar fywydau pobl a’u profiad o wasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft, gall penderfyniadau ynghylch plismona, llysoedd, y gwasanaeth prawf a gwasanaethau cymorth gael effaith ehangach, gan effeithio nid yn unig ar ddiogelwch cymunedol ond hefyd ar iechyd a llesiant, cyrhaeddiad addysgol, a chyfleoedd cyflogaeth ac economaidd i bobl Cymru.
Sut rydym yn mynd ati i sefyll dros Gymru
Yn ystod tymor y Llywodraeth hon, byddwn yn ceisio bwrw ymlaen â blaenoriaethau datganoli mewn meysydd megis cyfiawnder, plismona, cyfiawnder ieuenctid, lles, rheilffyrdd, polisi dŵr, Ystad y Goron, a diwygio cyllidol. Bydd hyn yn cynnwys:
- ailosod y berthynas â San Steffan, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu cyson ac ystyrlon
- nodi cyfleoedd i sicrhau pwerau ychwanegol drwy ddeddfwriaeth berthnasol Llywodraeth y DU yn y dyfodol
- ceisio gwir degwch economaidd yn y ffordd y caiff Cymru ei hariannu, gan gynnwys adolygu’r fframwaith gyllidol, gweithrediad fformiwla Barnett, mwy o hyblygrwydd cyllidol, a chyllido teg ar gyfer pwerau datganoledig
- sefydlu Comisiwn Cenedlaethol i ddod â thystiolaeth, ymchwil a safbwyntiau o bob cwr o Gymru ynghyd, er mwyn helpu i lywio’r drafodaeth a gwneud penderfyniadau ynghylch dyfodol cyfansoddiadol Cymru, ac i gynnwys dinasyddion mewn sgwrs genedlaethol barhaus am yr opsiynau ar gyfer y dyfodol
