Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a chyd-destun

Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022 ac mae'n cyd-fynd â'r amcanion a nodir yn y Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) 2016 i 2021.

O dan adran 12 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ('y Ddeddf'), mae'n rhaid i Weinidogion Cymru, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, gyhoeddi adroddiad sy'n mynd i'r afael â'r canlynol:

  • y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion yn y Strategaeth Genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (2016 i 2021)
  • y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni dibenion Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yng Nghymru (gan gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol)

Mae adran 3 o'r Ddeddf yn nodi dyletswydd Gweinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi Strategaeth Genedlaethol, y gellir ei hadolygu ar unrhyw adeg a ystyrir yn addas. Yn ystod 2021 i 2022, roedd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid allweddol, rhanddeiliaid a'r sector arbenigol i ddatblygu Strategaeth Genedlaethol newydd, er mwyn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd o'r fersiwn flaenorol a pharhau i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.

Caiff y Strategaeth ei chyflawni drwy ddefnyddio dull Glasbrint, a fydd yn dwyn ynghyd sefydliadau datganoledig ac annatganoledig drwy ffrydiau gwaith a fydd yn canolbwyntio ar yr amcanion ar gyfer 2022 i 2026, yn ogystal ag atgyfnerthu'r bartneriaeth rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector arbenigol.

Mae'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd Partneriaeth Cenedlaethol a gydgadeirir gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed Powys. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 23 Mai 2022.

Mae gwaith ar gyflawni'r Strategaeth yn cyd-fynd â'n Rhaglen Lywodraethu, gyda ffrydiau gwaith ar gyfer aflonyddu ar y stryd a diogelwch mewn mannau cyhoeddus; aflonyddu yn y gweithle; mynd i'r afael â chyflawnwyr trais; comisiynu cynaliadwy, plant a phobl ifanc a phobl hŷn.

Mae'r Strategaeth yn mabwysiadu dull cwrs bywyd at VAWDASV, sy'n cynnwys plant ac oedolion o bob oed, gan gynnwys pobl hŷn, gan adnabod arwyddion cam-drin drwy gydol camau bywyd unigolyn.

Yn ystod 2021 i 2022, roedd pandemig byd-eang COVID-19 yn dal i gael lle blaenllaw ym mhob agwedd ar fywyd. Parhaodd y pandemig i godi heriau i ddioddefwyr a goroeswyr a'r gwasanaethau arbenigol hynny sy'n darparu cymorth hollbwysig sy'n achub bywydau iddynt yn ogystal â gwasanaethau sy'n helpu cyflawnwyr neu'r rhai sy'n pryderu am eu hymddygiad i newid. Er ei bod yn amlwg bod cynnydd wedi'i wneud yn erbyn pob un o'r amcanion a nodir yn y Strategaeth Genedlaethol, mae'n rhaid cydnabod effaith barhaus y pandemig. Rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol i'r trydydd sector ac awdurdodau lleol yn ystod 2021 i 2022 er mwyn eu helpu i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a delio â'r galw cynyddol a achoswyd gan bandemig COVID-19. Mae'r sector VAWDASV arbenigol wedi parhau i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr drwy flwyddyn heriol arall.

Amcanion y strategaeth genedlaethol

Mae'r Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (2016 i 2021) yn nodi chwe amcan sy'n cyfrannu at y gwaith o gyflawni diben Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Ochr yn ochr â'r amcanion, mae dangosyddion cenedlaethol yn helpu cyrff cyhoeddus, ynghyd â rhanddeiliaid ehangach, i ddeall i ba raddau y mae'r weledigaeth a rennir, fel y'i nodir yn y Strategaeth Genedlaethol, yn cael ei chyflawni.

Diben y Ddeddf yw gwella'r canlynol:

  • trefniadau ar gyfer atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • trefniadau ar gyfer diogelu dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • cymorth i bobl y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt

Amcan 1: Cynyddu ymwybyddiaeth a herio agweddau ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar draws poblogaeth Cymru

Cyfathrebu ac ymgyrchoedd

Mae Byw Heb Ofn yn cwmpasu mwy na llinell gymorth Cymru gyfan sydd ar gael i gefnogi unrhyw un y mae VAWDASV yn effeithio arno.  Hefyd, Byw Heb Ofn yw hunaniaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru a roddir i unrhyw ohebiaeth, proses ymgysylltu a galwad i weithredu sy'n ymwneud â VAWDASV Drwy ymgyrchoedd Byw Heb Ofn, rydym wedi parhau i godi ymwybyddiaeth o stelcio, aflonyddu, cam-drin a thrais yn erbyn menywod ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys y stryd a mannau cyhoeddus eraill. Mae'r ymgyrchoedd hyn yn rhoi cyngor ymarferol i'r rhai a all fod yn dioddef camdriniaeth ac yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i alluogi ffrindiau, teulu a'r gymuned ehangach i adnabod achosion o gam-drin a chymryd camau gweithredu diogel.

