Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: adroddiad cynnydd blynyddol 2024 i 2025
Crynodeb o’r cynnydd a wnaed rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn canolbwyntio ar y cynnydd a wnaed rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025 yn erbyn chwe amcan y Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ar gyfer 2022 i 2026, a chyflawni diben y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) ('y Ddeddf').
Cyhoeddir yr adroddiad hwn o dan adran 12 o'r Ddeddf.
Mae llawer o'r cynnydd a wnaed yn 2024 i 2025 wedi cael ei wneud drwy'r Glasbrint VAWDASV mewn partneriaeth â'n partneriaid a'n rhanddeiliaid ar draws sector cyhoeddus ac arbenigol Cymru, ac felly mae'r adroddiad hwn yn cynnwys cyfeiriad at y cynnydd a wnaed yn y Glasbrint.
Y Glasbrint VAWDASV yw'r mecanwaith cydweithredol ar gyfer cyflawni'r Strategaeth VAWDASV Genedlaethol. Gan weithio mewn partneriaeth â'r heddlu yng Nghymru a phartneriaid yn y sector cyhoeddus ac arbenigol ledled Cymru, mae'r Glasbrint yn ddull amlasiantaethol o weithio ac mae'n dangos dull Cymru gyfan o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod. Mae sefydlu'r Glasbrint yn cydnabod bod y Ddeddf yn nodi dyletswyddau nid yn unig i Lywodraeth Cymru ond i awdurdodau cyhoeddus datganoledig ledled Cymru. Mae dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu strategaethau lleol cyhoeddus sy'n cefnogi diben y Ddeddf.
Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dal yn flaenoriaeth, ac mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i 'gryfhau'r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd a'r gweithle, yn ogystal â'r cartref'.
Ym mis Chwefror 2025, dechreuwyd proses recriwtio penodiadau cyhoeddus lawn i benodi Cynghorydd Cenedlaethol statudol nesaf ar gyfer VAWDASV fel y bo'n ofynnol o dan y Ddeddf.
Ym mis Gorffennaf 2025, penodwyd Johanna Robinson, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, yn Gynghorydd Cenedlaethol am ail dymor tan 2028.
Amcan 1: herio agwedd y cyhoedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled poblogaeth Cymru drwy godi ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth gyhoeddus gyda'r nod o leihau'r achosion ohono
Ymgyrchoedd Byw Heb Ofn
Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol Byw Heb Ofn yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o godi ymwybyddiaeth o bob math o gam-drin. Drwy bartneriaeth gadarn â Chymorth i Ferched Cymru, cyflwynwyd ymgyrchoedd effeithiol yn 2024 i 2025 i helpu unigolion i adnabod arwyddion o gam-drin, deall sut mae cael gafael ar gymorth drwy'r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, a hybu diogelwch, parch a chydraddoldeb mewn perthnasoedd.
Mae'r cydweithrediad parhaus hwn yn sicrhau bod yr holl gynnwys yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn goroeswyr a dioddefwyr, ac yn helpu i leihau stigma sy'n ymwneud â cham-drin domestig a thrais rhywiol. Drwy annog pobl i gael sgyrsiau agored a gonest, mae'r ymgyrchoedd yn rhoi hyder i unigolion i ofyn am help heb ofn na chywilydd.
Mae rhagor o wybodaeth am y Llinell Gymorth ar gael isod.
Aflonyddu yn y Gweithle
Er mwyn cyflawni ymrwymiad y Strategaeth VAWDASV i lunio ymateb effeithiol i gamfanteisio ar ymddiriedaeth ymysg cyrff cyhoeddus, roedd ffrwd waith aflonyddu yn y gweithle y Glasbrint VAWDASV yn blaenoriaethu cynnal cyfres o dair cynhadledd diwrnod cyfan yng Nghaerdydd, Wrecsam ac Aberystwyth a ddaeth ag arweinwyr a gweithwyr proffesiynol y sector cyhoeddus at ei gilydd i ganolbwyntio ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle, mater pellgyrhaeddol ac annerbyniol. Roedd y cynadleddau'n hyrwyddo'r angen a'r gofyniad hollbwysig i bob cyflogwr gymryd camau ymarferol i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle, ac ymateb yn briodol i ddioddefwyr a goroeswyr.
Llwyddodd y gyfres o gynadleddau i godi ymwybyddiaeth o ba mor gyffredin yw aflonyddu rhywiol yn y gweithle a'i effaith. Roedd amrywiaeth o sefydliadau o bob rhan o'r sector cyhoeddus wedi cymryd rhan, gan wreiddio trafodaethau ar gydymffurfio cyfreithiol, rhannu canllawiau ac arferion addawol sy'n cael eu datblygu ar draws y sector, a phwysleisio pwysigrwydd atebolrwydd arweinwyr wrth fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle a'i atal. Cyflwynwyd y gyfres o gynadleddau ym mis Gorffennaf 2025 drwy waith cyd-gynhyrchu llwyddiannus gan bartneriaethau ffrydiau gwaith. Roeddent wedi'u sbarduno gan y profiadau bywyd pwerus yr oedd y dioddefwyr a’r goroeswyr yn ddigon dewr i’w rhannu.
Rydym yn gwerthuso effaith y cynadleddau hyn i ennill dealltwriaeth o gyfranogiad y sector cyhoeddus yn y dyfodol ac arweinyddiaeth ar aflonyddu yn y gweithle a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Ym mis Mawrth 2024, comisiynodd yr Uned Gwahaniaethau ar sail Hil ymchwil ar ran y ffrwd waith aflonyddu yn y gweithle i archwilio profiadau uniongyrchol menywod Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o aflonyddu rhywiol yn y gweithle yng Nghymru. Er mwyn rhoi cyfle i ennill rhagor o ddealltwriaeth drwy brofiadau bywyd, ehangwyd amserlen yr ymchwil a chyhoeddwyd y canfyddiadau ym mis Medi 2025.
