Neidio i'r prif gynnwy

Data ar deithiau dros nos drigolion Prydain â chyrchfannau ledled Prydain ar gyfer 2022.

Mae'r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolwg ar-lein cyfunol newydd sy'n disodli Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr a oedd yn cael eu cynnal tan ddiwedd 2019. Darperir rhagor o wybodaeth yn adran methodoleg ac ansawdd y cyhoeddiad hwn ar newidiadau i'r arolwg sy'n cyfyngu ar y gallu i gymharu â'r amcangyfrifon cyhoeddedig ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Mae'r amcangyfrifon yn y datganiad hwn yn seiliedig ar ail-raddnodi data arolwg ar gyfer mis Ionawr i fis Ebrill 2022. Mae hyn oherwydd newid yn y cwestiynau arolwg GBTS a roddwyd ar waith ym mis Mai 2022, a arweiniodd at ostyngiad sylweddol ac annisgwyl o ran nifer y teithiau a adroddwyd o fis Mai i fis Rhagfyr 2022. Gwnaed yr ail-raddnodi nifer y teithiau a adroddwyd er mwyn cymharu holl amcangyfrifon yr arolwg ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Ebrill 2022 â’r amcangyfrifon a adroddwyd o fis Mai 2022 ymlaen.

Cyswllt

David Stephens

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.