Ym mis Rhagfyr 2021, gwnaethom lansio ymgyrch Dim Esgus, gan annog y cyhoedd (yn enwedig dynion) i godi llais a herio rhagdybiaethau am aflonyddu ar fenywod, sy'n aml yn cael ei gamgymryd fel rhywbeth  'diniwed', rhwng cyfoedion, ffrindiau a chydweithwyr. Nod yr ymgyrch oedd helpu pobl i adnabod ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag aflonyddu ar y stryd a chydnabu fod profiadau menywod a merched yn ddifrifol ac yn gyffredin a'u bod yn achosi ofn, braw a gofid.

Tynnodd ymgyrch Dim Esgus sylw at y ffaith bod gweithredoedd a geiriau yr ymddengys eu bod yn ddiniwed, megis “Dim ond chwibanu ati wnes i” neu “Dim ond pinsio ei phen ôl wnes i”, sy'n cael eu rhagflaenu gan y geiriau DIM OND, yn llawer mwy sinistr pan gaiff y geiriau hynny eu dileu. Nododd fod yr ymddygiadau hyn yn bodoli ar sbectrwm a bod esgusodi unrhyw fath o VAWDASV, yn esgusodi pob math gan gynnwys ymosodiadau rhywiol difrifol a thrais rhywiol. 

Darparodd yr ymgyrch wybodaeth a rymusodd wylwyr i gymryd safiad a herio ymddygiad camdriniol a rhywiaethol ymhlith eu ffrindiau a'r cydweithwyr mewn ffordd ddiogel, gan hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb a pharch.  Awgrymodd yr ymgyrch enghreifftiau o ymyriadau, gan gynnwys trefnu i gyfarfod â'r unigolyn a oedd yn destun ymddygiad o'r fath yn breifat er mwyn trafod yr hyn a ddywedwyd, peidio â theimlo dan bwysau i chwerthin yn ystod sgyrsiau neu gellwair rhywiaethol, herio ymddygiad a thynnu sylw at ymddygiad camdriniol unigolion eraill. Ni fwriadwyd i ymgyrch Dim Esgus godi cywilydd ar unrhyw un na'i fychanu. Yn hytrach, roedd yn ymwneud ag addysgu ac annog newid agweddau.

Mae gwefan yr ymgyrch Heirio’r ‘dim ond’, yn cynnwys gwybodaeth am raglenni i wylwyr; sut i helpu, cefnogi a chymryd safiad yn ddiogel; gwybodaeth am newid eich ymddygiad eich hun a'r cymorth sydd ar gael i'r rhai a all fod yn profi, neu a all fod wedi profi, aflonyddu rhywiol, stelcio neu gamdriniaeth. Datblygwyd yr ymgyrch gyda chymorth grŵp cyfathrebu VAWDASV. Mae'r grŵp hwn wedi bod yn allweddol i rannu gwybodaeth arbenigol ac wedi cymryd rhan ym mhob cam o'r broses o'i datblygu. 

Fel rhan o ymgyrch Dim Esgus, gwelwyd mwy na 6.8 miliwn o hysbysiadau argraff ac edrychwyd ar wefan yr ymgyrch fwy nag 20,000 o weithiau. Yn ystod cyfnod yr ymgyrch, cynyddodd nifer y cysylltiadau â llinell gymorth Byw Heb Ofn 15%.  

Llwyddodd ymgyrch Dim Esgus i godi ymwybyddiaeth hefyd ymhlith y rhai sy'n cyflawni achosion o gam-drin neu a oedd yn pryderu ynghylch eu hymddygiad. Cynyddodd nifer y cyflawnwyr a gysylltodd â llinell gymorth Byw Heb Ofn 1,267% a chynyddodd nifer y cyflawnwyr a gysylltodd â gwefan 'change that lasts'  Respect 69%.

Cyfathrebu Cymunedol

Mae codi ymwybyddiaeth o VAWDASV a gwasanaethau VAWDASV arbenigol lleol i'r diwydiant Harddwch (trinwyr gwallt, barbwyr, technegwyr ewinedd, harddwyr ac ati) yn enghraifft o'r gwaith y mae grŵp cyfathrebu rhanddeiliaid VAWDASV wedi cyfrannu ato yn ystod y flwyddyn. Yn gyffredinol, ni chafodd gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant hwn eu cynnwys yn y gynulleidfa darged ar gyfer Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol VAWDASV ac anaml y cânt eu cynnwys mewn dadansoddiadau o anghenion hyfforddi lleol na'r hyfforddiant VAWDASV a gynigir Fodd bynnag, maent yn gweithio mewn amgylchedd agos, personol a chyfrinachol â dioddefwyr posibl VAWDASV, yn aml gan feithrin cydberthnasau yr ymddiriedir ynddynt â'u cleientiaid.