Ymgyrch Iawn: aflonyddu ar sail Rhywedd mewn Mannau Cyhoeddus
Rydym yn parhau i herio agwedd y cyhoedd at drais yn erbyn menywod drwy ein Hymgyrch Iawn; gan ganolbwyntio ar ddynion a bechgyn ledled Cymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i dyfu ein Criw Iawn o ddynion a bechgyn sy'n gynghreiriaid. Eleni, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar gefnogi'r ymgyrch gyfathrebu Aflonyddu ar sail Rhywedd mewn Mannau Cyhoeddus. Taflodd yr ymgyrch hon oleuni ar brofiadau menywod a merched mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys mannau cyhoeddus lle mae menywod yn gwneud ymarfer corff; ar y stryd ac yn y gampfa, ac roedd yn cynnwys themâu fel syllu amhriodol, gofod personol a chyffwrdd dieisiau. Gan hybu dull sy'n canolbwyntio ar atebion, nod Iawn yw addysgu dynion yn ogystal â dangos beth gall dynion ei wneud i fod yn gynghreiriaid i roi diwedd ar aflonyddu rhywiol cyhoeddus ar fenywod yng Nghymru.
I gyd-fynd â'r ymgyrch ar-lein, cynhaliwyd taith redeg 'Iawn' gyda deg clwb rhedeg lleol yng Nghaerdydd yn dod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth a thrafod aflonyddu rhywiol cyhoeddus a gafodd sylw yn y cyfryngau ar ITV Cymru, BBC Radio Wales, BBC Ar-lein ac S4C.
Amcan 2: cynyddu ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a’u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol
Y Cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a'r prosiect Sbectrwm
Yng Nghymru, daeth y cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn orfodol i ysgolion o fis Medi 2022 ymlaen. Nod yr addysg hon yw helpu plant a phobl ifanc i ddeall perthnasoedd a rhywioldeb, gan eu grymuso gyda'r wybodaeth a'r sgiliau i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth. Mae'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn amlinellu'r gofynion dysgu gorfodol, sy'n cynnwys pynciau fel iechyd rhywiol, cydsyniad, a hawliau unigolion. Rhaid i ysgolion sicrhau bod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn briodol yn ddatblygiadol i'w disgyblion, gan adlewyrchu eu hoedran a'u haeddfedrwydd.
Mae'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb gorfodol yn helpu ysgolion i ddylunio eu Haddysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae'r cynnwys wedi'i osod yng nghyd-destun meysydd dysgu eang a rhyng-gysylltiedig, sef:
- perthnasoedd a hunaniaeth
- iechyd rhywiol a llesiant
- grymuso, diogelwch a pharch
Mae'r meysydd hyn yn caniatáu i ymarferwyr gynllunio a datblygu cwricwlwm wedi'i deilwra i'w dysgwyr, gan greu cysylltiadau a datblygu cyd-destunau go iawn ar gyfer dysgu ar draws y cwricwlwm.
Fe wnaethom barhau i ariannu prosiect Sbectrwm Stori Cymru yn ystod 2024 i 2025. Yn gyson â'r Cod Cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, mae hwn yn hybu pwysigrwydd perthnasoedd iach ac yn codi ymwybyddiaeth o VAWDASV. Mae Sbectrwm hefyd yn darparu hyfforddiant i staff ysgol a llywodraethwyr ar ddeall effaith cam-drin domestig ar blentyn ac mae'n hybu dull ysgol gyfan o fynd i'r afael â cham-drin domestig. Mae cyllid hefyd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer Sbectrwm i ddatblygu adnoddau i athrawon (hyfforddiant ar-lein a deunydd print) ar sut i ddelio'n effeithiol â datgeliadau o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gan ddisgyblion.
Yn ystod 2024 i 2025, roedd 40,860 o ddisgyblion wedi cymryd rhan yn Sbectrwm ar draws 3,040 o sesiynau, gyda'r nod o sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mwy o wybodaeth, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Roedd 2,855 o staff yn bresennol hefyd i gynyddu eu gwybodaeth.
Er mwyn helpu ysgolion i wreiddio dull ysgol gyfan o ymdrin â pherthnasoedd iach a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, roedd Sbectrwm wedi rhoi cymorth i 508 o staff yn ystod sesiynau HMS/hyfforddi staff ac mewn 30 o gyfarfodydd ymgynghori. Cyflwynwyd pum sesiwn ar gyfer rhieni a llywodraethwyr, ac roedd Sbectrwm yn bresennol mewn 28 o gynadleddau a fforymau sy'n ymwneud â VAWDASV ledled Cymru i hyrwyddo'r prosiect yn ogystal â chefnogi'r dull ysgol gyfan.
Mewn ysgolion cynradd, gall un grŵp blwyddyn gael mynediad at sesiwn Sbectrwm, ac mewn ysgolion uwchradd mae un sesiwn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael ei chynnig i ddau grŵp blwyddyn sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd iach. Mae sesiynau ac adnoddau wedi'u teilwra ar gael i fodloni anghenion myfyrwyr i hybu cynwysoldeb. Er nad yw pob ysgol wedi cael hyfforddiant gan Sbectrwm, bydd pob plentyn mewn cylch deg mlynedd yn cael un neu ddwy o sesiynau.
