Ymchwil ar y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn y Cwricwlwm i Gymru: ymateb y llywodraeth
Ein hymateb i astudiaeth y gwerthusiad ar y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn y Cwriclwm i Gymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Ar 17 Gorffennaf 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, a ddatblygwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, a chwmni ymchwil Arad, 'Maes Iechyd a Lles yn y Cwricwlwm i Gymru: astudiaeth ansoddol'. Mae'r adroddiad hwn yn rhan o werthusiad ffurfiannol y Cwricwlwm i Gymru, astudiaeth aml-flwyddyn a fydd yn rhoi darlun ansoddol a meintiol eang i ni o sut mae'r diwygiadau'n gweithio, sut mae arfer yn newid a sut mae'r newidiadau hyn yn cael eu profi gan uwch arweinwyr, ymarferwyr, dysgwyr a'u teuluoedd.
Mae crynodeb o ganfyddiadau'r adroddiad wedi'i gyhoeddi. Roedd yr astudiaeth yn ceisio deall sut mae fframwaith y Cwricwlwm i Gymru mewn perthynas ag Iechyd a Lles yn cael ei wireddu yn ymarferol, yn ogystal â sut mae lleoliadau ac ymarferwyr yn cael eu cefnogi yn y Maes hwn.
Er bod cyfyngiadau i'r astudiaeth (gan gynnwys bod y sampl o ysgolion dan sylw yn fach ac yn hunan-ddewisol ac felly nid oes modd cyffredinoli ar sail y canfyddiadau), mae'r adroddiad yn cynnig mewnwelediadau helaeth i helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu a blaenoriaethu cymorth i ymarferwyr a dysgwyr wrth barhau i wireddu’r Cwricwlwm i Gymru.
Gwireddu'r cwricwlwm
Rydym yn falch bod yr holl ysgolion sy wedi cymryd rhan wedi croesawu cynnwys y Maes Iechyd a Lles yn y Cwricwlwm i Gymru, a bod yr ysgolion wedi blaenoriaethu Iechyd a Lles o fewn eu cynlluniau datblygu a'u gweledigaeth ar gyfer cwricwlwm. Roedd rhai uwch arweinwyr hefyd yn gwerthfawrogi'r cyfle i gynllunio cwricwlwm sy'n cyd-fynd â'u blaenoriaethau ysgol ac anghenion dysgwyr.
Mae'n galonogol gweld bod cyflwyno'r Maes Dysgu a Phrofiad mandadol hwn wedi galluogi llawer o ysgolion i adeiladu ar ymdrechion cynt i gefnogi iechyd a lles dysgwyr.
Rydym yn falch bod ysgolion yn datblygu dull holistaidd ar gyfer iechyd a lles, gan ymgorffori agweddau corfforol, meddyliol, emosiynol a chymdeithasol, a bod ysgolion cynradd yn integreiddio Iechyd a Lles i'r cwricwlwm ehangach yn hytrach na'i drin fel pwnc ar wahân. Rydym yn cydnabod bod y cyd-destun yn wahanol ar gyfer ysgolion uwchradd, ac rydym yn croesawu'r dystiolaeth bod ysgolion yn cynllunio cwricwlwm sy'n integreiddio Iechyd a Lles ac yn tynnu sylw at y cysylltiadau o fewn y Maes.
Rydym yn falch bod ysgolion sydd wedi bod yn rhan o'r astudiaeth wedi sylwi ar effeithiau cadarnhaol ar addysgu, dysgu, ac amgylchedd ehangach yr ysgol, gan gynnwys:
- statws gwell a mwy o amser wedi'i neilltuo ar gyfer Iechyd a Lles
- mwy o ddulliau o ddarparu sy’n seiliedig ar dystiolaeth
- dealltwriaeth well gan ddysgwyr o iechyd a lles personol, mynegi problemau yn well, a mwy o ymwybyddiaeth o adnoddau cymor
- cyfleoedd dysgu proffesiynol ychwanegol i ymarferwyr ac arweinwyr, gan gynnwys hyfforddiant, rhwydweithio a rolau arweinyddiaeth
Rydym hefyd yn croesawu'r canfyddiadau bod Iechyd a Lles yng nghwricwlwm rhai o’r ysgolion yn ategu ymdrechion i feithrin cysylltiadau cymunedol cryf, a'u datblygiad fel Ysgolion Bro.
