Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma ddatganiad cyntaf y prif amcangyfrifon ar gyfer nifer a gwerth y tripiau twristiaeth domestig dros nos gan drigolion Prydain yng Nghymru a Phrydain Fawr ar gyfer y cyfnod Ebrill i Fehefin 2023. Mae’r adroddiad yn cynnwys hefyd amcangyfrifon ar gyfer y cyfnod Ionawr i Fehefin 2023. 

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer prif ddiben tripiau dros nos; gwyliau, ymweliadau â ffrindiau a pherthnasau a thripiau busnes, gyda'r diffiniadau ar gyfer pob un o'r rhain yn yr adran berthnasol o'r adroddiad hwn.

Mae’r adroddiad yn cynnwys amcangyfrifon a manylion am deithiau dros nos yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr at ddibenion cymharu. Mae canlyniadau manwl ar gyfer Lloegr a'r Alban yn cael eu cyhoeddi gan VisitEngland a VisitScotland.

Defnyddir yr ystadegau hyn er mwyn monitro'r galw am dwristiaeth ddomestig a mesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Diben allweddol yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau'r farchnad dros amser.  Mae'r newidiadau i fethodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â'r tarfu a fu i'r broses o gasglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu'r canlyniadau a gyhoeddir yn y datganiad hwn yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol. Mae amcangyfrifon o dripiau domestig dros nos i Gymru ar gyfer 2021, 2022 ac Ionawr i Fawrth 2023 wedi’u cyhoeddi a gellir eu cymharu â’r canlyniadau yn y datganiad hwn. Darllenwch yr adran ar gymharedd a chydlyniaeth. Dylid ystyried y newid mewn gwariant yng ngoleuni’r cynnydd mewn costau gan nad yw’r amcangyfrifon hyn wedi’u haddasu yn unol â chwyddiant. 

Caiff yr ystadegau hyn eu labeli'n ‘arbrofol’ er mwyn galluogi gwaith profi ac addasu pellach i ddiwallu anghenion y defnyddiwr. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Rydym yn awyddus i wirio bod yr ystadegau twristiaeth newydd yn diwallu anghenion y defnyddwyr ac yn eich gwahodd i roi adborth ar yr wybodaeth yn yr allbwn hwn yn: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru.

Prif bwyntiau

Tripiau yng Nghymru

  • Rhwng Ebrill a Mehefin 2023, aeth trigolion Prydain Fawr ar 2.05 miliwn o dripiau dros nos yng Nghymru, gan dreulio 5.50 miliwn o nosweithiau a gwario £488 miliwn yn ystod y tripiau hyn.
  • Rhwng Ionawr a Mehefin 2023, aeth trigolion Prydain Fawr ar 3.79 miliwn o dripiau dros nos yng Nghymru, gan dreulio 10.54 miliwn o nosweithiau a gwario £829 miliwn yn ystod y tripiau hyn. 
  • Roedd 36% o’r tripiau dros nos yng Nghymru yn ystod chwe mis cyntaf 2023 yn wyliau, roedd 32% yn dripiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau, roedd 5% at ddibenion busnes ac roedd 27% at ddibenion amrywiol.
  • Roedd tua 7% o’r holl dripiau ym Mhrydain Fawr yn cynnwys aros dros nos yng Nghymru, a 7% hefyd oedd eu cyfran o gyfanswm y nosweithiau ym Mhrydain Fawr. Roedd cyfran y gwariant yn is ar 6%. 
  • Cyfartaledd hyd tripiau yng Nghymru o Ionawr i Fehefin 2023 oedd 2.8  noson gyda gwariant cyfartalog o £219 y trip.
  • O'i gymharu â’r un cyfnod yn 2022, roedd nifer y tripiau yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2023 1% yn uwch, tra bod y gwariant 25% yn uwch.

Tripiau ym Mhrydain Fawr

  • Rhwng Ebrill a Mehefin 2023, aeth trigolion Prydain Fawr ar 29.32 miliwn o dripiau dros nos ym Mhrydain Fawr, gan dreulio 83.07 miliwn o nosweithiau a gwario £7.97 biliwn yn ystod y tripiau hyn. 
  • Rhwng Ionawr a Mehefin 2023, aeth trigolion Prydain Fawr ar 53.11 miliwn o dripiau dros nos ym Mhrydain Fawr, gan dreulio 151.41 miliwn o nosweithiau a gwario £14.29 biliwn yn ystod y tripiau hyn. 
  • Roedd 29% o dripiau dros nos ym Mhrydain Fawr yn ystod y cyfnod hwn yn wyliau, roedd 38% yn dripiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau, roedd 6% at ddibenion busnes ac roedd 27% at ddibenion amrywiol.
  • Roedd 85% o’r tripiau ym Mhrydain Fawr yn cynnwys aros dros nos yn Lloegr, roedd 10% yn cynnwys aros dros nos yn yr Alban ac roedd 7% yn cynnwys aros dros nos yng Nghymru.
  • Cyfartaledd hyd tripiau ym Mhrydain Fawr o Ionawr i Fehefin 2023 oedd 2.9 noson gyda gwariant cyfartalog o £269 y trip. 
  • O'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022, parodd nifer y tripiau ym Mhrydain  Fawr rhwng Ionawr a Mehefin 2023 yn sefydlog, tra bod y gwariant 8% yn uwch. 

