Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyflwynwyd y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) yn 2006 i asesu’r risgiau posibl i iechyd a diogelwch preswylwyr oherwydd diffygion mewn annedd. Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am anheddau y cafodd asesiadau’r HHSRS eu cynnal arnynt rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022 (nid oeddynt oll yn anheddau preswyl). Mae penawdau gwybodaeth am yr HHSRS ar gyfer pob math o annedd preswyl ar gael ar gyfer 2017-18 ym mhrif ganlyniadau’r Arolwg o Gyflwr Tai.

Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth hefyd am dai amlfeddiannaeth fel yr oeddynt ar 31 Mawrth 2022. Cafodd yr holl wybodaeth a gyflwynir yn y datganiad hwn ei chasglu yn yr arolygon Peryglon a Thrwyddedau blynyddol a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol. Cewch ragor o fanylion am y data yn y datganiad hwn yn yr adroddiad ansawdd Peryglon a Thrwyddedau Tai.

Prif bwyntiau

  • Yn 2021-22, cafodd 4,363 o asesiadau eu cynnal o dan yr HHSRS, fwy na dwywaith yn fwy na’r nifer a gynhaliwyd yn 2020-21 (cyfnod yr effeithiwyd yn drwm arno gan bandemig y coronafeirws (Covid-19).
  • O’r 4.363 o asesiadau, cafodd 2,012 eu cynnal mewn tai amlfeddiannaeth (46.1%).
  • Datgelodd 1,283 o’r asesiadau a gynhaliwyd (29.4%) beryglon Categori 1.
  • Y perygl Categori 1 mwyaf cyffredin mewn tai amlfeddiannaeth a chartrefi un aelwyd (tai nad ydynt yn rhai amlfeddiannaeth) oedd ‘Oerfel’.
  • Cymerodd awdurdodau lleol gamau i unioni 797 o beryglon Categori 1.
  • Ar 31 Mawrth 2022, roedd 7,286 o dai amlfeddiannaeth trwyddedig. O’r rheini, roedd 2,592 (35.6%) o dan drwydded fandadol.

Asesiadau

Asesiad yn seiliedig ar risg yw’r HHSRS sy’n helpu awdurdodau lleol i nodi peryglon a risgiau posibl i iechyd a diogelwch ac amddiffyn rhagddynt. Mae’n cael ei defnyddio i benderfynu a yw annedd preswyl yn ddiogel i fyw ynddo. Er ei bod yn cael ei defnyddio i asesu pob math o annedd, mae’n cael ei defnyddio amlaf i asesu tai yn y sector preifat.

Mae'r HHSRS yn cael ei defnyddio i asesu 29 math o berygl mewn tai ac yn rhoi sgôr ar gyfer pob un. Cyfeirir at beryglon sy'n sgorio'n uchel ar y raddfa (sy’n peri’r risg fwyaf) fel peryglon Categori 1. Os gwelir bod perygl Categori 1 mewn annedd, mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i gymryd camau gorfodi priodol. Cyfeirir at beryglon sy'n sgorio'n is ar y raddfa (sy'n peri risg llai) fel peryglon Categori 2. Pan geir perygl Categori 2, mae’r awdurdod lleol yn cael cymryd camau gorfodi. Mae awdurdodau lleol yn seilio'r holl benderfyniadau gorfodi ar gyfer safleoedd preswyl ar asesiadau’r HHSRS. Byddai unrhyw annedd y ceir Perygl Categori 1 ynddo yn 'methu' yn awtomatig Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS).

Gellir cynnal asesiadau’r HHSRS am nifer o resymau, gan gynnwys wrth drwyddedu tŷ amlfeddiannaeth, neu pan ddaw cwyn am annedd gan feddiannydd neu gymydog.