Geirdaon i Brosiect Sbectrwm
Dylai pob person ifanc wybod beth i'w wneud os ydyn nhw byth mewn sefyllfa lle maen nhw mewn perthynas wenwynig (Gwerthusiad disgyblion)
Roedd y sesiwn yn galluogi disgyblion i gael gwell dealltwriaeth o berthnasoedd iach ac achosion cam-drin domestig. Wrth i ddisgyblion ddechrau datblygu perthnasoedd, mae'n hanfodol eu bod yn deall hyn ac fe wnaeth y sesiwn godi ymwybyddiaeth o hyn (Gwerthusiad staff)
Gweithio mewn Partneriaeth i gefnogi Darparwyr Addysg Uwch
Fel rhan o'n hymrwymiad i hybu perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach ar draws pob lleoliad addysg, aeth y Glasbrint ati i greu gweithgor. Daeth hyn ag aelodau o'r ffrydiau gwaith Anghenion Plant a Phobl Ifanc ac Aflonyddu ar sail Rhywedd ym Mhob Man Cyhoeddus at ei gilydd, ynghyd â Medr a'r Uned Atal Trais (VPU) i greu pecyn cymorth hunanasesu ar gyfer prifysgolion.
Cafodd y pecyn cymorth ei ddylunio i helpu sefydliadau addysg uwch i asesu eu dulliau o atal ac ymateb i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac i feithrin amgylcheddau cynhwysol a pharchus i fyfyrwyr a staff. Mae'n annog ymarfer myfyriol a gwelliant parhaus, sy'n cyd-fynd ag egwyddorion y Strategaeth VAWDASV Genedlaethol.
Bydd Medr yn ystyried y gwaith o weithredu'r pecyn cymorth gyda phrifysgolion fel rhan o'u cyfres ehangach o ddogfennau a gwaith papur i gefnogi prifysgolion.
Cynllun strategol Medr
Roedd y ffrwd waith Aflonyddu ar sail Rhywedd ym Mhob Gofod Cyhoeddus yn cydnabod cyfle i gydweithio i ddarparu ymateb ar y cyd i ymgynghoriad Medr ar eu cynllun strategol drafft ddiwedd 2024. Roedd hyn yn gyfle i aelodau'r ffrwd waith ddod at ei gilydd a chytuno ar ymateb a oedd yn cydnabod arbenigedd gweithwyr proffesiynol ar draws y sector VAWDASV. Yng Nghynllun Strategol Medr 2025 i 2030, o dan nod strategol 1 yr ymrwymiad sefydlu cyntaf yw "sefydlu amodau rheoleiddiol i hybu tegwch a chyfle cyfartal a gweithio gyda phartneriaid i gyfrannu at ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, a thrais a cham-drin ar sail rhywedd".
Cadw'n Ddiogel Ar-lein
Yn ystod 2024 i 2025, fe wnaethom ehangu'r cyngor 'Problemau a phryderon ar-lein' i blant a phobl ifanc, sydd ar gael drwy ardal Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb. Mae'r cyngor wedi'i gynllunio i helpu plant a phobl ifanc i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth a hyderus yn eu bywyd digidol. Mae'n mynd i'r afael ag amrywiaeth eang o faterion ar-lein, gan gynnwys rhannu lluniau noeth, aflonyddu rhywiol ar-lein a chasineb ar-lein, ac mae'n darparu gwybodaeth ymarferol sy'n gallu helpu plant a phobl ifanc i adnabod ymddygiad nad yw'n iach, gosod ffiniau, cadw eu hunain yn ddiogel a gofyn am gymorth pan fydd angen.
Ymgysylltu â’r gymuned
Yn ystod 2024 i 2025, roedd ein hymrwymiad i gynnwys dynion a bechgyn ifanc i fynd i'r afael â VAWDASV yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â phobl ifanc yn Academi Pêl-droed Cymunedol Dinas Caerdydd, ochr yn ochr â phartneriaid yn Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a Heddlu De Cymru. Arweiniodd hyn at ymgorffori elfennau o'r ymgyrch Iawn mewn sesiynau pêl-droed ar draws dau safle peilot yng Nghaerdydd a Merthyr Tudful. Mewn ymdrech i hybu cyfleoedd atal sylfaenol, cymerodd dynion a bechgyn ifanc ran mewn sgyrsiau addysgol am ymddygiadau gwael mewn perthnasoedd, materion trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ehangach, a herio ideoleg ddi-fudd ar wrywdod.
Amcan 3: cynyddu'r ffocws ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif a chefnogi'r rhai a all ymddwyn yn gamdriniol neu'n dreisgar i newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu
Mynd i'r afael â Chyflawni Trais
Ym mis Chwefror a mis Mawrth, fe wnaeth Prifysgol De Cymru fwrw ymlaen ag ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ran ffrwd waith mynd i'r afael â chyflawni trais y Glasbrint. Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar nodi'r arferion gorau ar gyfer diffinio a mesur effeithiolrwydd ymyriadau cyflawni a bydd yn sail i ddatganiad sefyllfa ffrwd waith. Mae arolwg consensws ar-lein a dau weithdy a fynychwyd gan arbenigwyr pwnc yng ngogledd a de Cymru wedi cael eu cwblhau. Bydd yr ymchwil yn dod i ben yn hydref 2025 gydag adroddiad terfynol o ganfyddiadau, i'w gyhoeddi yn nes ymlaen yn 2025. Bydd yr ymchwil yn sail i ddatblygu datganiad safbwynt Glasbrint ar fesur effeithiolrwydd ymyriadau i atal cyflawni.
Mae'r ffrwd waith wedi cwblhau arolwg cwmpasu Cymru gyfan ac wedi cyhoeddi ei adroddiad sy'n mapio'r gwasanaethau i gefnogi newid ymddygiad, a gwella diogelwch goroeswyr a dioddefwyr. Bydd y ffrwd waith hefyd yn datblygu fframwaith ar gyfer categoreiddio ymyriadau a sefydlu terminoleg gyson.