Tripiau, nosweithiau a gwariant yng ngwledydd Prydain Fawr, Ebrill i Fehefin 2023

 
Tabl 1: Cyfanswm nifer y tripiau, nosweithiau a gwariant yng ngwledydd Prydain Fawr, Ionawr i Fehefin 2023
 LloegrYr Alban Cymru
Tripiau (miliynau)45.325.573.79
% tripiau Prydain Fawr85%10%7%
Nosweithiau (miliynau)126.1914.6810.54
% nosweithiau Prydain Fawr83%10%7%
Gwariant (£ miliynau)£12,079£1,377£829
% gwariant Prydain Fawr85%10%6%

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Fehefin 2023

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau'n dod i gyfanswm o 100% gan fod rhai tripiau yn cynnwys ymweliadau â mwy nag un wlad.    

Yn y cyfnod rhwng dechrau mis Ionawr a diwedd mis Mehefin 2023, aeth trigolion Prydain ar 53.11 miliwn o dripiau dros nos gyda chyfanswm o 151.41 miliwn o nosweithiau a gwario cyfanswm o £14.29 biliwn. Yn ystod yr un cyfnod, roedd 3.79 miliwn o dripiau dros nos yng Nghymru gyda chyfanswm o 10.54 miliwn o nosweithiau a chyfanswm gwariant o £829 miliwn. 

Roedd tua 7% o holl dripiau domestig dros nos trigolion Prydain yn dripiau yng Nghymru, o’u cymharu ag 85% yn Lloegr a 10% yn yr Alban, ffigurau tebyg i gyfrannau’r tripiau yn yr un cyfnod yn 2022.  Treuliwyd 7% o’r nosweithiau ym Mhrydain Fawr yng Nghymru a 6% oedd cyfran y gwariant . Mae’r ffigurau hyn ychydig yn uwch na’r rheini a gofnodwyd ar gyfer yr un cyfnod yn 2022 (6% o gyfanswm nosweithiau Prydain Fawr a 5% o gyfanswm gwariant Prydain Fawr).

Tabl 2: Tripiau, nosweithiau a gwariant yng Nghymru yn ôl pwrpas yr ymweliad, Ionawr i Fehefin 2023 [Nodyn 1]
Pob PwrpasTripiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau)
GwyliauTripiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau)
Ymweld â Ffrindiau/PerthnasauTripiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau) 
BusnesTripiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau)
Amrywiol/eraillTripiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau)
Ionawr i Fawrth 20231.745.05£341
Ebrill i Fehefin 20232.055.50£488
Blwyddyn hyd yma 20233.7910.54£829
Newid canrannol y flwyddyn hyd 2022/20231%4%25%
Ionawr i Fawrth 20230.501.22£115
Ebrill i Fehefin 20230.852.69£246
Blwyddyn hyd yma 20231.353.91£361
Newid canrannol y flwyddyn hyd 2022/2023-16%-22%7%
Ionawr i Fawrth 20230.542.06£75
Ebrill i Fehefin 20230.671.61£91
Blwyddyn hyd yma 20231.213.67£166
Newid canrannol y flwyddyn hyd 2022/2023-1%6%1%
Ionawr i Fawrth 20230.150.63£21
Ebrill i Fehefin 20230.060.16£16
Blwyddyn hyd yma 20230.210.80£37
Newid canrannol y flwyddyn hyd 2022/2023-10%136%52%
Ionawr i Fawrth 20230.551.14£129
Ebrill i Fehefin 20230.471.03£135
Blwyddyn hyd yma 20231.022.17£264
Newid canrannol y flwyddyn hyd 2022/202350%69%90%

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Fehefin 2023

[Nodyn 1] Mae maint y sylfaen yn isel ar gyfer tripiau busnes i Gymru – dylid trin y data’n ofalus. 