Bu pob rhanbarth VAWDASV yn gweithio gyda'u rhwydweithiau a'u gwasanaethau arbenigol i gydweithio ar y fenter yn eu rhanbarthau.  Roedd gweithgarwch yn amrywio ledled Cymru, ar ôl ymgysylltu â'r diwydiant er mwyn trafod anghenion rhanbarthol. Mabwysiadwyd dull gweithredu hybrid, gyda gwybodaeth yn cael ei lledaenu, hyfforddiant yn cael ei gynnig, ymweliadau â salonau a gweithgarwch digidol. Datblygwyd adnoddau ffisegol yr oedd manylion cyswllt Byw Heb Ofn wedi'u hymgorffori ynddynt heb dynnu sylw atynt yn benodol.

Roedd sianeli ymgyrchoedd hefyd yn ymestyn i fannau cyhoeddus eraill, er enghraifft rhannwyd rhif llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gefn mwy na 400,000 o docynnau bws ledled De Cymru dros gyfnod o chwe wythnos.

Er mwyn annog atal VAWDASV, buddsoddodd yr ymgyrch hefyd mewn ymgysylltu â barbwyr, gan rannu gwybodaeth a oedd yn cynnwys llinell gymorth Respect, er mwyn annog dynion i fyfyrio ar eu hymddygiad a gan ddarparu rhif cyswllt petaent am ystyried eu hymddygiad eu hunain neu ymddygiad rhywun arall ymhellach.

Yn ogystal â hyn, dosbarthwyd cyfanswm o £30,000 rhwng rhanbarthau er mwyn cefnogi gweithgarwch cysylltu â'r gymuned yn ystod 2021 i 2022.

Cyflawniadau allweddol

  • Fel rhan o ymgyrch Dim Esgus, gwelwyd mwy na 6.8 miliwn o hysbysiadau argraff ac edrychwyd ar wefan yr ymgyrch fwy nag 20,000 o weithiau. Yn ystod cyfnod yr ymgyrch, cynyddodd nifer y cysylltiadau â llinell gymorth Byw Heb Ofn 15%. 
     
  • Llwyddodd yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth hefyd ymhlith y rhai sy'n cyflawni achosion o gam-drin neu sy'n pryderu ynghylch eu hymddygiad. Cynyddodd nifer y cyflawnwyr a gysylltodd â llinell gymorth Byw Heb Ofn 1,267% (o 12 i 164) a chynyddodd nifer y cyflawnwyr a gysylltodd â gwefan 'Change that Lasts'  Respect 69%.

Amcan 2: Cynnydd yn ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru o bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach

Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn cydnabod plant fel dioddefwyr VAWDASV yn eu rhinwedd eu hunain ac mae hyn yn newid pwysig a lywiodd ein gwaith yn 2021 i 2022 ac a fydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.

Parhaodd pandemig COVID-19 i greu heriau nas gwelwyd o'r blaen ym mhob agwedd ar fywyd. Yn sector VAWDASV, parhaodd sefydliadau arbenigol i nodi bod mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn profi cam-drin domestig yn eu cartrefi, gyda gwahanol gyfyngiadau yn ei gwneud hi'n anodd iddynt gael gafael ar wasanaethau a chymorth. Cofnododd gwasanaethau arbenigol ostyngiadau yn nifer y plant a gafodd gymorth yn y gymuned am fod cyfyngiadau symud yn ei gwneud hi'n anodd iddynt gael cymorth.

Yn ystod y broses o ddatblygu'r Strategaeth Genedlaethol, gwnaethom weithio gyda nifer o bartneriaid er mwyn sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed yn ystod y cyfnod ymgynghori. Roedd hyn yn cynnwys cyhoeddi fersiwn Pobl Ifanc o'r ddogfen ymgynghori ynghyd ag arolwg ar-lein. Cawsant eu defnyddio yn ystod gweithgarwch ymgysylltu â phlant a phobl ifanc gan ein partneriaid yn y sector VAWDASV arbenigol, yn ogystal â'u hyrwyddo gan y Comisiynydd Plant a Plant yng Nghymru.

O ganlyniad i'r gweithgarwch ymgysylltu hwn a'r ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd gan y model glasbrint ar gyfer cyflawni ffrwd waith a fydd yn edrych yn benodol ar faterion yn ymwneud â VAWDASV sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc.