Cyflwynwyd y Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw ynddi (FFHH) ym mis Rhagfyr 2022 (sef ar ôl y cyfnod yr ymdrinnir ag ef yn y datganiad hwn) o dan Adran 91 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Gwefan deddfwriaeth y DU). Nod y Rheoliadau FFHH yw sicrhau bod landlordiaid yn cynnal a chadw anheddau a’u rhwystro rhag mynd yn anaddas i bobl fyw ynddynt. Mae’n bwysig cofio nad yw presenoldeb perygl mewn annedd o dan yr HHSRS yn golygu ei bod o reidrwydd yn anaddas i bobl fyw ynddi o dan y Rheoliadau FFHH. Er enghraifft, er y gellir ystyried amrywiad bychan yn arwyneb y llawr yn berygl o dan yr HHSRS, byddai hynny ar ei ben ei hun yn annhebygol iawn o arwain at benderfyniad bod yr annedd yn anaddas i bobl fyw ynddi.

Yn 2021-2022, cafodd 4,363 o asesiadau HHSRS eu cynnal, mwy na dwywaith yn fwy nag yn y flwyddyn cynt. Effeithiodd y pandemig yn drwm ar nifer yr asesiadau gafodd eu cynnal yn 2020-21, gan fod mesurau iechyd cyhoeddus yn cyfyngu ar allu awdurdodau lleol i gynnal asesiadau. Er gwaethaf cynnydd yn y flwyddyn ddiweddaraf, roedd nifer yr asesiadau a gynhaliwyd yn parhau’n is na'r nifer a gynhaliwyd yn y blynyddoedd cyn y pandemig (5,652 yn 2018-19).

Roedd nifer yr asesiadau a gynhaliwyd mewn awdurdodau lleol yn amrywio, gyda rhai’n dweud fod y pandemig yn parhau i effeithio ar eu gwaith. Er enghraifft, dywedodd Tor-faen iddynt gynnal llai o asesiadau yn 2021-22 er mwyn lleihau'r risg y gallai staff a chleientiaid drosglwyddo’r feirws i’w gilydd (cynhaliwyd 39 asesiad yn 2018-19 a 6 yn 2021-22). Dywedodd Sir Ddinbych ar y llaw arall iddynt gynnal mwy o asesiadau oherwydd yr ôl-groniad o achosion o flynyddoedd cynt (cynhaliwyd 381 o asesiadau yn 2018-19 a 557 yn 2021-22).

Yn 2021-22, Sir Ddinbych ac Abertawe gynhaliodd y nifer fwyaf o asesiadau (557 yn y naill a 542 yn y llall). Cafodd llai na 100 o asesiadau eu cynnal yn y flwyddyn hon yn 9 o'r 22 awdurdod lleol (Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Ceredigion, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy, Tor-faen, Wrecsam ac Ynys Môn).

Ffigur 1: Canran o’r holl asesiadau lle cafwyd o leiaf un perygl Categori 1 neu Gategori 2 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigwr 1: Siart golofnau glystyrog sy’n dangos canran yr asesiadau HHSRS ddatgelodd berygl Categori 1 neu Gategori 2 yn y 10 mlynedd ddiwethaf. Bob blwyddyn, datgelodd canran uwch o’r asesiadau berygl Categori 2.

Ffynhonnell: Dychweliadau Peryglon a Thrwyddedau gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Gall asesiadau ddatgelu peryglon Categori 1 a Chategori 2.
[Nodyn 2] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir y Fflint.
[Nodyn 3] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Ddinbych a Wrecsam.
[Nodyn 4] Amcangyfrifon yw ffigurau Caerdydd.
[Nodyn 5] Ni chafodd data eu casglu yn 2019-20 oherwydd COVID-19.
[Nodyn 6] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Benfro.

Yn 2021-22, datgelodd 29.4% o’r asesiadau o leiaf un perygl Categori 1. Mae'r gyfran hon yn sylweddol is na'r hyn a gofnodwyd yn 2020-21 (45.1%) gan yr oedd prinder adnoddau yn y flwyddyn honno wedi gorfodi awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar anheddau risg uchel. Roedd cyfran yr asesiadau â pherygl Categori 1 yn 2021-22 yn is na'r hyn a gofnodwyd yn 2018-19 (39.1%) ond yn debyg i'r hyn a gofnodwyd yn 2017-18 (29.6%).