Mae Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi cymeradwyo'r adroddiad a'r argymhellion ynddo. Mae'r adroddiad ar gael i randdeiliaid ac mae wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Rhybuddiadau a Cham-drin mewn Perthnasoedd a Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig
Ar y cyd â'r heddlu yng Nghymru a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu rhanbarthol, rydym wedi parhau i ariannu rhaglen ymyrraeth gynnar, CARA (Rhybuddio a Cham-drin mewn Perthnasoedd) ledled Cymru. Mae hwn yn ddewis arall yn lle'r llwybr Cyfiawnder Troseddol, sy'n cael ei ddarparu fel rhaglen ymyrraeth gynnar i bobl sy'n bodloni'r meini prawf penodol, gan gynnwys pobl sydd wedi cyflawni trosedd ddomestig gychwynnol am y tro cyntaf.
Disgwylir i Lywodraeth y DU a'r heddlu ddechrau cyflwyno'r gorchymyn amddiffyn newydd, DAPO, ar sail treial ledled gogledd Cymru. Y bwriad yw dechrau ym mis Ebrill 2025. Rydym yn parhau i gyfrannu at y treial i sicrhau bod y cyd-destun Cymreig yn cael ei ddatblygu a'i ddeall; gan sicrhau bod anghenion pobl Cymru yn cael eu hystyried wrth gyflwyno.
Gweithiwr Allweddol Arbenigol ar gyfer Cam-drin Domestig gan Swyddogion Heddlu (Prosiect DRIVE).
Ar y cyd â Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru, fe wnaethom ariannu swydd arbenigol sy'n gweithio naill ai gyda swyddogion heddlu neu gyn-swyddogion heddlu sydd wedi cael eu cyhuddo o droseddau domestig. Mae'r ymyriad hwn yn hollbwysig o ran rheoli risg ac mae'n ategu cynllun peilot Tabw i ddioddefwyr, sy'n cefnogi dioddefwyr cam-drin gan swyddogion heddlu yng Ngwent a de Cymru.
Amcan 4: rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal
Er mwyn torri cylchoedd cam-drin, rydym yn cydnabod bod yn rhaid inni weithio gyda dynion a bechgyn fel cynghreiriaid ac asiantau dros newid, gan ganolbwyntio ar atal cychwynnol, perthnasoedd iach a datblygu dealltwriaeth o drais ar sail rhywedd cyn gynted â phosib. Er mwyn sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw, mae angen inni annog dynion i fod yn gynghreiriaid a pheidio ag esgusodi, caniatáu na meithrin agweddau ac ymddygiadau a all arwain at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae gennym ymgyrch gyfathrebu lwyddiannus sy'n ceisio datblygu a deall trais ar sail rhywedd, a'r agweddau a'r ymddygiadau gwael sy'n gallu ei feithrin. Mae ein gwaith o ymgysylltu â dynion a bechgyn yn canolbwyntio ar atal sylfaenol; cyn i niwed ddechrau.
Rydym yn cydnabod na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain; mae angen i gymunedau, sefydliadau a phobl ddatblygu a gwreiddio'r newid mewn cymdeithas a diwylliant er mwyn cyflawni hyn. Mae gweithio gyda phartneriaid cymunedol ar draws chwaraeon wedi bod yn ffordd bwysig o gyflwyno'r negeseuon a'r adnoddau penodol sy'n chwarae rhan yn y gwaith o leihau niwed yn y lle cyntaf.
Rydym wedi cefnogi gwaith She Is Not Your Rehab i ddod â siaradwyr ac asiantau dros newid o'r radd flaenaf i gymunedau lleol; mewn amrywiaeth o leoliadau addysg, grwpiau chwaraeon a byrddau iechyd i annog pobl i ddatblygu dealltwriaeth o drais teuluol. Maen nhw'n meithrin mannau diogel i ddysgu, myfyrio a sicrhau newid heb ofni beirniadaeth. Drwy roi'r adnoddau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth i ddynion a bechgyn ifanc, ein nod yw chwalu agweddau sy'n pontio'r cenedlaethau ac sydd wedi hen galedu at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae'r ymgyrch Iawn wedi bod yn llwyfan arloesol ar gyfer cyflwyno'r negeseuon hyn ac ennyn sylw dynion a bechgyn drwy eu llwyfannau digidol a'u mannau gweithgarwch, er enghraifft ar-lein ac wyneb yn wyneb mewn lleoliadau chwaraeon cymunedol. Mae'r ymgyrch yn dal i gael ei chanmol am ei hagwedd arloesol ac uniongyrchol, gan weithio gyda dynion a bechgyn i feithrin diogelwch i fenywod a merched, gan fabwysiadu cyfrifoldeb ac atebolrwydd.
Ym mis Hydref a mis Tachwedd 2024, roeddem yn rhan o ddirprwyaeth i Seland Newydd i rannu ein dull gweithredu yng Nghymru. Fe wnaethom gwrdd ag Uchel Gomisiynydd y DU, Gweinyddiaeth Gyfiawnder Seland Newydd, Lluoedd Amddiffyn Seland Newydd, y Weinyddiaeth Iechyd a chynlluniau cymunedol i rannu'r arferion gorau a dysgu gan asiantaethau sy'n gweithio mewn cymunedau er mwyn galluogi dull cydweithredol o ddatblygu polisïau a darpariaethau yng Nghymru sy'n helpu i leihau achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a gwella diogelwch menywod a merched.
Hyfforddiant Ymyrryd mewn Sefyllfaoedd Niweidiol
Nod y cynllun peilot Hyfforddiant Ymyrryd mewn Sefyllfaoedd Niweidiol yw grymuso pobl i godi eu llais a herio agweddau ac ymddygiadau a allai fod yn gefnogol i drais yn erbyn menywod a merched mewn grŵp cyfoedion, gweithle, cymuned neu fan cyhoeddus.