Yn 2021 i 2022, parhaodd Llywodraeth Cymru i gyllido prosiect Sbectrwm Hafan Cymru. Mae'r prosiect hwn yn hyrwyddo pwysigrwydd perthnasoedd iach ac yn codi ymwybyddiaeth o VAWDASV Mae Sbectrwm hefyd yn darparu hyfforddiant i staff a llywodraethwyr ysgolion ar ddeall effaith cam-drin domestig ar blentyn ac yn hyrwyddo dull ysgol gyfan o fynd i'r afael â cham-drin domestig. Yn ogystal â'r cyllid a gynigiwyd i brosiect Sbectrwm, gwnaethom hefyd ariannu'r gwaith o ddatblygu adnoddau i athrawon gan gynnwys hyfforddiant ar-lein ac adnoddau argraffedig ar sut i ymdrin yn effeithiol ag achosion o VAWDASV a ddatgelir gan ddisgyblion.

Cynhaliodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) weithdy i Gymru gyfan ar 17 Chwefror 2022, er mwyn ystyried ffyrdd y gall prifysgolion, gan gydweithio â sefydliadau yn y sector arbenigol fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod mewn prifysgolion a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr, gan fwydo i mewn i'w gynllun strategol ar gyfer 2022 i 2026. 

Ym mis Awst 2021, cyhoeddodd Estyn adroddiad thematig o dan y teitl “Dyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon”, a roddodd adroddiad am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgol uwchradd yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr, ymatebodd Llywodraeth Cymru i argymhellion Estyn.

Mewn ymateb i'r adroddiad, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys yr Heddlu, er mwyn datblygu cynllun gweithredu amlasiantaethol. Lluniwyd y cynllun gweithredu ar gyfer plant a phobl ifanc a phawb sy'n gweithio gyda phlant a phobl mewn lleoliad addysgol a fyddai'n cael budd o ddeall y camau y mae Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn eu cymryd i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysgol. Caiff y cynllun gweithredu hwn ei ddatblygu fel rhan o ffrwd waith plant a phobl ifanc glasbrint VAWDASV.

Cyflawniadau allweddol

  • Llywiodd lleisiau plant a phobl ifanc y gwaith o ddatblygu'r Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a bydd ein gwaith partneriaeth yn y maes hwn yn parhau drwy ffrwd waith y glasbrint ar faterion sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc.

Amcan 3: Mwy o ffocws ar ddwyn cyflawnwyr i gyfrif, a darparu cyfleoedd iddynt newid eu hymddygiad gyda phwyslais ar ddiogelwch y dioddefwr

Gan gydnabod yr angen parhaus i weithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â dioddefwyr a chyflawnwyr yn eu rolau o ddydd i ddydd (tai, addysg, gofal cymdeithasol) i gael hyfforddiant, dyrannwyd cyllid yn 2021 i 2022 ar gyfer hyfforddiant ymwybyddiaeth ar gyfer gweithio gyda dioddefwyr gwrywaidd. Roedd hyn hefyd yn cynnwys adnabod cyflawnwyr a gweithio gyda nhw a gweithio gyda dioddefwyr Cam-drin ar sail anrhydedd.

Fel y nodwyd uchod, roedd ymgyrch Dim Esgus yn annog y cyhoedd (yn enwedig dynion) i herio ymddygiad annerbyniol. Nodir y cyflawniadau allweddol o dan amcan 1, gan gynnwys cynnydd o 1,267% (o 12 i 164) yn nifer y bobl a gysylltodd â llinell gymorth Byw Heb Ofn gyda phryderon am eu hymddygiadau niweidiol eu hunain.

Yn 2021 i 2022, roedd 7% o Grant Refeniw Rhanbarthol VAWDASV wedi'i neilltuo ar gyfer gweithio gydag unigolion sy'n ymddwyn mewn ffordd niweidiol. Ymhlith y darpariaethau a gomisiynwyd roedd gwasanaethau ar gyfer gweithio gydag unigolion sydd wedi cam-drin Partner Agos, dull teulu cyfan a gwasanaethau i atal stelcio.

Amcan 4: Rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod ymyrryd yn gynnar yn hanfodol wrth nodi a lleihau'r niwed a achosir gan drais a chamdriniaeth. Fel rhan o ddull arloesol Llywodraeth Cymru o ymyrryd yn gynnar, parhawyd i gyflwyno 'Gofyn a Gweithredu', sef polisi a rhaglen hyfforddiant sy'n rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr gwasanaethau cyhoeddus allweddol er mwyn cynnal ymholiad wedi'i dargedu i nodi camdriniaeth.   