Yn 2021-22, datgelodd ychydig dros hanner yr holl asesiadau o leiaf un perygl Categori 2 (51.8%). Unwaith eto, roedd hyn yn is na'r gyfran a gofnodwyd yn y flwyddyn flaenorol (66.8%) ac yn is na'r hyn a welwyd yn y blynyddoedd cyn y pandemig (70.4% yn 2018-19).

Ar lefel awdurdod lleol, roedd cyfran yr asesiadau a ddatgelodd berygl Categori 1 yn amrywio o 3.0% yn Abertawe i 74.8% ym Mhowys Powys [Nodyn 7]. Ar y llaw arall, roedd cyfran yr asesiadau oedd wedi datgelu perygl Categori 2 yn amrywio o 15.3% yn Sir Ddinbych i 98.4% yng Nghaerdydd [Nodyn 7].

[Nodyn 7] Heb gynnwys 9 awdurdod lleol oedd wedi cynnal llai na 100 o asesiadau.

Ffigur 2: Canran yr asesiadau sy’n datgelu o leiaf un perygl Categori 1 yn ôl math o annedd, 2012-13 i 2021-22

Image

Disgrifiad o Ffigwr 2: Siart golofnau glystyrog sy’n dangos canran yr asesiadau mewn tai amlfeddiannaeth a chartrefi un aelwyd ddatgelodd berygl Categori 1. Yn 2020-21 a 2021-22, roedd canran y peryglon Categori 1 a gafwyd mewn tai amlfeddiannaeth wedi gostwng.

Ffynhonnell: Dychweliadau Peryglon a Thrwyddedau gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir y Fflint.
[Nodyn 2] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Ddinbych a Wrecsam.
[Nodyn 3] Amcangyfrifon yw ffigurau Caerdydd.
[Nodyn 4] Ni chafodd data eu casglu yn 2019-20 oherwydd COVID-19.
[Nodyn 5] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Benfro.

Yn 2021-22, cynhaliwyd 2,012 o asesiadau mewn tai amlfeddiannaeth (46.1% o'r holl asesiadau). Roedd hyn yn gynnydd sylweddol ar y flwyddyn flaenorol (482 o dai amlfeddiannaeth wedi’u hasesu, 25.7% o'r holl asesiadau). Yn Sir Ddinbych, cynyddodd nifer yr asesiadau a gafodd eu cynnal mewn tai amlfeddiannaeth o 2 yn 2020-21 i 520 yn 2021-22.

Ers cyflwyno'r HHSRS yn 2006, mae canran uwch o’r asesiadau mewn cartrefi un aelwyd wedi datgelu perygl Categori 1 nag mewn tai amlfeddiannaeth. Yn 2020-21, tyfodd y gwahaniaeth hwn rhwng asesiadau mewn tai amlfeddiannaeth a chartrefi un aelwyd, wrth i ganran yr asesiadau a ddatgelodd berygl Categori 1 gynyddu i 54.1% mewn cartrefi un aelwyd (o 44.5% yn 2018-19) a gostwng i 19.1% mewn tai amlfeddiannaeth (o 31.2% yn 2018-19).

Yn 2021-22, gwelwyd canran y cartrefi un aelwyd oedd â pherygl Categori 1 yn gostwng i 43.8%, sef gostyngiad i’r ystod a welwyd cyn y pandemig. Yn y cyfamser, gostyngodd canran yr asesiadau mewn tai amlfeddiannaeth a ddatgelodd berygl Categori 1 i'r lefel isaf erioed (12.6%). Ymddengys mai Sir Ddinbych oedd yn gyfrifol am y gostyngiad hwn i raddau helaeth, gyda chynnydd yn nifer yr asesiadau o dai amlfeddiannaeth a gynhaliwyd gan yr awdurdod hwn (o 226 yn 2018-19 i 520 yn 2021-22) a gostyngiad yn nifer y peryglon Categori 1 a welwyd (o 80 i 20). Mae hyn wedi arwain at ostyngiad sylweddol yng nghanran yr asesiadau o dai amlfeddiannaeth yn Sir Ddinbych a ddatgelodd berygl Categori 1 (o 35.4% yn 2018-19 i 3.8% yn 2021-22).