Ffigur 1: Cyfran y tripiau, y nosweithiau a’r gwariant yng Nghymru yn ôl prif bwrpas y trip, Ionawr i Fehefin [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far bentyrrog yn dangos mai'r math o drip mwyaf cyffredin o Ionawr i Fehefin 2023 gan drigolion Prydain Fawr oedd gwyliau, ac yna ymweld â ffrindiau a pherthnasau.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Fehefin 2023

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau ar gyfer nosweithiau yng Nghymru yn dod i gyfanswm o 100% oherwydd mater talgrynnu.

Yn chwe mis cyntaf 2023, tripiau gwyliau oedd y math o drip mwyaf cyffredin yng Nghymru (36%), gydag ymweliadau â ffrindiau a pherthnasau’n dilyn (32%). Roedd 27% o’r tripiau at ddiben amrywiol ac roedd tripiau busnes yn cyfrif am 5% o’r cyfanswm. Roedd nifer y tripiau at bob pwrpas yng Nghymru rhwng Ionawr a Mehefin 2023 1% yn uwch nag yn yr un cyfnod yn 2022. Roedd nifer y tripiau gwyliau, ymweliadau â ffrindiau a pherthnasau a thripiau busnes yng Nghymru o Ionawr i Fehefin yn is na’r nifer ar gyfer yr un mathau o dripiau yn yr un cyfnod yn 2022. Fodd bynnag, roedd nifer y tripiau at ddibenion amrywiol yn Ionawr i Fehefin 2023 50% yn uwch nag yn yr un cyfnod yn 2022. Mae tripiau at ddibenion ‘amrywiol’ yn cynnwys ystod eang o dripiau (gweler yr adran diffiniadau), ond roedd y nifer fwyaf o dripiau amrywiol yng Nghymru rhwng Ionawr a Mehefin 2023 yn dripiau tramor a oedd yn cynnwys aros dros nos yng Nghymru (10% o’r holl dripiau), tripiau ar gyfer digwyddiad personol (8%) a thripiau ar gyfer digwyddiad cyhoeddus (5%). 

Tabl 3: Tripiau, nosweithiau a gwariant ym Mhrydain Fawr yn ôl pwrpas yr ymweliad, Ionawr i Fehefin 2023
Pob PwrpasTripiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau)
GwyliauTripiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau)
Ymweld â Ffrindiau/PerthnasauTripiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau)
BusnesTripiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau)
Amrywiol/eraillTripiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau)
Ionawr i Fawrth 202323.7868.34£6,316
Ebrill i Fehefin 202329.3283.07£7,969
Blwyddyn hyd yma 202353.11151.41£14,286
Newid canrannol y flwyddyn hyd 2022/20230%-6%8%
Ionawr i Fawrth 20235.7317.72£1,812
Ebrill i Fehefin 20239.8735.43£3,246
Blwyddyn hyd yma 202315.6053.15£5,058
Newid canrannol y flwyddyn hyd 2022/2023-13%-17%-11%
Ionawr i Fawrth 20239.9630.10£1,872
Ebrill i Fehefin 202310.2925.71£1,842
Blwyddyn hyd yma 202320.2555.82£3,714
Newid canrannol y flwyddyn hyd 2022/20235%2%19%
Ionawr i Fawrth 20231.625.13£686
Ebrill i Fehefin 20231.343.68£438
Blwyddyn hyd yma 20232.978.82£1,124
Newid canrannol y flwyddyn hyd 2022/2023-9%-11%34%
Ionawr i Fawrth 20236.4715.38£1,947
Ebrill i Fehefin 20237.8218.24£2,443
Blwyddyn hyd yma 202314.2933.62£4,389
Newid canrannol y flwyddyn hyd 2022/202311%6%20%

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Fehefin 2023

O’u cymharu â’r un cyfnod yn 2022, mae nifer y tripiau at bob pwrpas rhwng Ionawr a Mehefin 2023 wedi para’n sefydlog i raddau helaeth, o ran tripiau yng Nghymru a thripiau ym Mhrydain Fawr. Ond mae’r gwariant ar dripiau at bob pwrpas wedi cynyddu yn chwe mis cyntaf 2023 a’i gymharu â’r un cyfnod yn 2022, o ran tripiau yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr. Fel Cymru, mae nifer y tripiau gwyliau a busnes ym Mhrydain Fawr wedi gostwng yn y cyfnod rhwng Ionawr a Mehefin 2023 o’u cymharu â’r un cyfnod yn 2022. Fodd bynnag, mae nifer y tripiau ym Mhrydain Fawr i ymweld â ffrindiau a pherthnasau wedi cynyddu tra bo nifer y tripiau yng Nghymru at y pwrpas hwn wedi gostwng. Bu cynnydd yn nifer y tripiau at ddibenion amrywiol, yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr. 