Heriau
Rydym yn cydnabod y gall fod yn heriol cynllunio cwricwlwm sy'n adlewyrchu iechyd a lles yn llawn ochr yn ochr â blaenoriaethau eraill sy’n bodoli.
Rydym yn deall bod sicrhau bod gan bob addysgwr y cyfleoedd dysgu proffesiynol angenrheidiol i weithredu'r Maes hwn yn effeithiol yn her barhaus, yn enwedig mewn perthynas â’r agweddau canlynol:
- asesu a chynnydd
- agwedd gorfforol iechyd a lles (yn enwedig ar gyfer ysgolion cynradd)
- cael mynediad at arfer effeithiol ac arloesol a ddatblygwyd gan ysgolion eraill, cynllunio a chydweithio o fewn clystyrau
- alinio Iechyd a Lles ac Addysg cydberthynas a rhywioldeb
Mae hyn yn arbennig o bwysig i ymarferwyr sy'n gyfrifol am yr agweddau hyn.
Cymorth i ysgolion
Fel gyda'r cwricwlwm yn fwy cyffredinol, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr amser a'r ymdrech y mae arweinwyr ac ymarferwyr yn ei fuddsoddi i wireddu’r cwricwlwm, yn enwedig ym maes newydd Iechyd a Lles. Yn yr un modd, mae'r llwyddiannau a'r heriau a amlygwyd yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu'r hyn y mae ymarferwyr wedi bod yn ei ddweud wrthym, gan gynnwys trwy'r 'Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu'r Cwricwlwm' a 'Grŵp Polisi y Cwricwlwm i Gymru'.
Fel y cydnabyddir yn yr adroddiad, mae dysgu proffesiynol yn hanfodol i gefnogi'r Maes hwn. Yn 2019 fe wnaethom gyflwyno diwrnod hyfforddi ychwanegol i gefnogi ymarferwyr i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r diwrnod hyfforddi ychwanegol hwn wedi'i ddarparu am y chwe blynedd diwethaf, ac rydym wedi cyhoeddi ein bwriad i barhau i ddarparu y diwrnod hyfforddi ychwanegol hwn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026.
Yn ystod tymor yr haf a'r hydref, byddwn yn cynnal gwerthusiad cynhwysfawr o hyfforddiant mewn swydd (HMS), gan gynnwys trafodaethau gyda dysgwyr ac ymarferwyr, i ddeall yn well effaith HMS ar addysg ein dysgwyr ac wrth ddarparu amodau cefnogol i'n hymarferwyr. Bydd y gwaith hwn yn llywio ein Cynllun Gweithlu Addysg Strategol tymor hwy.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi buddsoddi bron i £35 miliwn bob blwyddyn mewn dysgu proffesiynol ar gyfer ein hymarferwyr ysgol. Mae hyn wedi cynnwys £12 miliwn o gyllid yn uniongyrchol i ysgolion.