Ffigur 3: Canran yr asesiadau sy’n datgelu o leiaf un perygl Categori 2 yn ôl math o annedd, 2012-13 i 2021-22

Image

Disgrifiad o Ffigwr 3: Siart golofnau glystyrog sy’n dangos canran yr asesiadau mewn tai amlfeddiannaeth a chartrefi un aelwyd ddatgelodd berygl Categori 2 yn y 10 mlynedd ddiwethaf. Rhwng 2014-15 a 2018-19, cafwyd canran uwch o beryglon Categori 2 mewn tai amlfeddiannaeth ond yn 2020-21 a 2021-22, cafwyd canran uwch mewn cartrefi un aelwyd.

Ffynhonnell: Dychweliadau Peryglon a Thrwyddedau gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir y Fflint.
[Nodyn 2] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Ddinbych a Wrecsam.
[Nodyn 3] Amcangyfrifon yw ffigurau Caerdydd.
[Nodyn 4] Ni chafodd data eu casglu yn 2019-20 oherwydd COVID-19.
[Nodyn 5] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Benfro.

Rhwng 2014-15 a 2018-19, cafwyd canran uwch o beryglon Categori 2 mewn tai  amlfeddiannaeth nag mewn cartrefi un aelwyd. Yn y ddwy flynedd ddiweddaraf, mae canran yr asesiadau o dai amlfeddiannaeth sydd wedi datgelu perygl Categori 2 wedi gostwng yn fawr, gan ddisgyn islaw'r ganran mewn cartrefi un aelwyd. Yn y flwyddyn ddiweddaraf, Sir Ddinbych sydd i gyfrif o bosib i raddau helaeth am y gwahaniaeth hwn, oherwydd er bod nifer yr asesiadau o dai amlfeddiannaeth wedi cynyddu (fel y nodwyd uchod), mae nifer yr asesiadau a ddatgelodd beryglon Categori 2 wedi gostwng (o 140 yn 2018-19 i 61 yn 2021-22). Mae hyn wedi arwain at ostyngiad yng nghyfran yr asesiadau o dai amlfeddiannaeth sydd wedi datgelu perygl Categori 2 (o 61.9% i 11.7%).

Peryglon mewn tai amlfeddiannaeth

Mae llawer o wahanol fathau o dai yn y sector rhentu preifat yn dai amlfeddiannaeth. Mae pobl sengl ifanc ar incwm isel yn enwedig yn byw ynddynt ac mae llawer yn perthyn i grwpiau bregus/tan anfantais.

Ffigur 4: Nifer y peryglon Categori 1 a gafwyd mewn tai amlfeddiannaeth, yn ôl y math o berygl, 2021-22 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigwr 4: Siart fariau lorweddol sy’n dangos manylion y peryglon Categori 1 a gafwyd mewn tai amlfeddiannaeth yn 2021-22. Y peryglon mwyaf cyffredin oedd ‘rhy oer’, yna ‘tân’ a ‘pheryglon trydanol’.

Ffynhonnell: Dychweliadau Peryglon a Thrwyddedau gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Benfro.
[Nodyn 2] Gall asesiadau ddatgelu mwy nag un math o berygl Categori 1.

Ers 2012-13, ‘rhy oer’ yw’r perygl Categori 1 mwyaf cyffredin mewn tai amlfeddiannaeth. Yn 2021-22, ‘rhy oer’ oedd 146 (35.7%) o’r peryglon Categori 1 a gafwyd yn y math hwn o annedd.

Ffigur 5: Nifer y peryglon Categori 2 a gafwyd mewn tai amlfeddiannaeth, yn ôl y math o berygl, 2021-22 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigwr 5: Siart fariau lorweddol sy’n dangos manylion y peryglon Categori 2 a gafwyd mewn tai amlfeddiannaeth yn 2021-22. Y peryglon mwyaf cyffredin oedd ‘tân’, yna ‘lleithder a llwydni’ a ‘disgyn rhwng lefelau’.