Nodweddion tripiau ym Mhrydain Fawr a Chymru

Tabl 4: Hyd arhosiad a gwariant cyfartalog ar gyfer prif bwrpas tripiau ym Mhrydain Fawr a Chymru, Ionawr i Fehefin 2023 [Nodyn 1]
Pob PwrpasPrydain FawrCymru
GwyliauPrydain FawrCymru
Ymweld â Ffrindiau/PerthnasauPrydain FawrCymru
BusnesPrydain FawrCymru
Gwariant fesul trip ££269£219
Gwariant fesul noson ££94£79
Nosweithiau fesul trip2.92.8
Gwariant fesul trip ££324£269
Gwariant fesul noson ££95£92
Nosweithiau fesul trip3.42.9
Gwariant fesul trip ££183£137
Gwariant fesul noson ££67£45
Nosweithiau fesul trip2.83.0
Gwariant fesul trip ££379£180
Gwariant fesul noson ££128£47
Nosweithiau fesul trip3.03.9

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Fehefin 2023

[Nodyn 1] Mae maint y sylfaen yn isel ar gyfer tripiau busnes i Gymru – dylid trin y data’n ofalus. 

Hyd cyfartalog trip yng Nghymru rhwng Ionawr a Mehefin 2023 oedd 2.8 noswaith, ychydig yn is na chyfartaledd Prydain Fawr o 2.9 noson. Mae'r gwariant fesul trip a’r gwariant fesul noson ar dripiau yng Nghymru yn is nag ar gyfer Prydain Fawr yn gyffredinol, sy’n gyson â'r canfyddiadau ar gyfer 2022.  Rhwng Ionawr a Mehefin 2023, roedd y gwariant cyfartalog fesul noson ar ei uchaf ar gyfer tripiau gwyliau yng Nghymru, ond gwariant tripiau busnes oedd uchaf ym Mhrydain Fawr yn gyffredinol. 

Mae'r gwariant cyfartalog fesul trip yng Nghymru yn chwe mis cyntaf 2023 lawer uwch nag yr oedd yn yr un cyfnod yn 2022, gan barhau â'r duedd gyffredinol o fwy o wariant ar dripiau. Mae hyn yn gyson o ran tripiau yng Nghymru a thripiau ym Mhrydain Fawr, ac ar draws pob math o drip. Dylid ystyried y newid mewn gwariant yng ngoleuni’r cynnydd mewn costau gan nad yw’r amcangyfrifon hyn wedi’u haddasu yn unol â chwyddiant. Mae hyd cyfartalog tripiau at bob pwrpas yng Nghymru yn y cyfnod Ionawr i Fehefin 2023 wedi cynyddu o’u cymharu â’r un cyfnod yn 2022. Fodd bynnag, mae hyd cyfartalog tripiau at bob pwrpas ym Mhrydain Fawr wedi lleihau. Mae hyd cyfartalog tripiau gwyliau yn chwe mis cyntaf 2023 wedi lleihau o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2022, gan leihau 7% yng Nghymru a 5% ym Mhrydain Fawr.

Tueddiadau tripiau ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr

Ffigur 2: Nifer y tripiau i Gymru mewn miliynau yn ôl chwarter yr ymweliad, Ionawr 2022 i Fehefin 2023 

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart golofnau glystyrog yn dangos nifer y tripiau yng Nghymru ar gyfer pob chwarter, gyda’r tripiau yn chwe mis cyntaf 2023 ychydig yn uwch na rhai'r un cyfnod yn 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Fehefin 2023

Bu gostyngiad o 1% yn nifer y tripiau i Gymru rhwng Ebrill a Mehefin 2023, gyda 2.05 miliwn o dripiau i Gymru, o'u cymharu â 2.08 miliwn yn yr un cyfnod yn 2022.  Fodd bynnag, bu 1% yn fwy o dripiau i Gymru rhwng Ionawr a Mehefin 2023 nag yn yr un cyfnod yn 2022, gyda 3.79 miliwn o dripiau i Gymru. 