Mae nodi achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gynnar a darparu ymateb priodol i leihau'r effaith a'r niwed yn hanfodol er mwyn cyflawni amcan ymyrryd yn gynnar ac atal y strategaeth genedlaethol. 

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Asesiad Cyflym o'r Dystiolaeth yn ystod 2020 i 2021 er mwyn deall yn well sut i gyfathrebu'n effeithiol â chyflawnwyr cam-drin domestig a'r rhai sy'n dechrau ymddwyn mewn ffordd niweidiol a sut y gall hyn lywio ymgyrchoedd yn y cyfryngau sy'n targedu'r carfanau hyn. Cyhoeddwyd y canfyddiadau gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS).

Gofyn a Gweithredu

Mae rhaglen Gofyn a Gweithredu bellach yn gwbl weithredol ym mhob rhan o Gymru.  Erbyn mis Mawrth 2022, roedd cyfanswm o 17,600 o weithwyr wedi cael hyfforddiant i  ‘Ofyn a Gweithredu’. Yn benodol, yn ystod cyfnod adrodd 2021 i 2022, cafodd 5,220 o bobl hyfforddiant.
 
Cyhoeddwyd gwerthusiad o raglen Gofyn a Gweithredu ym mis Ionawr 2022. Mae canfyddiadau'r adroddiad yn awgrymu bod Gofyn a Gweithredu yn rhaglen bwysig a gwerthfawr a chydnabyddir yn eang fod angen Gofyn a Gweithredu. Mae swyddogion wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac eisoes wedi dechrau rhoi newidiadau i bolisi ar waith o ganlyniad i'r gwerthusiad. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru atodiad i ganllawiau presennol Gofyn a Gweithredu er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd ar gyfer darparu hyfforddiant.

E-Ddysgu VAWDASV

Ym mis Ebrill 2020, trefnwyd bod modiwl E-ddysgu VAWDASV ar gael i unrhyw un drwy fynediad gwestai. Cyn hynny, dim ond i weithlu awdurdodau perthnasol a enwir yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015 yr oedd yr E-ddysgu hwn ar gael. Mae ehangu mynediad i'r hyfforddiant hwn wedi galluogi amrywiaeth ehangach o bobl i allu adnabod arwyddion cam-drin a gwybod sut y gallant helpu yn ddiogel. Dilynodd 67,848 (38,000 drwy fynediad gwestai) y cwrs E-ddysgu yn 2021 i 2022.

Ymgysylltu â goroeswyr

Mae lleisiau goroeswyr yn hanfodol i'n gwaith a rhaid iddynt gael eu clywed ar y lefel uchaf er mwyn inni fynd i'r afael â VAWDASV yn effeithiol. Dyna pam y gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo'n flaenorol i ddatblygu Fframwaith Ymgysylltu â Goroeswyr er mwyn sicrhau mewnbwn gan grŵp amrywiol o oroeswyr pob math o VAWDASV.

Daeth prosiect peilot, a alluogodd goroeswyr i gymryd rhan mewn panel ymgysylltu â goroeswyr cenedlaethol, i ben ym mis Rhagfyr 2019. Mae'r prosiect peilot wedi'i werthuso a chyhoeddwyd yr adroddiad gwerthuso, gan gynnwys argymhellion ar gyfer dulliau ymgysylltu yn y dyfodol, ym mis Medi 2021.

O ganlyniad i'r prosiect peilot hwn, gwnaed gwaith ymchwil pellach er mwyn ystyried ‘Rhwystrau rhag Ymgysylltu: Ymgysylltu â Goroeswyr o Grwpiau Amrywiol’.  Mae'r gwaith ymchwil hwn bellach wedi'i gwblhau a chyhoeddwyd y canfyddiadau ym mis Mehefin 2022.

Mae adroddiadau'r gwaith ymchwil wedi'u hystyried ochr yn ochr â'r amcanion a nodir yn Strategaeth Genedlaethol 2022 i 2026 a'r gwaith o ddatblygu glasbrint VAWDASV er mwyn datblygu dull hirdymor o ymgysylltu â goroeswyr a all lywio polisi ac arferion yng Nghymru.

Fel rhan o'r glasbrint, ochr yn ochr â phartneriaid, byddwn yn datblygu Panel Craffu a Chynnwys Lleisiau Goroeswyr er mwyn ymgorffori lleisiau goroeswyr o'r ystod o brofiadau o VAWDASV a'r rhai sydd eisoes yn ymgysylltu â grwpiau sefydledig.