Ffynhonnell: Dychweliadau Peryglon a Thrwyddedau gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Benfro.
[Nodyn 2] Gall asesiadau ddatgelu mwy nag un math o berygl Categori 2.

Ers 2008-09, ‘tân’ yw’r perygl Categori 2 mwyaf cyffredin mewn tai amlfeddiannaeth (heblaw am ‘arall’). Yn 2021-22, ‘tân’ oedd 604 (24.8%) o’r peryglon Categori 2 a gafwyd yn y math hwn o annedd.

Peryglon mewn cartrefi un aelwyd

Cyfeirir at anheddau un aelwyd hefyd fel “tai nad ydynt yn dai amlfeddiannaeth”.

Ffigur 6: Nifer y peryglon Categori 1 a gafwyd mewn cartrefi un aelwyd, yn ôl y math o berygl, 2021-22 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigwr 6: Siart fariau lorweddol sy’n dangos manylion y peryglon Categori 1 a gafwyd mewn cartrefi un aelwyd yn 2021-22. Y peryglon mwyaf cyffredin oedd ‘rhy oer’, yna ‘lleithder a llwydni’ a ‘thân’.

Ffynhonnell: Dychweliadau Peryglon a Thrwyddedau gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Benfro.
[Nodyn 2] Gall asesiadau ddatgelu mwy nag un math o berygl Categori 1.

Yn 2012-13, ‘rhy oer’ oedd y perygl Categori 1 mwyaf cyffredin mewn cartrefi un aelwyd. Ers 2010-11, ‘rhy oer’ oedd 618 (35.4%) o’r peryglon Categori 1 a gafwyd yn y math hwn o annedd, y gyfran fwyaf a gofnodwyd.

Ffigur 7: Nifer y peryglon Categori 2 a gafwyd mewn cartrefi un aelwyd, yn ôl y math o berygl, 2021-22 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigwr 7: Siart fariau lorweddol sy’n dangos manylion y peryglon Categori 2 a gafwyd mewn cartrefi un aelwyd yn 2021-22. Y peryglon mwyaf cyffredin oedd ‘lleithder a llwydni’, yna ‘tân’ a ‘peryglon trydanol’.

Ffynhonnell: Dychweliadau Peryglon a Thrwyddedau gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Benfro.
[Nodyn 2] Gall asesiadau ddatgelu mwy nag un math o berygl Categori 2.

Ers 2008-09, ‘lleithder a llwydni’ yw’r perygl Categori 2 mwyaf cyffredin mewn tai amlfeddiannaeth (heblaw am ‘arall’). Yn 2021-22, ‘lleithder a llwydni’ oedd 844 (22.6%) o’r peryglon Categori 2 a gafwyd yn y math hwn o annedd.

Camau gorfodi

Gall awdurdodau lleol orfodi nifer o gamau gwahanol pan welir perygl, gan gynnwys cyflwyno hysbysiad ymwybyddiaeth o berygl neu hysbysiad gwella sy'n gofyn am wneud gwaith i ddileu neu leihau'r perygl, gorchymyn gwahardd i gyfyngu ar y defnydd o'r annedd neu ran ohono neu gallant gymryd eu camau eu hunain os ystyrir bod angen delio â'r perygl fel argyfwng. Efallai na fydd y camau gorfodi a gymerir yn arwain at ddatrys y perygl bob tro.

Ffigur 8: Nifer y peryglon Categori 1 gafodd eu datrys, yn ôl y math o annedd, 2012-13 i 2021-22

Image

Disgrifiad o Ffigwr 8: Siart fariau glystyrog sy’n dangos nifer y peryglon Categori 1 gafodd eu datrys mewn tai amlfeddiannaeth a chartrefi un aelwyd yn y 10 mlynedd ddiwethaf. Yn y ddwy flynedd ddiweddaraf, mae nifer y peryglon gafodd eu datrys wedi cwympo.