Ffigur 3: Cyfanswm y gwariant ar dripiau yng Nghymru mewn miliynau o bunnoedd yn ôl chwarter yr ymweliad, Ionawr 2022 i Fehefin 2023 

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart golofnau glystyrog yn dangos y gwariant ar dripiau yng Nghymru ar gyfer pob chwarter, gyda'r gwariant yn y ddau chwarter cyntaf yn 2023 yn uwch nag yn yr un cyfnod yn 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr 2022 i Fehefin 2023

Bu cynnydd o 18% yng ngwariant tripiau dros nos yng Nghymru rhwng Ebrill a Mehefin 2023, gyda gwariant o £488 miliwn, o'i gymharu â gwariant o £413 miliwn yn yr un cyfnod yn 2022. O Ionawr i Fehefin 2023, roedd gwariant tripiau yng Nghymru 25% yn uwch nag yn yr un cyfnod yn 2022, gydag £829 miliwn wedi’i wario yn ystod y tripiau hyn. Dylid ystyried y newid mewn gwariant yng ngoleuni’r cynnydd mewn costau gan nad yw’r amcangyfrifon hyn wedi’u haddasu yn unol â chwyddiant.  

Ffigur 4: Nifer y tripiau dros nos ym Mhrydain Fawr mewn miliynau yn ôl chwarter yr ymweliad, Ionawr 2022 i Fehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart golofnau glystyrog yn dangos nifer y tripiau ym Mhrydain Fawr ar gyfer pob chwarter, gyda nifer y tripiau'n uwch yn y cyfnod Ebrill i Fehefin 2023 nag yn yr un cyfnod yn 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr 2022 i Fehefin 2023 

Bu cynnydd o 6% yn nifer y tripiau ym Mhrydain Fawr rhwng Ebrill a Mehefin 2023, gyda 29.32 miliwn o dripiau ym Mhrydain Fawr o'i gymharu â 27.67 miliwn yn yr un cyfnod yn 2022. Fodd bynnag, mae nifer y tripiau ym Mhrydain Fawr yn y cyfnod Ionawr i Fehefin 2023 wedi para’n sefydlog o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2022, gyda 53.11 miliwn o dripiau dros nos yn chwe mis cyntaf 2023. 

Ffigur 5: Cyfanswm y gwariant ar dripiau ym Mhrydain Fawr mewn miliynau o bunnoedd yn ôl chwarter yr ymweliad, Ionawr 2022 i Fehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart golofnau glystyrog yn dangos y gwariant ar dripiau ym Mhrydain Fawr ar gyfer pob chwarter, gyda'r gwariant yn uwch yn chwe mis cyntaf 2023 nag yn yr un cyfnod yn 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr 2022 i Fawrth 2023

Bu cynnydd o 11% yng ngwariant tripiau dros nos ym Mhrydain Fawr rhwng Ebrill a Mehefin 2023, gyda £7.97 biliwn yn cael ei wario, o'i gymharu â £7.18 biliwn yn ystod yr un cyfnod yn 2022. Roedd gwariant ar dripiau ym Mhrydain Fawr rhwng Ionawr a Mehefin 2023 8% yn uwch nag yn yr un cyfnod yn 2022, gydag £14.29 biliwn yn cael ei wario ar y tripiau hyn. Dylid ystyried y newid mewn gwariant yng ngoleuni’r cynnydd mewn costau gan nad yw’r amcangyfrifon hyn wedi’u haddasu yn unol â chwyddiant.  

Proffil tripiau yng Nghymru a Phrydain Fawr

Ffigur 6: Nifer a chyfran y tripiau ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl prif leoliad yr ymwelwyd ag ef, Ionawr i Fehefin 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart golofnau bentyrrog yn dangos er bod tripiau i Gymru wedi'u gwasgaru'n gyfartal rhwng gwahanol fathau o leoliadau, tripiau i ddinasoedd mawr/trefi mawr oedd cyfran fwyaf y tripiau ym Mhrydain Fawr yn chwe mis cyntaf 2023.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Fawrth 2023

[Nodyn 1] Y rhifau o fewn y segmentau lliw yw nifer y tripiau i bob prif leoliad mewn miliynau. Er enghraifft, rhwng Ionawr a Mehefin 2023, bu 1.00 miliwn o dripiau i gefn gwlad/pentref yng Nghymru.

Roedd ychydig dros hanner tripiau (53%) yng Nghymru rhwng Ionawr a Mehefin 2023 i ddinas, tref fawr neu dref fach. Mewn cymhariaeth, roedd 68% o'r tripiau ar draws Prydain Fawr yn gyffredinol yn dripiau i'r cyrchfannau trefol hyn. Roedd 26% o'r tripiau yng Nghymru yn dripiau i gefn gwlad neu bentrefi, tra bod 19% o’r tripiau i lan y môr. O’u cymharu â’r un cyfnod yn 2022, mae cyfran y tripiau o Ionawr i Fehefin 2023 yng Nghymru i gyrchfannau trefol wedi para’n sefydlog. Mae cyfran y tripiau i gefn gwlad neu bentref wedi cynyddu ychydig, o 24% yn chwe mis cyntaf 2022. Mae cyfran y tripiau i lan y môr yng Nghymru wedi gostwng ychydig, o 21% yn y cyfnod Ionawr i Fehefin 2022.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Diffiniadau

