Neidio i'r prif gynnwy

Data ar deithiau dros nos drigolion Prydain â chyrchfannau ledled Prydain ar gyfer Ebrill hyd Medi 2023.

Mae'r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolwg ar-lein cyfunol newydd sy'n disodli Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr a oedd yn cael eu cynnal tan ddiwedd 2019. Darperir rhagor o wybodaeth yn adran methodoleg ac ansawdd y cyhoeddiad hwn ar newidiadau i'r arolwg sy'n cyfyngu ar y gallu i gymharu â'r amcangyfrifon cyhoeddedig ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Dyma ddatganiad diwygiedig cyntaf y prif amcangyfrifon ar gyfer nifer a gwerth y tripiau twristiaeth domestig dros nos gan drigolion Prydain yng Nghymru a Phrydain Fawr ar gyfer y cyfnod Ebrill i Fehefin 2023. Dyma’r datganiad cyntaf o’r amcangyfrifon ar gyfer y cyfnod Gorffennaf i Fedi 2023, ac mae’r adroddiad yn cynnwys hefyd amcangyfrifon ar gyfer y cyfnod Ionawr i Fedi 2023. 

Mae’r ffigurau ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 wedi’u diwygio, ar ôl nodi gwall yn y data. Golygodd y gwall hwn nad oedd nifer o ymatebwyr, drwy gamgymeriad, wedi’u cynnwys yn yr amcangyfrifon. Mae’r amcangyfrifon diwygiedig yn y datganiad hwn yn cynnwys yr ymatebwyr hyn. Pan fo data mewn tabl neu siart wedi’u diwygio, mae hyn wedi’u nodi yn nheitl y tabl neu’r siart.

Cyswllt

Siân Hughes

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.