Bydd y dull hwn o weithredu yn creu llwybr cenedlaethol, cyson a chynhwysol a fydd yn galluogi'r rhai â phrofiadau uniongyrchol i graffu ar y gwaith o weithredu'r Strategaeth Genedlaethol, glasbrint VAWDASV a'i ffrydiau gwaith, yn ogystal â llywio cyfeiriad polisi.

Bydd y dull hwn o weithredu yn sicrhau bod goroeswyr wrth wraidd y dull glasbrint o fynd i'r afael â VAWDASV ac mae'n nodi strwythur a ffordd o weithio sy'n seiliedig ar lesiant, cynaliadwyedd a pharch.

Cyflawniadau allweddol

  • Mae modiwl E-ddysgu VAWDASV yn dal i fod ar gael i unrhyw un drwy fynediad gwestai o gymharu â'r sefyllfa flaenorol pan mai dim ond awdurdodau perthnasol a allai gael hyfforddiant. O ganlyniad, gwnaeth mwy na 22,366 o bobl ddilyn y cwrs yn 2021 i 2022.
     
  • Erbyn mis Mawrth 2021, roedd cyfanswm o 17,600 o weithwyr wedi cael hyfforddiant i  ‘Ofyn a Gweithredu’. Yn ystod cyfnod adrodd 2021 i 2022, cafodd 5,220 o bobl hyfforddiant.

Amcan 5: Hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr

Un o'r dulliau allweddol o roi Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ar waith yw'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol. Mae'r rhai sy'n profi VAWDASV yn cael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus am lawer o resymau megis tai, gofal iechyd ac addysg. Mae'n rhaid i'r gwasanaethau hyn ddarparu llwybrau atgyfeirio i roi cymorth i ddioddefwyr.

Mae'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn cynnig hyfforddiant cymesur i atgyfnerthu'r ymateb a roddir ledled Cymru i'r rhai sy'n profi'r problemau hyn. Mae'n nodi disgwyliadau uchelgeisiol a chlir ar gyfer safonau hyfforddi, canlyniadau a chynnwys ar VAWDASV.  Mae cyfrifoldeb ar bob lefel o staff o fewn grwpiau 1 i 6 a nodwyd o dan y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol i ymgymryd â'r hyfforddiant. 

Ym mis Mai 2021, cyflwynodd yr awdurdodau perthnasol a nodir yn y Ddeddf eu pumed adroddiadau blynyddol a pharhau y mae'r ffocws ar gynllunio'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol a'i roi ar waith ledled Cymru. Mae gwaith wedi parhau gydag awdurdodau perthnasol i gynyddu canran y gweithlu sy'n cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth sylfaenol.

Er mwyn cydnabod bod achosion o VAWDASV wedi bod yn fwy cymhleth a bod risgiau wedi cynyddu o ganlyniad i ynysigrwydd yn ystod y pandemig, comisiynwyd hyfforddiant arbenigol ychwanegol yn ystod y cyfnod adrodd hwn i staff awdurdodau perthnasol a staff awdurdodau eraill sy'n dod i gysylltiad â dioddefwyr a chyflawnwyr yn eu rolau o ddydd i ddydd. Roedd yr hyfforddiant ychwanegol hwn yn cwmpasu gweithio gyda dioddefwyr cam-drin ar sail anrhydedd, dioddefwyr gwrywaidd ac adnabod cyflawnwyr VAWDASV a gweithio gyda nhw. Drwy gynnig yr hyfforddiant arbenigol ychwanegol hwn i staff awdurdodau nad ydynt yn berthnasol mae hyn hefyd wedi arwain at sefyllfa lle mae amrywiaeth ehangach o weithwyr proffesiynol yn gallu adnabod VAWDASV ac ymateb iddo.

Cyflawniadau allweddol

  • Erbyn diwedd mis Mawrth 2022, roedd 276,903 o weithwyr proffesiynol yng Nghymru wedi cael hyfforddiant drwy'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol.  Mae hynny'n golygu bod 276,903 o weithwyr proffesiynol yn fwy gwybodus, yn fwy ymwybodol ac yn fwy hyderus i ymateb i'r rhai sy'n profi VAWDASV. Mae hyn yn gynnydd o fwy na 32,000 o gymharu â'r cyfnod adrodd diwethaf.
     
  • Cafodd 1,311 o weithwyr proffesiynol ychwanegol hyfforddiant arbenigol o ganlyniad i gyllid pellach a ddarparwyd yn 2021 i 2022.