Mae'r cynllun peilot hwn yn cynnig hyfforddiant i hyrwyddo rhaglen ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol gymdeithasol-fuddiol, seiliedig ar wybodaeth, sy'n rhedeg ochr yn ochr â'n Hyfforddiant presennol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol sydd wedi'i sefydlu ac sy'n cael ei ddarparu gan y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol. Bwriad hyn yw creu newidiadau gwirioneddol a pharhaol yn agweddau cymdeithas at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae lleoliadau targed yn cynnwys, ymysg rhai eraill, clybiau chwaraeon, timau a chyrff llywodraethu, lleoliadau hyfforddi athrawon, prifysgolion, sefydliadau a busnesau, yr heddlu, sefydliadau cymunedol, awdurdodau lleol a'r cyhoedd. Bydd yr hyfforddiant hwn yn datblygu sgiliau unigolion i alluogi gwylwyr i ymyrryd yn ddiogel i atal neu ymateb i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a bydd yn cefnogi ein nod o newid agweddau, mynd i'r afael â normau rhywedd a gwrywdod gwenwynig, creu newid mewn diwylliant a hyrwyddo ymhellach y ffaith nad yw unrhyw fath o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dderbyniol.
Ar 31 Mawrth 2025, roedd 628 o gyfranogwyr wedi cwblhau'r hyfforddiant.
Ffrwd waith aflonyddu yn y gweithle
Drwy’r ffrwd waith aflonyddu yn y gweithle, mae partneriaeth gymdeithasol gadarn a datblygu perthnasoedd wedi arwain at rannu offer, adnoddau ac enghreifftiau o’r arferion gorau i helpu i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn effeithiol.
Amcan 5: hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr
Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol
Y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yw un o’r prif fecanweithiau ar gyfer gweithredu’r Ddeddf. Bydd dioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn rhyngweithio ag amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys tai a gofal iechyd, ac mae’n bwysig sefydlu llwybrau priodol at gymorth a gwreiddio dealltwriaeth o drais ar sail rhywedd ym mhob awdurdod perthnasol yng Nghymru. Mae hyd a lled y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn eang ac yn cynnwys chwe grŵp hyfforddi sydd wedi datblygu o ran dyfnder a graddfa dros y deg mlynedd ddiwethaf. Bydd pob gweithiwr proffesiynol yn y gwasanaethau cyhoeddus yn perthyn i un o'r grwpiau hyn, gyda gofynion hyfforddi sylfaenol wedi'u hamlinellu fesul grŵp.
Mae’n rhaid i awdurdodau perthnasol (fel yr amlinellir yn y Ddeddf) gymryd camau rhesymol i hyfforddi eu staff i fodloni gofynion y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ac adrodd ar y cynnydd drwy gyflwyno adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol.
Rydym yn adolygu'r Fframwaith i sicrhau ei fod yn parhau i fodloni anghenion gweithwyr proffesiynol ledled Cymru ac yn eu helpu i ymateb yn effeithiol i ddioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth.
Rydym yn adolygu'r fframwaith fesul cam. Roedd y cam cyntaf yn 2024 i 2025 yn cynnwys trafodaethau â'n rhanddeiliaid allweddol ar y blaenoriaethau ar gyfer adolygiad. Mae hyn wedi ein helpu i wella'r broses adrodd flynyddol ar gyfer awdurdodau perthnasol ac i egluro adrannau o ganllawiau'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol sydd wedi dyddio. O ganlyniad i'r adborth hwn, rydym yn adnewyddu ein modiwl ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar-lein ar gyfer Grŵp 1 (gweithwyr proffesiynol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru).
Bydd cam nesaf yr adolygiad yn edrych ar y rhaglen Gofyn a Gweithredu. Bydd unrhyw ddiweddariadau i'r Fframwaith yn cael eu llywio gan dystiolaeth, profiad ac anghenion diweddaraf y rhai sy'n gweithio i atal ac ymateb i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.
Cynllun iechyd menywod
Cyhoeddwyd y Cynllun Iechyd Menywod ar 10 Rhagfyr 2024. Mae'r cynllun wedi cael ei ysgrifennu gan GIG Cymru a'i fwriad yw rhoi dull i'r GIG yng Nghymru ar gyfer gweithredu'r Datganiad Ansawdd a chanlyniadau gwaith y cam Darganfod. Y Cynllun Iechyd Menywod yw ymateb y GIG i'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod a Merched, a'r adroddiad Darganfod. Mae'n gynllun cenedlaethol sydd â'r nod o wella gwasanaethau iechyd i fenywod a phrofiad menywod o'r gwasanaethau hynny, gan ddilyn dull cwrs bywyd. Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn flaenoriaeth benodol yn y cynllun i "ddarparu addysg ar VAWDASV dros gwrs bywyd i bob gweithiwr proffesiynol gofal iechyd er mwyn meithrin hyder a chymhwysedd y gweithlu i ofyn am drais a sicrhau na chollir cyfleoedd i ddatgelu ac atal y continwwm niwed".
Er mwyn cyflawni'r cam gweithredu hwn, bydd angen gwneud gwaith i ddeall y sefyllfa bresennol o ran darparu hyfforddiant a manteisio ar gyfleoedd hyfforddi presennol.
Mae cam pellach i'w gymryd i gynnal ymarfer cwmpasu i ystyried yr angen i bob Bwrdd Iechyd gael staff penodol neu 'Hyrwyddwr' VAWDASV i gefnogi'r gwaith o gasglu data, hyfforddi, gweithredu polisi gan gynnwys y Ddeddf VAWDASV, a'r Ddyletswydd Trais Difrifol.
Y rhaglen Adnabod ac Atgyfeirio i Wella Diogelwch (IRIS)
Nod IRIS yw gwella'r ymateb gofal iechyd i drais ar sail rhywedd. Mae'r amrywiaeth o ran gweithredu IRIS yn parhau ar draws rhanbarthau yng Nghymru. Bydd ymchwil arfaethedig gan Lywodraeth Cymru, a gomisiynwyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon, yn ymchwilio i'r ffactorau sy'n cyfrannu at y gwahaniaeth hwn, gan gynnwys gwahaniaethau mewn blaenoriaethau lleol, argaeledd cyllid, parodrwydd gwasanaethau, a pherthnasedd canfyddedig.