Ar gyfer cynllunio cwricwlwm yn gyffredinol, mae ein rhaglen gymorth genedlaethol ar gyfer cynllunio cwricwlwm ac asesu yn adeiladu ar y cynnydd y mae ysgolion eisoes wedi'i wneud ac ar gefnogaeth effeithiol sy'n bodoli eisoes yn y system. Mae hyn wedi cynnwys dod â chanllawiau a deunyddiau ategol ynghyd mewn un lle hylaw, gyda chefnogaeth cyflwynwyr arbenigol a hyfforddiant un i un ar gyfer arweinwyr ysgolion.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi offer a thempledi i fodelu prosesau ar gyfer datblygu cwricwlwm ar lefel ysgol, gan gynnwys manylion ychwanegol ar gynnydd ac asesu a sut mae hyn yn edrych ar lawr y dosbarth. Mae hyn yn cefnogi ysgolion i ddatblygu eu cwricwlwm ar draws Meysydd, ond mae'n arbennig o bwysig er mwyn cefnogi agweddau newydd ar y cwricwlwm fel Iechyd a Lles. Mae cynnydd mewn iechyd a lles yn elwa o'r dull proses hwn o gynllunio cwricwlwm wrth i gynnydd ganolbwyntio ar ddatblygu agweddau ac ymagweddau dysgwyr yn ogystal â gwybodaeth.
Rydym wedi cyhoeddi ein bod yn sefydlu corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth cenedlaethol a fydd yn mynd â'r gwaith hwn ymlaen. Bydd y corff yn arwain ar ddarparu dysgu proffesiynol cenedlaethol cyson i gefnogi ymarferwyr ar hyd llwybrau eu gyrfaoedd, gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau cenedlaethol gan gynnwys lles. Bydd hefyd yn darparu dysgu proffesiynol i ymgynghorwyr gwella ysgolion. Wrth gydnabod iechyd a lles fel blaenoriaeth hanfodol Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn disgwyl i iechyd a lles fod yn un o'r meysydd cyntaf dan sylw gan y corff newydd.
Mae dros £4.2 miliwn wedi'i ddyrannu dros dair blynedd drwy raglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru i helpu ysgolion i ymgorffori Addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y Maes Iechyd a Lles. Bydd hyn yn sicrhau cyngor, dysgu proffesiynol a chefnogaeth gyson yn genedlaethol ar yr agwedd hon. Bydd hyn hefyd yn dylanwadu ar les ehangach dysgwyr, ac yn cyfrannu at ddatblygu hyder ymarferwyr y cyfeirir ato fel her yn yr ymchwil.
Mewn cydnabyddiaeth o'r angen am gefnogaeth ar gyfer y Maes hwn yn fwy eang, byddwn hefyd yn neilltuo cefnogaeth ychwanegol i helpu ysgolion gyda lles cymdeithasol ac emosiynol, a bydd hyn yn ceisio ymateb i'r materion a godwyd drwy'r ymchwil hon.
Mae'r Maes Iechyd a Lles yn alinio â'r 'Fframwaith statudol ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol'. Mae £13.6 miliwn wedi'i ddarparu yn 2025 i 2026 i gefnogi'r fframwaith ac mae hyn yn cynnwys penodi cydlynwyr gweithredu lleol drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynorthwyo ysgolion i asesu a diwallu anghenion lles eu dysgwyr.
Mae'r adroddiad yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellid hwyluso cynllunio a chydgysylltu mwy effeithiol yn y Maes Iechyd a Lles rhwng ysgolion uwchradd a'r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo, ac i ysgolion yn gyffredinol ymgymryd mewn gwaith ar y cyd i gefnogi cynllunio a gweithredu'r Maes Iechyd a Lles. Mae hyn yn rhan ganolog o'n dull o wella ysgolion ac mae gwaith y Tîm Gwella Addysg wedi'i gynllunio i gefnogi a modelu hyn. Mae gweithio rhwng ysgolion yn rhan hollbwysig o'n dull tuag at y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgol.
Gyda'i gilydd, mae'r cymorth hwn yn anelu at sicrhau bod y Maes Iechyd a Lles yn cael ei weithredu’n effeithiol mewn ysgolion, gan ddarparu gwybodaeth a sgiliau y mae dysgwyr eu hangen i lywio eu bywydau nawr ac yn y dyfodol, yn ddiogel, a chyda hyder.