Amcan 6: Rhoi mynediad cyfartal i ddioddefwyr at wasanaethau ledled Cymru, a’r rheini’n wasanaethau holistaidd o ansawdd uchel y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy’n seiliedig ar gryfderau, sy’n cael eu harwain gan anghenion ac sy’n ymatebol i rywedd

Parhaodd Llywodraeth Cymru i ariannu Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, er mwyn cynnig help a chymorth cyfrinachol 24 awr i'r rheini sy'n profi cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r ffaith eu bod yn gallu cysylltu â'r llinell gymorth dros y ffôn neu drwy sianeli sgwrsio byw, a bod gwasanaethau cyfieithu ar gael, yn galluogi y gall yr unigolion hynny y mae angen cymorth arnynt ddewis y llwybr mwyaf priodol iddyn nhw. Parhaodd Byw Heb Ofn i feithrin cydberthnasau â phartneriaid allweddol er mwyn cefnogi llwybrau atgyfeirio i ddefnyddwyr gwasanaethau, megis byrddau iechyd a gwasanaethau arbenigol eraill.

Cyllid gan Lywodraeth Cymru yn 2021 i 2022

Yn 2021 i 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru refeniw gwerth £7.8 miliwn a chyllid cyfalaf gwerth £2.2 miliwn i ranbarthau VAWDASV a gwasanaethau VAWDASV arbenigol er mwyn iddynt allu darparu cymorth amhrisiadwy sy'n achub bywydau i holl ddioddefwyr VAWDASV. Mae hyn yn cynnwys ymyriadau, cymorth ataliol ac addysgol, rhaglenni ymyriadau i gyflawnwyr, Eiriolwyr Trais Domestig Annibynnol ar gyfer dioddefwyr sy'n wynebu risg uchel yn ogystal ag ymyriadau adfer therapiwtig i roi cymorth parhaus i'r rhai y mae VAWDASV wedi effeithio arnynt. Mae'r cyllid hwn yn sicrhau bod gwasanaeth cyhoeddus ac arbenigol cadarn ar gael sy'n barod i helpu, ble bynnag y mae dioddefwr yn byw yng Nghymru.

Dioddefwyr VAWDASV nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus

Yn 2021 i 2022, sefydlodd Llywodraeth Cymru, ar y cyd â phartneriaid, grŵp llywio i adolygu'r atebion a'r cymorth sydd ar gael i'r rhai sy'n ffoi rhag VAWDASV nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus, oherwydd eu statws mudol fel arfer. Cadeirir y grŵp llywio hwn gan y Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru a Llywodraeth y DU i ddod o hyd i atebion a all fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a wynebir gan ffoaduriaid, mudwyr a cheiswyr lloches benywaidd sy'n dianc rhag VAWDASV yng Nghymru.

Nid yw mewnfudo yn fater datganoledig ac, felly, rydym wedi parhau i ymgysylltu â'r Swyddfa Gartref wrth iddi dreialu ei chynllun Cymorth i Ddioddefwyr Mudol. Roedd disgwyl i'r cynllun peilot ddod i ben ym mis Mawrth 2022 a chael ei ddilyn gan werthusiad cyn i unrhyw waith cynllunio ar gyfer cyllido parhaus yn y dyfodol ddechrau. Cafodd y cynllun ei ymestyn wedi hynny er mwyn cwmpasu'r cyfnod gwerthuso a bydd yn parhau tan fis Mawrth 2023. Rydym yn pwyso am ymateb cyn gynted â phosibl gan Lywodraeth y DU.

Mae ein gwaith yn y maes hwn yn parhau a byddwn yn dysgu o adroddiad Sereda, Adroddiadau 'Uncharted Territory' a'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol er mwyn sicrhau y gall y gwaith o dan y Strategaeth Genedlaethol cael effaith ar gyfer pob dioddefwyr gan gynnwys menywod mudol a'r rhai nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus a bod o fudd iddynt.

‘Cam-drin ar sail anrhydedd' fel y'i gelwir

Parhaodd Llywodraeth Cymru i gydgadeirio Grŵp Cymru Gyfan ar Drais ar Sail Anrhydedd gyda BAWSO a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ystod 2021 i 2022. Daeth y grŵp â sefydliadau partner allweddol at ei gilydd i weithio ar nifer o flaenoriaethau, gan gynnwys mynd i'r afael â'r argymhellion yn adroddiad is-grŵp Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig y Grŵp Economaidd-Gymdeithasol. Ym mis Awst 2021, cafodd cam-drin ar sail anrhydedd ei gynnwys fel eitem am y tro cyntaf yn adroddiad yr Uned Atal Trais, gan ddefnyddio data a gafodd eu bwydo i mewn gan y Grŵp Cam-drin ar Sail Anrhydedd.

Rydym wedi parhau i weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r materion cydraddoldeb a diogelwch a wynebir gan fenywod a merched er mwyn rhoi terfyn ar bob math o gam-drin ar sail anrhydedd, fel y'i gelwir. Cafodd poster a ffeithlen ar Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod eu datblygu hefyd a'u rhaeadru i athrawon drwy rwydwaith Hwb, ac i weithwyr mewn canolfannau ieuenctid.