Mae tîm Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth Mewnol Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil i ddeall sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud ynghylch comisiynu, darparu a defnyddio hyfforddiant a chymorth VAWDASV mewn lleoliadau meddygaeth deulu, gan ganolbwyntio'n benodol ar IRIS (Adnabod ac Atgyfeirio i Wella Diogelwch) a Gofyn a Gweithredu. Mae'r rhaglenni hyn yn rhan ganolog o wella'r gwaith o adnabod ac ymateb yn gynnar i gam-drin domestig ar draws lleoliadau gofal iechyd. Bwriedir cwblhau'r ymchwil erbyn dechrau gwanwyn 2026, a disgwylir cyhoeddi'r canfyddiadau yn yr un cyfnod.
Pecyn cymorth addysg
Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol perthnasol yn gallu darparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae gwaith wedi cael ei wneud i ddiweddaru pecyn cymorth addysgol ar-lein sydd â'r nod o gefnogi athrawon, gwarcheidwaid, llywodraethwyr a rhieni. Mae'r pecyn cymorth wedi'i ddylunio i gryfhau dealltwriaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a hybu amgylcheddau diogel a chefnogol i blant a phobl ifanc.
Mae nodwedd newydd yn y pecyn cymorth yn rhoi cyfle i archwilio materion sy'n dod i'r amlwg ac sy'n amserol, gyda chanllawiau ac adnoddau perthnasol ar gael i gefnogi gweithwyr addysg proffesiynol a gofalwyr. Gellir diweddaru'r adran hon yn rheolaidd i sicrhau bod y pecyn cymorth yn parhau i ymateb i anghenion lleoliadau addysg fel y maen nhw'n datblygu. Rhagwelir y bydd y gwaith yn parhau drwy gydol 2025 gyda'r bwriad y bydd y pecyn cymorth ar gael tua diwedd y flwyddyn.
Amcan 6: rhoi mynediad cyfartal i bob dioddefwr at wasanaethau, a'r rheini'n wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n ymatebol ledled Cymru
Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr
Rydym yn parhau i weithio i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau bywyd goroeswyr wrth galon ein gwaith a gwaith y Glasbrint. Mae'r Panel Llais Goroeswyr yn cynnwys naw sydd wedi goroesi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r gwaith o recriwtio i'r panel yn parhau ar sail dreigl i sicrhau ymgysylltiad a chynrychiolaeth barhaus, ac i gynnal aelodaeth weithredol a chynaliadwy.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r panel wedi cwrdd yn rheolaidd i graffu ar gynlluniau ac argymhellion ffrydiau gwaith y Glasbrint VAWDASV cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol VAWDASV. Y Cynghorwyr Cenedlaethol VAWDASV sy'n cadeirio'r panel.
Mae aelodau'r panel bellach wedi'u gwreiddio ym mhob un o ffrydiau gwaith y Glasbrint, gydag o leiaf dau aelod panel wedi'u neilltuo i bob ffrwd waith. Bydd dau aelod o'r panel hefyd yn cael eu dyrannu i'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol VAWDASV a Bwrdd y Rhaglen, gan sicrhau bod llais goroeswyr yn cael ei gynrychioli ar bob lefel o lywodraethu a gwneud penderfyniadau. Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i ganfod a sefydlu'r mecanweithiau cymorth priodol i alluogi cyfranogiad ystyrlon a chynaliadwy yn y mannau hyn.
Cyllid refeniw a chyfalaf ar gyfer gwasanaethau arbenigol y trydydd sector
Yn ystod 2024 i 2025, roedd cyllideb VAWDASV wedi galluogi gwasanaethau ledled Cymru i barhau i ddarparu cymorth hanfodol i ddioddefwyr, dal cyflawnwyr i gyfrif a rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sy'n ddioddefwyr ynddynt eu hunain naill ai drwy fod yn dyst i gam-drin domestig gartref neu drwy ddioddef camfanteisio neu broblemau cymhleth ychwanegol.
Rydym yn darparu cyllid grantiau craidd i bob un o'r chwe rhanbarth ledled Cymru i'w galluogi i fynd i'r afael ag anghenion rhanbarthol. Drwy'r cyllid hwn, mae rhanbarthau'n cefnogi darparwyr gwasanaethau i ddioddefwyr, rolau Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig, hyfforddiant i weithwyr proffesiynol, ymgyrchoedd cyfathrebu lleol a rolau gweithwyr allweddol.
Rydym yn parhau i ariannu gweithgareddau staffio a darparu gwasanaethau yn uniongyrchol mewn rhai sefydliadau trydydd sector.
Rydym wedi darparu cymorth ariannol ychwanegol i bobl heb hawl i gyllid cyhoeddus sydd wedi dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Er mwyn cefnogi'r gwaith o weithredu'r Strategaeth Genedlaethol, rydym wedi comisiynu ymchwil i ddatblygu Damcaniaeth Newid ar gyfer y strategaeth, a gwaith tirweddu data.
Yn 2024 i 2025 fe wnaethom ddod â dwy ffrwd cyllid cyfalaf at ei gilydd mewn un cynllun symlach. Mae'r cyllid cyfalaf hwn ar gael i unrhyw un sy'n gweithio yn y sector VAWDASV i gefnogi'r gwaith parhaus o ddarparu gwasanaethau, ac i'w gwneud hi'n bosib prynu eitemau ac eiddo newydd, gan gynnwys llochesi gwasgaredig. Fe wnaethom ariannu dros 20 o geisiadau a oedd yn amrywio o ddodrefn newydd mewn mannau therapiwtig i adeiladau mawr a swyddfeydd.