Ffynhonnell: Dychweliadau Peryglon a Thrwyddedau gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir y Fflint.
[Nodyn 2] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Ddinbych a Wrecsam.
[Nodyn 3] Amcangyfrifon yw ffigurau Caerdydd.
[Nodyn 4] Ni chafodd data eu casglu yn 2019-20 oherwydd COVID-19.
[Nodyn 5] Amcangyfrifon yw ffigurau Sir Benfro.

Yn 2021-22, diolch i’r camau a gymerwyd gan awdurdodau lleol, cafodd 797 o beryglon Categori 1 eu datrys. Roedd hyn yn gynnydd ar y flwyddyn flaenorol (567) ond yn is na’r nifer gafodd eu datrys yn y blynyddoedd cyn y pandemig (1,352 yn 2018-19). Roedd y rhan fwyaf o’r rheini gafodd eu datrys (82.3%) mewn cartrefi un aelwyd. Mae hyn i'w ddisgwyl, o gofio bod y rhan fwyaf o beryglon Categori 1 i'w gweld mewn cartrefi un aelwyd (yn 2021-22, roedd 80.2% o’r asesiadau a ddatgelodd berygl Categori 1 yn asesiadau o anheddau un aelwyd).

Mae'n bwysig nodi y gallai'r asesiad o rai peryglon fod wedi'i wneud mewn blynyddoedd ariannol blaenorol. Mae rhai asesiadau hefyd yn gallu nodi mwy nag un perygl Categori 1. Am y rhesymau hyn, nid yw'n bosibl pennu cyfran y peryglon Categori 1 sy’n cael eu datrys mewn blwyddyn benodol.

Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth

Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am roi’r drwydded sy’n orfodol ar gyfer rhai mathau o dai amlfeddiannaeth. Rhaid trwyddedu tai amlfeddiannaeth mwy, risg uwch, tri llawr neu fwy, gyda 5 neu fwy o bobl yn byw ynddynt. Cyflwynwyd y gofyn i drwyddedu tai amlfeddiannaeth o dan Ddeddf Tai 2004 (Gwefan deddfwriaeth y DU) i helpu i sicrhau bod tai amlfeddiannaeth yn cael eu rheoli'n dda. Y nod yw gwella cyflwr ffisegol gwahanol fathau o eiddo yn y sector rhentu preifat a’u rheoli’n well. Mae gan awdurdodau lleol y disgresiwn i estyn y gofyn er mwyn trwyddedu mathau eraill o dai amlfeddiannaeth. Trwyddedu ychwanegol yw’r enw ar hyn ac mae'n galluogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael â phroblemau penodol a allai fodoli mewn eiddo llai neu mewn ardaloedd penodol.

Rhwng Mawrth 2013 a Mawrth 2017, gwelwyd cynnydd graddol yn nifer y trwyddedau mandadol a roddwyd (o 2,515 i 2,973). Yn fwy diweddar, mae nifer y trwyddedau mandadol wedi gostwng, gyda 2,592 ohonynt wedi’u cofnodi ar 31 Mawrth 2022.

Ar y llaw arall, rhwng Mawrth 2013 a Mawrth 2018, gwelwyd cynnydd cyflym yn nifer y trwyddedau ychwanegol a roddwyd (o 4,035 i 6,056). Ond rhwng Mawrth 2019 a Mawrth 2022, gostyngodd nifer y trwyddedau ychwanegol 1,220. Caerdydd sydd i gyfrif gan fwyaf am y gostyngiad hwn, gyda 921 yn llai o drwyddedau ychwanegol yn cael eu cofnodi yn yr awdurdod hwn yn 2022. Y rheswm tebygol am hyn yw’r oedi a fu wrth adnewyddu trwyddedau ychwanegol yn ward gymunedol Cathays (Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir), Caerdydd, ardal sydd â llawer o fyfyrwyr yn byw ynddi. Disgwylir ailddechrau rhoi trwyddedau ychwanegol yn y ward hon ym mis Chwefror 2023.