Mae profion gwyryfdod a hymenoplasti yn weithredoedd o drais yn erbyn menywod a merched ac ni ellir eu cyfiawnhau fel gweithdrefnau clinigol. Ym mis Ebrill 2022, rhoddodd y Senedd ei chydsyniad i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ei rhan a gwneud profion gwyryfdod a hymenoplasti yn drosedd yng Nghymru fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022. Bydd troseddoli'r arferion camdriniol a thrawmatig hyn yn sicrhau bod mwy o ddiogelwch i fenywod a merched.

Cafodd y Ddeddf Iechyd a Gofal 2022 Gydsyniad Brenhinol ar 28 Ebrill 2022. Dyddiad cychwyn yr adrannau o'r Ddeddf sy'n troseddoli profion gwyryfdod a hymenoplasti oedd 1 Gorffennaf 2022. 

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r wedd derfynol ar ohebiaethau cymunedol er mwyn sicrhau bod pobl yng Nghymru yn deall y ddeddfwriaeth newydd. Disgwylir i wybodaeth fod ar gael i'r cyhoedd erbyn diwedd 2022.

Casgliad a'r ffocws yn y dyfodol

Roedd y gwaith o lunio'r Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2016 i 2021 yn tynnu at ei derfyn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Er mwyn sicrhau y gallai Llywodraeth Cymru barhau i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd a'r gwersi a ddysgwyd mewn blynyddoedd blaenorol a sicrhau proses ddi-dor o ddatblygu polisi ar draws sbectrwm VAWDASV, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth drafft rhwng 7 Rhagfyr 2021 a 7 Chwefror 2022.

Cafwyd mwy na 120 o ymatebion. Yn ogystal ag ymatebion gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, cafwyd ymatebion gan unigolion sy'n oroeswyr VAWDASV neu y mae VAWDASV wedi effeithio'n uniongyrchol ar eu bywydau.

Fel rhan o'r broses ymgynghori, cynhaliodd swyddogion sesiynau ymgysylltu er mwyn i bobl ddysgu mwy am y Strategaeth yn ystod mis Ionawr 2022. Cynhaliodd partneriaid allweddol grwpiau ffocws, sesiynau gweithdy ac ymarferion ymgysylltu eraill â'u staff, eu rhwydweithiau a defnyddwyr eu gwasanaethau er mwyn sicrhau bod llais goroeswyr a lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed yn ystod yr ymgynghoriad.

Yn dilyn hyn, cyhoeddwyd y Strategaeth ar gyfer Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022- 2026 ym mis Mai 2022. Mae amcanion y Strategaeth newydd fel a ganlyn:

Amcan 1

Herio agwedd y cyhoedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled poblogaeth Cymru drwy godi ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth gyhoeddus gyda'r nod o leihau'r achosion ohono. 

Amcan 2

Cynyddu ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a'u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol.

Amcan 3

Cynyddu'r ffocws ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif a chefnogi'r rhai a all ymddwyn yn gamdriniol neu'n dreisgar i newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu.

Amcan 4

Rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal.

Amcan 5

Hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr.

Amcan 6

Rhoi mynediad cyfartal i bob dioddefwr at wasanaethau, a'r rheini'n wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n ymatebol ledled Cymru.

Caiff y strategaeth ei chyflawni drwy ddefnyddio dull Glasbrint, a fydd yn dwyn ynghyd sefydliadau datganoledig ac annatganoledig, yn ogystal ag atgyfnerthu'r bartneriaeth rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector arbenigol.

Wrth inni fyfyrio ar y Strategaeth ddiwethaf ac, yn arbennig, y flwyddyn a gwmpesir gan yr adroddiad hwn, mae'n amlwg ein bod wedi gwneud cryn gynnydd tuag at gyflawni'r amcanion a nodir yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015. Fodd bynnag, wrth inni weithio drwy 2022 i 2023, mae heriau pellach i'w hystyried fel yr argyfwng costau byw ac rydym yn dal i ddod i delerau ag effaith y pandemig. Mae cyhoeddi'r Strategaeth newydd a'r dull glasbrint, yn ogystal â phenodi'r ddau Gynghorydd Cenedlaethol, yn golygu y bydd ffocws o'r newydd ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a'r casineb at fenywod sy'n sail i hynny. Rydym yn wynebu'r heriau hyn fel partneriaid ac yn mynd ymlaen gan sicrhau, yng Nghymru, fod mynd i'r afael â VAWDASV yn fater i bawb.

Ni fydd Cymru yn goddef camdriniaeth.