Dull System Gyfan Cynaliadwy (SWSA)
Er mwyn casglu gwybodaeth am weithredu'r Ddeddf ar lefel ranbarthol, fe wnaethom gynnal arolwg a gweithdai gyda phartneriaid i lywio gwaith ffrwd waith Dull System Gyfan Cynaliadwy'r Glasbrint. Roedd y gweithdai hyn yn canolbwyntio ar feysydd allweddol, gan gynnwys asesiadau o anghenion rhanbarthol, rolau byrddau rhanbarthol a phartneriaid statudol wrth gyflawni strategaeth VAWDASV 2022 i 2026, ac i ba raddau roedd rhanbarthau'n teimlo bod ganddynt eglurder ynghylch eu modelau cyflawni disgwyliedig. Cafodd canfyddiadau'r gweithdai hyn eu crynhoi mewn adroddiad mewnol a gynhyrchwyd ddiwedd 2024, ac roeddent yn sail i Uwchgynhadledd Cymru gyfan a galwad am weithredu i'r holl arweinwyr strategol a rhanbarthol, a gyflwynwyd ym mis Medi 2025.
Roedd y gweithdai hyn hefyd yn tynnu sylw at ddiffygion mewn data sy'n benodol i VAWDASV ledled Cymru ac mae'r gwaith hwn wedi cael ei ymgorffori yn yr ymchwil i'r dirwedd data, sy'n ceisio casglu gwybodaeth am ba ddata sydd ar gael ledled Cymru a nodi bylchau er mwyn cynhyrchu asesiadau anghenion mwy cadarn ar gyfer rhanbarthau.
Rydym wedi dechrau gweithio ar ddatblygu canllawiau statudol o dan y Ddeddf VAWDASV ar gyfer awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, a phartneriaid perthnasol eraill, ar eu dyletswyddau cynllunio yng nghyswllt VAWDASV.
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Roedd Llywodraeth Cymru wedi parhau i ariannu Cymorth i Ferched Cymru i ddarparu'r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am drydedd flwyddyn y contract presennol hwn.
Roedd y Llinell Gymorth wedi ymdrin â chyfanswm o 28,137 o ymholiadau yn ystod 2024 i 2025. Mae hyn yn cynnwys ymholiadau i mewn a galwadau allan, naill ai i oroeswyr neu i weithwyr proffesiynol eraill.
Gellir gwneud ymholiadau ar ffurf galwadau ffôn, negeseuon e-bost, negeseuon testun a sgyrsiau ar y we. Mae Sign Live hefyd ar gael i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), ond ni chafodd y gwasanaeth hwn ei ddefnyddio yn ystod y flwyddyn.
Targed y Llinell Gymorth yw ateb dros 90% o ymholiadau y tro cyntaf a rhagorodd ar hyn yn ystod y flwyddyn gyda 'chyfradd llwyddo' o 94.6%. Yr amser aros cyfartalog ar gyfer galwadau oedd 19 munud ac 20 eiliad, gyda'r amser cyffredinol ar gyfer delio ag ymholiadau yn 26 munud 24 eiliad, gan gyfrif am amser gweinyddu a chymorth eiriolwr llinell gymorth all-lein
Yn ystod 2024 i 2025, roedd tua hanner yr ymholiadau gan ddioddefwyr a goroeswyr, gyda'r hanner arall yn cynnwys gweithwyr proffesiynol a phobl eraill â phryderon, gyda llai nag 1% o'r galwadau gan gyflawnwyr a phobl yn poeni am eu hymddygiad eu hunain.
Eleni, cofnodwyd dangosyddion risg uchel yn ystod ymholiadau, er mwyn helpu i dracio'r dioddefwyr mwyaf agored i niwed a sicrhau eu bod yn cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt. Mae enghreifftiau o ddangosyddion risg uchel yn cynnwys:
- cam-drin domestig gyda thrais rhywiol yn bresennol
- niwed i anifeiliaid
- camdriniaeth yn gwaethygu
- cam-drin ar sail anrhydedd
- beichiogrwydd/cyswllt plentyn
- stelcio
- tagu nad yw'n angheuol
- bygythiadau i ladd
- defnyddio arfau/gwrthrychau
Gall eiriolwyr y Llinell Gymorth ymateb i bob ymholiad drwy frysbennu angen yr unigolyn sy'n galw, gyda'r canlyniad yn amrywio o wrando gweithredol, darparu gwybodaeth, cyfeirio ac atgyfeirio. Gellir cyfeirio at amrywiaeth o wasanaethau, nid yn unig i'r sector VAWDASV arbenigol ond i wasanaethau cymorth eraill fel rheoli dyledion, cymorth cyfreithiol a chymorth iechyd meddwl.
Timau VAWDASV rhanbarthol
Yn ystod 2024 i 2025 ac wedi hynny, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n cynghorwyr a'n timau rhanbarthol ledled Cymru. Mae'r bartneriaeth hon wedi bod yn hollbwysig ac yn gefnogol, gan sicrhau bod materion sy'n effeithio ar ardaloedd lleol yn cael eu dwyn i sylw Llywodraeth Cymru mewn amser real. Mae meithrin dull cydweithredol o wneud penderfyniadau, ymgynghori a chydweithio'n gyflym i ddarparu gwasanaethau wedi galluogi dioddefwyr a defnyddwyr gwasanaethau i gael gafael ar gymorth lle bo angen, i gynnal gwasanaethau sydd mewn perygl o beidio â gallu gweithredu mwyach, ac i fod yn arloesol ac yn barod i dderbyn ffyrdd newydd o feddwl a mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Cymorth i bobl hŷn sydd wedi dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais
Mae anghenion pobl hŷn yn cael eu cydnabod yn benodol yn y strategaeth VAWDASV Genedlaethol, a ddangosir gan y ffrwd waith Anghenion Pobl Hŷn yn y Glasbrint VAWDASV. Yn ogystal â chymryd y camau gweithredu lefel uchel allweddol yng nghynllun cyflawni'r Glasbrint, rydym wedi cydnabod pwysigrwydd gwella dull gweithredu ar y cyd rhwng y sectorau diogelu a VAWDASV i sicrhau ymateb llwyddiannus i anghenion pobl hŷn.