Ffigur 9: Nifer y tai amlfeddiannaeth trwyddedig, yn ôl y math o drwydded, 31 Mawrth 2013 i 31 Mawrth 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigwr 9: Graff llinell sy’n dangos nifer y trwyddedau tai amlfeddiannaeth mandadol ac ychwanegol gafodd eu cofnodi yn y 10 mlynedd ddiwethaf.  Yn y ddwy flynedd ddiweddaraf, gwelwyd gostyngiad cyffredinol yn nifer y trwyddedau. 

Ffynhonnell: Dychweliadau Peryglon a Thrwyddedau gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Ni chafodd data eu casglu ar gyfer Mawrth 2020 oherwydd COVID-19.

Ar 31 Mawrth 2022, yr awdurdodau lleol â’r nifer fwyaf o dai amlfeddiannaeth trwyddedig oedd Caerdydd (2,488) ac Abertawe (1,643). Dwy ardal drefol fawr â nifer fawr o anheddau rhentu preifat a phoblogaeth fawr o fyfyrwyr.

Ffigur 10: Yr amcangyfrif o dai amlfeddiannaeth a’r nifer sy’n hysbys, 31 Mawrth 2013 i 31 Mawrth 2022

Image

Disgrifiad o Ffigwr 10: Siart fariau glystyrog sy’n dangos yr amcangyfrif o dai amlfeddiannaeth a’r nifer sy’n hysbys yn y 10 mlynedd ddiwethaf. Mae’r amcangyfrif o dai amlfeddiannaeth yn sylweddol uwch na nifer y tai amlfeddiannaeth sy’n hysbys.

Ffynhonnell: Dychweliadau Peryglon a Thrwyddedau gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Ni chafodd data eu casglu ar gyfer Mawrth 2020 oherwydd COVID-19.

Ar 31 Mawrth 2022, amcangyfrif awdurdodau lleol oedd bod 19,196 o dai amlfeddiannaeth yng Nghymru, gostyngiad bach ar y flwyddyn cynt (2.0%). Yr un pryd, gwelwyd gostyngiad yn nifer y tai amlfeddiannaeth oedd yn hysbys i awdurdodau lleol (o 15,247 ym Mawrth 2021 i 14,697 ym Mawrth 2022). Ar 31 March 2022, amcangyfrifwyd bod awdurdodau lleol yn gwybod am 76.6% o dai amlfeddiannaeth.

Caerdydd ac Abertawe gofnododd yr amcangyfrif fwyaf o dai amlfeddiannaeth yng Nghymru (7,000 yn y naill a 2,1000 yn y llall).  Yng Nghaerdydd ac Abertawe, roedd cyfran uchel o’r amcangyfrif o dai amlfeddiannaeth (91.8% yng Nghaerdydd ac 86.8% yn Abertawe) yn hysbys i’r awdurdod lleol. Yn y pegwn arall, Sir Ddinbych gofnododd yr amcangyfrif uchaf ond dau o dai amlfeddiannaeth (1.344) gyda chyfran llawer llai o’r rhain yn hysbys i’r awdurdod lleol (20.9%).

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Statws Ystadegau Cenedlaethol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rhoddir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan adain reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a’r drafodaeth gyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei ddiddymu unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a gellir ei ddyfarnu unwaith eto pan fodlonir y safonau.

Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cadw eu statws fel Ystadegau Gwladol yn 2022 yn dilyn asesiad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Esboniadau manylach gan gynnwys mwy o gyd-destun polisi a gweithredu
  • Cyhoeddiadau ar wahân am beryglon mewn tai a thrwyddedau a dymchweliadau i wneud y data’n fwy hygyrch ac yn haws eu defnyddio.
  • Hybu dibynadwyedd trwy gyfyngu ar y rheini sy’n cael eu gweld cyn eu cyhoeddi.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Mae’r datganiad yn cynnwys un dangosydd cyd-destunol, sef ‘(31) Canran yr anheddau sydd heb beryglon’. Cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad llesiant yn y ddolen flaenorol.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Holly Flynn
E-bost: ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 24/2023

Image
Ystadegau Gwladol