I gael ei hystyried yn Daith Ddomestig Dros Nos gymwys ym Mhrydain Fawr, roedd yn rhaid iddi fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Roedd y daith yn cynnwys aros am o leiaf un noson yn un neu fwy o wledydd Prydain Fawr; Cymru, Lloegr neu’r Alban.
  • Nid yw’r daith yn digwydd yn rheolaidd (yn llai aml nag unwaith yr wythnos).
  • Ar gyfer Teithiau Gwyliau Domestig Dros Nos ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd gwyliau, pleser neu hamdden.
  • Ar gyfer Teithiau Domestig Dros Nos i ymweld â ffrindiau a pherthnasau ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd ymweld â ffrindiau a pherthnasau, gan gynnwys teithiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau a oedd wedi’u cyfuno â gwyliau.
  • Ar gyfer Teithiau Busnes Domestig Dros Nos ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd ar gyfer busnes.
  • Ar gyfer Teithiau Domestig Dros Nos Amrywiol/Eraill ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd ar gyfer math arall o daith nad yw’r dosbarthiadau uchod yn ymdrin â hi, gan gynnwys digwyddiadau personol, digwyddiadau cyhoeddus, neu ar gyfer astudio, dibenion meddygol, crefyddol, neu unrhyw arhosiad dros nos ym Mhrydain Fawr fel rhan o daith dramor.

Diffiniadau eraill a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn

Nifer

Amcangyfrif o nifer y teithiau dros nos y mae’r boblogaeth yn mynd arnynt os yw sampl yr arolwg yn cynrychioli holl boblogaeth Prydain Fawr. Mae nifer y teithiau a adroddir yn amcangyfrif o deithiau gan unigolion, felly byddai parti teithio o ddau o bobl yn cyfrif fel dwy daith unigol.

Gwerth

Amcangyfrif o gyfanswm y gwariant sy’n gysylltiedig â nifer yr ymweliadau dros nos a fyddai’n cael eu gwneud gan y boblogaeth os yw sampl yr arolwg yn cynrychioli holl boblogaeth Prydain Fawr.

Nifer y nosweithiau gwely

Amcangyfrif o faint o nosweithiau ar deithiau dros nos y mae’r boblogaeth yn eu treulio os yw sampl yr arolwg yn cynrychioli holl boblogaeth Prydain Fawr.

Mae'r diffiniadau hyn a'r meini prawf cymhwyso cysylltiedig wedi'u diwygio fel rhan o arolwg GBTS/GBDVS cyfun newydd i gyd-fynd â safonau rhyngwladol y cytunwyd arnynt. Mae'r newidiadau hyn yn effeithio ar y gallu i gymharu amcangyfrifon twristiaeth ddomestig dros nos a gyhoeddwyd ar gyfer 2021, 2022 a 2023 â'r rhai a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Methodoleg

Yn 2019, cynhaliodd Croeso Cymru, VisitScotland a VisitEngland adolygiad o’r gofynion a’r dulliau ar gyfer cynhyrchu ystadegau twristiaeth ddomestig swyddogol Prydain Fawr, er mwyn diogelu’r dulliau casglu data yn y dyfodol, gan gynnal dibynadwyedd a chadernid yr wybodaeth a adroddir.  O ganlyniad, cyflwynwyd newidiadau sylweddol fel rhan o arolwg ar-lein cyfun newydd sy’n casglu data am deithiau domestig dros nos yn ogystal â theithiau undydd domestig. Mae hyn yn newid sylfaenol o ran y ffordd mae data’n cael eu casglu ar gyfer ymweliadau dros nos, gan gynnwys newid o ddefnyddio’r dull arolwg blaenorol wyneb yn wyneb yn y cartref a dechrau defnyddio arolwg cyfun newydd ar-lein sy’n cynnwys teithiau dros nos domestig a theithiau undydd domestig.

Mae’r sampl ar gyfer yr arolwg cyfun ar-lein newydd yn ddyluniad nad yw’n seiliedig ar debygolrwydd a gafwyd gan 4 darparwr panel ar-lein sydd wedi’u hachredu gan ESOMAR ac mae’n cynnwys cwotâu ar gyfer newidynnau demograffig allweddol er mwyn gwneud y sampl gyfan mor gynrychiadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Maint y sampl blynyddol targed ar gyfer yr arolwg o ymwelwyr dros nos yw 60,000 o gyfweliadau wedi’u cwblhau. Nid yw pob person sy’n cael ei gyfweld wedi bod ar daith dros nos gymwys, ac felly mae meintiau’r sylfaen a ddefnyddir ar gyfer amcangyfrif teithiau yn is na nifer y cyfweliadau.