Mae ein Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn yn cydnabod rôl ffrwd waith y Glasbrint fel galluogwr yn cyflawni uchelgeisiau'r cynllun.
Mae timau polisi diogelu a VAWDASV wedi parhau i weithio gyda'i gilydd i symleiddio dulliau o ddatblygu a chyflawni polisïau. Yn ystod 2024 i 2025, dechreuodd y ffrwd waith Anghenion Pobl Hŷn waith i dynnu sylw at gyfleoedd i wella'r broses asesu risg ar gyfer pobl hŷn, yn dilyn galwadau gan aelodau i adolygu hyn fel blaenoriaeth. Mae’r gwaith hwn yn parhau. Cafodd ffeithlun arferion gorau ei ddatblygu a'i raeadru a oedd yn rhoi trosolwg hawdd ei ddarllen i ddarparwyr gwasanaethau VAWDASV arbenigol o'r ffordd orau o roi cymorth i bobl hŷn a allai gysylltu â'u sefydliadau. Roedd yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen ar bobl hŷn o ran lleoliad, iaith, pobl ac ymarfer. Datblygwyd hyn drwy drafod ag amrywiaeth o ddarparwyr ledled Cymru, yn ogystal ag ystyried adborth goroeswyr dan arweiniad Dewis Choice fel rhan o'u gwaith. Cafodd y ffeithlun ei raeadru i'r sector VAWDASV gyda'r bwriad o ddatblygu rhagor o adnoddau ar gyfer sectorau eraill yn y dyfodol.
Dioddefwyr sy'n fewnfudwyr ac unigolion heb hawl i gyllid cyhoeddus
Yn ystod 2024 i 2025, roedd Llywodraeth Cymru wedi parhau i ariannu cronfa atodol beilot drwy Bawso i roi cymorth i unigolion heb hawl i gyllid cyhoeddus, gan ategu cynllun sefydledig Cymorth i Ddioddefwyr sy'n Fewnfudwyr y Swyddfa Gartref. Nod y gronfa atodol oedd rhoi cymorth i ddioddefwyr yng Nghymru sy'n fewnfudwyr ac yn destun amodau heb hawl i gyllid cyhoeddus, drwy allu aros am gyfnod hirach mewn llety wedi'i ariannu, ochr yn ochr â mwy o gyllid cynhaliaeth i gefnogi mynediad haws at fwyd a hanfodion eraill. Cafodd 161 o unigolion gymorth drwy'r cynllun yn 2024 i 2025.
Mae'r cynllun peilot wedi tynnu sylw at heriau parhaus i unigolion heb hawl i gyllid cyhoeddus, gan gynnwys dealltwriaeth anghyson o ddyletswyddau statudol i roi cymorth i unigolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu sy'n ffoi rhag camdriniaeth, yn ogystal â phroblemau o ran cael gafael ar wybodaeth am faterion a hawliau mewnfudo. I unigolion sy'n ffoi rhag perthynas gamdriniol, mae deall eu hawliau a'r cyfleoedd sydd ganddynt i gael gafael ar gymorth yn hanfodol er mwyn ei gwneud hi'n haws pontio'n ddidrafferth i fywyd newydd a diogel.
Defnyddio'r gronfa beilot atodol i unigolion heb hawl i gyllid cyhoeddus
Roedd y lwfans cynhaliaeth yn caniatáu i ddefnyddwyr gwasanaeth brynu anghenion hanfodol sylfaenol fel bwyd a oedd yn addas i'w gofynion dietegol a chrefyddol. Roedden nhw'n gallu defnyddio'r arian i brynu nwyddau mislif, pethau 'molchi, dillad a defnyddio'r arian ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus gan eu galluogi i gael mynediad at amwynderau hanfodol.
Ar gyfer defnyddiwr gwasanaeth a oedd yn feichiog, roedd hi'n gallu dechrau prynu eitemau babi fel dillad a chewynnau, ond cafodd help hefyd gan y gweithiwr cymorth i gael gafael ar ddarparwyr gwasanaethau eraill a oedd yn dosbarthu eitemau ar gyfer babanod heb eu geni a babanod newydd-anedig.
Roedd yr holl ddefnyddwyr gwasanaeth hefyd yn cael cymorth drwy fwyd gan fanciau bwyd i sicrhau nad oedd prinder.
Bawso
Casgliadau a ffocws i’r dyfodol
Yn 2025, 10 mlynedd ers pasio'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (2015), rydym yn parhau i wneud cynnydd drwy barhau i wreiddio chwe ffrwd waith y Glasbrint VAWDASV a chyflawni chwe amcan y Strategaeth Genedlaethol. Mae'r Glasbrint wedi rhoi cyfle inni ffurfioli a gwreiddio ein hegwyddorion partneriaeth a chydweithio i ddileu trais a cham-drin ar sail rhywedd, ac mae ei ffrydiau gwaith wedi bod yn cyflawni ei gamau gweithredu lefel uchel y cytunwyd arnynt ar y cyd. Rydym wedi parhau i wneud cynnydd o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn 2024 i 2025; fodd bynnag, wrth inni baratoi ar gyfer strategaeth newydd yn 2027, mae hefyd yn amlwg bod rhagor i'w wneud.
Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru, a rhoi diwedd arno yn y pen draw, yn ymdrech ar y cyd. Mae'n broblem system gyfan, sy'n galw am ymateb system gyfan. Wrth inni barhau â'n hymdrechion i wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw neu'n ferch, byddwn yn parhau i gyflawni yn erbyn camau gweithredu'r Glasbrint ochr yn ochr â'n gwaith tuag at strategaeth yn y dyfodol.
Ni fydd Cymru’n goddef cam-drin.
