Neidio i'r prif gynnwys

Gwiriwch eich opsiynau ar gyfer talu costau’r Ardoll Ymwelwyr a gwybod pryd ddylech ad-dalu eich gwesteion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Gallwch dalu costau’r ardoll drwy:

  • eu hamsugno
  • codi eich prisiau
  • codi ffioedd ardoll

Amsugno’r ardoll

Os ydych chi'n amsugno’r ardoll, rydych yn gwneud y canlynol:

  • cadw’r un prisiau
  • ddim yn ychwanegu unrhyw ffioedd ardoll

Ond byddwch dal yn gyfrifol am dalu'r ardoll.

Codi eich prisiau

Gallwch godi eich prisiau er mwyn talu'r ardoll y mae'n rhaid i chi ei thalu.

Codi ffioedd ardoll

Rhoi gwybod i westeion yn gynnar

Dylech newid eich hysbysebion i ddangos eich bod yn codi ffioedd ardoll.

Dangos ffioedd ardoll

Dylai eich archebion ddangos:

  • y ffioedd ardoll ychwanegol
  • pris yr arhosiad
  • cyfanswm pris yr archeb

Gofyn i'ch ymwelwyr dalu

Gallwch ofyn i'ch gwesteion dalu'r ardoll ar unrhyw adeg. 

Er enghraifft, pan fyddan nhw’n:

  • archebu’r arhosiad
  • cyrraedd y llety
  • gadael y llety

Ymwelwyr yn gwrthod talu

Byddwch yn dal i fod yn gyfrifol am dalu'r ardoll i Awdurdod Cyllid Cymru. Hyd yn oed os bydd eich gwesteion yn gwrthod ei dalu.

Ad-dalu eich gwesteion

Pryd ddylech chi ad-dalu'ch gwesteion

Os ydych chi'n codi'r ardoll ymlaen llaw, dylech ad-dalu eich ymwelwyr yn yr achosion canlynol:

  • maen nhw’n canslo eu harcheb
  • dydyn nhw ddim yn ymddangos

Pryd i beidio ag ad-dalu'ch gwesteion

Os yw'r arhosiad wedi digwydd, nid oes rhaid i chi ad-dalu eich gwesteion.

Gall gwesteion hawlio ad-daliadau gan Awdurdod Cyllid Cymru os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • maen nhw’n gofalu am berson anabl
  • maen nhw’n ddigartref dros dro yn ystod yr arhosiad
  • maen nhw’n aros am resymau iechyd neu ddiogelwch

Defnyddio llwyfannau archebu

Gallai eich platfform archebu, er enghraifft Airbnb neu Booking.com, eich helpu i ychwanegu ffioedd ardoll ar eich archebion. Holwch nhw am ragor o fanylion.

Cymhwyso TAW

Mae'r ardoll yn cyfrif tuag at eich trosiant trethadwy at ddibenion TAW. 

Darllenwch ein canllawiau ar gymhwyso TAW i’r Ardoll Ymwelwyr.

Cymorth

Cysylltu ag Awdurdod Cyllid Cymru am gymorth ynglŷn â ffurflenni a thaliadau Ardoll Ymwelwyr.