Fel rhan o’r newidiadau i’r arolwg, cyflwynwyd cynllun pwysoli diwygiedig i wella effeithlonrwydd, gan sicrhau bod y canlyniadau mor gynrychiadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae defnyddio sampl ar-lein nad yw’n seiliedig ar debygolrwydd yn cyfyngu i ba raddau y mae’r ymatebion i’r arolwg yn wirioneddol gynrychioli poblogaeth gyfan Prydain Fawr, sy’n gyfyngiad ar arolygon sampl tebyg ar-lein. Mae’r cynllun pwysoliad newydd yn defnyddio Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol yr Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sydd wedi’i fapio i raddau cymdeithasol bras ar gyfer ystadegau poblogaeth, at ddibenion cwotâu a phwysoliad i boblogaeth Prydain Fawr. Bydd newid i ddefnyddio NS-SEC fel ffynhonnell ystadegau’r boblogaeth yn effeithio ar amcangyfrif ac adrodd ar deithiau o’i gymharu â’r adroddiadau blaenorol ar y radd gymdeithasol a ddefnyddiwyd ar gyfer GBTS yn 2019 a’r blynyddoedd blaenorol. Rydym yn bwriadu cyflwyno cwestiwn newydd yn yr arolwg yn ystod 2023 sy'n cofnodi incwm aelwydydd a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi ac adrodd ar deithiau gan fandiau incwm aelwydydd gwahanol o 2023 ymlaen.

Mae rhagor o fanylion am y newidiadau i ddull yr arolwg, dylunio'r sampl, dulliau amcangyfrif ac effeithiau’r capiau a ddefnyddir ac ail-raddnodi ar gael yn Adroddiad Ansawdd Cefndir GBTS 2022.

Cymharedd a chydlyniaeth

Mae ystadegau ar gyfer twristiaeth ddomestig dros nos wedi cael eu casglu mewn ffordd debyg iawn ers 1989. Fodd bynnag, mae’r newidiadau ym methodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â’r ymyriadau o ran casglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu canlyniadau a gyhoeddwyd o fis Ebrill 2021 ymlaen yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol. Mae canlyniadau ar gyfer 2021, 2022 ac Ionawr i Fawrth 2023 wedi’u cyhoeddi a gellir eu cymharu â’r canlyniadau yn y datganiad hwn.

Fel rhan o’r arolwg, gofynnir i ymatebwyr am unrhyw deithiau dros nos maent wedi bod arnynt yn ystod y 4 wythnos lawn cyn dyddiad y cyfweliad (cyfnod cyfeirio).  Adroddir ar amcangyfrifon o deithiau a gwariant ar gyfer misoedd calendr unigol yn ogystal ag ar gyfer cyfnodau chwarterol a blynyddol. Gan nad yw cyfnodau cyfeirio’r cyfweliad yn cyfateb yn union â’r misoedd calendr, gwneir addasiad gan ddefnyddio ‘ffactor llyfnhau tymhorol’ i wella cymariaethau misol o fewn a rhwng blynyddoedd. Mae’r amcangyfrifon misol yn amodol ar gyfyngiadau ar faint y samplau ac amrywiadau tymhorol yn y teithiau yn ystod y flwyddyn.

Cywirdeb

Mae’r ystadegau a gynhyrchwyd o Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr yn 2019 a’r blynyddoedd blaenorol wedi cael eu dynodi’n ystadegau swyddogol, sy’n rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr bod yr ystadegau’n cael eu cynhyrchu i’r safonau proffesiynol uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth, fel y nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Oherwydd y newidiadau mewn methodoleg ac effaith pandemig COVID-19, mae canlyniadau’r arolwg ar gyfer 2021 wedi cael eu labelu fel ‘ystadegau arbrofol’ (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae’r arolwg a’r ystadegau newydd wedi dilyn rhaglen gynhwysfawr o sicrhau ansawdd gan gynnwys treialu’r arolwg, dadansoddi newidiadau i’r diffiniadau o deithiau, profi effaith y cynllun pwysoli newydd ac adolygu’r capiau a’r rheolau cyfrifyddu. Mae newidiadau i fethodoleg ac amcangyfrif yr arolwg wedi ystyried adolygiad a chyngor a ddarparwyd gan Wasanaeth Cynghori Methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gan fod yr ystadegau wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio dull arolwg ar-lein nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd, maent yn destun cyfyngiadau a ffynonellau tuedd a gwallau posibl sy'n gysylltiedig ag arolygon o'r fath. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gwall o ran cyrhaeddiad gan nad oes gan ran o boblogaeth Prydain Fawr fynediad i'r we
  • gwall samplu gan fod sampl yn cael ei defnyddio i fesur ymddygiad poblogaeth lawn Prydain Fawr
  • tuedd samplu drwy gynnwys y gwahaniaethau rhwng pobl â mynediad ar-lein ac sy'n aelodau o banel ar-lein o gymharu â phobl nad ydynt
  • gwall mesur wrth i ymatebwyr gofnodi gwerthoedd anghywir
  • gwall dim ymateb gan gynnwys pobl yn gwrthod llenwi'r arolwg a phobl yn tynnu allan a'r opsiynau ‘ddim yn gwybod’ a ‘gwell gennyf beidio â dweud’ a oedd ar gael

Caiff data'r GBTS eu pwysoli i gywiro unrhyw amherffeithrwydd yn y sampl a gyflawnwyd a allai arwain at duedd ac i unioni unrhyw wahaniaethau rhwng y sampl a phoblogaeth darged Prydain Fawr. Mae'r arolwg yn defnyddio cymysgedd o baneli ar-lein achrededig er mwyn lliniaru ar gyfer tueddiadau penodol posibl o ran paneli, ac mae'r cymysgedd o baneli yn parhau'n gyson dros amser. Defnyddir cwotâu demograffig i gysoni'r sampl â phoblogaeth Prydain Fawr. Mae sgript yr arolwg a'r trefniadau prosesu data yn cynnwys gwiriadau wedi'u teilwra er mwyn dilysu cywirdeb yr ymatebion. Defnyddir dulliau priodoli i ymdrin â data coll a defnyddir capiau i leihau effaith y gwerthoedd eithafol a gofnodir. Nid oes modd mesur gwallau sampl safonol gan mai sampl nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd a ddefnyddir, ond caiff meintiau sylfaen eu nodi ar gyfer teithwyr cymwys a chynghorir defnyddwyr i ystyried y meintiau sylfaen bach ac i fod yn ofalus, yn enwedig ar gyfer data misol a daearyddiaeth lefel is, wrth iddynt lunio casgliadau o'r ystadegau.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn yn Llywodraeth Cymru a’r tu allan iddi i fonitro’r galw ym maes twristiaeth ddomestig ac i fesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Un o brif ddibenion yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau yn y farchnad dros amser.

Cyn belled ag y bo modd, mae’r arolwg GBTS a GBDVS cyfun newydd yn darparu cysondeb â’r wybodaeth flaenorol a gasglwyd, ond mae cwestiynau newydd yn cynnwys gwybodaeth well am y gweithgareddau a gyflawnir, dulliau archebu a phroffiliau ymatebwyr, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig. Rhagwelir y bydd yr wybodaeth ychwanegol hon o werth i wahanol ddefnyddwyr yr arolwg. Mae’r holiadur presennol wedi’i gynnwys yn Adroddiad Ansawdd Cefndir GBTS 2022.

Mae noddwyr yr arolwg yn bwriadu ymgysylltu â defnyddwyr blaenoriaeth yr ystadegau i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth newydd am yr arolwg yn diwallu eu hanghenion ac rydym yn annog defnyddwyr yr ystadegau i roi adborth ar y data a’r allbwn hwn yn ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r holl allbynnau’n cadw at y Cod Ymarfer drwy gyhoeddi’r dyddiad cyhoeddi ymlaen llaw ar gyfer y calendr sydd i ddod. Hefyd, petai angen gohirio allbwn, byddai hyn yn dilyn y datganiad ar ddiwygiadau, gwallau a gohirio. Rydym yn anelu at gyhoeddi data cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfnod ymchwil perthnasol. Rhagwelir y bydd canlyniadau Cymru yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi bob chwarter, er mwyn sicrhau bod amcangyfrifon yn cael eu cefnogi gan feintiau sylfaen teithiau cadarn. Bydd amseroedd cyhoeddi penodol yn cael eu nodi ar wefan Llywodraeth Cymru, ond y nod yw cyhoeddi ystadegau chwarterol ar gyfer Cymru tua 9 i 10 wythnos ar ôl diwedd pob chwarter yn seiliedig ar gyfnod cyfeirio teithiau 4 wythnos yr arolwg ac i ganiatáu ar gyfer amserlenni adrodd a sicrhau ansawdd.

Rhagor o wybodaeth

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Siân Hughes
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 92/2023